Beth i’w wneud â thaliad cyfandaliad ar ôl ysgariad neu ddiddymiad

Efallai y cewch gyfandaliad fel rhan o'ch setliad ariannol. Os nad ydych eisoes wedi penderfynu ar gyfer beth y byddwch yn ei ddefnyddio, meddyliwch am eich opsiynau yn ofalus.

Cymryd gofal o’ch cyfandaliad yn y tymor byr

Oni bai eich bod eisoes yn gwybod yn union beth rydych am ei wneud, mae'n werth rhoi'r cyfandaliad mewn cyfrif cynilo wrth i chi bwyso a mesur eich opsiynau.

Mae’n bwysig cadw ‘byffer’ yn eich cyfrif cyfredol neu mewn cyfrif cynilo mynediad hawdd i dalu am gostau annisgwyl.

Cadw’ch cyfandaliad yn ddiogel

Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).

Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.

Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.

Darganfyddwch pa fanciau sy’n rhan o ba gwmnïau awdurdodedig ar wefan Banc Lloegr

Mae arian mewn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol wedi’u gwarantu gan y llywodraeth, waeth faint o arian sydd gennych.

Sicrhau eich dyfodol

Nid oes unrhyw un ffordd ‘sy’n siwtio pawb’ o fynd ati i ddiogelu’ch dyfodol ariannol. Bydd eich dull o fynd ati’n dibynnu ar:

  • faint o arian sydd gennych i’w gynilo neu i’w fuddsoddi.
  • a oes gennych ddyledion i’w talu’n gyntaf.
  • am ba hyd y cewch adael eich arian mewn cyfrif cynilo neu wedi ei fuddsoddi.
  • faint o risg yr ydych yn fodlon i’w chymryd ac a gewch adael eich arian wedi ei fuddsoddi am yr hirdymor. Er enghraifft, a fyddech yn pryderu petaech wedi buddsoddi £10,000 a bod ei werth wedi gostwng i £9,000 chwe mis yn ddiweddarach? Cofiwch y gall eich agwedd at risg newid yn ddibynnol ar eich rheswm dros fuddsoddi.

Pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi

Pethau i’w gwneud
  • Treuliwch amser i benderfynu beth yw eich blaenoriaethau ariannol ar hyn o bryd yn ogystal â’ch nodau hirdymor.

  • Gwnewch yn siŵr fod gennych werth chwe mis o dreuliau wedi eu cynilo cyn i chi ystyried buddsoddi.

  • Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol oni bai eich bod yn ddigon hyderus i ddewis eich buddsoddiadau eich hun.

  • Meddyliwch am eich agwedd tuag at risg. Mae nifer o bobl sy’n colli arian wrth fuddsoddi yn gwneud hynny gan eu bod yn cyfnewid eu buddsoddiadau am arian parod pan fydd y prisiau wedi gostwng.

Pethau i’w hosgoi
  • Peidiwch â gwneud penderfyniadau ariannol hirdymor os teimlwch dan bwysau, oherwydd efallai na fyddwch yn gwneud y penderfyniadau gorau.

  • Peidiwch â buddsoddi hyd nes i chi glirio unrhyw ddyledion fel cardiau siop, cardiau credyd neu fenthyciadau banc.

  • Peidiwch â buddsoddi mewn unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.

  • Peidiwch â meddwl bod rhaid i chi fuddsoddi popeth neu ddim byd o gwbl: gallwch fuddsoddi symiau bach a phwyso a mesur y sefyllfa ymhen rhyw chwe mis.

Prynu eiddo newydd

Os mai dim ond digon ar gyfer blaendal bach sydd gennych - er enghraifft, 5% neu 10% - efallai y gallwch fenthyca trwy'r cynllun Cymorth i Brynu.

Darganfyddwch fwy ar wefan Cymorth i Brynu y llywodraeth.

Peidiwch ag anghofio y bydd gennych nifer o gostau sefydlog i’w talu, fel:

  • Treth Stamp
  • ffioedd arolygu, a
  • costau cyfreithiol.

Buddsoddi mewn pensiwn

Peidiwch ag anghofio’ch pensiwn. Efallai y byddwch o’r farn bod blaenoriaethau ariannol eraill – pwysicach – ar hyn o bryd.

Ond peidiwch ag oedi’n rhy hir cyn talu i mewn i’ch pensiwn neu gychwyn un newydd.

Efallai y bydd gennych gyfandaliad o bensiwn eich cyn partner sydd angen ei fuddsoddi gennych. Os felly, efallai y byddwch angen cyngor ynglŷn â beth i’w wneud ag ef.

Mae’n syniad da i ddechrau casglu gwybodaeth ar y pensiynau sydd gennych eisoes

Cyfrifwch beth fydd swm tebygol eich Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK a faint, a dybiwch, byddwch ei angen i fyw arno wedi i chi ymddeol.

Os ydych yn gyflogedig, bydd gan eich cyflogwr gynllun pensiwn eisoes y gallwch ymuno ag ef neu bydd yn cynnig un i chi.

Mae hyn yn debygol o fod yn ddewis gwell na sefydlu’ch pensiwn eich hun, oherwydd bydd eich cyflogwr yn cyfrannu ato hefyd.

Diogelu dyfodol eich plant

Efallai y byddwch am fuddsoddi rhan o’ch cyfandaliad i dalu am gostau addysg eich plant neu’r gost o’u magu.

Ystyriwch ddefnyddio cyfrif di-dreth, fel ISA Iau (neu Gronfa Ymddiriedolaeth Plant os oes gan eich plentyn un yn barod).

Mae terfynau ar faint gallwch ei roi i mewn ynddynt bob blwyddyn.

Gallwch ddewis ISA arian parod neu stociau a chyfranddaliadau, neu gallwch rannu’r arian rhyngddynt.

Y Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.