A oes angen rhywun arnoch i reoli arian ar eich rhan, efallai i helpu rhywun ar ôl eich marwolaeth, neu i dalu am eich gofal yn nes ymlaen? Un ffordd o wneud hyn yw i roi’r arian mewn ymddiriedolaeth.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw ymddiriedolaeth?
Awgrym da
Mae sefydlu ymddiriedolaeth yn gymhleth – defnyddiwch gyfreithiwr i osgoi camgymeriadau costus.
Dychmygwch eich bod wedi gofyn i ffrind ofalu am beth o’ch arian, fel y gallent ei ddefnyddio i dalu am eich gofal pe byddech yn mynd yn sâl. Pe byddech ddim ond yn rhoi’r arian iddynt yn uniongyrchol, ni allech fod yn sicr y byddent yn ei ddefnyddio’n gywir. Felly, yn lle hynny, gallwch sefydlu ymddiriedolaeth. Gydag ymddiriedolaeth, mae rhaid i’r arian gael ei ddefnyddio yn unol â rheolau a amlinellir gennych.
Mae ymddiriedolaeth yn drefniant cyfreithiol lle mae un neu fwy o bobl neu gwmni (a elwir yn ymddiriedolwyr) yn rheoli arian neu asedau (sef eiddo’r ymddiriedolaeth) y mae rhaid iddynt eu defnyddio er budd un neu fwy o bobl (y buddiolwyr).
Yn yr enghraifft uchod, eich ffrind fyddai’r ymddiriedolwr, eich arian fyddai eiddo’r ymddiriedolaeth, a chi fyddai’r buddiolwr – y person sy’n cael budd o’r ymddiriedolaeth.
Gallwch roi arian, buddsoddiadau neu asedau eraill yn yr ymddiriedolaeth. Gan ddibynnu ar y math o ymddiriedolaeth a ddefnyddiwch, efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ac efallai y bydd rhaid i’r ymddiriedolwyr gwblhau ffurflenni treth.
Pryd y gallech ddefnyddio ymddiriedolaeth
Efallai y byddwch yn sefydlu ymddiriedolaeth:
- i gefnogi rhywun sy’n methu rheoli ei arian – er mwyn darparu ar gyfer ei anghenion, hyd yn oed pan na fyddwch yn gallu ei helpu, neu
- i sicrhau y defnyddir eich arian eich hun i ofalu amdanoch os na fyddwch yn gallu gofalu amdanoch eich hun.
Gall ymddiriedolaeth fod yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych blentyn sydd â chyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu ac rydych yn poeni am sut y bydd yn ymdopi’n ariannol ar ôl i chi farw.
Gallant hefyd helpu rhywun â chyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu sy’n hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, fel Lwfans Byw i’r Anabl (neu’r Taliad Annibyniaeth Personol), neu’n cael cymorth ariannol gan ei adran gwasanaethau cymdeithasol lleol.
Gellir gwneud y taliadau budd-dal i’r ymddiriedolwyr, a fydd yn eu defnyddio yn ôl rheolau’r ymddiriedolaeth.
Mae pobl yn aml yn sefydlu ymddiriedolaethau i blant.
Sut i sefydlu ymddiriedolaeth
Mae rhaid i eiriad ymddiriedolaeth fod yn fanwl gywir, felly dylech ofyn i gyfreithiwr ei sefydlu.
Mae Cymdeithasau’r Gyfraith yn cadw cronfeydd data chwiliadwy i’ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys yn eich ardal.
Dewch o hyd i gyfreithiwr yn:
- Cymru a Lloegr: Cymdeithas y Gyfraith
- Yr Alban: The Law Society of Scotland
- Gogledd Iwerddon: Law Society of Northern Ireland
Dewis eich ymddiriedolwyr
Mae rhaid i chi ddewis pobl i fod yn ymddiriedolwyr, fel arfer aelodau o’r teulu neu ffrindiau agos rydych yn gwybod y gallwch ddibynnu arnynt. Meddyliwch yn ofalus am bwy i ofyn iddynt, a sicrhewch eu bod yn hapus i gymryd y cyfrifoldeb.
Dylech gael o leiaf dau ymddiriedolwr, ond dim mwy na thri neu bedwar fwy na thebyg.
Fel arall, gallwch benodi cwmni fel eich ymddiriedolwr, fel banc neu gwmni o gyfreithwyr – ond cofiwch y byddant yn codi tâl.
Faint mae’n ei gostio i sefydlu ymddiriedolaeth?
Gall fod yn ddrud gofyn i gyfreithiwr sefydlu ymddiriedolaeth ar eich rhan – fel arfer tua £1,000 neu’n fwy. Ond mae defnyddio cyfreithiwr yn eich helpu i osgoi camgymeriadau costus, er enghraifft os yw geiriad eich ymddiriedolaeth yn amwys neu’n gamarweiniol.
Mae gan rai elusennau gynlluniau ble y maent yn cyfrannu tuag at gostau rhieni i sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer plentyn anabl.
Sut y mae’ch cyngor lleol yn trin incwm a chyfalaf o ymddiriedolaeth?
Os ydych angen gofal hirdymor ac yn fuddiolwr ymddiriedolaeth, bydd eich cyngor lleol yn ystyried yr incwm a’r cyfalaf y mae hawl gennych i’w derbyn wrth iddynt eich asesu yn ariannol ar gyfer derbyn eu cefnogaeth.
Bydd sut mae arian mewn ymddiriedolaeth yn cael ei drin yn dibynnu ar delerau’r ymddiriedolaeth.
Hawliad absoliwt i’r cyfalaf
Os oes gennych fynediad at y cyfalaf a gedwir yn yr ymddiriedolaeth yna bydd hyn yn cael ei drin gan yr awdurdod lleol fel cyfalaf rydych yn berchen arno.
Hawliad absoliwt i incwm
Os nad oes gennych fynediad i’r cyfalaf yn yr ymddiriedolaeth ond bod gennych hawl i dderbyn incwm ohono mae’r cyfalaf yn cael ei ddiystyru ac mae’r incwm yn cael ei ystyried.
Hawliad absoliwt i gyfalaf ac incwm
Os oes gennych fynediad at y cyfalaf a’r incwm mewn ymddiriedolaeth mae gwerth yr incwm hwnnw ynghyd â’r cyfalaf yn cael eu trin fel cyfalaf rydych yn berchen arno.
Ymddiriedolaethau Diamod
Os oes gennych dim ond hawl i dderbyn taliadau gan ymddiriedolaeth ar ddisgresiwn yr ymddiriedolwyr, gall y cyngor lleol ddim ond ystyried yr union daliadau rydych yn eu derbyn.
Mae rhai ymddiriedolaethau penodol yn cael eu heithrio o asesiad ariannol cynghorau lleol am ffioedd gofal. Er enghraifft, gwerth cyllid a ddelir mewn ymddiriedolaeth – neu a weinyddir gan lys – sy’n dod o daliad am anafiad personol i’r person.
Os ydych angen gofal a’ch bod yn trosglwyddo’ch arian i ymddiriedolaeth i osgoi prawf modd ar gyfer cefnogaeth awdurdod lleol bydd bron yn bendant yn cael ei drin fel amddifadedd bwriadol o asedau.
Mwy o wybodaeth am ymddiriedolaethau
Gallwch gael llawer mwy o wybodaeth am ymddiriedolaethau – gan gynnwys y mathau o ymddiriedolaethau a sut y cânt eu trin at ddibenion treth – ar wefan GOV.UK