Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad neu ddiddymiad

A oes angen cyfreithiwr i gael ysgariad neu i ddiddymu eich partneriaeth sifil?

Er mwyn rhoi diwedd ar eich priodas neu bartneriaeth sifil yn gyfreithiol, bydd angen i chi fynd drwy’r broses ysgaru neu ddiddymu ffurfiol. 

Ond gallwch wneud hyn eich hun heb gymorth cyfreithiol neu ychydig iawn yn unig.

A ddylech gymryd cymorth a chyngor proffesiynol?

Nid oes angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr neu rywun proffesiynol pan fyddwch yn rhoi trefn ar eich materion ariannol.  Yn syml gallwch benderfynu rhyngoch beth hoffech ei wneud.

Ond mae nifer o gyplau’n ceisio cyngor cyfreithiol gan bobl broffesiynol, hyd yn oed un cyfarfod yn unig â chyfreithiwr neu gyfryngwr.

Gall cynghorwyr proffesiynol amrywiol eich helpu. Efallai y gwelwch fod un dull yn fwy addas ar gyfer eich anghenion – a’ch cyllideb – na dulliau eraill.

Defnyddio cyfryngwr

Gall cyfryngwr eich helpu chi a’ch cyn partner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) ddod i gytundeb ynglŷn â phlant ac arian, gan gynnwys pensiynau, eiddo, cynilion a buddsoddiadau. 

Nid ydynt yn ochri â neb nac yn rhoi cyngor - yn hytrach, maent yn rhoi cymorth i gyplau geisio dod i gytundeb. 

Mae nifer cynyddol o gyfreithwyr teulu yn gyfryngwyr hyfforddedig hefyd.

Mae cyfryngu’n gweithio’n well pan fydd cyplau yn ymddiried yn ei gilydd ac yn bod yn agored a gonest. 

Os na allwch chi a’ch partner siarad ynglŷn â phwy ddylai ofalu am y plant neu sut y byddwch yn rhannu’ch arian, efallai na fydd cyfryngu’n addas ar eich cyfer. 

Nid yw cyfryngu’n briodol ychwaith pan fu trais yn y cartref neu os yw un partner yn rheoli neu’n fygythiol. Bydd cyfryngwr yn medru dweud wrthych a yw’ch sefyllfa’n addas ar gyfer cyfryngu.

Os ydych yn ysgaru yng Nghymru neu Loegr, erbyn hyn mae fel arfer rhaid i chi fynychu un sesiwn cyfryngol a elwir weithiau yn Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM). Mae hwn i asesu a yw cyfryngu yn addas ar eich cyfer, cyn y gallwch wneud cais i’r llys i ddatrys eich materion ariannol neu faterion plant.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae rhaid eich bod wedi bod yn briod am ddwy flynedd cyn y gallwch ddeisebu am ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil.

Manteision ac anfanteision cyfryngu

Manteision
  • Gall cyfryngu fod yn gynt ac yn fwy cost effeithiol nag ysgariad neu ddiddymiad a arweinir gan gyfreithiwr. A gall cyplau deimlo fod ganddynt well rheolaeth o’r cytundeb.

     

  • Mae cyfryngu’n hyblyg a gallwch ei ddefnyddio i gytuno ar rai elfennau o’ch ysgariad neu ddiddymiad ond nid eraill.

  • Mae sesiynau cyfryngu yn gyfrinachol. Mae hyn yn golygu os na allwch gytuno ac ewch i’r llys, ni fydd yr hyn a ddywedwyd yn y sesiynau yn medru cael ei ddefnyddio gan eich cyfreithiwr.

Anfanteision
  • Ni all cyfryngwyr roi cyngor cyfreithiol. Mae hynny’n golygu y dylech weld cyfreithiwr cyn i chi gychwyn cyfryngu er mwyn i chi fod yn ymwybodol o’ch hawliau. Mae rhaid i chi hefyd gael cyfreithiwr i lunio cytundeb cyfreithiol yn ffurfioli unrhyw beth y cytunoch arno.

Faint yw cyfryngwr?

Mae Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu fel arfer yn costio tua £100-£200. Os oes angen mwy o sesiynau arnoch, maent yn costio mwy. A gall ffioedd amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw.

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu i dalu costau cyfryngu, ond mae'n destun meini prawf.

