Meddwl am brynu tŷ neu fflat yn yr Alban? Bydd y canllaw hwn yn eich tywys trwy’r gwahanol gamau fydd angen i chi eu cymryd, yn cynnwys cael morgais, siarad gyda chyfreithiwr a chwblhau arolygon cartref, yr holl ffordd i gwblhau.
Cam 1 – Cael morgais ‘mewn egwyddor’
Cyn i chi allu rhoi cynnig am eiddo, bydd angen i chi gael cadarnhad gan fenthyciwr morgais ei fod yn barod i fenthyca’r arian i chi. Gelwir hyn yn forgais ‘mewn egwyddor’. Heb hyn, ni fydd eich cynnig yn cael ei gymryd o ddifrif.
Gwiriwch y bydd eich morgais a’ch blaendal yn talu am werth yr eiddo yr hoffech ei brynu.
Unwaith y byddwch chi wedi cytuno ar forgais ‘mewn egwyddor’ efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi archebu neu ffi arall i’w gadw. Cost nodweddiadol: £99-£250.
Peidiwch â gorestyn eich hun
Cofiwch fod nifer o dreuliau eraill y bydd angen i chi eu talu, yn cynnwys ffioedd morgais, ffioedd cyfreithiol ac, ar eiddo sy’n costio mwy na £145,000, Treth Trafodion Tir ac Adeiladau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Faint allwch chi fforddio ei fenthyca?
Y gost o brynu tŷ a symud
Cam 2 – Canfod cyfreithiwr
Byddwch angen cyfreithiwr cyn i chi allu rhoi cynnig ar eiddo.
Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i’r eiddo y dymunwch ei brynu, bydd eich cyfreithiwr yn cofrestru ‘cofnod o ddiddordeb’ gydag asiant y gwerthwr.
Darganfyddwch gyfreithiwr neu drawsgludwr cymhwys ar wefan Cymdeithas Cyfreithwyr Yr Alban
‘Cofnod o ddiddordeb’
Pan fyddwch chi wedi dod o hyd i’r eiddo y dymunwch ei brynu, bydd eich cyfreithiwr yn cofrestru ‘cofnod o ddiddordeb’ gydag asiant y gwerthwr.
Dengys hyn bod gennych chi ddiddordeb yn yr eiddo ac yn dymuno cael eich hysbysu am ddatblygiadau fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion.
Beth mae cyfreithiwr yn ei wneud?
Bydd eich cyfreithiwr yn:
- cynnal chwiliadau ar yr eiddo a chofrestri personol i sicrhau nad oes unrhyw beth a allai atal y gwerthwr rhag gwerthu’r eiddo.
- gwirio gyda’r awdurdod lleol i weld a oes unrhyw faterion cynllunio a allai effeithio ar werth eich eiddo ac a yw’r ffyrdd nesaf at yr eiddo wedi eu mabwysiadu gan yr awdurdod lleol.
Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn gofyn am dâl am eu gwaith ar ôl ei gwblhau, ond efallai y byddant yn gofyn i chi dalu blaendal neu dalu am chwiliadau ymlaen llaw.
Os na chwblheir y pryniant, ond bu i chi dalu am y chwiliad ymlaen llaw, yna byddwch wedi gwastraffu’ch arian, felly mae’n werth ystyried hyn yn ofalus cyn cychwyn.
Gallwch hefyd gyfarwyddo’ch cyfreithiwr i gynnal y chwiliad unwaith y derbynnir y cynnig ond bydd angen cytuno hyn â’r gwerthwr fel amod o’r pryniant yn cael ei gwblhau.
O ganlyniad efallai y bydd y gwerthwr yn gyndyn o gytuno i hyn oherwydd efallai bydd y canfyddiadau’n rheswm dros ofyn i’r gwerthwr ostwng ei bris, neu gerdded i ffwrdd o’r pryniant yn gyfan gwbl. Cost nodweddiadol: £250-£300.
