Os oeddech yn byw gyda’ch gilydd fel cwpl ac wedi gwahanu, mae gennych lai o hawliau na chyplau sy’n ysgaru neu’n diddymu eu partneriaeth sifil. Bydd yn haws os allwch gytuno ar yr hyn rydych yn eu rhannu – er enghraifft, eich eiddo ac asedau.
Asesu’ch sefyllfa
Mae nifer o gyplau sy’n byw gyda’i gilydd yn gwahanu heb ddefnyddio cyfreithiwr. Yn wahanol i ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil, nid oes proses gyfreithiol i lynu ati.
Ond efallai y byddwch yn dal i ddymuno cael cyngor cyfreithiol neu ddefnyddio cyfryngwr mewn rhai sefyllfaoedd. Mae defnyddio cyfryngwr yn golygu defnyddio person diduedd er mwyn eich helpu i gyrraedd cytundeb. Er enghraifft, os nad ydych chi â’ch cyn bartner yn gallu cytuno am:
- unrhyw ddyledion sydd gennych
- y tŷ roeddech yn byw ynddo
- sut i rannu’r hyn sy’n perthyn i chi, neu
- trefniadau ynghylch eich plant.
Mae sawl ffordd i ddelio â gwahanu:
- Gallwch drefnu’r gwahaniad eich hun yn gyfan gwbl.
- Os ydych o’r farn y gallech hawlio yn erbyn eich cyn bartner neu fod eich cyn bartner am hawlio yn eich erbyn chi, gallwch siarad â chyfreithiwr i gael gwybod beth allwch ei wneud am y peth.
- Gallwch ddefnyddio cyfryngwr i’ch helpu chi a’ch cyn bartner ddod i gytundeb.
Os defnyddiwch gyfreithiwr ar gyfer nifer o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a galwadau ffôn – ac yn enwedig os bydd eich achos yn mynd i’r llys – gallai swm y costau cyfreithiol fod yn uchel iawn.
Os teimlwch fod angen help cyfreithiol arnoch ond ni allwch ei fforddio, edrychwch ar ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Mae hefyd yn syniad da i edrych ar ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol wrth wahanu os ydych yn cyd-fyw
Cytuno ar faterion ariannol
Gall roi trefn ar y materion ariannol a rennir cymryd peth amser ac efallai na fydd yn broses syml. Ond gall fod yn haws os dilynwch y camau canlynol:
- Gwnewch restr o’r hyn sy’n perthyn i chi a’r dyledion sydd gennych. Dylech gynnwys popeth o’ch cartref i’ch cynilion, eitemau sydd yn y tŷ a’ch car. Fel rheol, mae’r person sydd piau’r eitem â hawl i’w chadw. Ond efallai y gall y cyn bartner wneud hawl amdani.
- Os nad ydych yn gwybod beth yw gwerth eich eiddo, efallai y bydd angen help arbenigwyr arnoch. Er enghraifft, darganfyddwch beth yw gwerth eich eiddo trwy siarad â gwerthwr eiddo lleol neu edrychwch ar-lein ar wefannau eiddo.
- Nesaf, ewch ati i benderfynu sut yr hoffech rannu’ch eiddo, a phwy fydd yn talu biliau a benthyciadau. Os na allwch gytuno, edrychwch ar ein canllaw Trefnu cyfrifon banc ar y cyd, yswiriant, biliau a chyllid arall â’ch cyn bartner.
Os na allwch benderfynu ar beth i’w wneud â’ch cartref, bydd yr hyn y gallwch ei wneud - yn rhannol - yn dibynnu ble yn y DU rydych yn byw. Dewch o hyd i fwy yn ein canllaw Rhannu'r cartref teuluol a'r morgais wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw. Os ydych yn rhentu, bydd eich hawliau’n dibynnu fel arfer ar enw pwy sydd ar y denantiaeth. Darganfydddwch fwy yn ein canllaw Rhannu'r cartref teuluol a'r morgais wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw - Ceisiwch gytuno ar sut y byddwch yn cefnogi’ch plant, os oes plant gennych. Fel rhieni, disgwylir i chi’ch dau dalu tuag at gostau eich plant. Dewch o hyd i fwy yn ein canllaw Sut i drefnu cynhaliaeth plant.
Mae’n syniad da i lunio cytundeb sy’n egluro sut y penderfynoch rannu popeth.
Rydych chi'ch dau'n fwy tebygol o lynu at gytundeb os yw’n un ysgrifenedig, a dylai hynny leihau’r posibilrwydd o ddryswch yn ddiweddarach.
