Mae’r angen i drefnu gofal i chi'ch hun neu i rywun annwyl yn fwy cyffredin nag erioed ac mae'r camau cyntaf yn straen.
Rydym wedi llunio adran gyfan i gwmpasu popeth rydych angen gwybod. Edrychwn ar hanfodion trefnu gofal. Os ydych yn cael trafferth fforddio'r gofal rydych ei angen, mae gennym ni ganllawiau ar gyllid y llywodraeth a ffyrdd eraill o godi arian.
Rydym hefyd yn gwybod nad mater o ddod o hyd i gartref gofal yn unig yw gofalu am rywun tymor hir - dyna pam mae gennym ni hefyd arweiniad ar helpu pobl â'u harian yn ddiweddarach mewn bywyd a sut i siarad trwy sefyllfaoedd anodd.
