Cyflogi rhywun i roi cymorth gyda’ch gofal

Gall gofalwyr neu gynorthwywyr personol roi cymorth i chi fyw’n annibynnol yn eich cartref eich hun. Os ydych chi’n cyflogi un - gan ddefnyddio’ch arian eich hun neu drwy daliadau uniongyrchol - mae llawer i’w ystyried.

Beth all ofalwr neu gynorthwyydd personol ei wneud i mi?

Mae gofalwr neu gynorthwyydd personol yna i’ch cefnogi fel y gallwch fyw mor annibynnol â phosibl yn eich cartref eich hun.

Efallai byddant yn gweithio am ychydig oriau’r wythnos yn unig, neu am sawl awr bob dydd (neu nos) ac yn helpu gydag amrywiaeth o dasgau fel:

  • siopa
  • paratoi prydau
  • cymorth gyda meddyginiaeth
  • gyrru neu’ch helpu i fynd o gwmpas
  • cefnogi gofalwyr teulu pan fydd angen seibiant arnynt
  • gofal personol, fel ymolchi, gwisgo a defnyddio’r tŷ bach.

Defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwyydd personol

Os ydych yn gymwys am gyllid i gael gofal cymdeithasol yn eich cartref, mae’r swm o arian yr aseswyd bod ei angen arnoch ar gyfer eich gofal yn gallu cael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc.

Mae hynny’n golygu, yn lle cael cynorthwyydd personol sy’n cael ei ddarparu gan y cyngor, gallwch ei gyflogi’n uniongyrchol neu benodi asiantaeth gofal yn y cartref i wneud hynny drosoch.

Defnyddio asiantaeth gofal yn y cartref

I lawer o bobl, mae defnyddio asiantaeth gofal yn y cartref yn llawer llai trafferthus. Ond mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o rai materion pwysig:

  • Nid yw’r un rheolaeth gennych dros bwy sy’n rhoi’r gofal a chymorth i chi o’i gymharu â phe byddech yn cyflogi rhywun fel gynorthwyydd (wyr) personol eich hun.
  • Nid yw rhai cwmnïau gofal yn y cartref yn cael eu rheoleiddio. Er enghraifft, gyda gwasanaethau rhagarweiniol, pan fydd gofalwr wedi’i ddyrannu, yr unigolyn sydd angen gofal a’i deulu sy’n gyfrifol am eu rheoli. Os ydych am osgoi’r math hwn o gwmni, gofynnwch iddynt anfon copi o’u hadroddiad Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) atoch. Os na allant wneud hynny, yna mae’n arwydd y gallent fod yn asiantaeth ragarweiniol heb ei reoleiddio.

Bydd asiantaeth reoleiddio yn ymdrin â phob taliad, treth ac yswiriant, yn ogystal â gwneud gwiriadau heddlu ac yn ymchwilio i eirdaon.

Fodd bynnag, efallai nad yr un person a fydd yn ymweld â’ch cartref bob amser.

Ac, wrth gwrs, mae’n costio mwy – caniatewch £5 i £10 ychwanegol yr awr, gan ddibynnu ar eich anghenion gofal a ble rydych yn byw.

Cyflogi cynorthwyydd personol

Mae’n amlwg bod rhai manteision yma.

Drwy gyflogi rhywun eich hun, cewch fwy o ddewis a rheolaeth ar bwy sy’n gofalu amdanoch a pha dasgau a wnânt.

Ond mae hefyd yn eich troi’n gyflogwr ar unwaith, gyda’r holl faterion cyfreithiol, ariannol ac ymarferol sydd ynghlwm gyda hynny.

Felly cyn dewis y llwybr hwn, bydd angen i chi ystyried llawer o bethau.

Cyflogi gofalwr neu gynorthwyydd personol

Oni bai bod rhywun rydych yn ei adnabod - efallai eich gofalwr asiantaeth neu cyngor lleol - bydd angen i chi hysbysebu, cyfweld a gwneud gwiriadau.

Efallai yr hoffech gyflogi rhywun rydych yn ei adnabod i ddarparu’r gofal, fel aelod o’r teulu neu ffrind.

