Sut i dalu ffioedd cyfreithiol ar ysgariad neu ddiddymiad

Pan fyddwch yn ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil, bydd costau i’w talu. Oni bai eich bod yn gymwys i gael cymorth gan y Wladwriaeth, bydd rhaid i chi ac/neu eich gŵr, gwraig neu bartner sifil eu talu. Os na allwch eu talu o’ch cynilion neu incwm, efallai y bydd angen i chi edrych ar opsiynau eraill.

Help gyda ffioedd y llys a thrwy gymorth cyfreithiol

Efallai na fydd rhaid i chi dalu costau’r llys, neu efallai mai dim ond rhan ohonynt fydd rhaid i chi dalu. Bydd yn dibynnu ar faint o gynilion ac incwm sydd gennych.

Cymru a Lloegr

Nid yw cymorth cyfreithiol ar gael bellach i dalu costau cyfreithiol ysgariad neu ddiddymiad oni bai bod achos o

  • drais domestig (gan gynnwys trais ariannol)
  • trais, neu
  • herwgipio plentyn

Fodd bynnag, gallwch ymgeisio am gymorth cyfreithiol i dalu am gyfryngu - er bod hyn yn amodol i brawf modd.

Gogledd Iwerddon a’r Alban

Efallai y bydd cymorth cyfreithiol ar gael i dalu costau cyfreithiol ysgariad neu ddiddymiad.

Byddwch yn cael eich asesu ar sail faint o incwm a chynilion, buddsoddiadau a phethau gwerthfawr sydd gennych (heb gynnwys eich prif gartref).

Gallech hefyd gael cymorth cyfreithiol os cewch fudd-daliadau penodol.

Gogledd Iwerddon

Mae cyfreithwyr yn gyfrifol am gyfrifo a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Yr Alban

Gwiriwch a allwch gael cymorth cyfreithiol gyda'r Scottish Legal Aid Board Neu darganfyddwch am help gyda ffioedd llys ar wefan Scottish Courts and Tribunals

Talu ffioeodd eich cyfreithiwr

Yn ddelfrydol, dylech gael digon o gynilion neu incwm i dalu eich ffioedd cyfreithiwr, ond efallai na fydd hyn yn realistig i bawb.

Os na allwch dalu’r ffioedd o flaen, mae sawl dewis arall ar gael. Ond meddyliwch yn ofalus cyn i chi fenthyca a pheidiwch â chymryd benthyciad drud. Gallai hyn fod yn anodd ei ad-dalu os ydych eisoes yn profi costau uwch oherwydd eich gwahaniad.

Talu o’ch setliad ariannol

Bydd rhai cwmnïau cyfreithiol yn gadael i’w cleientiaid dalu eu ffioedd cyfreithiol pan fydd eu hysgariad neu ddiddymiad wedi ei gwblhau ac unwaith y byddant wedi cael setliad terfynol.

Weithiau fe elwir y math hwn o gyllid yn ‘gytundeb Sears Tooth’ yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ar ôl y cwmni a’i cynigiodd gyntaf. Yn yr Alban, gelwir hyn yn ‘solicitor’s lien’.

Ni fydd pob cwmni cyfreithiol yn cynnig y dewis hwn, ac ni fydd y rhai sydd, yn ei gynnig i bob cleient. Ond mae’n werth gofyn amdano.

Talu biliau cyfreithiol wrth i chi werthu’ch cartref – yr Alban yn unig

Os yw’r cartref teuluol i’w werthu yn rhan o’ch setliad ariannol, efallai y bydd eich cyfreithiwr yn gadael i chi dalu’r bil cyfreithiol o’r elw o’i werthu.

Byddai rhaid i chi lofnodi ‘mandad di-alw yn ôl’ - mae hyn yn golygu na allwch ei ganslo.

Mae’n cyfarwyddo’r cyfreithiwr sy’n gwerthu’r tŷ i dalu unrhyw ffioedd cyfreithiol sy’n weddill i’ch cyfreithiwr ysgariad neu ddiddymiad cyn pasio gweddill yr arian ymlaen i chi.

Cais llys am ffioedd cyfreithiol – Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon

Os na allwch dalu eich ffioedd cyfreithiol, gall llys orchymyn i’ch cyn bartner (gwr, gwraig neu bartner sifil) eu talu. Gelwir hyn yn Orchymyn Gwasanaethau Cyfreithiol (LSO).

Bydd y swm maent yn talu yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar setliad ariannol.

Nid yw hyn yn rhywbeth mae’r llysoedd yn gwneud fel arfer, ond maent yn gwneud y gorchmynion hyn mewn rhai achosion.

Fel arfer byddai angen i chi ddangos eich bod wedi ymchwilio pob opsiwn arall posibl i ariannu’ch ffioedd cyfreithiol a bod gan eich cyn bartner y modd i dalu.

Byddwch yn ymwybodol bod costau yn gysylltiedig â hyn.

