Mae Cymorth i Brynu yn gynllun gan y llywodraeth i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eiddo. Mae bellach ar gau yn Lloegr a’r Alban, ond mae dal ar gael yng Nghymru. Darganfyddwch fwy am y cynllun, opsiynau eraill a sut i reoli eich benthyciad ecwiti.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw’r cynllun Cymorth i Brynu?
- A yw’r cynllun Cymorth i Brynu ar gael o hyd?
- Sut mae’r Cynllun Cymorth i Brynu yn gweithio?
- Cynlluniau a chymorth prynu cartref eraill
- Beth i’w wneud os ydych wedi prynu’ch cartref gyda’r cynllun Cymorth i Brynu
- Ad-dalu eich benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu
- Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gwerthu fy nghartref os wyf wedi defnyddio Cymorth i Brynu?
- Beth fydd yn digwydd os ydw i am ailforgeisio?
- A fyddaf yn ei chael yn anodd cael morgais arall pan fyddaf yn symud?
- Beth sy’n digwydd os bydd gwerth eiddo yn gostwng?
Beth yw’r cynllun Cymorth i Brynu?
Cynlluniwyd Cymorth i Brynu i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eiddo gyda blaendal o ddim ond 5%.
Mae’r llywodraeth yn rhoi benthyg rhwng 5% ac 20% o gost cartref newydd i chi fel ‘benthyciad ecwiti’. Yn Llundain, roedd hyn hyd at 40%.
Mae'r benthyciad yn ddi-log am bum mlynedd.
A yw’r cynllun Cymorth i Brynu ar gael o hyd?
Mae'r cynllun ar gau i geisiadau newydd yn Lloegr a'r Alban.
Mae Cymorth i Brynu yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd ar gael tan 31 Mawrth 2025.
Ar gyfer cynllun Cymru, mae angen i eiddo fod gan adeiladwr sydd wedi'i gofrestru â'r cynllun, sy'n werth llai na £300,000 a bod â sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o leiaf B.
Nid yw Cymorth i Brynu ar gael yng Ngogledd Iwerddon ond mae cynlluniau eraill ar gael
Sut mae’r Cynllun Cymorth i Brynu yn gweithio?
Mae’r benthyciad ecwiti yn eich galluogi i roi blaendal mwy i lawr, a all olygu y bydd angen i chi fenthyca llai yn eich morgais ad-dalu. Dim ond ar rai eiddo cymwys y mae benthyciadau ecwiti Cymorth i Brynu ar gael.
Enghraifft o sut mae'r benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn gweithio
Enw’r cost | Canran y cyfanswm | Gwerth |
---|---|---|
Eich blaendal |
5% |
£10,000 |
Benthyciad ecwiti (gan y llywodraeth) |
20% |
£40,000 |
Morgais |
75% |
£150,000 |
CYFANSWM |
|
£200,000 |
Rydych yn benthyca canran o werth eich cartref, nid swm penodol.
Mae hyn yn golygu os bydd gwerth eich cartref yn cynyddu neu’n gostwng, bydd y swm sy’n ddyledus gennych yn hefyd.
Er enghraifft, os bydd gwerth eich eiddo o £200,000 yn cynyddu 25% i £250,000, byddai ad-daliad eich benthyciad ecwiti yn £50,000, nid £40,000, gan y byddai hyn yn 20% o'r gwerth newydd.
Cynlluniau a chymorth prynu cartref eraill
Mae opsiynau eraill ar gael os oes angen help arnoch i gyrraedd yr ysgol eiddo, fel Rhanberchnogaeth a Rhentu i Brynu.
Mae’r cynlluniau hyn yn amrywio ar draws y DU, felly gwiriwch eich cymhwysedd a beth sydd ar gael lle rydych chi’n byw.
Ar gyfer Lloegr, ewch i Own your homeYn agor mewn ffenestr newydd
Ar gyfer Cymru, ewch i GOV.WALESYn agor mewn ffenestr newydd
Ar gyfer yr Alban, ewch i mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Gogledd Iwerddon, ewch i nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Darllenwch fwy yn ein canllaw cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion tai cyfredol.
Beth i’w wneud os ydych wedi prynu’ch cartref gyda’r cynllun Cymorth i Brynu
Bydd angen i chi:
- dalu llog ar eich benthyciad ar ôl pum mlynedd
- talu ffi rheoli misol o £1
- talu ffioedd gweinyddol am unrhyw newidiadau.
Ewch i GOV.UK am help i reoli eich benthyciadYn agor mewn ffenestr newydd neu cysylltwch â thîm gwasanaeth cwsmeriaid Cymorth i Brynu ar 0300 123 4123
Opens in a new window
Ad-dalu eich benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu
Mae angen ad-dalu’r ganran rydych yn benthyca ar ôl 25 mlynedd neu’n gynt os byddwch yn gwerthu’ch cartref.
