Cytundebau gwahanu os ydych yn ystyried ysgariad neu ddiddymiad

Os ydych yn meddwl am gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ond nad ydych wedi cyflwyno’r papurau, gallwch lunio cytundeb gwahanu. Bydd hwn yn nodi pwy fydd yn talu’r rhent neu forgais a biliau, nes byddwch yn penderfynu a ydych am symud ymlaen i gael ysgariad neu ddiddymiad.

Beth yw cytundeb gwahanu?

Mae cytundeb gwahanu yn ddefnyddiol os nad ydych wedi penderfynu eto a ydych am gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, neu os na allwch wneud hynny eto. Mae’n gytundeb ysgrifenedig sydd fel arfer yn nodi’r trefniadau ariannol y byddwch yn eu sefydlu tra byddwch wedi gwahanu. Gall gynnwys amrywiaeth o feysydd, er enghraifft:

  • pwy sy’n talu’r morgais neu rent, a biliau’r cartref
  • pwy sy’n parhau i fyw yng nghartref y teulu a/neu beth sy’n digwydd os bydd yn cael ei werthu
  • beth sy’n digwydd i unrhyw ddyledion - benthyciadau neu orddrafft er enghraifft
  • beth sy’n digwydd i gynilion, buddsoddiadau ac asedau ariannol eraill
  • beth sy’n digwydd i unrhyw eitemau fel ceir neu ddodrefn, yn arbennig rhai a brynwyd ar y cyd
  • a fydd arian cynhaliaeth yn cael ei dalu i gynnal un ohonoch a/neu unrhyw blant
  • threfniadau gofal plant - gyda phwy y bydd unrhyw blant yn byw a hawliau i’w gweld.

Ydych chi’n bwriadu gwahanu’n barhaol? Os felly, byddai’r cytundeb gwahanu’n egluro natur y cytundeb ariannol terfynol a gyflwynir o flaen y llys pan fydd ysgariad neu ddiddymiad yn dod i gasgliad yn derfynol.

Manteision ac anfanteision cytundeb gwahanu

Manteision:
  • Rydych yn cytuno nad oes raid i chi fyw gyda’ch gilydd, felly ni all eich cyn partner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) honni eich bod wedi ei adael nag fel arall.

  • Rydych yn dangos bod y ddau ohonoch yn ystyried bod y berthynas wedi dod i ben a’r dyddiad y daeth i ben.

  • Mae’n hyblyg – gallwch benderfynu beth hoffech ei gynnwys.

  • Os byddwch yn cadw ato, gall y cytundeb gadw’r gwahanu yn llai stormus ac y bydd y ddau ohonoch yn gwybod beth yw eich sefyllfa.

  • Mae’n rhoi eglurdeb a sicrwydd i’r ddau ohonoch.

  • Er nad yw’n gyfreithiol rwym yn dechnegol, bydd cytundebau a negodwyd yn gywir ac yn deg yn cael eu cynnal os cânt eu herio.

Anfanteision:
  • Nid yw’n hawdd i’w orfodi.

  • Ni ellir ei newid oni bai bod y ddau ohonoch yn cytuno ar y newidiadau.

  • Gall llys anwybyddu peth neu’r cyfan o’r cynnwys os byddwch yn symud ymlaen i ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil – nid yw’n cynrychioli’r gair olaf.

Datgelu ariannol: bod yn agored am eich arian

I helpu sicrhau nad yw cytundeb gwahanu yn cael ei herio, mae’n rhaid i chi a’ch partner fod yn hollol agored am eich arian. Gelwir hyn yn ‘ddatgelu ariannol’.

Yn y ffordd honno bydd y ddau ohonoch yn gwybod beth sydd gan y llall mewn:

  • dyledion
  • cynilion
  • eiddo
  • buddsoddiadau.

A gallwch gytuno beth y mae’r naill un ohonoch yn gyfrifol am ei dalu.

Os na fyddwch yn agored a gonest am eich arian, mae’n debygol o olygu na fyddwch yn gallu dibynnu ar y cytundeb yn y dyfodol.

A ddylai defnyddio cyfryngwr?

Gall cyfryngwr helpu chi a’ch cyn-bartner i drefnu materion plant, cartref a chyllid. Dydyn nhw ddim yn rhoi cyngor neu’n cymryd ochr. Yn lle, gallant eich helpu i weithio tuag at gytundeb. Mae mwy o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu bellach hefyd yn gyfryngwyr hyfforddedig.

