Os na allwch newid i forgais mwy fforddiadwy, er eich bod yn gyfoes â’ch taliadau, mae rheolau newydd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn golygu bod gan rai benthycwyr fwy o hyblygrwydd i’ch helpu i newid morgais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pwy sy’n gaeth i forgais?
- A wyf yn gymwys o dan y rheolau newydd?
- Morgeisi llog yn unig
- Morgeisi Prynu i Rentu
- Sut gallai’r newidiadau fy helpu?
- Pa opsiynau newid eraill sydd ar gael?
- Sut mae cael help a beth rwyf yn ei wneud nesaf?
- Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais neu os ydych mewn ôl-ddyledion
Pwy sy’n gaeth i forgais?
Os gymeroch forgais i brynu eich cartref cyn 2014 a’ch bod bellach yn ei chael yn anodd newid i gytundeb gwell, hyd yn oed os ydych yn gyfoes â’ch taliadau, efallai eich bod yn gaeth i’ch morgais.
Mae newidiadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ym mis Hydref 2019 a all eich helpu i newid i gytundeb morgais mwy fforddiadwy.
Os ydych yn gaeth i’ch morgais, byddwch wedi derbyn llythyr gan eich darparwr morgais cyn Ionawr 2020.
Y rheswm pam y gallech fod yn cael trafferth ail-forgeisio yw oherwydd ar ôl chwalfa ariannol 2008, cafodd y rheolau ynghylch asesiadau fforddiadwyedd, sy’n edrych ar eich gallu i ad-dalu’r morgais, eu gwneud yn llawer llymach.
Gall eich bod wedi eich effeithio gan hwn os ydych wedi profi digwyddiad bywyd sylweddol ers cymryd y morgais, er enghraifft colli eich swydd.
Mae’r rheolau newydd yn galluogi benthycwyr i edrych ar eich hanes ad-daliad morgais, yn lle defnyddio’r asesiad fforddiadwyedd.
Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod eich bod yn gaeth i’ch morgais, nid yw hwn yn golygu eich bod yn gymwys yn awtomatig.
A wyf yn gymwys o dan y rheolau newydd?
Bydd benthycwyr yn defnyddio amrywiaeth o feini prawf gwahanol i benderfynu a fyddant yn derbyn eich cais morgais. Mae’r rhain yn amrywio o fenthyciwr i fenthyciwr, ond gallent gynnwys:
- o leiaf 5 mlynedd yn weddill ar y morgais
- morgais sy’n weddill o £50,000 o leiaf
- isafswm gwerth eiddo o £60,000
- benthyciad i werth (y swm rydych am ei fenthyg o’i gymharu â gwerth eich cartref) o ddim mwy nag 85%
- mae’r morgais ar eich cartref presennol (felly nid yw ar gael ar gyfer symudwyr cartref neu os ydych ar hyn o bryd yn gosod allan eich cartref)
- dim newidiadau i’r benthycwyr (dim benthycwyr wedi’u hychwanegu na’u tynnu o’r morgais)
- ni fethwyd unrhyw daliadau morgais yn ystod y 12 mis diwethaf. Nid yw hyn yn cynnwys gohirio taliadau y cytunwyd arnynt â’ch benthyciwr ac a gymerwyd oherwydd yr achosion o goronafeirws.
- nid yw eich morgais yn forgais prynu i rentu
- cynllun ad-dalu clir os ydych ar, ac eisiau aros ar, forgais llog yn unig
- bydd rhai benthycwyr angen copi o’r llythyr mae eich cwmni morgais wedi’i anfon atoch yn egluro y gall benthycwyr sy’n methu newid allu elwa o’r newidiadau diweddar i’r rheolau.
Os ydych yn cael trafferth ail-forgeisio, ond dydych chi ddim yn gaeth i’ch morgaisfel y diffinnir gan yr FCA, mae opsiynau o hyd ar gael i chi.
Darllenwch ein canllaw ar Beth i'w wneud os ydych yn cael trafferth ail-forgeisio
Morgeisi llog yn unig
Os ydych ar forgais llog yn unig, bydd benthycwyr newydd yn disgwyl i chi gael cynllun ad-dalu i ad-dalu’r morgais sy’n ddyledus ar ddiwedd ei dymor a gallu darparu prawf o’ch gallu i ad-dalu.
Os nad oes gennych hwn, mae’n anhebygol y byddwch yn elwa o’r opsiynau newid newydd. Ni fydd benthycwyr newydd yn cymryd ymlaen morgeisi llog yn unig heb gynllun ad-dalu. Os yw hyn yn berthnasol, dylech siarad â’ch benthyciwr presennol i drafod eich opsiynau.
