Gyda morgais gydol oes, rydych yn cymryd benthyciad wedi’i warantu ar eich cartref nad oes angen ei ad-dalu nes i chi farw neu fynd i ofal hirdymor. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw morgais gydol oes?
Mae’n fath o ryddhad ecwiti sy’n gadael i chi fenthyg arian yn erbyn gwerth eich cartref drwy gymryd benthyciad wedi’i warantu ar yr eiddo. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad nes bydd eich cartref yn cael ei werthu yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod bod risgiau ynghlwm a’r opsiynau eraill – darganfyddwch fwy yn ein canllaw, Beth yw rhyddhau ecwiti?
Sut mae morgais gydol oes yn gweithio?
I wneud cais am forgais gydol oes, rhaid i bob ymgeisydd fod o leiaf yr isafswm oedran a bennir gan eich darparwr (50 i 55 oed fel arfer) a rhaid i'r eiddo fod yn brif breswylfa i chi.
Gallwch barhau i fyw yn eich cartref, a chaiff y benthyciad a’r llog eu talu’n ôl pan fyddwch yn gwerthu’ch cartref, yn symud mewn i ofal, neu’n marw.
Ffeithiau allweddol am forgeisi gydol oes
- Maent yn defnyddio eich eiddo fel diogelwch i fenthyg arian.
- Rydych yn parhau i fod yn berchen ar eich cartref a byw ynddo.
- Mae’n cynnig opsiynau talu hyblyg (gan gynnwys yr opsiwn i dalu dim).
- Os byddwch yn dewis talu dim, mae llog misol yn cael ei ‘gronni’ a’i ychwanegu at y benthyciad.
- Telir y benthyciad yn ôl drwy werthu'r eiddo pan fydd y benthyciwr olaf yn marw neu'n mynd i ofal hirdymor.
- Mae unrhyw arian sy'n weddill ar ôl talu'r benthyciad yn mynd i'ch buddiolwyr (ffrindiau a theulu), oni bai bod ei angen ar gyfer eich gofal hirdymor.
Mae gan y rhan fwyaf o forgeisi gydol oes a gefnogir gan y Equity Release Council (ERC)Yn agor mewn ffenestr newydd warant dim ecwiti negyddol sy’n sicrhauna fyddwch yn ad-dalu mwy na gwerth eich cartref.
Rhaid dweud wrthych os nad oes gan eich morgais gydol oes y warant dim ecwiti negyddol. Os nad oes, bydd eich ystâd yn cael ei ddefnyddio i dalu gweddill y benthyciad.
Y gwahanol fathau o forgeisi gydol oes
Mae amrywiaeth o forgeisi gydol oes gyda chostau gwahanol. Isod mae dwy enghraifft gyffredin.
1. Morgeisi cronni llog
Gyda’r morgais hwn mae’r llog misol yn cael ei ‘gronni’ a’i ychwanegu at swm terfynol eich benthyciad.
- Derbyn cyfandaliad neu daliadau ‘tynnu i lawr’ rheolaidd llai (neu’r ddau).
- Ad-daliadau misol dewisol.
- Mae morgais, gan gynnwys llog wedi'i gronni, yn cael ei ad-dalu pan fyddwch chi'n gwerthu'ch cartref.
- Yn cynnwys adlog.
Mae’n bwysig cofio, gydag adlog byddwch yn ad-dalu llawer mwy nag y byddwch yn ei fenthyg.
Yn y flwyddyn gyntaf, mae'r llog yn seiliedig ar y swm rydych chi'n ei fenthyg. Yna caiff y llog hwn ei ychwanegu at falans y morgais. Bob blwyddyn ganlynol, cyfrifir y llog ar falans y benthyciad ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol.
2. Morgeisi â llog
Gyda morgais â llog (neu forgais sy’n talu llog), byddwch yn gwneud taliadau misol neu untro i leihau neu atal effaith y llog yn cronni.
- Derbyn cyfandaliad.
- Bydd rhai cynlluniau yn caniatáu i chi dalu rhan o'r cyfalaf.
- Mae’r morgais yn cael ei ad-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu.
Faint mae morgais gydol oes yn ei gostio?
Mae’r ffi i ryddhau ecwiti yn amrywio a gall fod rhwng £1,500 a £3,000.
