Beth yw cost ysgariad neu ddiddymiad?

Mae rhai costau, fel ffioedd llys, yn sefydlog. Bydd eraill, fel ffioedd cyfreithiol, yn dibynnu ar faint o gyngor cyfreithiol a gewch a beth mae'r cyfreithiwr yn ei godi. Efallai y gallwch gael help gyda'r gost o gael ysgariad neu ddiddymiad. 

Faint yw ffioedd llys?

Os ydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil, bydd yn rhaid i chi neu’ch cyn bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) dalu ffioedd llys.

Bydd yn rhaid i chi eu talu os ydych yn setlo’r ysgariad neu’r diddymiad eich hunan neu’n defnyddio cyfreithiwr i’ch helpu.

Mae ffioedd llys yn amrywio gan ddibynnu ymhle yn y DU rydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil. Rydym wedi rhestru’r prif rai isod, ond efallai  y bydd ffioedd eraill y bydd angen i chi eu talu. 

Ffioedd llys yng Nghymru a Lloegr

  • Os ydych chi eisiau ysgariad neu ddiddymiad, cost y cais i'r llys yw £593. Darganfyddwch fwy am ffeilio am ysgariad ar GOV.UK
  • Os ydych chi am wahanu'n gyfreithiol ond nad ydych am ddod â'ch priodas neu'ch partneriaeth sifil i ben - er enghraifft, am resymau crefyddol - gallwch wneud cais am wahaniad barnwrol am £365. Darganfyddwch fwy am gael gwahaniad cyfreithiol ar GOV.UK
  • Os gallwch gytuno sut i rannu'ch asedau, gallwch wneud y cytundeb yn gyfreithiol rwymol trwy wneud cais am orchymyn cydsynio. Mae hyn yn costio £53. Darganfyddwch fwy am gael gorchymyn cydsynio ar GOV.UK
  • Os na allwch chi a'ch cyn-bartner gytuno ar sut i rannu'ch cyllid, gallwch ofyn i lys benderfynu sut y bydd asedau'n cael eu rhannu. Mae'r cais hwn am orchymyn ariannol yn costio £275. Darganfyddwch fwy am gael llys i benderfynu ar GOV.UK

(Ffigyrau 2023 GOV.UK)

Ffioedd llys yn yr Alban

Yn yr Alban mae dwy ffordd o gael ysgariad:

  • y broses sydd wedi’i symleiddio (a elwir hefyd yn ysgariad DIY)
  • y drefn arferol.

Bydd y ffioedd a dalwch yn dibynnu ar ba un y byddwch yn ei ddewis. Dyma'r symiau y byddwch yn eu talu i gael ysgariad neu ddiddymiad yn yr Alban.

  • I gwblhau eich ysgariad neu eich diddymiad, y ffi am y ‘minute for decree’ yw £53. Dyma'r term cyfreithiol ar gyfer y ddogfen sy'n cwblhau'r ysgariad neu'r diddymiad.
  • I wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad ‘cyffredin’ lle na ellir defnyddio’r weithdrefn ‘symlach’ - y ffi yw £165 mewn llys siryf neu £184 yn Llys y Sesiwn.
  • I wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad ‘symlach’ - y gost yw £134 (Llys y Siryf) neu £140 (Llys y Sesiwn). Efallai y gallwch ei ddefnyddio os nad oes gennych blant o dan 16 oed ac nad ydych chi a'ch cyn-bartner yn hawlio cyfandaliad neu daliadau parhaus gan eich gilydd.

(ffigyrau 2020 gan y ‘Scottish Courts and Tribunals Service’)

Ffioedd llys yng Ngogledd Iwerddon

Bydd angen i chi dalu'r costau canlynol yng Ngogledd Iwerddon.

  • Os ydych chi eisiau ysgariad neu ddiddymiad, cost y cais i'r llys yw £249.
  • I gwblhau'ch ysgariad neu'ch diddymiad, y ffioedd ffeilo ar gyfer archddyfarniad absoliwt neu derfynol yw £93. Mae hyn yn nodi bod eich ysgariad neu'ch diddymiad yn derfynol.
  • I wneud cais am wrandawiad llys, y gost yw £373 yn yr Uchel Lys neu £311 mewn Llys Sirol. Os bydd eich ysgariad neu'ch diddymiad yn cael ei herio, dim ond yr Uchel Lys all ddelio ag ef.
  • Os ydych chi am wneud cais am daliadau parhaus neu gyfran yn yr eiddo neu'r pethau rydych berchen arnynt, mae'r cais hwn am ryddhad ategol yn £373 yn yr Uchel Lys a £296 mewn Llys Sirol.

