Os gwnaethoch gymryd polisi gwaddol fel ffordd o ad-dalu eich morgais llog yn unig, mae’n bwysig gwirio a yw ar y trywydd iawn i dalu eich dyled morgais derfynol – neu os ydych yn wynebu diffyg.
Rydych wedi bod yn talu’r llog ar eich morgais, ond nid y swm a fenthycwyd gennych – dyna beth mae’r taliadau misol ar eich polisi gwaddol yn bwriadu talu. Ond nid yw llawer o’r polisïau hyn wedi perfformio yn gystal â’r disgwyl.
Mae hyn yn golygu efallai na fydd eich taliad terfynol yn setlo eich dyled morgais, a allai adael bil o filoedd o bunnoedd i chi ar ddiwedd tymor eich morgais a gallech hyd yn oed colli’ch cartref.
Os ydych yn amau efallai bod gennych ddiffyg – neu’n gwybod yn sicr bod gennych un – mae camau y gallwch eu cymryd i gael help. Ond mae angen i chi weithredu nawr. Po hiraf y byddwch yn oedi, yr uchaf yw’r gost o wneud lan y diffyg.
Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.