Diogelu eich hawliau ar berchen cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad

Os ydych yn ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil, mae angen i chi ddiogelu’ch hawliau i’r cartref teuluol. Mae hyn yn bwysig os yw’r cartref ym mherchnogaeth eich gŵr, eich gwraig, neu’ch partner sifil.

Sut fath o berchnogaeth sydd i’ch cartref

Chi sydd piau eich cartref – y cyfan neu ran ohono – os yw’ch enw ar y ddogfen gyfreithiol o’r enw gweithredoedd teitl.

Gall eich cartref fod ym mherchnogaeth:

  • un ohonoch – sy’n golygu ei fod yn enw un ohonoch
  • ar y cyd, gennych chi'ch dau – mae mathau gwahanol o gydberchenogaeth
  • gan rywun arall – fel aelod o’r teulu, er enghraifft.

Eiddo ym mherchnogaeth un ohonoch

Os yw’ch cyn bartner (gwr, gwraig neu bartner sifil) yn berchen ar gartref y teulu yn eu henw hwy’n unig, efallai y gallwch gofrestru eich diddordeb ynddo i amddifyn eich sefyllfa. 

Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar ble yn y DU rydych yn byw ac a yw'r eiddo wedi'i gofrestru.

Diogelu’ch hawliau os yw’r eiddo yng Nghymru neu Loegr

Os yw’ch eiddo wedi’i gofrestru â’r Gofrestrfa Tir – gallwch ddiogelu’ch sefyllfa drwy ddefnyddio ‘hysbysiad hawliau cartref priodasol’ neu ‘hysbysiad hawliau cartref’.

Yn gyntaf mae angen i chi wybod os yw’r eiddo wedi ei gofrestru yn enw’ch partner, a’r rhif teitl. Os yw, gwiriwch a yw’r eiddo wedi’i gofrestru â Chofrestrfa Tir EMYn agor mewn ffenestr newydd

Mae defnyddio hysbysiad hawliau cartref am ddim. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw llenwi ffurflen o’r enw HR1 sydd ar gael ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os nad yw’ch eiddo wedi’i gofrestru â’r Gofrestrfa Tir – gallwch ddiogelu’ch sefyllfa drwy ymgeisio am ‘brisiant tir dosbarth F’ drwy’r Gofrestrfa Tir ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os nad yw’r eiddo yn gartref y teulu efallai y byddwch yn gallu cofrestru ‘cyfyngiad’ yn y Gofrestrfa Tir. Dim ond un cartref ar y tro y gallwch ddiogelu eich hawl i fyw yno.

Gallwch ofyn i’r Gofrestrfa Tir EM i drosglwyddo eich hawliau cartref i eiddo arall sy’n perthyn i’ch priod neu bartner sifil os oes eisoes gennych hawliau cartref ar gyfer un eiddo.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru’ch ‘hawliau cartref’, ni all eich cyn partner werthu’r eiddo nac ymgeisio am forgais uwch heb i chi gael gwybod am hynny.

Os ydych am siarad ag ymgynghorwr o elusen hawliau cartref:

Diogelu’ch hawliau os yw’r eiddo yng Ngogledd Iwerddon

Efallai y byddwch yn gallu diogelu’ch sefyllfa drwy gofrestru ‘matrimonial chargeYn agor mewn ffenestr newydd’. Golyga hyn y bydd rhaid i chi gael gwybod os oes bwriad i werthu neu ail-forgeisio’r eiddo.

Mae’n debyg y bydd angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr i wneud hyn – neu o leiaf roi ‘certificate of identity’ i chi.

Diogelu'ch hawliau os yw'r eiddo yn yr Alban

Mae gennych yr hawl i fyw yn yr eiddo cyhyd â’ch bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Ond byddwch yn colli’r hawl hwn os byddwch yn gadael yr eiddo am ddwy flynedd neu fwy.

Mae diogelu’ch hawliau’n faws cymhleth, felly mae’n syniad da cael cyngor gan gyfreithiwr.

Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi’ch cynghori am y ffordd orau o berchen ar eich cartref ar y cyd pan wnaethoch ei brynu.

Eiddo sy’n perchen i chi’ch dau

Mae dau ddewis ar gyfer perchen ar eich eiddo ar y cyd:

  • Tenantiaid ar y cyd – gelwir yn ‘common owners with a survivorship destination’, yn yr Alban. Dyma le mae’r berchnogaeth yn gyfartal ar y cyd rhyngoch. Pan fydd un ohonoch farw, mae’r llall yn etifeddu cyfran y partner – waeth beth a nodir yn ewyllys y partner neu os oes gan y partner ewyllys neu beidio.
  • Tenantiaid ochr yn ochr – gelwir yn berchnogion cydradd yn yr Alban. Dyma le mae’r naill ohonoch yn perchen ar gyfran o’r eiddo. Gallwch rannu’r berchnogaeth yn gyfartal rhyngoch, neu gallwch benderfynu y bydd un yn berchen ar gyfran uwch na’r llall. Bydd eich cyfran chi o’r eiddo’n cael ei drosglwyddo i bwy bynnag a enwir gennych yn eich ewyllys.

Darganfod sut fath o berchnogaeth sydd i’ch cartref

Os nad ydych yn gwybod sut fath o berchnogaeth sydd gennych ar eich cartref, dylech geisio canfod hynny.

