Cael morgais os ydych yn sâl neu’n anabl

Ni ddylai bod yn sâl neu’n anabl eich atal rhag cael morgais, hyd yn oed os ydych yn dibynnu ar fudd-daliadau am y cyfan neu ran o’ch incwm. Darganfyddwch beth mae angen i chi ei wneud wrth wneud cais.

Eich hawliau cyfreithiol

Os gallwch fforddio morgais, ni chaniateir i fanciau a benthycwyr eraill wrthod eich cais dimond oherwydd eich bod yn anabl.

Mae’n rhaid iddynt asesu'ch cais ar sail fforddiadwyedd a'ch sefyllfa ariannol, yn yr un modd ag y byddent gydag unrhyw gais arall.

Ni all benthycwyr fynnu eich bod yn talu blaendal mwy neu wneud ad-daliadau misol mwy na chwsmeriaid nad ydynt yn anabl.

Gallai rhai salwch arwain at geisiadau yn cymryd mwy o amser, cyfraddau uwch neu hyd yn oed yn cael eu gwrthod. Os yw hyn yn berthnasol i chi mae cael help gyda'r cais hyd yn oed yn bwysicach.

I bwy mae deddfwriaeth anabledd yn gymwys?

Efallai y bydd rheolau gwrth-wahaniaethu yn berthnasol i chi hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl amdanoch chi'ch hun fel person anabl.

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae anabledd yn gyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Felly mae hyn yn berthnasol os oes gennych gyflwr corfforol, fel canser, HIV neu MS, a/neu gyflwr iechyd meddwl fel iselder.

Os nad yw eich salwch wedi’i gwmpasu gan y Ddeddf Cydraddoldeb

Os ydych am fynd ar yr ysgol eiddo ond yn poeni y gallai salwch tymor hir effeithio ar eich siawns, mae angen i chi gael cyngor arbenigol cyn gynted â phosibl.

Bydd ymgynghorydd morgais yn gallu asesu eich cyllid ac archwilio'r cynhyrchion ariannol a allai fod ar gael i chi. Os byddant yn dod o hyd i fenthyciad y gallech fod yn gymwys amdano, gallant eich helpu gyda'r cais.

Mewn rhai achosion, gall eich ymgynghorydd awgrymu ffyrdd y gallwch wella'ch sefyllfa ariannol er mwyn gwneud eich hun yn fwy apelgar i fenthycwyr.

Cael morgais os ydych chi ar fudd-daliadau salwch neu anabledd

Fel gydag unrhyw forgais, diddordeb pennaf benthycwyr yw eich gallu i ad-dalu. Bydd benthycwyr eisiau gweld prawf o'ch incwm a deall eich gwariant, ac os oes gennych unrhyw ddyledion. Bydd benthycwyr hefyd eisiau prawf y byddwch yn gallu cadw at ad-daliadau os bydd cyfraddau llog yn codi.

Ni ddylai cael incwm sydd naill ai'n rhannol neu'n bennaf yn cael ei wneud i fyny o fudd-daliadau eich atal rhag cael morgais, ond gall ei gwneud yn anoddach.

Mae rhai benthycwyr yn fwy tebygol nag eraill o dderbyn budd-daliadau fel incwm wrth wneud eu gwiriadau fforddiadwyedd. Mae hyn yn cynnwys taliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd.

Gall hefyd fod yn anodd os ydych ond yn cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd yn y tymor byr - os ydych yn disgwyl gallu dychwelyd i'r gwaith ar ryw adeg yn y dyfodol.

Mae'n annhebygol y bydd benthycwyr yn cymeradwyo cais morgais yn seiliedig ar fudd-daliadau tymor byr, felly bydd eu ymagwedd yn dibynnu ar eich union sefyllfa a'u gofynion eu hunain.

Gall brocer morgeisi arbenigol eich helpu i ddod o hyd i fenthyciwr sy'n barod i roi benthyg i rywun yn eich sefyllfa chi. (Gweler ‘Mynnwch gyngor arbenigol’ isod.)

Help gyda thaliadau llog morgais

Os ydych chi wedi bod yn derbyn budd-dal cymwys - gan gynnwys Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Cynhwysol - am naw mis neu fwy efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am gymorth gyda'ch taliadau llog morgais.

Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Mae Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI) yn fenthyciad y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu gyda llog pan fyddwch chi'n gwerthu neu'n trosglwyddo perchnogaeth o'ch cartref.

Ystyriwch gynllun rhan-berchnogaeth

HOLD – Perchentyaeth ar gyfer pobl ag anabledd hirdymor

Mae HOLD yn gynllun rhan-berchnogaeth ar gyfer pobl ag anableddau hirdymor ac mae’n rhan o raglen tai fforddadwy’r llywodraeth

Rydych chi'n prynu cyfran o eiddo ar y farchnad agored, ac mae cymdeithas dai yn prynu'r gyfran sy'n weddill. Gyda'r cynllun hwn, gallwch brynu hyd at 25% o'ch cartref.

Mae’r gymdeithas dai’n negodi gyda gwerthwr yr eiddo a darparwr y morgais ar eich rhan.

Mae HOLD ar gael yn Lloegr yn unig.

Darganfyddwch fwy am HOLD ar wefan Own your own home  y Llywodraeth.

MySafeHome

Gall y darparwr arbenigol, MySafeHome, eich helpu i brynu cartref os ydych yn anabl. Mae’n gweithio gyda benthycwyr penodol ar gynlluniau rhannu perchnogaeth.

Cael cyngor arbenigol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â nifer o fenthycwyr a chynghorwyr morgeisi, gan y bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r morgais sy’n bodloni eich anghenion.

Cysylltwch â’ch Sefydliad Pobl Anabl lleol

Mae Sefydliadau Pobl Anabl (DPO) yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr. Gall DPOs gynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, annibynnol am ddim, ac maent yn cael eu rhedeg gan bobl anabl ac ar eu cyfer.

I ddarganfod mwy:

yn Lloegr, cysylltwch â Scope

yn yr Alban, cysylltwch â Citizens Advice or Housing Options Scotland

yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Disability Action

yng Nghymru, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Cymru neu Anabledd Cymru

Siaradwch â chynghorydd morgais annibynnol

Mae cynghorwyr morgais annibynnol yn cynnig cyngor diduedd a gallant chwilio amdanoch chi hefyd.

Gall cyngor arbenigol fod yn arbennig o ddefnyddiol o ran anghenion penodol. Bydd cynghorydd morgais annibynnol arbenigol yn gallu cyrchu cynhyrchion o bob rhan o'r farchnad.

Mae hyn yn golygu eu bod yn deall pa fenthycwyr sydd fwyaf tebygol o allu eich helpu chi a'r hyn a beth y byddant yn chwilio amdano o ran pethau fel gwaith papur a meini prawf cymhwyso.

Mae rhai yn codi ffi am eu gwaith.

Siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu

Cysylltwch â’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu a gofyn am siarad â’u cynghorydd morgeisi.

Ond cofiwch y bydd banciau a chymdeithasau adeiladu yn rhoi gwybod i chi am eu cynnyrch morgeisi eu hunain yn unig.

Felly, ystyriwch yr wybodaeth y byddant yn ei rhoi i chi a’i chymharu â’r cynigion eraill cyn penderfynu.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.