Cam 3: Adroddiad Cartref ac arolwg
Rhaid i werthwyr drefnu Adroddiad Cartref i’w ddangos i brynwyr cyn y gallant farchnata eu heiddo.
Dylai Adroddiad Cartref gynnwys y tair dogfen a restrir isod:
- Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) – mae hyn yn dangos pa mor effeithlon yw’r eiddo o ran ynni ac ymhle y gellir gwneud gwelliannau
- Arolwg – asesiad gan syrfëwr cymwys o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn amlygu cyflwr yr eiddo, pa atgywiriadau sydd eu hangen a phrisio’r eiddo. Gellir cynnwys prisiad morgais hefyd. Mae’r dyfnder o wybodaeth a roddir yn yr arolwg yn cyfateb yn fras â’r hyn a geir yn yr adroddiad Prynwyr Cartref isod
- Holiadur Eiddo – mae’n ofynnol i werthwyr ddarparu disgrifiad cywir o’r eiddo yn cynnwys ei fand Treth Gyngor, unrhyw hysbysiadau Awdurdod Lleol a roddwyd arno, addasiadau a wnaed, parcio, unrhyw achosion o lifogydd yn ogystal ag ystyried unrhyw elfennau sydd angen eu hatgyweirio neu eu cynnal a’u cadw.
Pan gewch yr Adroddiad Cartref ar gyfer yr eiddo y dymunwch ei brynu, cofiwch ei ddarllen yn ofalus.
Bydd yn rhoi syniad da i chi o gostau rhedeg eich cartref newydd. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i ofyn i’r gwerthwr am filiau cyfleustodau.
Adroddiad pris eich morgais
Unwaith y bydd gennych forgais mewn egwyddor, bydd eich benthyciwr yn trefnu prisiad morgais i sicrhau bod yr eiddo y dymunwch ei brynu’n werth y pris y byddwch yn ei dalu.
Efallai y bydd eich benthyciwr morgais yn dibynnu ar y prisiad morgais sydd yn yr Adroddiad Cartref os oes un ynddo neu gall ofyn am un annibynnol.
Cost nodweddiadol: £250-£1,500 yn ddibynnol ar werth yr eiddo. Mae rhai cynigion morgeisi’n cynnwys prisiadau am ddim.
Bydd angen i chi benderfynu hefyd a ydych chi am ddibynnu ar yr arolwg sydd yn yr Adroddiad Cartref neu geisio eich arolwg eich hun.
Mae gan y syrfëwr a baratodd yr arolwg sydd yn yr Adroddiad Cartref ddyletswydd gofal statudol i’r gwerthwr a’i comisiynodd ac i chi fel y prynwr.
Arolygon
Os penderfynwch gael un eich hun, ceir tri math o arolwg:
- Arolwg cyflwr y cartref – yw’r rhataf a’r mwyaf sylfaenol. Yn addas ar gyfer adeiladau newydd a chartrefi confensiynol, ond nid yw’n ddefnyddiol ar gyfer canfod unrhyw broblemau gyda’r eiddo. Cost nodweddiadol: £250.
- Adroddiad prynwr cartref – mae hwn yn arolwg manylach, gan edrych yn drylwyr ar y tu mewn i eiddo a’r tu allan iddo. Mae hefyd yn cynnwys prisiad. Gwiriwch a allwch chi gael y prisiad ac adroddiad y prynwr cartref wedi ei gwblhau ar yr un pryd er mwyn arbed costau. Cost nodweddiadol: £400+.
- Arolwg adeilad neu strwythurol – dyma’r math mwyaf cynhwysfawr o arolwg ac fe’i gwneir ar gyfer eiddo hŷn neu ansafonol (er enghraifft, os yw wedi’i wneud o bren neu bod ganddo do gwellt). Cost nodweddiadol: £600+.
