Cymorth gan y llywodraeth os na allwch dalu’ch morgais

Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch ad-daliadau morgais, gallai’r llywodraeth helpu. Efallai gallech arwyddo i gynllun Achub Morgeisi, y cynllun Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais neu fudd-daliadau eraill y llywodraeth a all rhoi hwb i’ch incwm.

Cysylltwch â’ch benthyciwr i ddechrau

Ydych chi angen torri'n ôl ar wariant? Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb.

Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch morgais, dylai’ch cam cyntaf bob amser fod cysylltu â’ch benthyciwr.

Maent eisiau’ch helpu chi i wneud eich ad-daliadau.

Bydd eich benthyciwr yn gallu trafod eich opsiynau â chi, ac yn gallu cynnig awgrymiadau gan gynnwys:

  • trefniadau dros dro ar gyfer talu
  • ymestyn hyd tymor y morgais neu
  • newid dros dro i ad-daliadau llog-yn-unig.

Cael cyngor am ddim

Os ydych chi’n poeni na fyddwch yn gallu talu’ch ad-daliadau, mae digon o wasanaethau cynghori ar gael sy’n rhoi arweiniad yn rhad ac am ddim.

Mae’r rhain yn cynnwys Shelter, National Debtline a StepChange os ydych mewn peryg o droi allan ac elusennau cyngor dyledion am ddim os ydych yn cael trafferth gyda dyledion. 

Y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gall y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o’ch eiddo os yw eich morgais mewn ôl-ddyledion. 

Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys o'r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan eich landlord. 

Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i nodi beth sydd wedi sbarduno’r cais am feddiant ac yn argymell atebion. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:

  • camau cymryd perchnogaeth o eiddo dan forgais
  • taliadau budd-daliadau lles
  • dyled.

Os na allwch ddatrys materion a gofynnir i chi fynychu gwrandawiad llys, gall ymgynghorydd tai hefyd ddarparu cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys. Dylech gyrraedd o leiaf 30 munud cyn eich gwrandawiad a siaradwch â'r tywysydd llys a byddant yn eich cyfeirio at yr ymynghorydd.

Gallwch ddod o hyd i'ch darparwr Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai agosaf drwy deipio eich cod post a ticio'r blwch 'Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai' yn, dod o hyd i gyngor cyfreithiol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Cynllun Achub Morgeisi

Lloegr

Nid yw’r cynllun hwn ar gael bellach.

Cymru

Mae rhai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnal cynlluniau achub morgais (MRS) i helpu perchnogion tai i osgoi adfeddiant os yw’n debygol y byddai’r perchennog yn mynd yn ddigartref fel arall.

Yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i berchnogion cartrefi sy’n cael anhawster talu eu morgais trwy ei Gronfa Cefnogaeth Perchnogion Cartrefi.

Mae dau gynllun ar gael trwy’r gronfa y gallai perchnogion ymgeisio amdanynt:

  • Y cynllun Morgais i Rent ble mae landlord cymdeithasol yn prynu’ch cartref ac yn ei rentu’n ôl i chi
  • Y Cynllun Ecwiti Morgais a Rennir ble mae Llywodraeth yr Alban yn prynu cyfran o hyd at 30% yn eich cartref, sy’n lleihau faint sydd gennych yn ddyledus ar eich morgais. Byddwch yn dal i fyw yn eich cartref, ond yn gwneud taliadau morgais llawer is o ganlyniad

Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais

Os ydych yn hawlio'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Pensiwn

Efallai y byddwch yn medru hawlio help at daliadau llog ar eich morgais. Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI) ac fe’i cynigir fel benthyciad i’w ad-dalu.

Cymorth i aros – Cymru

Gall perchnogion tai yng Nghymru sy’n cael trafferthion wneud cais am gymorth gan y llywodraeth gan ddefnyddio cynllun Cymorth i Aros - Cymru. Ei nod yw eich cadw'n fyw yn eich cartref tra’n rhoi cyfle i chi ddatrys unrhyw faterion ariannol.

Gyda Chymorth i Aros, gallwch wneud cais am fenthyciad ecwiti a rennir i helpu i wneud eich taliadau morgais misol yn fwy hylaw. Mae'r benthyciad yn ddi-log am bum mlynedd ond rhaid ei ad-dalu o fewn 15 mlynedd.

Gallwch fenthyg hyd at 49% o werth eich cartref. Mae hyn yn seiliedig ar brisiad o'r eiddo a ddarparwyd fel rhan o'r cynllun pan fyddwch yn cymryd y benthyciad. Oherwydd ei fod yn fenthyciad ecwiti a rennir, gallai’r swm terfynol y byddwch yn ei ad-dalu fod yn fwy neu’n llai na’r swm y byddwch yn ei fenthyca, yn ôl gwerth marchnad y cartref ar yr adeg y caiff ei werthu neu ar ddiwedd y tymor 15 mlynedd.

Bydd angen i chi greu cynllun ar gyfer sut y byddwch yn ad-dalu’r benthyciad erbyn diwedd y tymor 15 mlynedd. Gallech hefyd gael eich gorfodi i werthu eich cartref os na fyddwch yn ad-dalu.

Mae'r cynllun yn gyfyngedig. Bydd angen i chi ddangos y canlynol i gyd:

  • mae eich cartref naill ai mewn, neu'n wynebu, anhawster morgais, a'ch bod mewn perygl o golli eich cartref
  • mae eich eiddo yng Nghymru
  • mae gwerth yr eiddo yn £300,000 neu lai
  • dim ond un morgais sydd gennych ar eich eiddo
  • chi yw perchennog yr eiddo a dyma'ch prif breswylfa neu'ch unig breswylfa
  • nid yw cyfanswm incwm y cartref bob blwyddyn yn fwy na £67,000.

Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi siarad â:

  • eich benthyciwr presennol i gael asesiad cyllideb
  • darparwr cyngor ar ddyledion am ddim i gael cynllun argymhelliad ar ddyledion

Ni allwch wneud cais heb gael y wybodaeth hon yn gyntaf.

Dewch o hyd i ddarparwr cyngor ar ddyledion cyfrinachol am ddim

Budd-daliadau a allai gynyddu’ch incwm

Mae’n werth holi i weld a oes gennych chi hawl i gael budd-daliadau i roi hwb i’ch incwm er mwyn cwrdd â thaliadau morgais.

Awgrymiadau am gyllidebu a lleihau costau

Gwiriwch eich incwm a’ch treuliau gan ddefnyddio’n Cynlluniwr cyllideb i’ch helpu.

Dilynwch y dolenni isod i weithio allan eich incwm a’ch treuliau misol ac i weld a oes unrhyw awgrymiadau ar gyfer lleihau costau y gallech eu defnyddio i ryddhau rhywfaint o arian parod ar ddiwedd pob mis. Bydd popeth yn helpu.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.