Beth yw ymddiriedolwr?

Mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu eich bod yn cymryd cyfrifoldeb am arian sydd wedi’i neilltuo mewn ymddiriedolaeth ar gyfer rhywun arall. Byddwch yn rheoli’r arian ar eu rhan, gan ei ddefnyddio er eu lles gorau yn unig, ac yn ufuddhau i reolau’r ymddiriedolaeth.

Beth yw ymddiriedolaeth?

Mae ymddiriedolaeth yn ffordd o reoli arian neu asedau eraill ar ran rhywun arall.

Mae tri unigolyn allweddol ynghlwm ag unrhyw ymddiriedolaeth:

  • y setlwr - yr unigolyn sy’n rhoi’r asedau neu’r arian i mewn i’r ymddiriedolaeth (Gelwir y person hwn yn ‘Granter’ yn yr Alban)
  • y buddiolwr - yr unigolyn sy’n cael budd o’r ymddiriedolaeth
  • yr ymddiriedolwr - yr unigolyn sy’n rheoli’r ymddiriedolaeth.

Y setlwr sy’n gyfrifol am benodi’r ymddiriedolwr i weinyddu’r ymddiriedolaeth a phenderfynu pwy yw buddiolwyr yr ymddiriedolaeth.

Gall fod mwy nag un setlwr, buddiolwr neu ymddiriedolwr sydd ynghlwm ag ymddiriedolaeth.

Gallai rhywun sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer buddiolwr gan fod y buddiolwr:

  • yn rhy ifanc i reoli eu materion eu hunan, fel arfer o dan 18 oed
  • yn unigolyn hŷn sydd angen talu am ofal hirdymor, neu
  • yn unigolyn sydd ag anabledd parhaol sy’n golygu na allant reoli eu materion eu hunan.

Mathau o ymddiriedolaeth

Mae llawer o wahanol fathau o ymddiriedolaethau a ellir ei sefydlu gan ddibynnu sut rydych am reoli'ch asedau. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Beth yw ymddiriedolwr?

Mae ymddiriedolwr yn unigolyn sy’n cymryd cyfrifoldeb am reoli arian neu asedau a neilltuwyd mewn ymddiriedolaeth er budd rhywun arall.

Fel ymddiriedolwr, mae rhaid i chi ddefnyddio’r arian neu asedau er lles y buddiolwr yn unig.

Mae rhaid i bopeth a wnewch fel ymddiriedolwr gael ei wneud er budd pennaf y buddiolwr. Efallai y bydd yr union bethau gallwch eu gwneud a ddim eu gwneud wedi’u hamlinellu yng nghytundeb yr ymddiriedolaeth.

Er enghraifft, gallai cytundeb yr ymddiriedolaeth ddweud y dylai’r ymddiriedolaeth dalu am ffioedd gofal unigolyn hŷn. Os felly, ni allwch ddefnyddio’r arian at unrhyw ddefnydd arall.

Ni fyddwch yn gallu cael budd o’r ymddiriedolaeth eich hun - oni bai bod cytundeb yr ymddiriedolaeth yn dweud y gallwch.

Os yw’r ymddiriedolaeth yn ‘ymddiriedolaeth ddewisol’, bydd gan yr ymddiriedolwyr fwy o ryddid i wneud penderfyniadau. Er enghraifft, os yw’r ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu i fod o fudd i sawl plentyn ifanc, yna gallwch ac unrhyw ymddiriedolwyr eraill ei defnyddio ar gyfer unrhyw beth y cytunwch sydd o fudd i unrhyw un o’r plant - fel talu am drip ysgol.

Beth yw ymddiriedolwr elusen?

Os gofynnir i chi fod yn ymddiriedolwr elusen, mae yna ddyletswyddau ychwanegol. Darganfyddwch beth sy'n gysylltiedig ar wefan GOV.UK

Ymddiriedolwyr a threth

Yn aml, mae rhaid i ymddiriedolwyr dalu treth ar ran ymddiriedolaeth. Gan ddibynnu ar y math o ymddiriedolaeth, efallai y bydd rhaid iddo dalu:

  • Treth Incwm
  • Treth Etifeddiant
  • Treth ar Enillion Cyfalaf.

