Hunangyllido’ch gofal hirdymor: eich dewisiadau

Ychydig iawn ohonom all fforddio talu’r gost uchel o ofal hirdymor allan o’n hincwm rheolaidd. Ond peidiwch â phoeni - mae ffyrdd eraill o ariannu’ch gofal.

Pam y gallai fod angen i chi dalu am ofal hirdymor

  • Nid ydych yn gymwys am gyllid cyngor lleol neu Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yng Ngogledd Iwerddon.
  • Rydych yn dymuno gwella’ch gofal gartref drwy dalu ychydig mwy.
  • Rhaid i chi dalu mwy i lenwi’r bwlch yn y ffioedd gofal tra bod yr awdurdod lleol yn cyllido eich gofal yn ystod cyfnod lle mae cytundeb gohirio talu.

Gwiriwch eich hawliau a holi’r cwestiynau cywir

Cyn i chi wneud dim, gwiriwch eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau’r Wladwriaeth a budd-daliadau eraill mae gennych hawl iddynt - nid yw rhai o’r rhain yn destun prawf modd.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio’r holl gynghorau lleol, neu yng Ngogledd Iwerddon Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac opsiynau cyllid GIG hefyd.

Os ydych chi’n symud i gartref gofal a bod eich eiddo felly’n wag, yna dylech gael eich eithrio’n llawn rhag talu Treth CyngorYn agor mewn ffenestr newydd hyd nes ei fod yn cael ei werthu.

Gall cwestiynnau eraill i’w hystyried gynnwys:

  • A yw’r gofal rydych chi’n ei ddewis yn fforddiadwy yn yr hirdymor?
  • A ydych chi wedi cael asesiad o’ch anghenion gan y cyngor lleol, neu Ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) yng Ngogledd Iwerddon, ac a fyddent yn talu ffioedd cartref gofal rydych chi wedi’i ddewis pe bai’n rhaid i chi ddibynnu ar eu cyllid?
  • Neu a fyddai darparwr y gofal yn parhau i gynnig llety i chi ar gyfraddau’r awdurdod lleol?

Sut i ariannu’ch gofal hirdymor

Cynllun talu ffioedd gofal gydag angen uniongyrchol

Mae hwn wedi’i ddylunio i roi cymorth os byddwch angen gofal ar unwaith. Yn gyfnewid am fuddsoddi lwmp swm, cewch cynnig incwm gwarantedig am oes.

Prynu cartref llai

Gallai gwerthu eich cartref presennol a phrynu un llai a rhatach ryddhau ychydig o arian i dalu am eich costau gofal.

Defnyddio’r diystyriaeth eiddo 12-wythnos

Beth ydyw?

Os oes angen i chi fyw mewn cartref gofal yn barhaol a bod angen i chi ddefnyddio’r gwerth sydd yn eich eiddo i dalu am ffioedd eich cartref gofal, gallech fod yn gymwys i gael cefnogaeth ariannol gan eich cyngor lleol am hyd at 12 wythnos.

Os ydych yn gymwys, rhaid i’r cyngor beidio â chynnwys gwerth eich eiddo yn eich asesiad ariannol am 12 wythnos. Gelwir hyn yn ddiystyriaeth eiddo 12-wythnos. Gan ddibynnu ar lefel eich incwm a chynilion eraill, gallai eich cyngor lleol gyfrannu at eich ffioedd cartref gofal yn ystod y cyfnod hwn, neu hyd nes y gwerthir eich eiddo, os bydd hynny’n digwydd yn gyntaf.

Pwy sy’n ei gael?

I fod yn gymwys bydd angen i’ch cynilion - cyfalaf ac eithrio gwerth eich eiddo - fod yn llai na’r trothwy cynilion. Yn 2022/23, mae hyn yn:

  • £23,250 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • £28,500 yn yr Alban
  • £50,000 yng Nghymru - gofal mewn cartref gofal.

Wedi dweud hynny, bydd y swm a gewch gan cynghorau lleol yn amrywio.

Felly os hoffech fynd i gartref gofal sydd yn fwy costus na’r hyn a gytunodd eich cyngor lleol neu HSC i dalu amdano, bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i’r arian ychwanegol yn ystod y 12 wythnos neu ddod o hyd i ddewis rhatach.

Gall unigolion sydd heb lwyddo i werthu eu cartrefi i dalu am eu gofal, neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, arwyddo cytundeb taliadau gohiriedig gyda’r cyngor lleol, sy’n golygu y bydd y cyngor yn parhau i dalu tuag at eu ffioedd cartref gofal.