Cyllid gan eich cyn partner

Efallai na fydd eich cyn bartner yn ffynhonnell amlwg o gyllid ar gyfer ffioedd cyfreithiol.

Ond, mewn rhai achosion, bydd un partner yn cytuno i dalu ffioedd y llall – heb i’r llys orchymyn hyn, fel y disgrifir uchod – er mwyn cael setlo’r elfen ariannol yn fuan.

Efallai y byddwch chi a’ch cyn bartner yn cytuno i hyn, neu gall eich cyfreithiwr ofyn iddo/iddi eich hun. Darganfyddwch fwy am LSO ar wefan Rights of WomenYn agor mewn ffenestr newydd

Benthyca gan deulu neu ffrindiau

Efallai y byddwch yn gallu benthyg gan ffrindiau neu deulu a gall hyn fod yn rhatach a llawer haws na benthyca gan fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr benthyciadau arall.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael llunio cytundeb ffurfiol neu efallai na fydd y llys yn ystyried y benthyciad wrth ystyried sut i rannu’r cyllid rhyngoch.

Dylech hefyd fod yn siŵr y gallwch dalu’r arian yn ôl. Os na allwch, gallai niweidio’r cyfeillgarwch neu berthynas deuluol.

Cerdyn credyd gyda llog 0%

Mae cerdyn credyd sy’n codi llog o 0% ar bryniannau yn golygu nad ydych yn talu llog ar eich gwariant am amser cyfyngedig – fel arfer tri i 12 mis.

Po hiraf fydd y cynnig llog 0% ar gael, yr hiraf y bydd gennych i’w dalu heb orfod talu llog.

Fel arfer dim ond os oes gennych statws credyd da iawn y byddwch yn gymwys ar gyfer y cardiau hyn.

Dylech fenthyg beth sydd angen arnoch yn unig a cheisio talu’r hyn rydych wedi ei fenthyca yn ôl cyn gynted â phosibl.

Benthyciad ysgariad neu ddiddymiad neu fenthyciadau ymgyfreitha – Cymru, Lloegr a’r Alban

Efallai y byddwch yn gallu ymgeisio am fenthyciad sydd wedi ei gynllunio’n arbennig i dalu costau ysgariad neu ddiddymiad.

Ar hyn o bryd, ychydig iawn o gwmnïau sy’n cynnig y rhain – ac nid ydynt ar gael yng Ngogledd Iwerddon. Ond mae’n werth gofyn i'ch cyfreithiwr a ydynt yn gwybod am gwmnïau sy’n eu cynnig.

Bydd y darparwr benthyciadau yn asesu rhagolygon eich achos a lefel debygol eich setliad.

Os llwyddir i fodloni eu meini prawf darparu benthyciadau byddant yn rhyddhau’r arian yn uniongyrchol i’ch cyfreithiwr i dalu am ffioedd cyfreithiol wrth iddynt godi.

Y fantais dros fenthyciad traddodiadol yw bod gennych fenthyciad uchafswm a gytunwyd ymlaen llaw. Ac rydych yn benthyca’r hyn sydd ei angen arnoch yn unig wrth i’ch costau cyfreithiol godi.

Unwaith y daw eich ysgariad neu eich diddymiad i rym, cesglir y benthyciad o’ch setliad ariannol. Wedyn rhyddheir unrhyw arian i chi.

Darganfyddwch:

  • a oes unrhyw ffioedd sefydlu
  • faint o log a dalwch
  • a allwch  dalu’r benthyciad yn llawn yn gynnar heb orfod talu ffi ad-dalu gynnar, ac
  • a yw’r darparwr angen unrhyw sicrwydd

Benthyciadau personol

Efallai y byddwch yn gallu cael benthyciad personol gan fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr benthyciadau.

Bydd faint fyddwch chi’n gallu ei fenthyg a’r gyfradd llog yn ddibynnol ar eich amgylchiadau a’r darparwr benthyciadau yr ydych yn gwneud cais iddo.

Bydd y gyfradd llog a’r ad-daliadau misol yn sefydlog a bydd y benthyciad yn rhedeg am gyfnod sefydlog. Fodd bynnag, fel arfer gallwch wneud taliadau ychwanegol i dalu eich benthyciad yn gyflymach heb orfod talu ffioedd ad-dalu cynnar.

Undebau credyd

Efallai y byddwch yn gallu benthyg gan undeb credyd. Darparwr cynilion a benthyciadau cymunedol sy’n eiddo i ac yn cael ei redeg gan ei aelodau.

Mae’r llog y gallant godi wedi ei gyfyngu dan y gyfraith, felly bydd yn llawer rhatach na benthyciadau byrdymor eraill – fel benthyciwr stepen drws neu ddiwrnod cyflog.

Dewisiadau ariannu pellach

Mae’n werth gwirio’ch polisi yswiriant cartref – oherwydd gallai gynnwys yswiriant i dalu am gostau cyfreithiol.

Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, efallai y bydd yn darparu cefnogaeth ar gyfer ffioedd cyfreithiol.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.