Bydd sut y gwnewch hynny’n dibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw.

Cymru a Lloegr

Os cafodd eich cartref ei gofrestru â’r Gofrestrfa Tir gallwch chwilio (sy’n costio £3) ar wefan GOV.UK

Os yw’n cael ei berchen fel ‘tenantiaid ochr yn ochr’, bydd y geiriau ‘cyfyngiad Ffurf A’ wedi eu nodi wrth ymyl y wybodaeth am berchnogaeth.

Os ydych yn mynd i dorri tenantiaeth ar y cyd, mae’n werth ystyried creu neu ddiweddaru ewyllys sy’n nodi ble fydd eich cyfran chi o’r eiddo yn mynd ar ôl eich marwolaeth.

Gogledd Iwerddon

Gallwch ddarganfod sut fath o berchnogaeth sydd ar eich cartref drwy chwilio ar un o dair Land and Property Registry. Darganfyddwch sut i chwilio arnynt ar wefan NI Direct

Yr Alban

Gallwch ddarganfod sut fath o berchnogaeth sydd ar eich cartref drwy chwilio ar wefan Register of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

Mae ffi ar gyfer gwneud hyn, sydd fel arfer yn costio tua £3 a TAW ar y gofrestr Tir neu ar y gofrestr Sasine am £30 a TAW.

A ddylech newid y berchnogaeth?

A ydych yn perchen yr eiddo fel tenantiaid ar y cyd (neu common owners with a survivorship destination, yn yr Alban)? Os felly, efallai eich bod am newid perchnogaeth i denantiaid ochr yn ochr (neu common owners, yn yr Alban).

Y rheswm dros wneud hyn yw rhag ofn i chi farw cyn i’r ysgariad neu’r diddymiad gael ei gwblhau.

Petai hyn yn digwydd a chithau’n berchen ar yr eiddo fel tenantiaid ar y cyd (neu common owners with a survivorship destination), byddai’ch cyfran yn cael ei drosglwyddo fel mater o drefn i’ch cyn partner.

Drwy newid perchnogaeth ar y cyd yr eiddo, gallwch atal hyn rhag digwydd.

Sut i newid y berchnogaeth

Mae’r broses o newid perchnogaeth o denantiaid ar y cyd (neu common owners with a survivorship destination, yn yr Alban) i denantiaid ochr yn ochr (neu common owners, yn yr Alban) yn amrywio ledled y DU.

Cymru a Lloegr

Gelwir hyn yn ‘dorri tenantiaeth ar y cyd’ ac mae’n broses ddigon syml.

Yn gyntaf, mae rhaid ysgrifennu at eich cyn partner a dweud eich bod yn dymuno torri’r denantiaeth ar y cyd. Nid yw’n ofynnol i’ch cyn partner gytuno â’ch dymuniad i wneud hyn.

Os yw’r eiddo wedi’i gofrestru â’r Gofrestrfa Tir, gallwch gwblhau ffurflen SEV, sydd ar gael i’w lawr lwytho o wefan y Gofrestrfa TirYn agor mewn ffenestr newydd.

Gogledd Iwerddon

Byddwch angen cymorth cyfreithiwr os dymunwch newid perchnogaeth o denantiaid ar y cyd i denantiaid ochr yn ochr.

Bydd y broses yn dibynnu ar a yw’ch eiddo wedi’i gofrestru â’r Gofrestrfa Tir (mae tua 50% o dir Gogledd Iwerddon heb ei gofrestru) neu’r Registry of Deeds.

Fel arfer bydd angen i chi gael eich cyn partner i gytuno i chi newid y denantiaeth o denantiaid ar y cyd i denantiaid ochr yn ochr.

Bydd hefyd angen i chi ofyn i gyfreithiwr ddrafftio amodau newydd y denantiaeth a chofrestru hynny ar deitl yr eiddo.

Bydd rhaid i chi dalu ffi i’r Gofrestrfa Tir neu i’r Registry of Deeds i newid y berchnogaeth. Bydd cyfreithiwr fel arfer yn codi ffi hefyd.

Yr Alban

Mae newid perchnogaeth o common owners with a survivorship destination i common owners yn gymhleth.

Nid yw’n rhywbeth y dylech geisio ei wneud heb gyngor cyfreithiwr cyfraith teulu.

Cysylltu â’ch darparwr morgais

Os yw’ch enw ar y morgais, rydych yn gyfrifol am y ddyled gyfan - hyd yn oed os yw’n forgais ar y cyd ag eraill.

Cysylltwch â’ch darparwr morgais i ddweud wrthynt eich bod chi a’ch cyn partner yn gwahanu.

Mae’n bwysig iawn siarad â’ch darparwr os

  • credwch y byddwch yn cael trafferth talu’r morgais, neu
  • eich bod yn pryderu na fydd eich cyn partner yn gwneud y taliadau a gytunwyd ganddynt.

Efallai bydd eich benthyciwr yn gallu anfon copïau o gyfriflenni atoch.

Os yw’n forgais ar y cyd, dylech wirio hefyd a allwch hefyd rwystro’ch cyn partner rhag wneud cais i gynyddu’r morgais.

Efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth â thaliadau morgais os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol.

Eich camau nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.