Gall pryd a sut rydych yn dewis cymryd eich pensiwn wneud gwahaniaeth enfawr o ran pa mor bell y bydd eich cynilion ymddeol yn mynd. Dyma pam ei bod mor bwysig cael cyngor proffesiynol wrth wneud y penderfyniadau hyn. Gallai gwneud y dewis anghywir i chi gael effaith fawr ar y math o ymddeoliad y byddwch yn gallu ei fforddio.
Gallai siarad â chynghorydd eich helpu i leihau faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar eich incwm ymddeol, neu newid sut mae'ch pensiwn yn cael ei fuddsoddi fel y gallech wneud i'ch arian ymestyn ymhellach.