Treth Gyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian

Treth flynyddol rydych yn ei thalu i’ch cyngor lleol yw Treth Gyngor. Pennir y gost gan eich cyngor ac mae’r arian yn mynd i ariannu gwasanaethau lleol. Darganfyddwch fwy am Dreth Gyngor, sut i wneud yn siwr nad ydych yn talu mwy nag mae rhaid i chi, a beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth â thalu.

Beth yw Treth Gyngor?

Treth flynyddol yw Treth Gyngor y mae’r cyngor lleol yn ei chodi arnoch am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, fel casglu sbwriel a gwasanaeth llyfrgelloedd. Fel arfer rydych yn talu 10 rhandaliad misol, â dau fis ar ôl hynny lle na fyddwch yn gwneud taliad.

Bydd faint o Dreth Gyngor fyddwch yn ei dalu yn dibynnu ar:

  • eich amgylchiadau personol
  • y band gwerthuso mae eich eiddo ynddo
  • faint o arian mae’r cyngor angen i ariannu eu gwasanaethau.

Am beth mae Treth Gyngor yn talu?

Ariennir gwasanaethau lleol gan Dreth Gyngor. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwasanaethau heddlu a thân
  • prosiectau hamdden a hamdden, megis cynnal a chadw parciau a chanolfannau chwaraeon
  • llyfrgelloedd a gwasanaethau addysg
  • casglu a gwaredu sbwriel a gwastraff
  • gwasanaethau trafnidiaeth a phriffyrdd, gan gynnwys goleuadau stryd a glanhau, a chynnal a chadw ffyrdd
  • iechyd yr amgylchedd a safonau masnachu
  • gweinyddu a chadw cofnodion, fel priodasau, marwolaethau a genedigaeth, ac etholiadau lleol.

Nid yw Treth y Cyngor yn cael ei defnyddio i dalu am wasanaethau iechyd.

Faint yw fy Nhreth Gyngor?

Mae faint o Dreth Gyngor byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar werth eich cartref a ble rydych yn byw.

Darganfyddwch eich awdurdod lleol a faint mae angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio’r dolenni isod:

Bydd pob un o’r dolenni uchod yn eich cyfeirio at wefan eich cyngor lleol.

O’r fan honno gallwch gael gwybodaeth ar y Dreth Gyngor.

Efallai y bydd modd i chi gysylltu â hwy yn uniongyrchol a holi.

A allaf i gael gostyngiad?

Gallech gael gostyngiad ar eich Treth Gyngor os:

  • Ydych ar incwm isel.
  • Ydych yn fyfyriwr neu’n byw gyda myfyrwyr.
  • Ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref.
  • Ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol, fel Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Chredyd Cynhwysol.
  • Oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd ac o ganlyniad yn gorfod byw mewn cartref mwy.
  • Oes gennych amhariad meddyliol difrifol neu’n byw gyda rhywun sydd â chyflwr o’r fath.
  • Oes gennych chi neu rywun sy’n byw gyda chi anabledd ac o ganlyniad yn gorfod byw mewn cartref mwy.
  • Oes gennych amhariad meddyliol difrifol neu’n byw gyda rhywun sydd â chyflwr o’r fath.
  • Ydych yn adawr gofal yn yr Alban, lle byddwch wedi’ch eithrio rhag talu Treth Gyngor o 18 oed hyd nes i chi gyrraedd 26 oed.
  • Ydych yn byw yn rhai siroedd penodol yng Nghymru a Lloegr ac yn adawr gofal.
  • Ydych yn aelod o’r lluoedd arfog, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.
  • Ydych wedi symud i gartref gofal neu ysbyty.
  • Ydych yn y carchar – oni bai eich bod yn treulio dedfryd o garchar am fethu â thalu Treth Gyngor.

Darganfyddwch fwy am bwy all gael gostyniad a sut i wneud cais, defnyddiwch y dolenni isod:

Talu’ch Treth Gyngor dros 12 mis yn lle 10

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn caniatáu i chi ledaenu’ch taliadau Treth Gyngor dros 12 mis yn lle’r 10 arferol.

Gallai talu’r un swm bob mis ei gwneud yn haws i chi gyllidebu.

Gofynnwch i’ch cyngor a ydynt yn cynnig y dewis hwn.

Ym mha fand Treth Gyngor ydwyf?

Cymru

Yng Nghymru mae naw band – o 1 (yr uchaf) i 9.

Os yw’ch cartref wedi’i osod mewn band uwch nag y dylai, mae’n debyg eich bod yn talu mwy o Dreth Gyngor nag y dylech fod.

Lloegr a’r Alban

Mae gan Loegr a’r Alban wyth o fandiau prisio ar gyfer Treth Gyngor yn amrywio o A (y rhataf) i H.

Mae band Treth Gyngor eich cartref yn seiliedig ar ei werth ardrethol – po ddrutaf yw’r eiddo, po uchaf yw’r band Treth Gyngor.