Gall fod yn gyflymach ac yn rhatach nag ysgariad neu ddiddymiad traddodiadol gyda chyfreithiwr. A gall cyplau deimlo fel bod mwy o reolaeth ganddynt dros y cytundeb.

Er hyn, ni all cyfryngwyr rhoi cyngor cyfreithiol. Mae hynny’n golygu ei bod yn bwysig gweld cyfreithiwr cyn i chi ddechrau cyfryngu fel eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau.

Bydd rhaid i gyfreithiwr ysgrifennu cytundeb cyfreithiol i ffurfioli’r hyn rydych wedi cytuno arno.

A ddylech gael cyngor cyfreithiol?

Nid oes angen i chi gael cyngor cyfreithiol wrth lunio cytundeb gwahanu, ond mae’n syniad da iawn gwneud hynny.

Mae nifer o resymau dros hyn:

  • Oherwydd eich bod yn cytuno i gytundeb a all fod yn gyfreithiol rhwymol.
  • Gallwch gael cyngor a oes unrhyw resymau pam na ddylech lofnodi’r cytundeb gwahanu, cyn i chi ei lunio.
  • Mae’ch cytundeb gwahanu yn fwy tebygol o fod yn gyfreithiol rhwymol os ydych chi a’ch cyn partner wedi rhoi datgeliad ariannol llawn a bod y ddau ohonoch wedi cael cyngor cyfreithiol annibynnol gan gyfreithiwr.

Mae’n arbennig o bwysig cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr os yw’r gwahanu yn achosi problemau. Er enghraifft, os bydd un ohonoch yn llawer cyfoethocach na’r llall neu os yw eich cyn partner yn eich bwlio neu eich bygwth ac yn rhoi pwysau arnoch i lofnodi cytundeb.

Beth os ydych chi a’ch cyn partner eisoes wedi penderfynu a chytuno beth hoffech ei gynnwys yn eich cytundeb gwahanu? Mae’n bwysig eich bod yn gofyn i gyfreithiwr eich hun ei wirio a’i lunio fel dogfen gyfreithiol.

Ni allwch chi eich dau ddefnyddio’r un cyfreithiwr.

Pryd allwch ddefnyddio cytundeb gwahanu?

Gallwch ddefnyddio un os byddwch chi neu eich cyn partner yn ystyried – ond nad ydych wedi penderfynu - cael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil.

Gallwch hefyd ddefnyddio un os nad ydych yn gallu ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil – ond am gytuno pwy ddylai dalu beth. Er enghraifft, efallai oherwydd eich bod wedi bod gyda’ch gilydd am lai na blwyddyn yng Nghymru a Lloegr neu am lai na dwy flynedd yng Ngogledd Iwerddon.

A yw cytundeb gwahanu yn un y gellir ei orfodi dan y gyfraith?

Yn dechnegol nid yw cytundebau gwahanu yn rhai y gellir eu gorfodi dan y gyfraith.

Ond gallai fod yn anodd i’r naill un ohonoch i ddadlau mewn llys na ddylech orfod cadw ato os:

  • bu’r ddau ohonoch yn agored ac yn onest am eich arian
  • mae eich sefyllfa ariannol yn debyg iawn i’ch sefyllfa pan wnaed y cytundeb
  • cawsoch gyngor cyfreithiol annibynnol am y cytundeb.

Fodd bynnag, ni fyddai llys yn caniatáu – er enghraifft – i un ohonoch gael eich rhwymo gan derm yn y cytundeb gwahanu sy’n dweud na ddylech fyth fynd i’r llys i gael arian cynhaliaeth neu arian i gynnal plentyn.

Deall gwahanu cyfreithiol neu farnwrol

Mewn achosion prin, efallai byddwch yn penderfynu ar wahanu cyfreithiol (gelwir hefyd yn ‘wahanu barnwrol’).

Y prif resymau dros hyn yw:

  • mae eich crefydd yn eich gwahardd rhag cael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil
  • rydych am gael rhagor o amser a llonydd i benderfynu a ydych am gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil
  • rydych wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil am lai na blwyddyn yng Nghymru a Lloegr neu am lai na dwy flynedd yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’n broses lawer mwy ffurfiol na llunio cytundeb gwahanu. Rhaid i chi ofyn am wahaniad cyfreithiol trwy lenwi ffurflen a’i hanfon at eich llys lleol.

Nid yw gwahanu cyfreithiol yn diweddu priodas neu bartneriaeth sifil – yn syml cewch eich rhyddhau o’r gofyniad i gydfyw.

Golyga hyn nad ydych yn rhydd i ailbriodi nac i ddechrau partneriaeth sifil arall.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.