Os ydych yn bwriadu buddsoddi, prynu cynnyrch ariannol, rheoli'ch arian yn fwy effeithiol neu ddim ond cynllunio ar gyfer y tymor hwy, gall cyngor ariannol fod yn fuddsoddiad da. Bydd p'un a oes angen cyngor ariannol arnoch yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis y cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych yn edrych amdano, eich nodau, eich dealltwriaeth a'ch profiad ariannol eich hun, cymhlethdod eich anghenion a'ch amgylchiadau personol.
Pa wasanaethau y mae ymgynghorwyr ariannol yn eu cynnig?
Gall ymgynghorwyr ariannol ddarparu ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau, a'ch helpu gyda'ch amgylchiadau ariannol ar wahanol gyfnodau o'ch bywyd. Mae'r cynhyrchion a'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:
- cynilion a buddsoddiadau
- pensiynau
- yswiriant
- morgeisi
- rhyddhau ecwiti
- cynllunio treth ac ystad
- cynllunio ymddeol
- cyllid teulu.
Pan ewch at ymgynghorydd ariannol proffesiynol, byddant yn cynnal ‘darganfyddiad ffeithiau’. Dyma lle maent yn gofyn cwestiynau manwl i chi am eich amgylchiadau, fel:
- eich nodau
- eich sefyllfa ariannol presennol
- faint o risg rydych yn barod i’w derbyn ac yn gallu eu chymryd â’ch buddsoddiadau.
Yna byddant yn nodi cynllun ar eich cyfer yn seiliedig ar y wybodaeth honno, gan gynnwys argymell cynhyrchion ariannol sy'n addas i chi.
Mathau o ymgynghorydd ariannol
Gyda chynhyrchion buddsoddi, mae rhai ymgynghorwyr yn ‘annibynnol’. Mae hyn yn golygu eu bod yn cynnig cyngor ar yr ystod lawn o gynhyrchion a darparwyr yn y farchnad.
Mae eraill, fodd bynnag, yn cynnig gwasanaeth ‘cyfyngedig’ lle mae’r ystod o gynhyrchion neu ddarparwyr y byddant yn edrych arnynt yn fwy cyfyngedig.
Pan siaradwch ag ymgynghorydd, dylent egluro pa fath o gyngor ariannol y maent yn ei ddarparu ac, os ydynt wedi'u cyfyngu, at beth y maent wedi'u cyfyngu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Beth yw manteision cael cyngor?
Mae llawer o resymau pam y gall cyngor ariannol fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft:
- Os ydych yn prynu cynnyrch buddsoddi yn seiliedig ar gyngor ariannol ac argymhelliad, rydych yn llawer mwy tebygol o gael cynnyrch sy'n diwallu'ch anghenion ac sy'n addas ar gyfer eich amgylchiadau penodol.
- Gan ddibynnu ar y math o ymgynghorydd rydych yn ei ddefnyddio, efallai y bydd gennych hefyd fynediad at ystod ehangach o ddewisiadau nag y byddech yn gallu dod o hyd iddynt yn realistig ar eich pen eich hun.
- Gall ymgynghorwyr ddarparu arweiniad arbenigol pan fydd gennych benderfyniadau ariannol pwysig a allai fod yn anodd eu gwneud, fel nesau at ymddeol.
- Gall ymgynghorydd lunio cynllun i helpu i gyflawni'ch nodau tymor byr, tymor canolig a hir. Yna gallant eich cadw ar y trywydd iawn i gyrraedd y nodau hynny a gwneud newidiadau lle bo angen.
- Os oes gennych arian i'w fuddsoddi, gall ymgynghorydd sicrhau ei fod yn gweithio'n galed i chi a'ch bod yn gwneud y gorau o'r rhyddhad treth a'r lwfansau sydd ar gael.
Y gwahaniaeth rhwng cyngor a gwerthiannau ‘heb eu cynghori’
Bydd llawer o fanciau, cymdeithasau adeiladu a broceriaid arbenigol yn siarad â chi trwy eich gwahanol opsiynau ond wedyn yn ei adael i chi benderfynu pa gynnyrch i'w gymryd.
Yn yr achos hwn rydych yn prynu yn seiliedig ar ‘wybodaeth’ neu ganllawiau, ac yn gyffredinol ni fyddent yn asesu a yw cynnyrch penodol yn addas ar gyfer eich sefyllfa/anghenion penodol. Mae hyn yn golygu y bydd gennych lai o hawliau i gwyno neu hawlio iawndal os bydd y cynnyrch yn anaddas.
Fodd bynnag, pan gewch gyngor rheoledig, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn rhoi argymhelliad wedi'i bersonoli i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'r wybodaeth rydych wedi'i rhoi iddynt. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cael cynnyrch anaddas yn y pen draw ar ôl cael cyngor ac argymhellion, neu os ydych yn meddwl bod rhywbeth wedi cael ei gam-werthu i chi, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Byddwch yn ymwybodol nad yw hyn yn eich amddiffyn rhag colledion buddsoddi os bydd y farchnad yn cynyddu neu'n gostwng.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-werthu ariannol – beth i’w wneud os ydych wedi'ch effeithio
Beth ydych chi'n ei dalu am gyngor ariannol?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae llawer o ymgynghorwyr yn cynnig ymgynghoriad cyntaf am ddim. Os nad ydych yn siŵr a oes angen cyngor arnoch, gallwch wneud apwyntiad i ddarganfod beth gallant ei wneud i chi.