Fodd bynnag, os ydych yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol a defnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi gweithiwr gofal mae yna reolau ynghylch cyflogi aelodau o’r teulu. Mae’r rheolau hyn yn amrywio yn dibynnu a ydych yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Gwiriwch y rheolau ar gyflogi rhywun rydych yn ei adnabod ar wefan Carers UK

Efallai y bydd asiantaethau recriwtio yn codi ffi arnoch, ond gallai fod yn werth chweil am y tawelwch meddwl ychwanegol

Gwirio hawl rhywun i weithio yn y DU

Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw ddarpar weithiwr yn gymwys i weithio yn y DU cyn eu cyflogi.

Gofynnwch am weld pasbortau pobl neu brawf adnabod arall i brofi eu bod yn dod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu fod ganddynt fisa i weithio yma.

Am restr o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ewch i wefan GOV.UK

Cofiwch gadw copi o’r gwaith papur.

Am fwy o wybodaeth am yr hawl i weithio yn y DU, ewch i wefan y Swyddfa Gartref

Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (gwiriadau CRB yn flaenorol)

Bellach, gelwir gwiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (DBS) yn wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Gelwir hyn yn wiriadau Diogelu Grwpiau Bregus (PVG) yn yr Alban.

Mae’n rhaid i chi gael copi o’r gwiriad DBS ar gyfer unrhyw un rydych yn gobeithio eu cyflogi cyn i chi roi cyfweliad iddynt neu eu gadael i mewn i’ch cartref.

  • Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, cewch ragor o wybodaeth am wiriadau DBS ar y wefan GOV.UK
  • Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am wiriadau PVG ar wefan mygov.scot
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi ofyn i’ch ymddiriedolaeth leol neu sefydliad gwirfoddol lleol i ofyn am y wybodaeth ar eich rhan. Darganfyddwch fwy ar wefan yr Adran Gyfiawnder

Llunio cytundeb cyflogaeth ar gyfer gofalwr neu gynorthwyydd personol

Bydd angen i chi ddarparu datganiad ysgrifenedig o gyflogaeth. Dylai hyn gynnwys y tasgau penodol y disgwylir i’r cynorthwyydd personol eu darparu, lle gwaith, oriau gwaith, cyfradd tâl, hyd y gyflogaeth a hawl i wyliau.

Tâl a threth

Rhaid i chi o leiaf dalu’r isafswm cyflog i’ch cynorthwyydd personol – yn realistig, rydych yn sôn am tua £10 yr awr, neu’n agosach i £12 os yw’ch anghenion gofal yn fwy cymhleth.

Efallai hefyd y byddwch yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o’u cyflog, yn ogystal â thalu cyfraniad Yswiriant Gwladol fel cyflogwr.

Amser i ffwrdd, tâl salwch a thâl gwyliau

Nid yn unig bydd rhaid i chi dalu’r rhain, ond bydd hefyd angen i chi ddod o hyd i rywun i gymryd lle’r gweithiwr.

Mae gan eich gofalwr neu’ch cynorthwyydd personol hawl i:

  • egwyliau gorffwys
  • tâl gwyliau
  • tâl salwch (yn yr rhanfwyf o achosion)
  • uchafswm o oriau gwaith mewn unrhyw wythnos.

Yswiriant

Fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi gael Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus.

Dylai fod eich taliadau uniongyrchol yn gallu helpu tuag at gost hyn. Ond bydd yn dibynnu ar eich cyngor lleol.

Defnyddio gofalwr neu gynorthwyydd personol i reoli eich taliadau uniongyrchol

Mewn rhai achosion, gallwch ddewis i’ch cynorthwywyr personol neu ofalwr cael a rheoli’r taliadau uniongyrchol gan y cyngor ar eich rhan.

Mae hwn fel arfer yn cael ei roi ar waith ar ran rhywun sydd heb y gallu meddyliol i wneud hynny ei hun - ac fel arfer gan fod teulu’r unigolyn wedi gofyn am y trefniant.

Mae risgiau gyda’r math hwn o drefniant. Ac yn arbennig, rhaid gwarchod oedolion sy’n agored i niwed rhag twyll.

Felly, cyn cytuno i drefniant o’r math yma, rhaid fod y cyngor lleol yn fodlon fod y cynorthwyydd personol neu’r gofalwr yn ‘berson addas’ ac y byddant yn ymddwyn er budd pennaf y person maent yn gofalu amdanynt.

Gofynnwch i’ch cyngor lleol ddarparu manylion ysgrifenedig ei broses i sicrhau bod cynorthwyydd personol yn cael ei ystyried i fod yn ‘berson addas’.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.