Os ydych yn wynebu problem iechyd, gallai'ch arian fod y peth olaf ar eich meddwl. Serch hynny, i osgoi pryderon ariannol rhag gwaethygu, ceisiwch gael trefn ar eich arian cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd gennych hawl i dâl salwch, neu fudd-daliadau salwch neu anabledd. Mae’r canllaw hwn yn gwmpasu cymorth gan eich cyngor lleol a ble i gael help â chostau bob dydd fel presgripsiynau, trydan a nwy.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cymorth gan eich cyflogwr
Cael tâl salwch
Os yw salwch yn eich atal rhag gweithio, efallai hoffech ystyried hawlio Tâl Salwch Statudol (SSP). Gallwch gael Tâl Salwch Statudol (SSP) am hyd at 28 wythnos os:
- ydych yn gyflogedig – ond yn methu gweithio; neu
- yw eich enillion ar gyfartaledd o leiaf £123 yr wythnos.
Y gyfradd ar gyfer SSP yw £116.75 yr wythnos (2024/25). Caiff ei dalu gan eich cyflogwr yn yr un modd â’ch cyflog.
Mae gan rai cyflogwyr gynlluniau tâl salwch mwy hael a bydd eraill yn asesu achosion yn unigol.
Gwiriwch delerau eich cytundeb neu’r llawlyfr staff i weld beth sydd ar gael.
Darganfyddwch fwy am Dâl Salwch Statudol (SSP) yn GOV.UK
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu Tâl Salwch Statudol
Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu SSP, neu ddim yn talu’r swm llawn i chi;
Cysylltwch â thîm anghydfod taliadau statudol Cyllid a Thollau EM:
Ffôn: 03000 560 630
Ffôn testun: 0300 200 3212
Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am i 5pm, Dydd Gwener 8.30am 4.30pm.
Gofynnwch am gefnogaeth fel y gallwch ddychwelyd i’r gwaith
Os ydych yn gallu dychwelyd i’r gwaith, mae gennych yr hawl gyfreithiol i ofyn i’ch cyflogwr wneud addasiadau rhesymol fel y bydd yn haws i chi barhau i weithio.
Gallai’r addasiadau rhesymol hyn gynnwys:
- oriau gweithio hyblyg.
- newid eich cyfrifoldebau.
- defnyddio offer a addaswyd yn arbennig – er enghraifft eich cyfrifiadur, bysellfwrdd, ffôn, cadair neu ddesg.
Darllenwch ein canllaw Cefnogaeth i roi cymorth i chi gadw’ch swydd pan fyddwch yn sâl neu’n anabl
Gwiriwch eich pensiwn gweithle
Os ydych wedi bod yn talu i mewn i bensiwn gweithle, gofynnwch i’ch cyflogwr neu cwmni sy’n rhedeg y cynllun a oes unrhyw fudd-daliadau salwch y gallech fod â hawl iddynt.
Os oes, gwiriwch faint yw eu gwerth ac am ba hyd y byddant yn parhau.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu ymddeol yn gynnar os nad ydych yn gallu parhau i weithio.
Darllenwch ein canllaw Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch neu anabledd
Budd-daliadau a hawliau
Hawliwch yr holl fudd-daliadau'r Wladwriaeth mae gennych hawl iddynt
Os oes gennych gyflwr iechyd neu os ydych yn anabl, gallech fod yn gymwys i hawlio budd-daliadau a fydd yn:
- ychwanegu at eich incwm – er enghraifft, Credyd Cynhwysol
- eich helpu â chostau hanfodol – er enghraifft, yr elfen costau tai o Gredyd Cynhwysol
- caniatáu i rywun sy’n gofalu amdanoch wneud cais am Lwfans Gofalwr
- eich helpu i reoli’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â bod yn anabl neu fod â chyflwr iechyd hirdymor – er enghraifft, Taliad Annibyniaeth Personol.
Os ydych ar incwm isel ac yn cyflwyno cais newydd neu’n diweddaru’ch cais yn sgil newid yn eich amgylchiadau, fel arfer nawr bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Ni fydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gymwys ar gyfer (neu eisoes yn cael) y Premiwm Anabledd Difrifol neu os ydych yn hŷn na’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Egluro Credyd Cynhwysol
Pa fudd-daliadau anabledd a salwch gallaf eu hawlio?
Os ydych yn gorfod symud o’ch budd-daliadau presennol i Gredyd Cynhwysol, gwelwch ein canllaw ar Sut y bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf
Am ganllaw mwy cyffredinol ar fudd-daliadau, gwelwch Help gyda chostau byw
Cymorth â chostau iechyd GIG
Awgrym da
Mae rhaid i’r rhan fwyaf o bobl dalu am bresgripsiynau yn Lloegr. Os ydych yn caelCymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, mae’n debygol bod eich presgripsiynau am ddim fel arfer.
Mae presgripsiynau am ddim yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, waeth beth yw’ch oed ac amgylchiadau.
Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael rhai budd-daliadau penodol efallai y gallwch arbed arian drwy gael cymorth â chostau iechyd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- costau deintyddol;
- cost gofal llygaid;
- presgripsiynau’r GIG; a
- cael cymorth â chostau teithio i apwyntiadau ysbyty.
Darganfyddwch fwy am gael help â chostau iechyd ar wefan NHS Choices
Os oes gennych gyflwr iechyd all ddod yn fwy hirdymor, edrychwch ar ein canllawiau:
A wyf yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal?