Os ydych yn chwilio am gyngor cynllunio ariannol cyffredinol, neu am gyngor ar brynu buddsoddiadau penodol, mae'n debygol y byddwch yn talu ffi.
Mae rhaid i ymgynghorwyr fod yn glir ymlaen llaw ynghylch beth yw eu ffioedd a chytuno â chi ymlaen llaw sut y byddwch yn eu talu.
Efallai y bydd rhai broceriaid morgeisi hefyd yn codi ffioedd ymlaen llaw am gyngor, tra bod eraill yn derbyn ffi cyflwyno cyfradd unffurf gan ddarparwr y cynnyrch. Mae cael cyngor morgais yn uniongyrchol trwy eich benthyciwr fel arfer am ddim.
Ni fydd rhaid i chi dalu tâl cyngor os ydych yn buddsoddi heb gael cyngor, er yn aml bydd taliadau eraill i'w talu, fel ffioedd buddsoddi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw i ffioedd ymgynghorwyr ariannol
Pryd rydych angen cyngor ariannol?
Bydd yr ateb yn dibynnu'n rhannol ar y cynnyrch neu'r gwasanaeth ac yn rhannol ar ffactorau eraill.
Cynllunio ariannol
Mae cyngor yn aml yn ymwneud â chynlluniau gymaint ag y mae'n ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau penodol.
Gall cyngor ariannol arbenigol fod yn amhrisiadwy os:
- oes angen help arnoch i wneud rhai penderfyniadau
- ydych am sicrhau bod eich treth a'ch cyllid cartref
- ydych yn delio â materion ariannol a all ddod yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser.
Cynhyrchion cynilo arian
A ydych am roi arian mewn cyfrifon cynilo, ISA arian parod neu fondiau cynilo cyfradd sefydlog? Yna efallai y byddwch yn teimlo'n ddigon hyderus i asesu'ch opsiynau eich hun gan ddefnyddio gwefannau a thablau cymharu.
Gan fod y cynhyrchion hyn yn gymharol hawdd i'w deall, efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen cyngor ariannol arnoch. Gallwch hefyd brynu'n uniongyrchol gan ddarparwyr yn hawdd iawn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc i gadw ac arbed eich arian
Buddsoddiadau
A ydych yn ystyried buddsoddi mewn cyfranddaliadau, ymddiriedolaethau uned a buddsoddiadau eraill? Yna efallai y bydd gennych y wybodaeth a'r hyder i brynu'r rhain yn uniongyrchol gan frocer, darparwr neu archfarchnad gronfa heb gael cyngor.
Fodd bynnag, mae'n anoddach deall y cynhyrchion hyn na chynhyrchion cynilo arian parod, ac nid yw bob amser yn hawdd gweithio allan yn union beth i'w ddisgwyl ganddynt na sut maent yn gweithio.
Trwy beidio â chael cyngor, efallai na fyddwch yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i chi. A gallech brynu cynnyrch nad yw'n addas i chi.
Felly mae gwir angen i chi wneud eich gwaith cartref. Gofynnwch y cwestiynau hyn i'ch hun:
- A allwch fforddio colli unrhyw arian?
- A oes gennych yr amser i wneud yr ymchwil?
- A oes gennych lawer o brofiad, gwybodaeth neu sgiliau o ran buddsoddi?
- Os bydd pethau’n mynd o chwith, a ydych yn gyffyrddus yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw benderfyniadau buddsoddi gwael?
- A oes gennych yr amser a'r adnoddau i adolygu'ch cyllid yn rheolaidd, i sicrhau bod popeth yn dal i fod ar y trywydd iawn?
Os mai ‘na’ yw’r ateb i unrhyw un o’r rhain, yna efallai mai cael cyngor ariannol fyddai eich opsiwn gorau.
Wrth geisio penderfynu, cofiwch hefyd gost ffioedd yn erbyn cost ariannol ac emosiynol ei gael yn anghywir os ydych yn prynu heb gyngor.
Yswiriant neu forgeisiau
Gellir prynu rhai cynhyrchion yswiriant a morgeisi gan ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau, neu'n uniongyrchol gan gyflenwyr.
Fodd bynnag, efallai yr hoffech siarad â broceriaid arbenigol hefyd. Byddant yn siarad â chi trwy ystod o opsiynau ac efallai y gallant gael bargen well i chi. Chi sydd i benderfynu p'un a ydych yn prynu â chyngor neu hebddo.
Darganfyddwchiau fwy yn ein canllaw
Cyngor morgeisi – a ddylech gael cynghorydd morgesi?
Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant
Pensiynau
Os yw'ch cyflogwr yn cynnig pensiwn yn y gweithle, efallai y bydd hefyd yn cynnig mynediad i chi i gyngor neu'n darparu arweiniad ar ymuno â'u cynllun. Mae'n syniad da derbyn y cynnig hwn os yw ar gael.
Os ydych am fuddsoddi mewn pensiwn personol, rhoi hwb i'ch pensiwn presennol neu uno gwahanol gronfeydd gyda phensiynau presennol, mae'n well cael cyngor oni bai eich bod wir yn deall sut mae'r cynhyrchion hyn yn gweithio.
Buddsoddiadau tymor hir yw pensiynau, felly mae angen i chi sicrhau eich bod yn deall:
- y mathau o gronfeydd rydych yn buddsoddi ynddynt
- y risgiau
- addasrwydd eich sefyllfa benodol.