Gallai rhai benthycwyr gynnig opsiynau sy’n cynnwys newid rhan o’ch morgais i ad-daliad (cyfalaf a llog). Bydd hyn yn cynyddu eich taliadau misol ond yn eich gadael mewn gwell sefyllfa i ad-dalu’ch morgais yn ddiweddarach neu drwy drefnu i wneud gordaliadau i leihau’r ddyled gyfan a fydd yn ei gwneud yn haws i ailforgeisio yn y dyfodol.
Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu ad-dalu’r morgais, ac/neu rydych wedi cyrraedd neu bron â chyrraedd diwedd tymor eich morgais, dylech weithredu nawr i ddeall eich opsiynau a’r hyn y gallwch ei wneud i wella’ch sefyllfa.
Bydd gweithredu’n gynnar yn eich rhoi yn y sefyllfa orau bosibl ar ddiwedd eich morgais, neu’n gwella eich opsiynau i gael cytundeb morgais newydd well yn y dyfodol.
Morgeisi Prynu i Rentu
Os oes gennych forgais Prynu i Rentu, ni fyddwch yn gymwys o dan y rheolau hyn.
Os oes gennych forgais preswylio â ‘chaniatad i rentu’ ac yn bwriadu parhau i rentu allan eich eiddo, ni fyddwch yn gymwys am y newidiadau hyn.
Sut gallai’r newidiadau fy helpu?
Gall benthycwyr nawr ddefnyddio asesiad fforddiadwyedd wedi’i addasu, sy’n golygu y gallant ddewis peidio â gofyn am dystiolaeth o’ch incwm a’ch treuliau neu gymhwyso prawf straen. Mae prawf straen yn ei gwneud yn ofynnol i fenthyciwr wirio a allwch barhau i wneud taliadau pe bai’r gyfradd llog ar eich morgais yn codi.
Gall benthycwyr morgeisi gynnal asesiad fforddiadwyedd wedi’i addasu os ydych:
- â morgais preswyl ar eich cartref
- yn gyfoes â’ch taliadau morgais ac wedi bod am y 12 mis diwethaf
- ddim eisiau benthyca mwy - heblaw talu am unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig â’r morgais
- ddim yn edrych i symud cartref.
Gall benthycwyr ddefnyddio’r rheolau hyn i gynnig morgais newydd i chi cyhyd ag y bydd yn fwy fforddiadwy i chi na’ch cytundeb presennol.
Nid oes rhaid i fenthycwyr ddefnyddio’r asesiad fforddiadwyedd newydd wedi’i addasu. Bydd rhai yn dewis eich helpu trwy wneud newidiadau eraill i’r ffordd maent yn asesu fforddiadwyedd. Mae cynnig unrhyw forgais newydd yn benderfyniad i fenthycwyr, felly bydd yr hyn sydd ar gael yn amrywio rhwng cwmnïau ac ni fydd pob un sy’n gaeth i’w morgais yn gymwys ar gyfer pob morgais.
Pa opsiynau newid eraill sydd ar gael?
Os gallwch ddangos bod y morgais (gan gynnwys cynlluniau ad-dalu) yn fforddiadwy, mae nifer o ffyrdd eraill y gallai benthyciwr helpu. Er enghraifft, gallai benthyciwr:
- symleiddio sut maent yn gwirio a allwch fforddio’ch morgais os bydd cyfraddau llog yn codi
- ystyried opsiynau eraill ar gyfer benthycwyr hŷn, er enghraifft morgeisi llog yn unig wedi ymddeoliad neu ryddhau ecwiti
- ystyried trosi’n llwyr neu’n rhannol i forgais ad-daliad o forgais llog yn unig
- edrych ar bob cais yn unigol yn lle defnyddio dull awtomataidd.
Sut mae cael help a beth rwyf yn ei wneud nesaf?
Os ydych am drafod eich opsiynau â chyngynghorydd morgeisi wedi’i reoleiddio, gallwch lawrlwytho rhestr o gwmniau a fydd cyngynghorydd ganddynt sy’n gallu trafod eich opsiynau yn fwy manwl (Opens in a new window) (PDF/A, 1.4MB)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am bobl sy’n gaeth i’w morgais a’r newidiadau hyn, yna edrychwch ar ein rhestr o gwestiynau cyffredin
Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais neu os ydych mewn ôl-ddyledion
Os ydych yn ei chael yn anodd talu’ch morgais, neu eisoes ar ei hôl o ran taliadau, mae’n bwysig gweithredu cyn gynted â phosib.
Os nad ydych wedi gwneud yn barod, gwnewch yn siwr eich bod yn cysylltu â’ch benthyciwr i siarad am eich opsiynau.