Byddwch yn dechrau talu llog o'r chweched flwyddyn ar ôl cymryd llog y benthyciad.
Mae'r gyfradd llog sy'n berthnasol i'ch benthyciad yn cynyddu bob blwyddyn ym mis Ebrill. Mae'n cynyddu ar yr un gyfradd â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), ynghyd â 2%.
- Blynyddoedd 1 i 5: dim ffioedd
- Blwyddyn 6: 1.75% o'r benthyciad
- Blwyddyn 7 ymlaen: 1.75% + CPI + 2% (1% os cymeroch y benthyciad ecwiti cyn Rhagfyr 2019).
Gall ad-dalu rhan o'r benthyciad ecwiti leihau eich taliadau llog misol. Mae hyn oherwydd bod swm y benthyciadmae'r gyfradd llog yn berthnasol iddo yn llai.
Bydd angen i chi gael eich cartref wedi’i brisio gan syrfëwr siartredig cyn i chi wneud ad-daliad.
Yr ad-daliad lleiaf y gallwch ei wneud yw 10% o werth marchnad eich cartref.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gwerthu fy nghartref os wyf wedi defnyddio Cymorth i Brynu?
Gallwch werthu eich cartref unrhyw bryd, a byddwch yn ad-dalu’r benthyciad ecwiti sy’n weddill ar yr un pryd.
Er enghraifft, os gwnaethoch brynu cartref i ddechrau â morgais 75% a blaendal arian parod o 5% ac nad ydych wedi gwneud unrhyw ad-daliadau eraill, byddwch yn ad-dalu 20% o werth eich cartref pan fyddwch yn ei werthu.
Os byddwch yn gwneud taliadau ychwanegol, bydd y swm sydd ar ôl i’w dalu yn lleihau.
Mae'r swm terfynol yn seiliedig naill ai ar werth marchnad eich eiddo, neu'r pris gwerthu, pa bynnag sydd uchaf.
Dewch o hyd i syrfëwr sydd wedi cofrestru gyda’r Royal Institution of Chartered Surveyors (RICS)Yn agor mewn ffenestr newydd i wneud prisiad annibynnol.
Gweler GOV.UK i gael arweiniad ar sut i ad-dalu eich benthyciad ecwiti pan fyddwch yn gwerthu eich cartrefYn agor mewn ffenestr newydd
Beth fydd yn digwydd os ydw i am ailforgeisio?
Os oes gennych fenthyciad ecwiti Cymorth i Brynu, gallwch ddal ailforgeisio. Os nad ydych am fenthyg mwy o arian, nid oes angen i chi gael caniatâd i ail-forgeisio.
Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’ch benthyciad ecwiti pan fyddwch yn cyrraedd diwedd cyfnod eich morgais, felly cadwch hynny mewn cof os ydych am ail-forgeisio am gyfnod byrrach.
Mae rhai pobl yn dewis ailforgeisio i fenthyg mwy o arian fel y gallant ad-dalu eu benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu yn gynt. Mae’n werth cymharu’r cyfraddau llog ar y benthyciad ecwiti a’r morgais cyn i chi benderfynu.
Ewch i GOV.UK i gael arweiniad ar sut i ad-dalu’ch benthyciad ecwiti pan fyddwch yn ail-forgeisioYn agor mewn ffenestr newydd
Beth fydd yn digwydd os ydw i am ailforgeisio a benthyg mwy o arian?
Os ydych am ailforgeisio a benthyg mwy o arian, bydd angen i chi gael caniatâd gweinyddwr eich cynllun Cymorth i Brynu. Dim ond o dan rai amgylchiadau y cewch wneud hyn.
Ewch i GOV.UK i gael arweiniad ar sut i ailforgeisio eich cartref Cymorth i Brynu a benthyg mwy o arianYn agor mewn ffenestr newydd
A fyddaf yn ei chael yn anodd cael morgais arall pan fyddaf yn symud?
Na, ond os ydych mewn ardal lle nad yw gwerth eiddo wedi cynyddu neu hyd yn oed wedi gostwng, gall hyn eich gadael ag ecwiti negyddol neu heb ddigon o flaendal i werthu a symud allan.
Trafodwch eich opsiynau gyda’ch benthyciwr morgais neu frocer cyn i chi ddechrau chwilio am eiddo arall.
Beth sy’n digwydd os bydd gwerth eiddo yn gostwng?
Mae hyn yn golygu, os bydd gwerth marchnad eich eiddo yn is na’r swm y gwnaethoch ei brynu amdano, byddwch yn ad-dalu llai na’r swm gwreiddiol a fenthycwyd gennych drwy’r cynllun benthyciad ecwiti.
Er enghraifft, os gwnaethoch brynu cartref gwerth £250,000 a bod 20% yn cynnwys benthyciad ecwiti (£50,000), a bod gwerth eich cartref yn disgyn i £200,000, dim ond 20% o £200,000 y byddai angen i chi ei dalu’n ôl, sef £40,000.