Darganfyddwch fwy yn ein callaw Arolygon achostau prynwyr tai
Chwiliwch am syrfëwr lleol ar wefan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
Cam 4: Gwneud cynnig
Unwaith y bydd canlyniadau’r arolwg gennych, a’ch bod yn fodlon â nhw, bydd angen i chi benderfynu faint rydych am ei gynnig.
Bydd y swm a gynigiwch yn dibynnu ar:
- prisiau eiddo yn yr ardal;
- faint allwch chi ei fforddio;
- unrhyw ddiddordeb sydd gan eraill yn yr eiddo; ac
- unrhyw beth arall y dymunwch iddynt gael eu cynnwys yn y cynnig fel gosodiadau a ffitiadau.
Bydd eich cyfreithiwr yn gwneud hyn mewn llythyr ffurfiol.
Os bydd nifer o gynigion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn eu hagor ar yr un pryd ar y dyddiad cau a ffonio’ch cyfreithiwr i ddweud a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus neu beidio.
Efallai y byddwch yn dymuno disgwyl hyd nes y derbynnir eich cynnig cyn trefnu eich arolwg eich hun, ac os felly bydd eich cynnig yn amodol ar yr arolwg.
Os caiff eich cynnig ei dderbyn
Os caiff eich cynnig ei dderbyn, bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn cyflwyno derbyniad amodol, sy’n golygu mai chi gaiff yr eiddo os llwyddir i gwblhau manylion y cytundeb.
Bydd y cyfreithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth am yr eiddo hefyd megis gweithredoedd teitl a phapurau cynllunio.
Astudiwch bopeth a gewch gyda’ch cyfreithiwr oherwydd gallent godi cwestiynau am y gwaith papur. Nid ydych chi na’r gwerthwr wedi ymrwymo hyd yma.
Cam 5: Cytuno ar y cytundeb
Unwaith y bydd holl fanylion y cytundeb wedi’u cytuno, bydd y ddau gyfreithiwr yn cyfnewid llythyrau.
Gelwir y llythyrau hyn yn ‘gwblhad llythyrau’. Mae’r ddau barti yn awr wedi ymrwymo’n gyfreithiol i’r pryniant.
Ar ôl i’r llythyrau gael eu cwblhau, efallai y bydd rhaid i chi dalu blaendal cadw – fel arfer £500-£1,000 – er mwyn diogelu’r pryniant.
Nid yw’n beth cyffredin iawn gorfod talu’r blaendal cadw hwn gan fod ffioedd cosb yn y cytundeb fel arfer i atal y ddau barti rhag tynnu’n ôl ar yr adeg hon. Unwaith y byddwch wedi cytuno ar y cytundeb, rhaid i chi chwilio am y fargen orau ar gyfer yswiriant adeiladau.
Ystyriwch ddiogelu’ch hun a’ch cartref newydd gydag yswiriant cynnwys a bywyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth yw yswiriant adeiladau
Diogelu eich hun a’ch cartref: chwilio am yswiriant
Cyfrifoldebau teitl
Bydd eich cyfreithiwr yn gwirio’r gweithredoedd teitl ac yn trafod y ‘cyfrifoldebau teitl’ gyda chi – sef amodau ynghlwm â bod yn berchen ar yr eiddo yn amrywio o leoliad eich bin sbwriel i gyfyngiadau mwy difrifol ar sut y gellir defnyddio ac addasu’r adeilad.
Yna mae’r gwerthwr yn arwyddo trosgwlyddiad y gweithredoedd teitl, a elwir yn ‘derfyniad’.
Cysylltwch â’ch benthyciwr
Nesaf, dylech chi a’ch cyfreithiwr gysylltu â’ch benthyciwr morgais a gadel iddynt wybod bod y pryniant yn mynd yn ei flaen ynghyd â’r dyddiad cwblhau a gynigir.
Bydd hyn yn galluogi’ch benthyciwr gyhoeddi ei gyfarwyddiadau benthyciadau a diogelwch i’w gyfreithiwr dynodedig.
