Cael tŷ llai i ariannu eich gofal hirdymor

Rydych angen dod o hyd i ffordd i hunangyllido eich gofal hirdymor ac mae gennych gartref sydd yn rhy fawr i’ch anghenion. Allai’r ateb fod yn hollol syml?

Ai cael cartref llai yw’r ateb o bosib?

Gall gwerthu eich cartref presennol a phrynu un llai a rhatach rhyddhau ychydig o’r arian sydd ei wir angen arnoch i dalu am eich costau gofal.

Gallai hefyd roi cyfle i chi fyw yn rhywle a all ddarparu ar gyfer eich anghenion yn well nawr ac yn y dyfodol.

Yn ogystal â symud i gartref llai, gallech hefyd ystyried opsiynau eraill. Er enghraifft byngalo, eiddo ymddeol, tai gwarchod neu dai gofal ychwanegol.

Mae tai cysgodol a gofal ychwanegol yn glystyrau o gartrefi sy’n rhannu cyfleusterau, fel warden ar y safle a digwyddiadau cymdeithasol. Maent fel arfer ar gael i’w rhentu gan awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac elusennau. Os ydych am brynu, mae tai cysgodol hefyd ar gael gan rai datblygwyr preifat.

Am ragor o wybodaeth am dai cysgodol, gweler gwefan Age UK

I ddarganfod tai cysgodol sydd ar werth, defnyddiwch y teclyn chwilio ar-lein Cartrefi Gofal

Sut mae symud i gartref llai yn cymharu ag opsiynau eraill?

Mae cael cartref llai yn ymddangos fel dewis llawer symlach na rhai o’r dewisiadau hunangyllido eraill sydd ar gael. Ond, mae llawer o bethau i’w hystyried.

Cartref llai neu ryddhau ecwiti

Ni fydd cael cartref llai yn debygol o godi cymaint o arian â’r cynllun rhyddhau ecwiti. Ond bydd fel arfer yn ddewis mwy cost effeithiol mae’n debyg.

Mae morgeisi gydol oes yn caniatáu i chi fenthyg dim ond rhan o werth eich cartref. Ond gallai’r ad-daliad yn y pen draw, pan fydd eich cartref yn cael ei werth,  gymryd y rhan fwyaf o werth yr eiddo pan fydd y llog wedi’i ychwanegu.

Ac yn llai cyffredin, mae cynlluniau gwrthdroi cartref - lle rydych yn gwerthu’ch cartref cyfan neu ran ohono ond yn cael parhau i fyw ynddo - dim ond byth yn cynnig ffracsiwn o werth marchnad eiddo. Pan fyddwch yn lleihau maint y cartref, rydych yn gwerthu’ch eiddo ar y farchnad agored ac yn cael y gwerth llawn - ar ôl tynnu costau prynu a gwerthu.

Prynu cartref llai i brynnu cynllun talu ffi gofal angen brys

Math o flwydd-dal yw’r cynllun talu ffi gofal angen brys.

Rydych yn talu cyfandaliad ac yn cael incwm sicr am weddill eich bywyd. Cyn belled â bod yr incwm yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r darparwr gofal, mae’n ddi-dreth.

Gall hyn roi’r sicrwydd i chi o wybod y byddwch yn cael taliad rheolaidd tuag at gostau eich gofal cyhyd ag y bydd ei angen arnoch.

Ffordd boblogaidd o godi’r cyfandaliad i brynu’r cynllun yw lleihau maint eich cartref neu gymryd cynllun rhyddhau ecwiti allan.

Prynu cartref llai a buddsoddiadau

Efallai y byddwch yn bwriadu rhoi’r elw o symud i gartref llai mewn i gyfrif cynilo neu fuddsoddiadau, y byddwch wedyn yn ei gyfnewid o bryd i’w gilydd i dalu am eich gofal.

Cofiwch fod yr enillion ar gynilion arian parod yn isel iawn ar hyn o bryd, a bydd prisiau yn codi (chwyddiant) yn lleihau gwerth eich cynilion. Efallai na fyddant yn talu’r costau gofal am gyn gymaint ag yr oeddech yn gobeithio.

Pe baech yn defnyddio buddsoddiadau i dalu am eich gofal, gallai’r elw a wnewch gynyddu neu leihau gyda gwerth y cronfeydd ac efallai’n profi’n annigonol ar gyfer eich costau gofal.

Prynu cartref llai neu yswiriant

Nid yw yswiriant i dalu costau gofal ar gael yn eang ac mae’n ddrud. Os oes gennych bolisi y gwnaethoch ei gymryd allan yn y gorffennol, nid yw o reidrwydd yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch.

Gyda lleihau maint eich cartref, rydych yn cadw rheolaeth ar eich cyllid ac yn gallu defnyddio’r arian rydych yn ei godi i brynu’ch dewis o wasanaethau gofal.

