Mae gofalu am rywun yn gallu effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol, eich bywyd cymdeithasol, eich gyrfa a’ch perthynas ag eraill. Mae cymryd seibiant i edrych ar ôl eich hun yn bwysig os ydych am barhau i ofalu amdanoch chi’ch hun a’r person rydych yn gofalu amdanynt. Dyma rai o’r gwahanol fathau o gefnogaeth sydd ar gael.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Help sydd ar gael
Rydych yn gymwys i gael amrywiaeth o wasanaethau cefnogaeth, y mae llawer ohonynt yn rhad ac am ddim trwy’r gwasanaethau cymdeithasol.
- Cymryd seibiant – cymryd amser byr i ffwrdd o’ch rôl gofalu. Mae hyn yn cynnwys gofal seibiant i’r person rydych yn gofalu amdano, a gall rhoi cyfle i chi fagu nerth.
- Cymorth ymarferol – gall pethau a oedd yn arfer bod yn syml efallai, fel gwaith tŷ, golchi dillad, siopa am fwyd neu arddio, gallu bod yn straen pan fyddwch yn gofalu am rywun.
- Addasiadau – offer neu addasiadau i’r cartref a all wneud bywyd yn haws.
- Cefnogaeth emosiynol – p’un ai ar ffurf cwnsela broffesiynol neu gael sgwrs reolaidd â rhywun.
- Cefnogaeth i wella’ch lles – mynediad at ymarfer corff, cyfleoedd dysgu neu weithgareddau cymdeithasol.
- Adfocatiaeth – cael rhywun i siarad ar eich rhan.
I gael mynediad at y gwasanaethau hyn mae rhaid i chi’n gyntaf gwblhau asesiad gofalwrt.
Beth yw asesiad gofalwr?
Oeddech chi’n gwybod?
Os ydych angen help i ddod o hyd i gefnogaeth yn lleol, ffoniwch gynghorydd llinell gymorth Carers Direct ar 0808 802 0202. Mae Carer’s Direct yn wasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth genedlaethol i ofalwyr yn Lloegr.
P’un ai eich bod yn gofalu am rywun yn llawn amser neu ond am ychydig o oriau’r wythnos, yn rhannu eich rôl gofalu gydag eraill neu’n ei wneud ar eich pen eich hun - rydych yn gymwys am asesiad gofalwr gan eich awdurdod lleol.
Dyma’ch cyfle i drafod â gweithiwr cymdeithasol pa gymorth gallai fod angen arnoch wrth ofalu am ffrind neu berthynas.
Mae’n gadael i’r gweithiwr cymdeithasol asesu eich sefyllfa i weld a gewch hawlio unrhyw wasanaethau fyddai’n gwneud pethau’n haws i chi.
Gellir cyflawni’r asesiad gofalwr wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.
Os yw’r unigolyn rydych yn gofalu amdano yn byw mewn ardal arall, mae fel arfer yn digwydd yn ardal yr awdurdod lleol ble maent yn byw.
Gallwch fynd i’r cyfarfod ar ein pen eich hun neu gyda ffrind neu aelod o’ch teulu. Nid oes angen i’r person rydych yn gofalu amdano fod yno.
Mae rhaid i’r arbenigwr gofal edrych ar eich lles emosiynol a chorfforol yn gyfartal wrth benderfynu a ydych yn gymwys i gael cefnogaeth.
Mae rhaid i’r asesiad ystyried beth rydych am ei gyflawni yn eich bywyd o ddydd i ddydd. Ei nod yw sicrhau nad yw’ch cyfrifoldebau gofal yn creu sefyllfa allai waethygu i chi neu’r person rydych yn gofalu amdano.
Cyn y cyfarfod, mae’n syniad da i ystyried yr effaith y mae’r gofalu yn ei gael ar eich bywyd, Mae hyn fel y gallwch ddweud popeth sydd ei angen wrth yr arbenigwr gofal.
Gallwch geisio cadw cofnod yn eich dyddiadur o bethau fel:
- Cysgu – p’un a ydych yn cael digon ohono ac effaith eich rôl gofalu ar hyn.
- Eich anghenion gofalu eraill – a oes gennych ddigon o amser i ofalu am blant neu oedolion eraill sy’n ddibynnol arnoch?
- Cael amser i wneud gwaith tŷ – a allwch ddod i ben â gwneud y rhain â’ch cyfrifoldebau gofal?
- Eich cartref – a ydych chi a’r person rydych yn gofalu amdano yn byw o dan yr un to neu ar wahân? A oes newidiadau y gellid eu gwneud i’ch helpu i ymdopi?
- Iechyd – os ydych yn llwyddo i gadw’n iach ac effaith gofalu ar hyn.
- Gwaith, hyfforddiant ac addysg – os yw gofalu yn cael effaith ar eich swydd neu fynediad at hyfforddiant neu ddysgu ac a yw hyn yn eich poeni.
- Bywyd cymdeithasol ac amser personol – a ydych yn cael digon o amser i’w dreulio gyda’ch teulu, ffrindiau, gweithgareddau cymdeithasol ac i ofalu amdanoch chi’ch hun.
- Sut ydych yn ymdopi – a ydych yn gallu ac yn barod i gyflawni’ch rôl gofal?
- Delio ag argyfwng – beth fyddai’n digwydd petaech yn mynd yn sâl neu’n gorfod mynd i ffwrdd?