Am Gymru a Lloegr, darganfyddwch fwy am ffioedd ar wefan Cyngor Cyfryngu TeuluolYn agor mewn ffenestr newydd

Am Ogledd Iwerddon, gall rhieni ar wahân sydd heb ddechrau achos llys ddefnyddio’r gwasanaeth cyfryngu am ddim. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd a gwefan The Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd

Am Yr Alban, cysylltwch â Scottish MediationYn agor mewn ffenestr newydd i holi am y gost.

Gwneud y cytundeb yn gyfreithiol rwymol

Ar ddiwedd y cyfryngu, cewch ddogfen sy'n dangos yr hyn y gwnaethoch gytuno arno. Nid yw'r cytundeb hwn yn gyfreithiol rwymol.

Os hoffech gytundeb sy'n rhwymo'n gyfreithiol mae angen i chi ddrafftio gorchymyn cydsynio a chael llys i'w gymeradwyo. Gall y gorchymyn cydsynio fod yn seiliedig ar yr hyn y gwnaethoch gytuno arno wrth gyfryngu.

Defnyddio cyfreithiwr

Gall cyfreithiwr roi cyngor i chi ar eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Gallwch eu defnyddio:

  • i’ch helpu â ffurflenni a gwaith papur yr ysgariad neu’r diddymiad
  • i weithredu cytundeb rydych wedi’i wneud yn annibynnol â’ch cyn bartner
  • i negodi ar eich rhan yn uniongyrchol â chyfreithiwr eich partner, a thrwy’r llysoedd os bydd angen
  • i roi cyngor cyfreithiol annibynnol i chi, un ai os byddwch yn negodi setliad drwy gyfryngu neu ar ddechrau eich proses os ydych yn trefnu’r ysgariad neu’r diddymiad eich hun

Manteision ac anfanteision defnyddio cyfreithiwr

Manteision
  • Gall cyfreithiwr roi gwybodaeth i chi am eich hawliau ariannol, sef rhai na fyddech yn ymwybodol ohonynt fel arall. Os yw eich cyn bartner yn gwrthod negodi â chi, gall defnyddio cyfreithiwr fod yn fwy effeithiol na cheisio negodi’n uniongyrchol. Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cynnig gwasanaeth am ffi sefydlog neu ar gyfraddau sydd wedi’u capio, a all fod yn gost effeithiol.

Anfanteision
  • Gall cyfreithiwr fod yn ddrud iawn, er bydd costau’n amrywio gan ddibynnu ar y cwmni cyfreithiol a’u lleoliad a chymhlethdod eich ysgariad neu ddiddymiad.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr:

Defnyddio cymrodeddu

Mewn cymrodeddu teuluol, rydych chi a’ch partner yn penodi cymrodeddwr. Maent yn penderfynu ar anghydfodau ariannol ac eiddo, neu rai materion sy'n ymwneud â phlant.  Bydd y penderfyniad yn derfynol ac yn rhwymol.

Mae cymrodeddu teuluol yn galluogi cyplau sy’n profi chwalfa mewn perthynas deuluol i ddatrys anghydfodau yn gyflymach, yn gyfrinachol ac mewn cyd-destun mwy hyblyg a llai ffurfiol na’r llysoedd.

Am ragor o wybodaeth ar gymrodeddu, ewch i wefan Resolution

Defnyddio cyfreithiwr teulu cydweithredol

Gall cyfreithwyr teulu cydweithredol eich helpu i ddod i gytundeb trwy gyfres o gyfarfodydd â'ch cyn-bartner. Rydych chi a'ch cyn-bartner yn llogi eich cyfreithiwr teulu cydweithredol eich hun.

  • Rydych i gyd yn llofnodi cytundeb i beidio â mynd i’r llys
  • Cytunwch i weithio â’ch gilydd i ddatrys y materion rhyngoch
  • Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb â’r pedwar ohonoch yn bresennol. 

Manteision ac anfanteision cyfraith teulu cydweithredol

Manteision
  • Mae cyplau yn aml yn teimlo’n fwy cadarnhaol am gytundeb a wnaed drwy gyfraith teulu cydweithredol yn hytrach nag ysgariad neu ddiddymiad traddodiadol a arweinir gan gyfreithiwr, oherwydd buont ynghlwm yn uniongyrchol â’r trafodaethau. Gall cyfreithwyr teulu cydweithredol weithio â chyfrifyddion neu arbenigwyr pensiwn, os bydd eu hangen.