Manteision eraill o symud i gartref llai

Gall symud i fynglo, fflat a wasanaethir mewn pentref ymddeol neu dai gwarchod gynnig manteision eraill nad ydych wedi eu hystyried:

  • Gall eich cartref newydd fod yn haws i’w gynnal.
  • Gall mynediad fod yn haws, felly gallwch aros yn eich cartref am gyfnod hirach.
  • Gall symud leihau eich costau gofal, er y gall addasiadau i’r eiddo newydd – megis lifft grisiau, neu ymestyn neu addasu’r llawr gwaelod – fod yn ddrud.

Edrychwch ar y ffigyrau

Dechreuwch drwy weithio allan faint all eich gofal gostio. Yna edrychwch ar faint allwch ei roi tuag at y gost drwy symud i gartref rhatach.

Byddwch yn realistig – mae’r rhai sydd yn symud i gartref llai yn aml yn or-hyderus ynglŷn â faint o arian y gallant ei gynhyrchu.

Gall hyn fod oherwydd eu bod wedi gor-amcangyfrif beth yw gwerth eu heiddo, neu nad ydynt wedi prisio gwerth y cartref rhatach yn gywir, neu’r gost o symud i mewn.

Cam 1 – Faint fydd eich costau gofal yn debygol o fod?

Cyfrifwch gyfanswm cost eich gofal drwy ddefnyddio'r cyfrifiannnell costau gofal ar payingforcare.orgYn agor mewn ffenestr newydd 

Cam 2 – Faint allwch chi ei godi drwy brynu cartref rhatach?

Edrychwch faint fydd gwerth eich cartref presennol, ynghyd â chostau tebygol cartref rhatach. Defnyddiwch arweiniad prisio eiddo ar lein, megis Zoopla

Cam 3 – Gweithiwch allan faint fydd yn ei gostio i chi symud

Amcangyfrifwch eich costau drwy ddefnyddio ein canllaw Y gost o brynu tŷ a symud

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amcangyfrifon cywir

Mae gweithio allan a yw prynu cartref rhatach yn debygol o godi digon o arian i dalu am gost eich gofal yn waith difrifol.

Peidiwch â dim ond cymryd cipolwg ar y ffigyrau – ewch i gael prisiau pendant gan bawb sy’n rhan o’r fenter.

Pethau eraill i’w hystyried

  • Efallai yr hoffech aros mewn ardal benodol - er enghraifft oherwydd ei bod yn agos at deulu, ffrindiau neu’ch meddyg teulu.
  • Ni fydd eiddo llai, fel byngalos, bob amser yn rhatach na’r cartref mwy rydych chi’n ei werthu.
  • Gall tai cysgodol fod yn eithaf drud i’w prynu. Ac yn aml bydd taliadau blynyddol i’w talu, fel taliadau gwasanaeth a ‘rhent daear’ os yw’n eiddo prydlesol. Darganfyddwch fwy am eiddo prydlesol yn ein canllaw Rhydd-ddaliad neu lesddaliad: Beth yw’r gwahaniaeth?
  • Gallai costau gofal godi wrth i chi heneiddio neu os byddwch yn mynd yn sâl. Felly cofiwch ystyried hynny yn eich cyfrifiadau.
  • Fel dewis olaf, serch hynny, os byddwch yn lleihau maint eich cartref, bydd gennych ecwiti yn yr eiddo llai rydych yn ei brynu. Gallwch bob amser ryddhau hwn yn nes ymlaen os bydd ei angen arnoch chi.

Yn olaf, ystyriwch y manteision a’r anfanteision eraill o leihau maint eich cartref sy’n mynd y tu hwnt i’ch cyllid:

  • Gall gwerthu a phrynu fod yn broses llawn straen. Ac fe allai symud i eiddo llai neu leoliad newydd effeithio ar ansawdd eich bywyd.
  • Ond gall lleihau eich cartref hefyd wneud eich bywyd o ddydd i ddydd yn haws. Ac efallai y bydd yn rhoi cyfle i chi symud yn agosach at ffrindiau neu berthnasau.

Mae’r Elderly Accommodation Counsel yn elusen sy’n gallu eich helpu i ddod o hyd i eiddo ymddeol. Mae ganddynt offeryn defnyddiol ‘How well does your home suit you?’ i’ch helpu i asesu addasrwydd eich cartref.

Darganfyddwch fwy ar wefan EAC

Camau nesaf

Dim ond un o’r ffyrdd posibl o hunangyllido gofal hirdymor yw prynu cartref rhatach.

I ymchwilio i’r dewisiadau ac ystyried pa un yw’r gorau i’ch amgylchiadau personol chi, siaradwch ag ymynghorydd ariannol.

Yn enwedig os nad ydych wedi bod trwy’r broses o werthu eiddo ers peth amser.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.