Dyma rai enghreifftiau o sut mae cynilion yn effeithio costau gofal:
  • Mae Jane yn berchen ar ei chartref ac mae ganddi £10,000 mewn cynilion. Golyga hyn bod ganddi hawl i gael 12 wythnos o ofal am ddim. Mae hyn oherwydd bod ganddi lai na £23,250 mewn cynilion a’i bod yn Lloegr.
  • Mae gan David £25,000 mewn cynilion. Mae dros y trothwy, sy’n £23,250. Cymerwn fod un wythnos mewn gofal yn £1,000. Byddai’n rhaid i David dalu am ei ofal ei hun am bythefnos, tan i’w gynilion ddisgyn o dan y trothwy o £23,250.
  • Mae gan Emma £50,000 mewn cynilion. Hyd yn oed petai ei gofal yn costio £1,000 yr wythnos, byddai'n gwario £12,000 dros y 12 wythnos, gan ei adael gyda £38,000. Ond, byddai hyn yn golygu y byddai dros y trothwy £23,250 o hyd, ac felly ni fyddai’n cael gofal am ddim.

Rhyddhau ecwiti

Mae hwn yn rhoi lwmp swm neu incwm cyson i chi i dalu am eich gofal gan ddefnyddio’r arian sydd wedi ei glymu i mewn i’ch tŷ, tra rydych yn dal i fyw yno.

Rhaid i’r arian gael ei dalu’n ôl ymhen amser pan fydd y tŷ wedi ei werthu.

Dim ond ar ôl pwyso a mesur yr holl ddewisiadau eraill y dylech chi ystyried cynllun rhyddhau ecwiti.

Bondiau buddsoddi

Gallwch ddefnyddio bondiau buddsoddi i roi cymorth i ariannu eich gofal.

Er hyn, nid oes sicrwydd y bydd yr elw’n cwrdd â chost eich gofal ac na fydd eich arian wedi ei glymu am amser hir. Felly, nid ydynt yn un o’r dewisiadau gorau fel rheol.

Cynlluniau gwerthu-a-rhentu’n-ôl

Mewn cynllun gwerthu-a-rhentu’n-ôl, byddwch yn gwerthu’ch cartref am bris gostyngol.

Yn gyfnewid, byddwch yn cael aros yno fel tenant sy’n talu rhent am gyfnod penodol. Gelwir hyn yn gyfnod sefydlog.

Gall hyn ymddangos fel syniad da os ydych yn dymuno aros yn eich cartref ac angen talu am ofal.

Fodd bynnag, dim ond pan fydd pethau wedi dod i’r pen y dylech chi ystyried y cynlluniau gwerthu-a-rhentu’n-ôl. Y rheswm am hyn yw:

  • cewch lai o arian am eich cartref na phetaech yn ei werthu ar y farchnad agored
  • fyddwch chi ddim wedyn yn berchen ar eich cartref eich hun a bydd angen i chi dalu rhent - gallai hyn lyncu’r arian y gallech fel arall fod yn ei wario ar ofal
  • gallai eich rhent godi yn ystod cyfnod sefydlog eich tenantiaeth
  • efallai y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref ar ôl i gyfnod sefydlog eich cytundeb tenantiaeth ddod i ben
  • gallech fod mewn perygl o gael eich troi allan os torrwch delerau’ch tenantiaeth - er enghraifft, os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch rhent
  • os bydd y person neu’r cwmni sy’n prynu eich cartref yn mynd i anawsterau ariannol, gallai eich cartref gael ei adfeddiannu.

Mae’n bwysig peidio ag arwyddo cytundeb gwerthu-a-rhentu’n-ôl newydd heb gael cyngor annibynnol yn gyntaf am eich dewisiadau eraill.

Dewisiadau eraill ar gyfer ariannu eich gofal hirdymor

  • Rhentu eich cartref allan.
  • Defnyddio cynilion neu werthu cyfranddaliadau.
  • Gwerthu rhai o’ch meddiannau fel gwaith celf, hen greiriau neu bethau a gasglwyd gennych.
  • Chwilio am bolisïau yswiriant a allai ddiogelu costau gofal.

Mewn rhai ardaloedd, ceir cynlluniau o’r enw ‘Homeshare’.

Mae hyn yn golygu cael rhywun i rannu eich cartref yn gyfnewid am ychydig o gymorth, fel coginio prydau bwyd neu nôl neges.

Ni fydd hyn yn addas os byddwch angen gofal mwy dwys.

Camau nesaf

Mae dewis sut i dalu am eich gofal hirdymor yn benderfyniad mawr. Mae’n bwysig siarad â chynghorydd ariannol annibynnol i drafod pa opsiwn yw’r un gorau i chi.

Chwiliwch am gynghorydd sydd â’r cymhwyster CF8 arbenigol. Golyga hyn eu bod yn gymwys i gynghori ar ariannu gofal hirdymor.

Byddant yn gallu egluro’r holl gostau a’r risgiau, a rhoi cymorth ar bethau eraill, megis trefnu eich ewyllys neu sefydlu pŵer atwrnai.

Y nod yn y pen draw yw gwneud y mwyaf o’ch incwm er mwyn talu costau gofal gan geisio gwarchod eich cyfalaf gwreiddiol gymaint â phosib.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.