Anfanteision
  • Gall fod yn ddrutach nag ysgariad neu ddiddymiad traddodiadol a arweinir gan gyfreithiwr (gan ddibynnu i ba raddau y gall gwpl gytuno ar bethau rhyngddynt). Os na all cyplau ddod i gytundeb drwy gyfraith teulu cydweithredol gan fynd â’u anghydfod i’r llys, byddai rhaid penodi cyfreithwyr newydd, a fyddai’n ychwanegu at y costau.

  • Mae’n gweithio orau os gallwch chi a’ch cyn bartner fyw’n agos at eich gilydd neu fedru cyfarfod o amgylch y bwrdd yn rhwydd. Gall fod yn anodd dod o hyd i gyfreithiwr teulu cydweithredol os ydych yn byw mewn ardal wledig.

Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr teulu cydweithredol:

Costau

I ganfod y gost ar gyfartaledd am wasanaethau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch y Legal Service Board prices dashboardYn agor mewn ffenestr newydd. Dewiswch 'average divorce prices' ar frig y sgrin, yna dewiswch yr opsiwn sy'n berthnasol i chi.

Defnyddio cyfrifydd

Gall cyfrifydd roi cymorth i roi gwerth i’ch asedau – er enghraifft, busnes.

Mae rhai cyfrifyddion yn arbenigo mewn asesu a yw un partner yn cuddio ei asedau - eiddo, busnes neu fuddsoddiadau yn nodweddiadol – neu’n ceisio dibrisio gwerth busnes mae’n berchen arno. Maent yn cael eu galw’n ‘gyfrifyddion fforensig’.

Manteision ac anfanteision defnyddio cyfrifydd

Manteision
  • Os dewiswch y cyfrifydd cywir bydd yn arbenigwr mewn rhoi gwerth ar fusnes, rhywbeth nad oes gan gyfreithiwr brofiad ohono.

Anfanteision
  • Gall y costau fod yn uchel, yn enwedig am gyfrifydd fforensig. Hyd yn oed os gallant ddangos bod asedau wedi eu cuddio, gall gorfodi’ch partner i ryddhau’r asedau hynny gostio mwy na gwerth yr asedau.

Gallwch ddod o hyd i gyfrifydd siartredig:

Defnyddio actiwari

Mae actiwari’n arbenigwr a all ddarparu gwir werth cyflog terfynol neu bensiwn arall ar sail gyflog.

Gall gyfrifo gwir werth un o’r pensiynau hyn fod yn gymhleth ac nid yw’n rhywbeth y gallai cyfreithiwr cyfraith teulu ei wneud.

Manteision ac anfanteision defnyddio actiwari

Manteision
  • Defnyddiol ar gyfer rhoi gwerth ar bensiynau a all fod yn gymhleth i’w hasesu.

Anfanteision
  • Gall y costau fod yn ddrud.

Defnyddio cynghorydd ariannol

Gall cynghorydd ariannol roi cyngor ar faterion fel sut i rannu asedau yn y modd mwyaf cost effeithiol o safbwynt treth a sut i fuddsoddi’r enillion yn sgil setliad ysgariad neu ddiddymiad.

Manteision ac anfanteision defnyddio cynghorydd ariannol

Manteision
  • Gallai cyngor arbenigol fod yn werthfawr mewn achosion o ysgariad neu ddiddymiad sy’n gymhleth o safbwynt arian.

Anfanteision
  • Bydd defnyddio cynghorydd ariannol yn ychwanegu at gyfanswm cost ysgariad neu ddiddymiad.

I ddod o hyd i gynghorwyr ariannol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu Loegr ac sydd wedi eu hachredu fel arbenigwyr mewn ysgariad neu ddiddymiad ewch i wefan Resolution

Sut i dalu ffioedd cyfreithiol

Pan fyddwch yn cael ysgariad neu ddiddymiad, bydd yna gostau i’w talu. Efallai byddwch yn gymwys i gael help i dalu tuag atynt.

Os oes rhaid i chi dalu ffioedd ar ben eich hun, ac nad oes gennych gynilion neu incwm i’w talu, darganfyddwch beth yw eich opsiynau yn ein canllaw Sut i dalu ffioedd cyfreithiol ar ysgariad neu ddiddymiad.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.