Pan fydd rhywun angen cymorth ffurfiol i reoli ei arian

Mae trefnu i reoli arian rhywun yn ffurfiol ar eu cyfer yn gam mawr – i chi ac i’r person rydych yn ei helpu. Mae’n golygu bod ar ryw adeg, nawr neu yn y dyfodol, gallech fod â chyfrifoldeb llwyr dros eu cyllid a’u budd. Nid yw hyn y peth iawn i’w wneud oni bai eich bod chi’ch dau yn gwbl gyfforddus ag ef, neu os yw’n wirioneddol angenrheidiol.

Ai trefniant ffurfiol yw’r peth gorau i’w wneud mewn gwirionedd?

Cyn i chi benderfynu ai gwneud trefniant ffurfiol yw’r peth gorau i’w wneud, mae rhaid i chi ddeall beth mae’r gyfraith yn ei olygu gan alluedd meddyliol.

Bydd yn diffinio’r hyn y gallwch, na allwch ac na ddylech ei wneud.

Galluedd meddyliol yw’r gallu i feddwl, i resymu ac i wneud penderfyniadau.

Os yw galluedd meddyliol rhywun yn mynd i ddirywio, neu eisoes wedi gwneud, mae’n iawn i chi feddwl am drefniadau ffurfiol, hirdymor sy’n caniatáu i chi reoli eu harian drostynt.

Diffiniad cyfreithiol galluedd meddyliol

Yn gyfreithiol, mae rhaid asesu galluedd meddyliol yn ôl y dystiolaeth. Dylai unrhyw asesiad fod

  • yn benderfyniad penodol - a asesir ar gyfer pob penderfyniad a sefyllfa
  • yn benodol i'r person - lle caiff gymaint o gymorth ag sy'n ymarferol i wedi ei benderfyniadau ei hun, ac
  • yn benodol i'r amser - fel ei fod yn cael cymorth wrth wneud penderfyniad ar yr amser gorau iddo.

Wrth asesu galluedd meddyliol rhywun i wneud penderfyniad penodol, ni allwch wneud rhagdybiaethau ar sail

  • oed
  • cyflwr meddygol, neu
  • oherwydd eich bod yn anghytuno â’r penderfyniadau a wnânt.

Mae rhywun wedi colli galluedd meddyliol os gellir dangos:

  • bod ganddynt gyflwr sy’n effeithio ar eu hymennydd, ac o ganlyniad
  • ni allant wneud penderfyniad penodol ar adeg benodol, hyd yn oed pan fydd ganddynt y cymorth cywir

Gall cyflyrau sy’n effeithio ar ymennydd rhywun fod yn gorfforol neu’n feddygol. Weithiau gall fod o ganlyniad i gyffuriau neu alcohol. A gall fod yn barhaol neu dros dro.

Maent yn bethau sy’n achosi dryswch, syrthni neu fod yn anymwybodol, fel:

  • anabledd dysgu difrifol
  • dementia, fel clefyd Alzheimer’s
  • niwed i’r ymennydd – er enghraifft o ganlyniad i strôc neu ddamwain
  • rhai mathau o salwch meddwl, megis anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia ac iselder.

Sut gallwch ddweud os oes gan rywun alluedd meddyliol?

Nid yw’n gwestiwn syml. Gall pobl fod â galluedd meddyliol ar gyfer rhai pethau, ond nid eraill. Er enghraifft, os gallant ymdopi â gwario o ddydd i ddydd ond nid allant fuddsoddi lwmp swm.

A hefyd, gall galluedd meddyliol fynd a dod. Gallai rhywun sydd ag anhwylder deubegwn fynd trwy gyfnodau pan na allant wneud penderfyniadau, ond â ganddynt alluedd meddyliol llawn weddill yr amser.

Mae hyn yn golygu bod rhaid barnu galluedd meddyliol yn ofalus ar sail penderfyniadau wrth benderfyniad.

Hyd yn oed os yw’n ymddangos bod rhywun wedi colli galluedd meddyliol yn barhaol, dylid eu hadolygu’n aml. Er enghraifft, pryd bynnag bo rhaid gwneud penderfyniad pwysig.

Os oes gan y person rydych am eu helpu galluedd meddyliol

Mae dwy ffordd y gallwch helpu:

  • Eu cefnogi’n anffurfiol pan fyddant ei angen arnynt.
  • Paratoi ar gyfer y dyfodol drwy eu helpu i roi trefniadau ffurfiol ar waith ar gyfer pan fydd eu hangen arnynt.

Cefnogi pobl yn anffurfiol

Os oes gan rywun alluedd meddyliol ond yn ei chael yn anodd ymdopi â gwaith papur neu i gadw i fyny â phethau, efallai y byddant yn croesawu rhywfaint o help anffurfiol â’u harian.

Gallwch wneud llawer i helpu pobl â’u harian heb gymryd rheolaeth lwyr. Mewn llawer o achosion, mae’n well iddynt - ac yn llai o straen i chi - os nad ydych yn cymryd rheolaeth.

Paratoi ar gyfer y dyfodol

Os ydych yn credu bod galluedd meddyliol yr unigolyn yn mynd i ddirywio, mae’n syniad da iawn eu hannog i greu atwrneiaeth a fydd yn dal i fod yn weithredol os byddant yn colli galluedd meddyliol.

Mae’n golygu y byddant yn dal i fod mewn rheolaeth, ond os byddant yn colli galluedd meddyliol, bydd rhywun arall yn gallu camu i mewn.

Os ydynt yn penderfynu gwneud atwrneiaeth, trefnwch bethau cyn gynted â phosibl - tra eu bod yn dal i deimlo'n dda.

Os yw’r person rydych am eu helpu wedi colli galluedd meddyliol

Bydd rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael caniatâd cyfreithiol i reoli eu harian iddynt.

Os mai dim ond Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau lles yw unig incwm rhywun, ac nad oes atwrneiaeth yn bodoli, mae’n well i wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i fod yn benodai yn lle.

Mae hyn yn eich galluogi i gael eu pensiwn neu fudd-dal wedi talu i chi’n uniongyrchol fel y gallwch eu rheoli ar eu rhan.

Gellir dilyn y llwybr hwn hefyd â budd-daliadau’r awdurdod lleol fel Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor.

Amddiffyn eich hun rhag cam-drin ariannol

Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Gall cam-drin ariannol gan aelod o’r teulu, ffrind, partner neu ofalwr fod pan fydd rhywun:

  • yn cymryd arian neu'n cael credyd yn eich enw heb yn wybod i chi na'ch caniatâd
  • gwneud i chi drosglwyddo rheolaeth dros eich cyfrifon
  • cyfnewid eich pensiwn neu sieciau eraill heb eich caniatâd
  • yn ychwanegu eu henw at eich cyfrif
  • yn gofyn i chi newid eich ewyllys
  • wedi cynnig prynu siopa neu dalu biliau gyda'ch arian, ond nid ydych yn gweld hyn yn digwydd
  • yn eich atal rhag gweld ffrindiau a theulu eraill.

Mae cymryd y camau cyntaf i dorri’n rhydd o gam-drin ariannol yn anhygoel o ddewr. Gall ymddangos yn frawychus, ond nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun.

Mae yna ffyrdd y gall eich banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu ddarparwr gwasanaethau ariannol arall eich helpu. Mae’n bwysig siarad â rhywun.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.