Sut i wneud cais am asesiad gofalwr
Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, bydd angen i chi siarad ag adran gwasanaethau cymdeithasol o’r cyngor lleol sy’n gyfrifol am y person rydych yn gofalu amdano.
Os ydych yn Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi siarad ag Health and Social Care Trust y person rydych yn gofalu amdano.
Am fwy o wybodaeth ar gyfer gofalwyr sy’n byw naill ai yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gwelwch wefan Carers UK
Beth sy’n digwydd ar ôl i chi gael eich asesu?
Bydd eich anghenion yn cael eu cymharu yn erbyn cyfres o feini prawf a gytunwyd arnynt yn genedlaethol i weld os ydych yn gymwys am gymorth.
Os ydych yn gymwys i gael cymorth, bydd gwasanaethau cymdeithasol yn creu cynllun cefnogaeth ar eich cyfer.
Efallai bydd yn cynnwys gofal ychwanegol ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano, os oes angen.
Gall y cyngor lleol godi tâl arnoch am rai o’r gwasanaethau a dderbyniwch. Ond ni allant godi tâl arnoch am unrhyw wasanaethau mae’r unigolyn rydych yn gofalu amdano yn ei gael.
Efallai y bydd angen i chi gael asesiad ariannol ar wahân i asesu beth allwch fforddio ei dalu.
Os yw’r cyngor lleol yn meddwl nad yw eich anghenion gofal yn ddigon sylweddol i chi fod yn gymwys am gymorth ariannol, mae rhaid iddynt roi cyngor a gwybodaeth i chi ar ble gallwch fynd i gael cymorth gan elusennau neu sefydliadau lleol eraill
Os ydych yn gymwys am gefnogaeth ariannol
Os ydych yn gymwys am gefnogaeth ariannol, gallech gael cyllideb bersonol.
Cyllideb bersonol yw’r swm o arian y bydd eich cyngor lleol yn ei dalu tuag at y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.
Mae dwy ffordd y gellir talu’r gyllideb bersonol hon i chi. Yna gallwch ddewis:
- cael taliadau uniongyrchol a phenderfynu drosoch eich hun pa ddarparwyr i ddefnyddio ar gyfer y gwasanaethau rydych eisiau, neu
- gadael i’r cyngor lleol drefnu’r gwasanaethau ar eich cyfer – er na fydd rhaid i chi ddelio â’r gwaith papur, byddwch yn cael eich cyfyngu i’r gwasanaethau mae’r cyngor yn eu darparu.
Mae rhaid i chi sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i gwrdd â’ch anghenion eich hun.
Ni allwch ei ddefnyddio i brynu gwasanaethau ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano.
Os nad ydych yn gymwys am gefnogaeth ariannol
Os oes rhaid i chi dalu am wasanaethau gofalwyr eich hun, byddwch yn dal i dderbyn cyllideb bersonol.
Bydd y cyngor lleol yn defnyddio hyn i gadw golwg o’r gofal rydych yn ei roi i’r unigolyn rydych yn gofalu amdano.
Taliadau uniongyrchol
Os dewiswch gael taliadau uniongyrchol gan y cyngor lleol, bydd angen i chi brynu’r gwasanaethau gofal eich hun, fel yr amlinellwyd yn y cynllun.
Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi ddewis eich darparwyr chi, a mwy o ddewis ynglŷn â sut mae bodloni’ch anghenion.
Er hyn, daw rhai cyfrifoldebau ychwanegol â’r buddion hyn.
- Cofnodion. Mae rhaid i chi gadw gwybodaeth gywir a manwl, gan gynnwys talebau neu anfonebau o sut y gwariwyd yr arian - a chyflwyno’r rhain i’r gwasanaethau cymdeithasol.
- Costau. Os nad ydych yn cadw cofnodion cywir neu’n prynu gwasanaeth nad yw’n rhan o’ch cynllun gofal, bydd rhaid i chi dalu am y gofal eich hun.
- Cyfrifoldebau cyflogaeth. Os ydych yn cyflogi rhywun yn uniongyrchol, bydd angen i chi ysgwyddo cyfrifoldebau cyfreithiol y cytundebau, yn ogystal â didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol o’u cyflog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
Gwasanaethau’r cyngor lleol
Os ydych yn dewis i’r cyngor lleol darparu a thalu am wasanaethau cefnogol ar eich rhan, byddwch yn osgoi’r cyfrifoldebau gweinyddol o reoli taliadau uniongyrchol.
Serch hynny, byddwch yn cael eich cyfyngu i dderbyn y gwasanaethau a’r cyflenwyr sydd eisoes ganddynt gytundeb â hwy.
Opsiynau cefnogaeth eraill sydd ar gael i ofalwyr
Yn ogystal ag asesiadau gofalwr, mae nifer o fudd-daliadau eraill a chefnogaeth ariannol eraill y gallech eu hawlio fel gofalwr.
Er enghraifft, efallai byddwch yn gymwys am Lwfans Gofalwr (a Carer's Allowance Supplement yn yr Alban) os ydych chi, y person rydych yn gofalu amdano a'r math o ofal rydych yn ei ddarparu yn cwrdd â meini prawf penodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt fel gofalwr
Darganfyddwch fwy
- Mae rhagor am asesiadau gofalwyr ar wefan y GIG
- Gwelwch y rhan Cymorth a chyngor wefan Carers UK
- Ewch i wefan Carers Trust
- Darganfyddwch fwy am faterion iechyd meddwl ar wefan Mind