Mae yswiriant adeiladau a chyngor cyfreithiol yn dreuliau y dylech gynllunio ar eu cyfer hefyd, yn ogystal â:
- ffi trefnu i'r benthyciwr
- ffioedd cyfreithiol a phrisio
- ffioedd cynghorwyr i sefydlu'r cynllun, neu
- ffi gwblhau, y gellir ei thalu ar y pwynt cwblhau neu ychwanegu at eich morgais.
Efallai y bydd ‘taliadau ad-dalu cynnar’ hefyd am ad-dalu’ch benthyciad yn gynnar.
Cyllidebwch ar gyfer cyngor cyfreithiol
Rhaid i chi gyflogi cyfreithiwr. Mae hyn yn ofynnol gan yr ERCYn agor mewn ffenestr newydd. Ni all eich darparwr ryddhau’r arian oni bai eich bod wedi cael cyngor cyfreithiol.
Mae eich cyfreithiwr yn mynd dros fanylion eich cynllun rhyddhau ecwiti ac yn gwirio eich bod yn deall y risgiau. Yna, maen nhw'n cadarnhau i'ch darparwr y gallwch chi dderbyn y cynnig.
Darllenwch ein canllaw i’ch helpu i ddod o hyd i’r cyfreithiwr iawn.
Sut i wirio a yw morgais gydol oes yn iawn i chi
Mae p'un a yw morgais gydol oes yn addas yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau personol.
Cewch gyngor ar eich opsiynau bob amser ac ystyriwch y pwyntiau hyn cyn cymryd morgais gydol oes.
- Mae'n lleihau unrhyw etifeddiaeth rydych chi'n ei gadael.
- Gall morgeisi sy’n cronni llog olygu bod y ddyled yn tyfu'n gyflym oherwydd adlog.
- Gallai arian parod a gewch o'ch cartref olygu nad ydych yn gymwys ar gyfer grantiau prawf modd penodol, budd-daliadau fel Credyd Pensiwn a chymorth gofal awdurdod lleol.
- Rhaid i chi gadw eich cartref mewn cyflwr da, felly bydd angen i chi gyllidebu ar gyfer hyn.
- Efallai y bydd costau ychwanegol os oes gennych eiddo ar brydles gyda phrydles fer.
- Po gynharaf y byddwch yn cymryd y morgais, y mwyaf fydd y ddyled derfynol i'w had-dalu.
Os gallai unrhyw un o’r pethau hyn fod yn broblem, mae’n debyg nad yw morgais gydol oes yn iawn i chi, felly fe allech chi ymchwilio dewisiadau eraill yn lle rhyddhau ecwiti.
Cwestiynau morgais gydol oes i'w gofyn i'ch cynghorydd
- Allwch chi drosglwyddo'r morgais gydol oes os byddwch chi'n symud tŷ?
- Beth fydd yn digwydd os byddwch yn marw yn fuan ar ôl cymryd y morgais gydol oes?
- Sut byddai'r morgais gydol oes yn effeithio ar eich budd-daliadau’r wladwriaeth neu awdurdod lleol?
- Pa ffioedd sy'n daladwy os penderfynwch ad-dalu'r benthyciad?
- A fyddech chi'n gymwys i gael grant i'ch helpu i dalu am atgyweiriadau neu addasiadau i'ch cartref?
- Pa amodau mae'r morgais gydol oes yn eu gosod arnoch chi pan fyddwch chi'n parhau i fyw yn y cartref?
- Beth fydd yn digwydd os bydd gennych fwy o ddyled na gwerth y cartref yn y pen draw? (A yw'r benthyciwr yn darparu gwarant dim ecwiti negyddol?)
- Beth fydd yn digwydd os bydd eich partner yn marw neu'n mynd i ofal hirdymor?
Sut i ddod o hyd i gynghorydd rhyddhau ecwiti
Bydd cynghorydd arbenigol yn eich helpu i ddeall eich dewisiadau a gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer eich amgylchiadau.
- Dewch o hyd i gynghorydd gan ddefnyddio cyfeiriadur ERCYn agor mewn ffenestr newydd
- Defnyddiwch ein Cyfeiriadur cynghorwyr ymddeoliad.
- Er tawelwch meddwl, gwiriwch fod unrhyw gynghorydd wedi'i gofrestruYn agor mewn ffenestr newydd gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).