Fel ymddiriedolwr, mae rhaid i chi adrodd manylion yr ymddiriedolaeth i Gyllid a Thollau EM a sicrhau bod y dreth yn cael ei thalu.

Darganfyddwch fwy am gyfrifoldebau treth ymddiriedolwr ar wefan GOV.UK

Cael help ag ymddiriedolaethau a threth

I gael help â chwestiynau am sut mae ymddiriedolaethau yn cael eu trethu, ffoniwch Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0300 123 1072.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am i 5pm.

Mae costau galwadau yn berthnasol, darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Beth yw cyfrifoldeb ymddiriedolwr os bydd rhywbeth yn mynd o’i le?

Mae bod yn ymddiriedolwr yn gyfrifoldeb cyfreithiol, ac efallai y byddwch yn poeni am beth fydd yn digwydd os byddwch yn gwneud rhywbeth o’i le.

Y cyfan sy’n ofynnol ohonoch yw gweithredu er lles pennaf yr unigolyn y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth ar ei gyfer. Gelwir hyn yn ‘ddyletswydd ymddiriedol’.

Os na fyddwch yn gwneud hynny, gellir mynd â chi i’r llys - a gall y cosbau fod yn ddifrifol.

Fodd bynnag, os na all yr ymddiriedolaeth dalu ei dyledion neu os na fyddwch yn cymryd gofal rhesymol wrth wneud penderfyniad sy’n colli arian i’r ymddiriedolaeth, gallwch fod yn atebol fel ymddiriedolwr.

Os gofynnir i chi fod yn ymddiriedolwr

Os gofynnir i chi fod yn ymddiriedolwr, meddyliwch yn ofalus a yw’n addas i chi.

Dyma rai pethau i’w hystyried.

  • Gall bod yn ymddiriedolwr wirioneddol helpu rhywun sy’n bwysig i chi. Os bydd rhywun yn gofyn i chi i fod yn ymddiriedolwr, fel arfer mae’n golygu eu bod yn ymddiried ynoch i wneud y peth cywir ar eu rhan ac ar ran y bobl sy’n cael budd o’r ymddiriedolaeth.
  • Mae’n llawer o waith a chyfrifoldeb, ac yn y pen draw, gallech fod yn atebol am golledion a wnaed gan yr ymddiriedolaeth os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau’n briodol. Gall rhai ymddiriedolaethau gymryd llawer o’ch amser i’w rheoli’n iawn. Fel arfer, ni chewch eich talu fel ymddiriedolwr, nac yn elwa’n bersonol. Byddwch yn cyflawni eich dyletswyddau fel ymddiriedolwr er budd pobl eraill.
  • Mae bod yn ymddiriedolwr yn ymrwymiad hirdymor. Mae gan rai ymddiriedolaethau ddyddiad terfyn penodol - er enghraifft, pan fo plentyn yn cyrraedd 18 oed - ond gall eraill fynd ymlaen am hyd at 125 o flynyddoedd! Gallech fod yn ymddiriedolwr am ddegawdau mewn rhai achosion.
  • Mae rhaid i chi gytuno gyda’r holl ymddiriedolwyr eraill wrth wneud penderfyniadau ynghlwm â’r ymddiriedolaeth. Felly mae’n werth gwybod pwy ydynt a phenderfynu a fydd y berthynas yn gweithio yn eich barn.

Yn ansicr a ydych yn dymuno bod yn ymddiriedolwr?

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, siaradwch â’r unigolyn sy’n sefydlu’r ymddiriedolaeth.

Cewch well syniad o faint o waith fydd ynghlwm, ac a yw’n wirioneddol bwysig mai chi yw’r un i wneud hynny.

Efallai y bydd ganddynt bobl eraill mewn cof os byddwch yn gwrthod.

Ceisiwch gyngor cyn i chi ddod yn ymddiriedolwr

Cyn i chi gytuno i ddod yn ymddiriedolwr dylech geisio cyngor proffesiynol gan gynghorydd ariannol neu gyfreithiwr i sicrhau eich bod yn deall popeth sydd ynghlwm â’r gwaith.

Mae Cymdeithasau’r Gyfraith yn cadw cronfeydd data chwiliadwy i’ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys sy'n lleol i chi.

Dewch o hyd i gyfreithiwr yn:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.