Nes y cyfnewidir contractau, gall prynwr a gwerthwr y cartref newid ei feddwl a thynnu allan o’r cytundeb. Darganfyddwch fwy am gamau olaf prynu eiddo.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cyn i chi gyfnewid contractau
Mae cyfnewid contractau yn rhwymol gyfreithiol, felly rhaid bod yn sicr eich bod eisiau bwrw ymlaen cyn llofnodi unrhyw beth.
Gwiriwch y contract y bydd eich cyfreithiwr yn ei anfon cyn ei lofnodi a’i ddychwelyd - gofynnwch i’ch cyfreithiwr egluro unrhyw amodau neu delerau nad ydych yn eu deall.
Defnyddiwch ein rhestr wirio ddefnyddiol i sicrhau eich bod yn barod i gyfnewid:
- Gwiriwch fod y chwiliadau wedi eu cwblhau.
- Gwiriwch fod y chwiliadau wedi eu cwblhau a chodwch unrhyw ymholiadau gyda’r prynwr/gwerthwr.
- Gwiriwch fod gennych eich cynnig morgais yn ysgrifennedig.
- Gwiriwch fod gennych y cronfeydd ar gyfer blaendal eich morgais.
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cytuno ar ddyddiad cwblhau ar gyfer y gwerthiant.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd wedi ei gynnwys yn y cynnig, megis gosodiadau a ffitiadau, a’i gael ar bapur.
- Ystyriwch gymryd yswiriant i gynnwys indemniad costau sydd wedi’u gwastraffu.
- Os yw’r gwerthwr yn tynnu allan cyn i chi gyfnewid contractau, nid oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i adfer unrhyw gostau ganddo. Gall eich cyfreithiwr eich cynghori am hyn.
- Gwiriwch y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC)Yn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer eich cartref newydd - mae hyn yn graddio effeithlonrwydd ynni eich adeilad.
- Trefnwch yswiriant adeiladau a gwnewch yn siŵr ei fod yn ddilys o’ch dyddiad cwblhau. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Diogelu eich hun a’ch cartref: chwilio am yswiriant.
Os bydd gwerthwyr yn ceisio aildrafod y pris prynu ar yr adeg hon, cewch gyngor gan eich cyfreithiwr a gofynnwch iddynt eich helpu gyda'r trafodaethau. Gallant hefyd eich cynghori ar y camau nesaf os ydych am wrthod a thynnu'n ôl o'r gwerthiant.
Cyfnewid contractau
Wrth gyfnewid contractau bydd y cyfreithiwr neu drawsgludwr o bob ochr yn darllen y contract dros y ffôn mewn sgwrs wedi ei recordio.
Byddant yn sicrhau bod y contractau’r un fath ac yna’n eu postio i’w gilydd.
Unwaith y bydd contractau wedi eu cyfnewid, rydych wedi’ch rhwymo’n gyfreithiol i brynu’r eiddo. Y camau nesaf fydd:
- i roi gwybod i’r rhydd-ddeiliad (os yw’n eiddo prydlesol) mai chi yw’r perchennog newydd
- i wirio bod y cyfreithiwr/trawsgludwr wedi cofrestru trosglwyddiad perchnogaeth gyda’r gofrestrfa dir
- os yw’n bwrcasiad rhan o rydd-ddeiliad, bydd y cyfreithiwr yn trefnu cyhoeddi tystysgrif newydd.
Darllenwch ein canllaw Dod o hyd i’r cyfreithiwr neu drawsgludwr iawn
Dyddiad cwblhau
Dyma’r dyddiad pan fyddwch yn gallu symud i mewn i’ch cartref newydd.
Mae’r gwerthwr eiddo’n debygol o gadw’r allweddi i chi eu casglu.
- Ar y diwrnod cwblhau, bydd eich cyfreithiwr yn trefnu i drosglwyddo’r arian i gyfreithiwr y gwerthwr.
- Yn ddelfrydol, mae’r holl brynwyr a gwerthwyr yn y gadwyn yn cwblhau ar yr un diwrnod, fel arall efallai y bydd rhaid i chi aros i’r gwerthwr gwblhau prynu ei gartref newydd cyn y gallwch symud i mewn.
- Os oes gennych ran o rydd-ddaliad, gofynnwch i’ch cyfreithiwr neu drawsgludwr sut i gofrestru eich enw ar gofrestr y cwmni.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gyfnewid contractau?
Prynu eiddo yn yr Alban
Os ydych yn prynu yn yr Alban, darllenwch ein llinell amser am brynu eiddo yn yr Alban.
Y prynwr a’r gwerthwr sy’n penderfynu ar faint o amser sydd angen rhwng cyfnewid a chwblhau. Fel arfer mae rhwng 7 a 28 diwrnod.
Weithiau bydd partïon eraill yn y gadwyn yn effeithio ar hyn. Er enghraifft, os yw’r gwerthwr yn aros i’r tŷ mae’n ei brynu ei hun fynd trwodd cyn symud allan.
Pa adeg o’r dydd mae cyfnewid contractau’n digwydd?
Bydd y rhan fwyaf o gyfnewidiadau contract yn digwydd yn y bore, fel arfer rhwng 10am a hanner dydd.