Pryd y gallech fod angen cymorth cyfreithiol neu broffesiynol
Mae rhai cyplau yn ei chael yn amhosibl cytuno ar sut i rannu’r arian, neu gallant gytuno ar rai pethau ond nid pethau eraill.
Os yw hynny’n wir am eich sefyllfa, gallech elwa o ddefnyddio rhywun diduedd i'ch helpu i ddod i gytundeb - er enghraifft, cyfryngwr.
Dewis arall yw cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr.
Gallech fod angen cymorth proffesiynol os:
- gwnaethoch gymryd benthyciad ar gyfer eich cyn barter ac ni all ef neu hi ei dalu’n ôl neu nid yw’n dymuno gwneud hynny
- nid ydych yn berchen ar y cartref ond dymunwch wneud hawliad ariannol yn erbyn eich cyn bartner
- mae gennych chi a’ch cyn bartner fusnes ar y cyd ac ni allwch gytuno ar sut i’w rannu
- rydych chi a’ch cyn bartner yn berchen ar eich cartref ond ni allwch gytuno ar sut i’w rannu
- mae gennych chi a’ch cyn bartner forgais ar y cyd ac ni allwch gytuno ar bwy ddylai dalu beth, neu
- gwnaethoch chi a’ch cyn bartner lunio ‘cytundeb cyd-fyw’ a eglurodd sut y byddwch yn rhannu’ch arian, ond mae ef neu hi wedi mynd yn groes i’w air erbyn hyn.
Os teimlwch fod angen help cyfreithiol arnoch ond ni allwch ei fforddio, edrychwch ar ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Gwneud hawliad yn y llys
Coronafeirws
Yn ystod yr achos o goronafeirws mae’r system llysoedd yn canolbwyntio ar achosion sydd â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu y bydd oedi â nifer o achosion ysgariad a theuluol.
Dewch o hyd i fwy am sut mae’r Gwasanaeth Llys a Thribiwnlysoedd yn gweithredu yn ystod y cyfnod hwn ar wefan GOV.UK
A yw eich cyn bartner yn gwrthod negodi neu’n anwybyddu’ch hawliau cyfreithiol? Os felly, efallai y bydd angen i chi fynd i’r llys i wneud hawliad yn eu herbyn.
Yng Nghymru a Lloegr
Efallai y byddwch yn medru hawlio 'diddordeb buddiol' yn eich cartref neu eiddo arall os yw’ch cyn bartner yn berchen arno ac roedd gennych gytundeb neu ddisgwyliad y byddwch yn rhannu gwerth yr eiddo petaech yn gwahanu.
Yn yr Alban
Efallai y gallech wneud hawliad yn erbyn eich cyn bartner os ydych wedi’ch ‘anfanteisio’n economaidd’ - neu os ydynt wedi cael 'mantais economaidd' – gan y berthynas. Enghraifft o hyn fyddai pe baech wedi stopio gweithio er mwyn gofalu am blant fel bod gyrfa eich cyn bartner medru parhau.
Ni allwch wneud hawliad am daliadau parhaus, ond efallai y gallech wneud hawliad am gyfandaliad.
Os gwnewch gais, mae rhaid i chi gyflwyno unrhyw hawliad o fewn 12 mis ers gwahanu oddi wrth eich cyn bartner.
Yng Ngogledd Iwerddon
Os symudoch i mewn i eiddo’ch cyn bartner, efallai y gallech wneud hawliad yn erbyn eich cyn bartner i gael arian y cyfrannoch at eich morgais yn ôl.
Costau gweithredu yn y llys
Gall y rheolau ynglŷn â pha bryd y gallwch wneud hawliad fod yn gymhleth, felly mae’n beth doeth siarad â chyfreithiwr sy’n arbenigo mewn anghydfodau rhwng cyplau sy’n cyd-fyw ac sy’n gwahanu.
Cofiwch serch hynny y gall dwyn achos llys yn erbyn eich cyn bartner fod yn gostus yn ariannol ac yn emosiynol.
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr:
- Yng Nghymru a Lloegr: ar wefan Resolution (mae ei aelodau wedi ymrwymo i leihau gwrthdaro yn ystod y cyfnod o wahanu) neu ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Yng Ngogledd Iwerddon: ar wefan Cymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon
- Yn yr Alban: ar wefan Cymdeithas Cyfraith Teulu neu ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr yn yr Alban