Sut i ariannu’ch gofal hirdymor: canllaw i ddechreuwyr
Hawlio ar yswiriant
Gwiriwch a oes gennych bolisïau yswiriant a fyddai’n rhoi sicrwydd am eich taliadau morgais neu gymryd lle canran o’ch incwm.
Er enghraifft:
- yswiriant salwch critigol
- yswiriant diogelu incwm
- yswiriant diogelu taliadau
- yswiriant diogelu taliadau morgais
- yswiriant diogelu incwm tymor byr.
Yn aml mae’r math hwn o yswiriant yn cael ei gynnig â pholisïau yswiriant bywyd neu forgeisi.
Gwnewch gais ar unwaith gan fel arfer ceir cyfnod o ddisgwyl cyn i bolisi ryddhau taliad, felly gorau po gyntaf y byddwch yn anfon eich cais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pam y gallai darparwyr wrthod eich cais yswiriant – a beth i'w wneud os bydd hyn yn digwydd
Cysylltu â’ch cyflenwyr nwy a thrydan
Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni cyn gynted â phosibl.
Rhowch wybod iddynt fod gennych gyflwr iechyd hirdymor neu eich bod yn anabl a gofynnwch iddynt a ydych yn gymwys am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Mae ceisiadau am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn agor bob blwyddyn ym mis Hydref ac os ydych yn gymwys gallwch arbed £150 y flwyddyn.
Darganfyddwch fwy yn ein hadran ar Help i dalu eich bil nwy neu drydan
Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth
Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn wasanaeth am ddim a all sicrhau eich bod yn cael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch. Gallwch gofrestru drwy gysylltu â'ch cyflenwr.
Os byddwch yn dweud wrth eich cyflenwr ynni am eich cyflwr iechyd, gallent hefyd ddarparu:
- rhybudd ymlaen llaw am doriadau pŵer a drefnwyd, megis o waith peirianneg
- cymorth blaenoriaeth, fel cyfleusterau gwresogi a choginio mewn argyfwng
- amddiffyniad rhag cael eich torri i ffwrdd os ydych chi'n syrthio i ôl-ddyledion
- cynllun enwebai, felly gall aelod o'r teulu neu ofalwr dderbyn eich cyfathrebiadau a'ch biliau
- helpu i gyrchu, darllen neu symud eich mesurydd
- gwiriadau diogelwch blynyddol am ddim
- gwybodaeth hygyrch, e.e., eich biliau mewn print bras neu braille.
Help gan eich cyngor lleol
Os yw’ch cyflwr yn golygu’ch bod yn cael anhawster symud o gwmpas neu wneud tasgau beunyddiol efallai y gall eich cyngor lleol roi cefnogaeth â phethau fel:
- siopa a glanhau.
- gofal personol a thasgau beunyddiol.
- offer arbennig yn gysylltiedig â’ch salwch neu’ch anabledd.
- mân addasiadau i’ch cartref (fel canllawiau ar eich baddon).
Y cam cyntaf yw cael asesiad o’ch anghenion gan eich cyngor.
Gwelwch ein canllaw ar A wyf yn gymwys i gael cyllid cyngor lleol am gostau gofal?
Darganfyddwch eich cyngor lleol yn GOV.UK
Help â’ch Treth Gyngor
Gallech gael gostyngiad ar eich Treth Gyngor os ydych yn anabl, neu os oes rhywun yn eich cartref yn anabl.
Darganfyddwch fwy am Ostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer pobl anabl ar GOV.UK
Help â grantiau elusennol
Mae nifer o sefydliadau a chymdeithasau sy’n cynnig grantiau i bobl a’u teuluoedd er mwyn rhoi cymorth iddynt ymdopi â llai o incwm neu gwrdd â’r costau ychwanegol o fod yn sâl neu’n anabl.
Gall grantiau fod ar gael drwy undeb llafur neu gymdeithas fuddiannol sy’n gysylltiedig â’r math o waith a wnewch.
Mae hefyd sefydliadau sy’n rhoi grantiau i grwpiau neilltuol o bobl, fel pobl hŷn neu’r rhai sydd ag anghenion penodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
Adolygu eich cyllideb
Os byddwch nawr yn gorfod ymdopi ar incwm llawer is, mae’n bwysig edrych ar eich cyllideb ar unwaith i wneud y gorau o’ch incwm.
Os na allwch reoli’ch arian ar eich pen eich hun
Os yw’ch cyflwr iechyd neu’ch anabledd yn ei gwneud yn anodd i chi reoli’ch arian ar eich pen eich hun, gallwch ofyn i rywun arall eich helpu.
Darllenwch ein canllaw Help i reoli arian bob dydd
Cael cefnogaeth emosiynol
Os ydych wedi mynd yn anabl yn ddiweddar, efallai bod eich bywyd wedi newid mewn ffordd ddramatig. Gallech deimlo eich bod am gysylltu â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg.
Os ydych yn meddwl bod eich salwch neu anabledd yn effeithio ar eich iechyd meddwl, gwnewch apwyntiad i weld eich meddyg teulu.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, darganfyddwch gysylltiadau i grwpiau anabledd a sefydliadau lleol ar wefan ScopeYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban ewch i Disability Information Scotland.Yn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i Disability ActionYn agor mewn ffenestr newydd