Os oes angen gofal arnoch, y cam cyntaf yw gweithio allan pa lefel sydd ei hangen arnoch ac a allwch ei fforddio. Byddwn yn eich arwain drwy’r broses, gan gynnwys sut i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Trefnwch eich arian yn gyntaf
Mae rhoi trefn ar eich arian yn gynnar yn eich helpu chi a'ch anwyliaid i wneud penderfyniadau cyflym am eich gofal. Gallwch:
- Siarad â nhw am sut rydych am i'ch arian gael ei reoli, fel y gallant gamu i mewn os oes angen.
- Ystyried gwneud a chofrestru pwer atwrnai ar gyfer rheolaeth gyfreithiol dros eich arian.
- Ysgrifennu neu ddiweddaru eich ewyllys i sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu dilyn, gan wneud pethau'n haws i'ch anwyliaid.
Gwiriwch a oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau
Gweler ein canllaw Budd-daliadau i helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal i ddarganfod beth y gallech fod â hawl iddo. Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliadau ychwanegol a allai roi hwb i’ch incwm, megis:
- Lwfans Gweini – os ydych yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu drosodd ac angen cymorth gyda gofal personol oherwydd salwch neu anabledd.
- Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Daliad Anabledd Oedolion – os ydych dros 16 oed ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
- Lwfans Byw i'r Anabl – os ydych o dan 16 oed.
Ystyriwch a allai teulu ofalu amdanoch yn lle hynny
Gallai symud i mewn gyda theulu weithio’n dda, ond gall gael effaith sylweddol ar ffordd o fyw pawb. Mae’n bwysig i fod yn realistig a gwneud yn siŵr bod yr un disgwyliadau gan bawb.
Dyma bethau i'w hystyried:
- pwy fyddai'n darparu'r gofal sydd ei angen arnoch chi?
- faint o rent a biliau fyddech chi'n eu talu (os o gwbl)?
- pwy fyddai'n talu am unrhyw addasiadau i'r cartref?
- beth sy'n digwydd os ydych yn cweryla neu os nad yw cydfyw yn gweithio?
Gallai symud i mewn gyda rhywun arall hefyd effeithio ar eich arian (a’u harian hwy), fel:
- newid hawl i fudd-daliadau neu ostyngiadau Treth Gyngor ac Ardrethi
- peidio â bod yn gymwys i gael cymorth os ydych yn gwerthu eich tŷ.
Mae’n bwysig felly amddiffyn eich hun drwy gael cyngor cyfreithiol annibynnol, a allai gynnwys cytundeb ffurfiol. Gweler Solicitors For The ElderlyYn agor mewn ffenestr newydd am fwy o wybodaeth.
Efallai y bydd yn ymddangos yn lletchwith i drafod y pethau hyn, ond dylai helpu i sicrhau mai dyma’r opsiwn gorau i bawb.
Mae ein canllaw Siarad gyda phobl hŷn am arian yn cynnwys awgrymiadau i'ch helpu i ddechrau'r sgwrs.
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cyllid
Efallai y telir am rywfaint o'ch gofal, neu'r cyfan ohono, yn dibynnu ar eich anghenion a'ch arian. Dyma sut i wirio.
1. Efallai y bydd y GIG yn talu os oes gennych anabledd neu broblem feddygol
Weithiau, mae’r GIG yn talu am gostau cartrefi gofal i bobl ag anghenion iechyd difrifol. Mae dwy ffordd iddynt wneud hyn:
- Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn cwmpasu gofal meddygol parhaus i'r rhai sydd ag anghenion iechyd cymhleth oherwydd anabledd, damwain neu salwch mawr.
- Gall Gofal Nyrsio a ariennir gan y GIG (Hospital Based Complex Clinical Care yn yr Alban) helpu i dalu ffioedd cartrefi gofal os bydd y GIG yn penderfynu bod angen gofal nyrsio arnoch.
Nid yw'r rhain yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol, ond mae rheolau llym ar gyfer pwy sy'n gymwys. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ydw i'n gymwys i gael cyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
2. Gofynnwch am asesiad anghenion gofal
Mae asesiad anghenion gofal yn penderfynu pa lefel o ofal a chymorth sydd ei angen arnoch, yn seiliedig ar ba mor dda y gallwch reoli tasgau bob dydd. Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol neu'ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Chymdeithasol am un, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw.
Os ydych yn byw yn: | Cysylltwch â’ch: |
---|---|
Cymru neu Loegr |
|
Gogledd Iwerddon |
|
Yr Alban |
3. Paratoi ar gyfer asesiad ariannol
Os bydd eich asesiad anghenion gofal yn dangos bod angen gofal â thâl arnoch, fel lle mewn cartref gofal neu i rywun ymweld â'ch cartref, bydd asesiad ariannol yn cael ei drefnu. Diben y ‘prawf modd’ hwn yw penderfynu a allwch fforddio talu am y cyfan eich hun, neu a ydych yn gymwys i gael unrhyw gyllid.