Yn ogystal, bydd hyn yn galluogi’r benthyciwr i baratoi rhyddhau’r arian a fenthycir er mwyn sicrhau bod y pryniant yn digwydd ar y diwrnod cwblhau.
Ffi trefnu
Yn aml ceir ffi i sefydlu’r morgais – ffi trefnu yw’r enw arni fel arfer.
Mewn llawer o achosion gellir ei hychwanegu at eich morgais, ond os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn cofiwch y byddwch yn talu llog arno dros gyfnod y morgais.
O ganlyniad, byddwch yn talu mwy yn y pen draw na phetaech yn talu’r ffioedd i gyd ymlaen llaw.
Gweler rhestr lawn o Ffioedd a chostau morgais
Cam 6: Cwblhau a chamau terfynol
Wedi i’ch cynnig gael ei dderbyn cwblheir y pryniant ar y dyddiad cwblhau a gytunwyd gyda’r gwerthwr.
Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn gofyn i’ch benthyciwr am weddill yr arian sy’n ddyledus (90% fel arfer os bu’n rhaid i chi dalu blaendal cadw) er mwyn paratoi ar gyfer y dyddiad cwblhau.
Os ydych yn brynwr ag arian parod bydd angen i chi dalu gweddill y pris prynu drwy eich cyfreithiwr.
Ffioedd eraill y mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi eu talu nawr
Gall eich benthyciwr ofyn i chi am:
- ffi ar gyfer trosglwyddo’r arian, £40-£50 fel arfer
- ffi o £100-300 am sefydlu, cynnal a chau eich cyfrif morgais.
Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn paratoi Ffurflen Trafodiad Tir i chi ei harwyddo hefyd.
Bydd angen i chi dalu eich bil cyfreithiwr ar y cam hwn, minws unrhyw flaendal rydych wedi’i dalu eisoes. Cost nodweddiadol: £400-£900 + 20% TAW.
Os nad ydych wedi talu am chwiliadau, bydd eu cost yn cael ei gynnwys yn y bil ynghyd â ffioedd eraill a dalwyd ar eich rhan.
Bydd y cyfreithiwr yn trefnu hefyd i weithredoedd y teitl a arwyddwyd gael eu cofrestru gyda’r Gofrestrfa Dir.
Mae’r gost yn cychwyn ar £60 ac yn cynyddu, yn ddibynnol ar faint daloch chi am yr eiddo.
Gellir cyflwyno ffurflenni LBTT drwy ddefnyddio porth ar-lein Revenue ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch ganllawiau ar sut i ddefnyddio’r porth a thalu eich LBTT ar wefan Revenue Scotland
Os ydych chi eisiau cyflwyno ffurflen bapur, mae ffurflen LBTT bapur hefyd ar gael ynghyd â chanllaw ar gyfer ‘sut i gyflwyno ffurflen bapur’. Fodd bynnag, os dewiswch wneud hyn, fyddwch chi ddim ond yn gallu talu LBTT trwy siec.
Bydd y cyfraddau newydd yn daladwy yn unig ar y gyfran o’r pris llawn sy’n perthyn i’r band priodol.
Yn yr Alban, bydd prynwyr yn talu
- 2% am gartrefi sy’n costio rhwng £145,000 a £250,000
- 5% ar gyfer cartrefi sy’n costio rhwng £250,001 a £325,000
- 10% ar gyfer cartrefi sy’n costio £325,001 a £750,000
- 12% ar gyfer cartrefi sy’n costio mwy na £750,000.
Bydd eiddo preswyl atodol yn yr Alban (fel eiddo prynu-i-osod ac ail gartrefi) gwerth £40,000 neu fwy yn denu 4% yn ychwanegol o’r ystyriaeth berthnasol ar bob band.
Gallai gostyngiadau treth i brynwr tro cyntaf sy’n caffael perchnogaeth o annedd, ar yr amod y bodlonir amodau penodol, hefyd fod ar gael.