Beth i’w wneud gyda chyfrifon a chynilion plant os byddwch yn gwahanu

Mae unrhyw arian neu gynilion sydd yn enw’ch plentyn yn perthyn iddynt ac nid i chi neu’ch cyn bartner. Ond efallai y bydd angen i chi hysbysu’r banc, cymdeithas adeiladu neu’r llywodraeth ynglŷn â’r newid yn eich amgylchiadau. 

Beth sy’n cyfrif fel cyfrifon neu gynilion plant?

Mae cyfrifon neu gynilion plant yn cynnwys pethau fel:

  • ISAs i Bobl Iau
  • Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant
  • Cynilion Cenedlaethol
  • Banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’ch plentyn
  • Bondiau Plant.

Cyfrifon plant ac arian a ofalir amdanynt ar y cyd

Mae arian mewn cyfrif plentyn yn perthyn i’r plentyn.

Ond byddwch yn ymwybodol fod rhai pobl yn talu arian i mewn i gyfrif plentyn heb fwriad o gwbl i roi’r arian hwnnw i’r plentyn. Mae eraill yn cymryd arian allan o gyfrif plentyn.

Os ydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil, mae rhai amgylchiadau prin lle gellir cynnwys cynilion plant ymysg yr asedau ariannol sydd i’w rhannu. 

Os, er enghraifft, y bydd eich cyn ŵr, cyn wraig neu bartner sifil yn rhoi ei arian ef neu hi’n fwriadol yng nghyfrif eich plentyn er mwyn eich atal chi rhag ei gael.

Ydych chi’n pryderu y gall eich cyn-bartner gymryd arian o gyfrif eich plentyn? Yna gallwch ofyn i’r banc neu i’r gymdeithas adeiladu rewi’r cyfrif dros dro. 

Mae’n bwysig i gael cyngor proffesiynol os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud.

Dweud wrth y banc neu gymdeithas adeiladu eich bod wedi newid cyfeiriad

 

Os mai chi yw’r cyswllt a enwir ar gyfrif eich plentyn a’ch bod yn newid cyfeiriad, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod iddynt -  er enghraifft y banc neu’r gymdeithas adeiladu.

Ac os yw’ch plentyn yn ddigon hen i gynnal cyfrif yn eu henw eu hun, gwnewch yn siŵr fod y plentyn yn dweud wrth y banc neu gymdeithas adeiladu am y cyfeiriad newydd, os yw’n symud..

Efallai y gall eich plentyn wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn.

Newid y cyswllt cofrestredig

Efallai y penderfynwch yr hoffech chi newid enw’r unigolyn a gofrestrwyd fel cyswllt. 

Os dymunwch wneud hyn, fel arfer bydd yn rhaid i chi ffonio’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant neu’r darparwr ISA Iau, neu gwblhau ‘ffurflen dileu cyswllt cofrestredig’.

Gall y broses amrywio o ddarparwr i ddarparwr, ac efallai y bydd yn ofynnol i chi a’ch cyn bartner arwyddo’r ffurflen i nodi eich bod yn cytuno â’r newid.

Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae’n debygol bod ganddynt gyfrif mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Dyma gyfrif cynilo hirdymor, di-dreth, lle rhoddodd y llywodraeth daleb i bob plentyn i’w thalu i mewn i’r cyfrif.

Nid oes unrhyw Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant newydd yn cael eu cyhoeddi.  Ond, gall y cyswllt cofrestredig, aelodau eraill o’r teulu a ffrindiau barhau i ychwanegu at y cyfrif hyd nes i’r plentyn gyrraedd 18 oed. 

ISAs i Bobl Iau

Mae ISAs i Bobl Iau wedi disodli Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.  Maent ar gael i blant dan 18 oed nad ydynt yn gymwys i gael Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Yn union fel Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, maent yn gyfrifon hirdymor a di-dreth.

Gallwch symud arian rhwng gwahanol ddarparwyr o ISAs i Bobl Iau.

Ac, os oes gan eich plentyn Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, gallwch drosglwyddo’r arian i ISA i Bobl Iau. Mantais gwneud hyn yw bod rhai darparwyr ISA i Bobl Iau yn talu cyfradd llog uwch na’r hyn sydd ar gael mewn Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.