Fel arfer gofynnir i chi am eich:
- incwm rheolaidd – fel enillion, budd-daliadau a phensiynau, a
- cyfalaf – fel cynilion, buddsoddiadau, tir, eiddo ac asedau busnes.
Er mwyn helpu i baratoi, casglwch wybodaeth ar gyfer unrhyw gyfrif sydd gennych neu incwm a gewch. Er enghraifft:
- cyfrifon cynilo, gan gynnwys ISAs a bondiau premiwm
- buddsoddiadau, gan gynnwys cyfranddaliadau yr ydych yn berchen arnynt
- eiddo neu dir yn eich enw, a
- treuliau sy’n gysylltiedig ag anabledd sydd gennych.
Os oes gennych gyllid ar y cyd, fel cyfrif cynilo gyda’ch partner, neu’n berchen ar gartref gyda’ch gilydd, rhagdybir bod gennych chi gyfran gyfartal – oni bai y gallwch brofi fel arall.
Mae cyllid yn dibynnu ar faint o arian sydd gennych
Fel arfer bydd disgwyl i chi ddefnyddio rhan o’ch incwm i helpu i dalu am ofal. Ond nid yw rhai fel arfer yn cyfrif, fel incwm o waith cyflogedig.
Os yw eich cyfalaf yn werth mwy na’r terfynau canlynol, fel arfer bydd angen i chi dalu costau llawn eich gofal eich hun:
- £23,250 os ydych yn byw yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon
- £29,750 os ydych yn byw yn yr Alban
- £24,000 ar gyfer gofal yn y cartref neu £50,000 os oes angen cartref gofal os ydych yn byw yng Nghymru.
Os yw’n llai, fel arfer cymerir yn ganiataol eich bod yn cael incwm o rywfaint ohono. Mae hyn yn cael ei gyfrifo ar gyfradd benodol, a elwir yn incwm tariff.
Efallai na fydd gwerth eich cartref yn cael ei gyfrif
Os ydych yn berchennog tŷ, nid yw gwerth eich cartref fel arfer yn cael ei gyfrif os:
- byddech yn dal i fyw yno, i dderbyn gofal yn y cartref
- rydych yn symud i gartref gofal, ond mae rhai pobl penodol yn dal i fyw yno, fel:
- eich gŵr, gwraig, partner neu bartner sifil
- perthynas agos nad ydynt yn gallu gofalu am eu hunain neu sy'n 60 oed a throsodd
- perthynas agos o dan 16 oed yr ydych yn eu cynnal yn gyfreithiol
- eich cyn-ŵr, cyn-wraig, cyn bartner sifil neu gyn bartner os ydynt yn rhiant unigol.
Efallai y bydd amgylchiadau eraill hefyd, megis pe bai eich gofalwr blaenorol wedi rhoi’r gorau i’w cartref i fyw gyda chi.
Sut caiff eich pensiwn ei asesu
Os nad ydych yn derbyn incwm pensiwn eto, ni fydd eich cyngor lleol neu HSCNI yn ystyried eich pensiwn nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd – 66 oed ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf.
Fel arfer byddant yn gwirio faint y byddech yn ei gael pe baech wedi prynu incwm gwarantedig am oes, a elwir yn flwydd-dal. Gellir defnyddio’r ffigwr hwn hefyd os ydych yn penderfynu cymryd cyfandaliad a chadw’r gweddill wedi’i fuddsoddi (a elwir yn incwm hyblyg).
Os ydych yn cymryd cyfandaliadau neu’ch cronfa gyfan ar yr un pryd a’i gynilo neu ei fuddsoddi, caiff hyn wedyn ei drin fel cyfalaf neu incwm, yn dibynnu ar y gwerth.
Am fwy o help, rydym yn cynnig arweiniad pensiynau am ddim naill ai ar-lein neu dros y ffôn.
Caiff eich asedau eu cyfrif hyd yn oed os byddwch yn eu rhoi i ffwrdd
Efallai y bydd rhai pobl yn ystyried rhoi eu tŷ neu eu hasedau i aelod o’r teulu er mwyn osgoi iddynt gael eu cyfrif mewn asesiad ariannol.
Ond gellir ystyried hyn fel ‘amddifadedd o asedau’ bwriadol ac mae’n golygu y byddant yn dal i ystyried eu gwerth wrth asesu eich cyllid. Gelwir hyn yn 'gyfalaf tybiannol'.