Cymorth i dalu ffioedd llys

Yng Nghymru a Lloegr

Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych chi ar fudd-daliadau penodol neu os oes gennych gynilion ac incwm islaw swm penodol.

Yn yr Alban

Yng Ngogledd Iwerddon

Bydd angen i chi lenwi ffurflen ER1 i gael help gyda ffioedd llys. Lawrlwythwch y ffurflen ar wefan y Department of Justice

Faint yw ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol?

Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cynnig gwasanaeth ysgariad neu ddiddymiad am ffi sefydlog, ond gallant hefyd godi ffi fesul awr.

Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint o waith y bydd angen i’r cyfreithiwr ei wneud ar eich rhan.

Gallwch gapio ffioedd neu’r gwaith y dymunwch i’ch cyfreithiwr ei wneud. Ceisiwch gytuno ymlaen llaw faint o gyswllt drwy e-bost neu dros y ffôn a ddymunwch.

Cyfreithiwr (yn codi cyfradd fesul awr): Mae cyfanswm y costau’n amrywio o £2,000 i £3,000 ar gyfer setliad ariannol a negodwyd. A £30,000 (a TAW) neu fwy ar gyfer setliad sy’n cyrraedd gwrandawiad olaf mewn llys. Bydd y costau’n dibynnu ar os ydych yn ceisio penderfynu ar ofal a chymorth i’ch plant neu roi trefn ar eich arian, neu’r ddau. Bydd hefyd yn dibynnu ar faint y gallwch chi a’ch cyn bartner gytuno ar bethau rhyngoch a pha mor gymhleth yw’ch amgylchiadau.

Cyfreithiwr (yn codi ffi sefydlog): Gallai cyfanswm y costau ar gyfer llunio gorchymyn caniatâd yn dilyn setliad ariannol diwrthwynebiad gychwyn ar £250 (a TAW). Bydd ffioedd llys yn ychwanegol i hyn yn ddibynnol ar yr hyn a gytunwch â’ch cyfreithiwr. Fel arfer ni fydd hyn yn cynnwys negodi sut y dylid rhannu asedau cymhleth, er enghraifft pensiwn neu waith ychwanegol os na allwch chi a’ch cyn bartner gytuno ar setliad.

Cyfreithiwr teulu cydweithredol: Gall y costau fod yn anodd eu hamcangyfrif, ond gallent fod oddeutu £8,000 i £15,000.

Gwasanaeth ysgaru neu ddiddymu ar-lein: Cyfanswm y costau hyd at £400 os bydd cyfreithiwr yn rheoli’ch ysgariad neu ddiddymiad. Rhwng £40 a £200 os nad oes cyfreithiwr ynghlwm â’r broses a bydd angen i chi dalu ffioedd y llys. Dylech wirio a yw’r gwasanaeth sydd ar gael ar gyfer gwaith papur yr ysgariad neu’r diddymiad yn unig, neu ar gyfer y setliad ariannol hefyd.

Cyfryngwr: Mae cyfryngwyr fel arfer yn codi o £100 yr awr fel arfer. Mae’r rhan fwyaf o gyplau yn cael rhwng tair a phedair sesiwn.

Os ydych am fynd â’ch achos i’r llys, fel rheol mae nawr yn ofyniad cyfreithiol i fynychu cyfarfod Cyfryngu Gwybodaeth ac Asesu (MIAM). Disgwylir i’r person arall sy’n rhan o’r broses fynychu MIAM hefyd, ond does dim rhaid iddynt fynd i’r un cyfarfod â chi.

Darganfyddwch fwy am MIAM:

Os byddwch yn mynd at gyfreithiwr yn gyntaf, mae’n nhw’n debygol o siarad â chi ynghylch a allai defnyddio cyfryngu yn gyntaf helpu

Help drwy gymorth cyfreithiol yng Nghymru neu Loegr

Ni allwch gael cymorth cyfreithiol bellach i dalu costau’ch cyfreithiwr oni bai bod tystiolaeth o

Ond efallai y byddwch dal yn gallu cael cymorth cyfreithiol i helpu i dalu costau cyfryngol.

Help drwy gymorth cyfreithiol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i dalu tuag at gostau cyfreithiol ysgariad neu ddiddymiad.

Fe'ch asesir ar faint o incwm, cynilion, buddsoddiadau a phethau gwerthfawr sydd gennych (heb gynnwys eich prif gartref).

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth cyfreithiol os ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol.

Gogledd Iwerddon

  • Mae cyfreithwyr yn gyfrifol am gyfrifo a ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Darganfyddwch fwy ar nidirect 
  • I gael gwybodaeth am help gyda ffioedd llys, ewch i' wefan y Department of Justice

Yr Alban

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.