Sut i wneud cais am forgais

Os ydych yn ystyried prynu cartref, gall gwneud cais am y morgais ymddangos yn dasg frawychus. Bydd angen i chi ddarparu llawer o wybodaeth a llenwi llwyth o ffurflenni, ond bydd bod yn barod yn helpu'r broses i symud mor llyfn â phosibl.

Sut mae benthycwyr yn gwirio y gallaf fforddio morgais?

Bydd benthycwyr yn cyfrifo’ch holl incwm cartref – gan gynnwys eich cyflog sylfaenol ac unrhyw incwm ychwanegol a gewch o ail swydd, gweithio’n llawrydd, budd-daliadau, comisiwn neu fonws.

Mae gwirio fforddiadwyedd yn broses llawer iawn mwy manwl. Bydd benthycwyr yn ystyried eich holl filiau cartref rheolaidd a’ch gwariant, ynghyd ag unrhyw ddyledion megis benthyciadau a chardiau credyd, i wneud yn siŵr fod gennych ddigon ar ôl i ad-dalu’ch morgais bob mis.

Mae ganddynt ‘brawf straen’ hefyd i ganfod a allech barhau i fforddio’r ad-daliadau morgais petai cyfraddau llog yn codi neu petaech yn ymddeol, yn mynd ar absenoldeb mamolaeth neu’n cael plentyn.

Yn ogystal, byddant yn cyflawni gwiriad credyd ag asiantaeth cymeradwyo credyd unwaith y byddwch yn gwneud cais ffurfiol i gymryd golwg ar eich hanes ariannol ac asesu faint o risg fyddai benthyca arian i chi.

Sut i baratoi ar gyfer eich cais

Cyn gwneud cais am forgais, cysylltwch â’r tair prif asiantaeth cymeradwyo credyd ac edrychwch ar eich adroddiadau credyd. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw wybodaeth anghywir amdanoch. Gallwch wneud hyn ar-lein naill ai trwy wasanaeth tanysgrifiad am dâl neu un o’r gwasanaethau ar-lein am ddim sydd ar gael bellach. Darganfyddwch fwy am sut i wella eich sgôr credyd.

Gallwch wirio eich sgor credyd ag un o’r tri prif asiantaethau statws credyd:

Beth rydych ei angen i wneud cais am forgais

Dechreuwch gasglu’r holl ddogfennau y byddwch eu hangen ar gyfer y broses gwneud cais am forgais. Gallai hyn gynnwys:

  • biliau cyfleustodau
  • prawf o’r budd-daliadau a dderbyniwyd
  • ffurflen P60 gan eich cyflogwr
  • eich slipiau cyflog am y tri mis diwethaf
  • pasbort neu drwydded yrru (i brofi pwy ydych)
  • cyfriflenni banc ar gyfer eich cyfrif cyfredol am y tri i’r chwe mis diwethaf
  • cyfriflen o gyfrifon dwy i dair blynedd gan gyfrifydd os ydych yn hunangyflogedig
  • ffurflen dreth SA302 os oes gennych enillion o fwy nag un ffynhonnell neu os ydych yn hunangyflogedig
  • dylai pobl hunangyflogedig geisio cyflwyno gwybodaeth yn ategol i’w ffurflen dreth, sy’n cefnogi’r hyn y mae’r SA302 yn ei ddweud am eu hincwm, megis cyfriflenni banc.

Byddwch yn gywir. Gwnewch yn siŵr fod y wybodaeth ar y ffurflen gais yn cyfateb â’r dogfennau a gyflwynwch iddynt.

Er enghraifft, peidiwch â thalgrynnu eich cyflog os yw’r swm ar y slipiau cyflog yn wahanol i’r ffigur hwn.

Rhowch gyfeiriad yr eiddo rydych am ei brynu, y gwerthwr eiddo a’ch cyfreithiwr.

Dyma’r pethau sylfaenol - gall rhai benthycwyr ofyn am ragor o waith papur.

Cofiwch y gall benthycwyr fod â meini prawf gwahanol ynghylch incwm a threuliau.

Gofynnwch i’ch darparwr neu gynghorydd morgais annibynnol beth arall y byddwch efallai ei angen.

Sylwch efallai na fydd copïau wedi eu hargraffu o gyfriflenni ar-lein o’ch cyfrif cyfredol a biliau cyfleustodau yn dderbyniol.

Byddwch angen un ai copïau papur neu gopïau a ardystiwyd gan eich cyfreithiwr, eich banc neu’ch darparwr cyfleustodau.

Sut rydych yn gwario eich arian

Efallai y bydd angen i chi ddangos eich treuliau hefyd, yn cynnwys faint rydych yn ei fenthyca ar gardiau credyd a benthyciadau eraill.

Yn ogystal â'ch biliau cartref, efallai y bydd angen i chi gynnwys:

  • Treth Gyngor
  • polisïau yswiriant, a
  • chostau byw cyffredinol megis teithio i’r gwaith neu i’r ysgol, dillad, gofal plant a hamddena.

A ydych yn ail-forgeisio?

Os ydych yn dymuno cynyddu swm eich morgais efallai y bydd angen i chi gwblhau’r gwiriadau fforddiadwyedd uchod, a chewch gyngor ynghylch pa gynnyrch morgeisi sy’n addas.

Os oes gennych forgais ac nid ydych yn dymuno benthyca rhagor o arian, mae trefniadau mwy hyblyg ar gael. 

A ydych eisiau morgais llog yn unig?

Nid yw pob darparwr yn cynnig morgeisi llog yn unig.

Os gwnewch gais am un, byddwch angen dangos fod gennych ddull credadwy o ad-dalu mewn lle, yn ogystal â bodloni’r meini prawf incwm angenrheidiol.

Siaradwch â chynghorydd morgeisi

Gyda chymaint o opsiynau ar gael, gall fod yn anodd iawn dewis y morgais cywir. Gall cynghorydd morgais eich helpu i ddod o hyd i'r morgais cywir i chi.

Cyfrifwch gost llawn eich morgais

Bydd y darparwr neu’r brocer yn gwneud hyn i chi, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn esbonio’r holl daliadau a ffioedd, yn cynnwys unrhyw daliadau a ffioedd amodol, megis cosbau ad-dalu cynnar.

Bydd rhai broceriaid yn codi ffi arnoch am gyngor, yn derbyn comisiwn gan y darparwr neu gyfuniad o’r ddau. Byddant yn rhoi gwybod i chi am eu ffioedd a chwmpas y gwasanaeth y gallant ei ddarparu yn eich cyfarfod cychwynnol. Nid yw cynghorwyr o fewn banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn codi ffi am eu cyngor.

Dngosir cost flynyddol morgais i chi wedi ei fynegi fel canran o’r benthyciad. Dangosir hyn fel cyfrifiad Cyfradd Tâl Canrannol Blynyddol (APRC) ac mae’n cynnwys unrhyw ffioedd fel gwerthusiad neu ffioedd adbrynu sy’n gysylltiedig â’ch morgais. Bydd yr APRC hwn yn helpu darparu cymhariaeth fwy trylwyr rhwng y gwahanol gynigion morgeisi sydd ar gael.

Mae cael morgais yn ymwneud â mwy na'r taliadau misol yn unig. Mae angen i chi hefyd gyllidebu ar gyfer y costau eraill fel ffioedd cyfreithiwr a Treth Stamp.

Defnyddio gwefannau cymharu prisiau

Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i morgais addas.

Mae gwefannau poblogaidd i gymharu morgeisi yn cynnyws:

Cofiwch:

  • ni fydd pob un wefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.
  • mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
  • darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar wefannau cymharu.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.