Sut i gael adolygiad o fand eich Treth Gyngor

Os credwch eich bod yn talu gormod ar eich Treth Gyngor gan fod eich cartref yn y band treth anghywir, yna gallech fod â hawl i ad-daliad.

I gael yr ad-daliad hwn bydd angen i chi ofyn am adolygiad.

Ond cofiwch: gallai’r adolygiad olygu y bydd y cyngor yn gosod eich eiddo mewn band uwch.

Darganfyddwch sut i gael band Treth Gyngor wedi’i adolygu, ewch i  MoneySavingExpert website

Cwynion am Dreth Gyngor

Os oes gennych gŵyn am eich Treth Gyngor, fel arfer bydd rhaid i chi gwyno i’r cyngor yn gyntaf. Ni ddylent gymryd mwy na 12 wythnos i ddatrys y broblem.

Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon â’r canlyniad, neu os ydynt yn cymryd yn rhy hir i ddatrys eich cwyn, gallech gwyno i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol

Os methwch daliad Treth Gyngor

Gall peidio â thalu’n brydlon – hyd yn oed un taliad misol – fod yn fater difrifol â Threth Gyngor. Os na weithredwch yn gyflym gallech orfod talu taliad blwyddyn gyfan ymlaen llaw.

Felly, os oedd eich Treth Gyngor yn £167 y mis, ond gwnaethoch fethu daliad cyntaf y flwyddyn, byddai’r swm yn troi’n ddyled o £1,670 - gan dybio i chi ei dalu dros ddeng mis.

Y peth pwysicaf yw cysylltu â’ch cyngor cyn gynted ag y tybiwch y gallech fethu taliad, gan fod hynny’n gwella’r tebygolrwydd y byddant yn medru dod i drefniant â chi.

Bydd rhai cynghorau yn caniatáu i chi wneud y taliad ychydig yn hwyr, er mwyn i chi fedru parhau i dalu’r taliadau o hynny ymlaen yn unol â’r drefn wreiddiol. Efallai y bydd cynghorau eraill yn cynyddu’ch taliadau nesaf i unioni’r taliadau a fethwyd.

Os ydych ar incwm isel, efallai y cewch ostyngiad ar eich bil. Mae’n amrywio o un cyngor i’r llall ac o un achos i’r llall. Os cysylltwch â’ch cyngor yn syth ar ôl i chi fethu taliad, byddant yn aml iawn yn barod i’ch helpu.

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn delio â fy nyled Treth Gyngor?

Os byddwch yn osgoi talu’r Dreth Gyngor ac yn anwybyddu llythyrau a anfonwyd atoch, gall y cyfan droi’n broblem ddifrifol.

Yn gyntaf cewch nodyn atgoffa gan y cyngor rhyw bythefnos ar ôl i chi fethu taliad.

Os talwch o fewn saith diwrnod, nid oes angen i chi wneud dim byd pellach. Bydd y ddyled wedi’i chlirio a byddwch yn medru parhau i dalu eich Treth Gyngor mewn rhandaliadau.

Os na thalwch o fewn saith diwrnod ers derbyn y nodyn atgoffa neu os mai dyma’r trydydd tro i chi fod yn hwyr â thaliadau Treth Gyngor yn ystod y flwyddyn honno, cewch ‘rybudd terfynol’ gan y cyngor.

Bydd y rhybudd terfynol yn dweud wrthych am dalu’r cyfan o’ch Treth Gyngor ar gyfer gweddill y flwyddyn o fewn saith diwrnod.

Os na thalwch o fewn saith diwrnod o’r rhybudd terfynol bydd y cyngor fel arfer yn cyflwyno cais i’r llysoedd am ganiatâd i gasglu’r ddyled gennych - gelwir hwn yn ‘orchymyn dyled’.

Ar ôl hynny gall eich cyngor fynnu bod eich cyflogwr yn talu’ch Treth Gyngor ddyledus o’ch cyflog yn uniongyrchol o’ch cyflog.

Gallant hefyd gyflwyno cais i dynnu arian o rai budd-daliadau penodol, gan gynnwys

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol.

Os nad yw hyn yn bosibl, gallai’r cyngor yrru beili i’ch cartref. Bydd rhaid i chi dalu costau llys a hanner ffi’r beili o bosibl yn ogystal â’ch dyled, a all ychwanegu cannoedd o bunnoedd i’ch bil.

Bydd rhaid i chi dalu costau llys ac o bosibl ffioedd beili yn ogystal â'ch dyled, a all ychwanegu cannoedd o bunnoedd at eich bil.

Am ragor o wybodaeth ynghlŷn ag atal beiliod rhag dod at eich drws, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth

Os ydych yn Lloegr, maehefyd yn dal i fod yn bosibl cael eich carcharu am fynd i ddyledion â Threth Gyngor.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.