Canllaw i wyliau talu morgais

Os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais, efallai y gallwch wneud cais am wyliau talu morgais. Darganfyddwch sut mae gwyliau talu morgais yn gweithio, o dan ba amgylchiadau y gallech gael un a manteision ac anfanteision cael un.

Beth yw gwyliau talu morgais?

Mae gwyliau talu morgais yn gytundeb efallai y gallwch ei wneud gyda’ch benthyciwr sy’n eich galluogi i stopio dros dro neu ostwng eich ad-daliadau morgais misol.

Er enghraifft, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a hanes eich taliadau blaenorol, efallai y byddwch yn gallu cymryd egwyl am chwe mis.

Nid yw pob morgais yn cynnig y dewis o wyliau talu morgais - mae’n dibynnu ar delerau ac amodau’r cynnyrch.

Bod yn gymwys ar gyfer gwyliau talu morgais

Pu’n a ydych yn gymwys i gymryd gwyliau talu, am ba hyd a’r amodau y bydd yn rhaid i chi gwrdd â nhw’n gyntaf yn dibynnu ar:

  • eich benthyciwr
  • cytundeb y morgais a’ch
  • amgylchiadau ariannol.

Yn aml, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gwyliau talu, bydd gofyn eich bod wedi talu gormod ar eich morgais yn y gorffennol.

Mae hynny’n golygu talu mwy na’r taliadau misol a gytunwyd nes eich bod wedi adeiladu digon o gredyd i gymryd seibiant rhag talu.

Fodd bynnag, efallai y bydd eich benthyciwr hefyd yn gadael i chi ostwng neu ohirio eich taliadau morgais os ydych yn cael trafferth dros dro i gwrdd â’r costau misol oherwydd newid mewn amgylchiadau, fel diswyddiad neu fynd ar absenoldeb mamolaeth.

Os oes gennych ôl-ddyledion morgais ni fyddwch yn gymwys am wyliau talu morgais.

Ond peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag cysylltu â’ch benthyciwr. Byddant yn awyddus i’ch helpu i ddod i gytundeb.

Manteision gwyliau morgais
  • Y peth mwyaf cadarnhaol am wyliau talu yw ei fod yn ysgafnhau rhyw gymaint ar y pwysau am ychydig.

  • Am gyfnod o amser bydd gennych un peth yn llai i boeni amdano wrth ystyried eich treuliau.

  • Os ydych chi ond yn wynebu gostyngiad yn eich incwm dros dro, efallai am eich bod chi neu eich partner yn cael babi ac mae’r gwyliau morgais yn sicrwydd dros gyfnod yr absenoldeb mamolaeth, gall hyn fod yn beth doeth i’w wneud.

Anfanteision gwyliau morgais
  • Tra gall gwyliau morgais fod yn ateb defnyddiol am gyfnod byr, nid yw’n addas os na fedrwch fforddio taliadau eich morgais oherwydd bod incwm eich cartref wedi gostwng yn barhaol.

Mae llawer o bethau pwysig i’w hystyried:

  • Yn ystod yr adeg nad ydych yn gwneud taliadau morgais, bydd y llog yn dal i gynyddu ar weddill eich morgais.
  • Pan ddaw eich gwyliau talu i ben, bydd y gweddill o’ch morgais sy’n ddyledus a thaliadau’r morgais yn uwch nag yr oeddent cyn y gwyliau.
  • Hyd yn oed os bydd eich benthyciwr yn cytuno ar yr ateb dros dro hwn, bydd yn effeithio ar eich ffeil credyd. Gallai hyn yn ei dro effeithio ar eich gallu i gael credyd yn y dyfodol.

Os oes gennych ôl-ddyledion neu’n cael trafferth i dalu eich morgais

Ydych yn meddwl am gymryd gwyliau talu oherwydd eich bod yn cael trafferth i gwrdd a’ch taliadau morgais neu mewn perygl o fynd i ôl-ddyledion? Yna siaradwch â’ch benthyciwr cyn gynted ag y bo modd am ddatrusiad gwahanol.

Bydd yn llawer gwell gan fenthycwyr ddod i gytundeb fydd yn eich galluogi i barhau i dalu eich morgais ar gyfradd is.

Os nad ydych mewn ôl-ddyledion ond yn ei chael hi’n anodd cwrdd â’ch ad-daliadau, gallai fod yn werth chweil siopa o gwmpas am fargen morgais rhatach.

Cyngor ar ddyled

Os ydych yn dal i boeni, gallwch gael cyngor ar ddyled yn rhad ac am ddim gan fudiadau fel Cyngor ar Bopeth neu StepChange

Cofiwch, bod cymryd gwyliau morgais ond yn addas fel cynllun dros dro – a phan fydd gennych ddigon o gynilion neu ecwiti (cyfalaf) yn eich eiddo i’ch rhwystro rhag mynd i ddyled na allwch ymdopi ag ef.

Sut i wneud cais am wyliau morgais

Gwiriwch gyda’ch darparwr benthyciadau ac edrychwch ar amodau a thelerau eich morgais i weld a ydych yn gymwys am wyliau talu morgais ac a yw hynny’n cael ei ganiatáu fel rhan o’ch cytundeb morgais.

Bydd y meini prawf yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr:

  • Mae cyfnod eich gwyliau talu fel arfer yn ôl disgresiwn y benthyciwr ac wedi'i deilwra i'ch amgylchiadau personol.
  • Fel arfer, byddwch angen bod wedi gwneud taliadau yn brydlon am leiafswm o gyfnod cyn y byddwch yn gymwys i gael seibiant talu morgais.
  • Bydd eich gallu i gymryd gwyliau morgais yn dibynnu hefyd ar faint yw eich morgais a gwerth eich cartref. Bydd rhai benthycwyr ond yn caniatáu gwyliau morgais os bydd y benthyciad i werth eich morgais yn is na 80%.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.