Os ydych yn byw yn: | Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar: |
---|---|
Lloegr |
|
Gogledd Iwerddon |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
4. Byddwch yn cael gwybod a ydych yn gymwys i gael cyllid
Anfonir llythyr atoch yn egluro cost eich gofal a faint sydd angen i chi ei dalu. Fel arfer mae tri chanlyniad. Byddwch naill ai:
- yn cael yr holl gostau wedi'u talu
- angen talu cyfran, neu
- angen ariannu'r cyfan eich hun.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut y cyfrifwyd eich asesiad ariannol, gallwch ofyn i'r cyngor neu HSCNI ei esbonio i chi.
Os ydych yn gymwys am gyllid
Os ydych yn gymwys i gael cymorth, byddwch fel arfer yn derbyn cyllideb bersonol mewn un o ddwy ffordd:
- taliad uniongyrchol i'ch cyfrif banc bob mis, neu
- mae eich cyngor lleol neu HSCNI yn rheoli eich gofal ac yn anfon bil rheolaidd atoch os oes gennych unrhyw beth i'w dalu.
Os oes angen cartref gofal arnoch, dylech gael cynnig dewis sy'n addas i'ch anghenion. Ond efallai y gallwch ddewis cartref gofal drutach os bydd rhywun arall yn talu'r swm ychwanegol, a elwir yn ffi atodol.
Gallai hyn fod gan deulu a ffrindiau neu gronfa elusen. Darganfyddwch fwy am ffioedd ychwanegol cartrefi gofal ar Age UK
Os oes angen i chi werthu eich cartref i dalu am eich gofal, byddwch yn cael gwybod a ydych yn gymwys i gael diystyriad eiddo am 12 wythnos. Dyma lle nad yw gwerth eich cartref wedi’i gynnwys yn eich asesiad ariannol am 12 wythnos, gan roi amser i chi ei werthu neu ystyried opsiynau eraill. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyngor lleol yn cyfrannu at eich ffioedd cartref gofal.
Os nad ydych am werthu eich cartref (neu ei bod yn anodd ei werthu), gallwch ofyn am gytundeb taliad gohiriedig. Mae hyn yn golygu bod eich cyngor lleol i bob pwrpas yn rhoi benthyg yr arian i chi dalu am eich costau gofal. Yna caiff y ddyled ei had-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu. Nid oes system taliadau gohiriedig ffurfiol yng Ngogledd Iwerddon. Ond gallwch siarad â'ch cynogr lleol o hyd.
Os oes rhaid i chi ariannu eich costau gofal eich hun
Os nad ydych yn gymwys am gyllid, chi fydd yn gyfrifol am dalu cost lawn eich gofal. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'ch cyngor neu HSCNI adolygu eich cyllid yn flynyddol. Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
5. Bydd angen i chi ofyn am asesiad ariannol newydd os bydd pethau'n newid
Os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid, megis dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth neu etifeddu arian, bydd angen i chi ofyn am asesiad ariannol newydd.
Gallai hyn olygu eich bod yn dod yn gymwys am fwy neu lai o gymorth ariannol. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n bwysig dweud wrth eich cyngor lleol neu HSCNI am unrhyw newidiadau i sicrhau eich bod yn cael y cymorth priodol.
Sut i gael cyngor ar dalu am ofal
Os oes gennych chi gynilion a chyfalaf ac eisiau gweithio allan y ffordd orau o dalu am ofal, mae’n bwysig cael cyngor.
Mae ymgynghorydd ffioedd gofal arbenigol yn ymgynghorydd ariannol sy'n arbenigo mewn ariannu gofal hirdymor. Byddant yn eich helpu i gymharu eich holl opsiynau cyn i chi benderfynu beth sy'n iawn i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i ariannu gofal – sut i gael cyngor.
Gwiriwch am bolisïau yswiriant i helpu i dalu costau gofal
Cyn talu am ofal, gwiriwch a allwch hawlio ar bolisi yswiriant presennol. Os oes gennych yswiriant iechyd, gallai helpu i dalu costau. Chwiliwch am bolisïau fel:
- yswiriant bywyd gyda gwerth arian parod neu daliad ar gyfer salwch terfynol, cyn belled nad oes ei angen ar ddibynyddion
- yswiriant bywyd gydag yswiriant salwch critigol
- yswiriant gofal hirdymor, a allai gael ei gynnwys mewn polisïau hŷn
- buddion cyflogwr, fel pensiynau cynnar neu gyfandaliadau ar gyfer salwch terfynol
- polisïau diogelu incwm personol sy'n darparu incwm os na allwch weithio oherwydd salwch.
I hawlio, casglwch yr holl waith papur gwreiddiol a chysylltwch â'ch brocer os prynwyd y polisi trwy un.