Mae pawb yn gwybod bod symud o’ch cartref a byw yn annibynnol yn golygu cymryd cyfrifoldeb am gostau byw o ddydd i ddydd, ond beth yn union yw’r costau? Yma rydym yn cael golwg ar faint mae’n ei gostio i dalu drosoch eich hun.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Llety
Mae angen lle diogel i fyw ar bob un ohonom.
Mae faint y bydd hynny’n costio yn dibynnu ar nifer o bethau, megis:
- math o dai
- lle y mae yn y wlad
- a ydych chi’n rhannu’r gost
- a ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais.
Mewn mannau lle bydd llawer o bobl am fyw, fel dinasoedd mawr, gall costau llety fod yn llawer uwch nag ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Ar gyfer eich cartref cyntaf efallai y byddwch am ystyried rhannu gydag eraill i geisio rhannu’r costau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau Faint o rent y gallwch chi ei fforddio?
Bwyd
Mae’n hawdd prynu’r bwyd rydych ei angen pan fyddwch ei angen, bob dydd yn aml iawn.
Er y gall ymddangos yn ddrutach ar y pryd, yn aml iawn mae’n rhatach siopa unwaith yr wythnos.
Felly gallwch osod cyllideb wythnosol i chi’ch hun a chadw ati.
Mae'n hawdd i gael eich temptio gan yr holl gynigion a bargeinion mewn archfarchnadoedd mawr. Ond gwnewch yn siŵr rydych angen y pethau y byddwch yn eu prynu cyn i chi wario mwy nag sydd raid, neu wastraffu bwyd.
Gallwch hefyd geisio prynu brand yr archfarchnad ei hun neu’r dewis rhataf bob tro a all fod yn llawer rhatach na’r enwau cyfarwydd.
Darllenwch fwy am arbed arian ar gost eich siopa bwyd ar wefan MoneySavingExpert
Cyfleustodau
Mae cyfleustodau yn golygu nwy, trydan a dŵr.
Ni allwch newid cost eich biliau dŵr gan ei fod wedi'i osod gan eich cyflenwr rhanbarthol. Yn yr Alban, hwn fydd eich cyngor lleol oni bai eich bod ar fesurydd dŵr.
Fodd bynnag, gallwch fargeinio â'ch cyflenwr nwy a thrydan neu ei newid - felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych o gwmpas am y bargeinion gorau.
Mae pob cwmni nwy a thrydan yn cynnig ystod o brisiau, yn yr un modd â ffonau symudol. Felly treuliwch amser yn sicrhau eich bod ar y tariff gorau i chi.
Mae newid cyflenwr yn hawdd a gall eich helpu i arbed llawer iawn o arian.
Darganfyddwch fwy am arbed arian ar eich cyfleustodau yn ein canllawiau:
Sut i arbed arian ar filiau nwy a thrydan
Sut i arbed arian ar filiau dŵr
Rhedeg car
Gall hyn fod yn llawer mwy nag yr ydych yn ei ddisgwyl ar ôl ystyried y petrol, yr yswiriant, a’r biliau trwsio.
Archwiliwch costau ceir yn fwy manwl yn ein canllaw Rhedeg car fel gyrrwr ifanc
Trwydded deledu
Cael hi'n anodd talu'ch Trwydded Deledu?
Os ydych yn cael trafferth talu'ch Trwydded Deledu, efallai y byddwch yn gymwys i ledaenu'r gost gan ddefnyddio'r Cynllun Taliad Syml. Darganfyddwch fwy ar Drwydded Teledu
Mae cost Trwydded Deledu yn cynyddu bob blwyddyn ar 1 Ebrill. Ar gyfer 2024/25, mae'n costio £169 am flwyddyn. Mae trwydded du a gwyn yn costio £57.
Gallwch dalu amdano bob blwyddyn, ond os dewiswch dalu’n chwarterol, bydd hyn yn costio £5 yn ychwanegol.
Os talwch yn wythnosol neu’n fisol, rydych yn talu am drwydded y flwyddyn gyntaf mewn chwe mis.
Byddwch wedyn yn talu am eich trwydded nesaf dros 12 mis, ac felly byddwch wedi talu chwe mis ymlaen llaw.
Rhaid i chi fod â Thrwydded Deledu i:
- wylio neu recordio rhaglenni teledu ar unrhyw sianel
- lawrlwytho neu wylio rhaglenni BBC ar iPlayer
Gallai hynny fod ar unrhyw declyn, gan gynnwys:
- teledu
- cyfrifiadur
- gliniadur
- ffôn symudol
- tabled
- consol gemau
- blwch digidol
- recordiwr DVD/VHS.
Gallech wynebu erlyniad a dirwy hyd at £1,000 os cewch eich dal yn gwylio heb drwydded.
Darganfyddwch fwy am dalu, a'r help sydd ar gael, yn ein canllaw Talu'ch Trwyddedu Teledu
Ffonau symudol a band eang
Yn yr un modd â biliau cyfleustodau, gallwch arbed swm sylweddol o arian wrth newid darparwr band eang neu newid eich cytundeb ffôn symudol.
Felly, pan fyddwch chi’n derbyn cytundeb newydd, neu pan fydd eich hen un yn dod i ben, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymharu’r bargeinion y gallwch eu cael i arbed arian.
Darganfyddwch fwy ar ein canllawiau
Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
Sut i arbed arian ar eich ffôn cartref a'ch band eang
Biliau annisgwyl
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â'n grŵp Grŵp Cyllidebu ac Arbed Facebook i gael awgrymiadau a chymorth i arbed arian gan gymuned o gynilwyr.
Atgyweirio’r car, biliau milfeddyg, atgyweirio’r cartref ar frys - gall y math hwn o gostau effeithio ar unrhyw un ar unrhyw bryd, felly nid yw hi fyth yn rhy gynnar i baratoi ar eu cyfer.
Y peth gorau i’w wneud yw cynilo arian yn rheolaidd i ddechrau cronni cronfa gynilion at argyfwng.
Gallwch hefyd gymryd camau i geisio atal eitemau rhag torri, neu brynu yswiriant sy’n rhoi sicrwydd i chi os aiff pethau o’i le.
Darganfyddwch fwy am filiau annisgwyl, a beth i'w wneud i atal y treuliau hyn rhag effeithio'n ddifrifol ar eich cyllid, yn ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng - faint sy'n ddigon?
Siarad am arian
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Rydym wedi sefydlu grŵp preifat Facebook Debt Support Community i helpu i roi syniadau newydd i chi i fynd i’r afael â dyledion ac i’ch cadw’n llawn cymhelliant
Gall peidio â siarad am arian achosi problemau, gan fod pob rhan o’n bywydau yn cael eu heffeithio gan ein materion ariannol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Defnyddiwch ein canllaw i oresgyn y rhwystrau hynny a siaradwch â’ch ffrindiau, partner, perthnasau hŷn a phlant am arian.
Darganfyddwch fwy yn ein hadran Siarad am arian
Help gyda chostau byw
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd talu am gostau byw o ddydd i ddydd, efallai bod gennych hawl i rai budd-daliadau.