Os oes gennych chi a’ch cynbartner blant, mae disgwyl i chi eich dau barhau i dalu tuag at eu costau ar ôl i chi wahanu. Ac mae hynny’n aml yn golygu y bydd un rhiant yn talu i’r llall. Gallwch gytuno ar hyn rhyngoch, neu, os na allwch gytuno, gofynnwch i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gyfrifo’r swm.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Trefnu cynhaliaeth plant eich hunain
- Faint mae disgwyl i chi ei dalu?
- Pryd mae cynhaliaeth plant yn dod i ben?
- Sut mae eich incwm yn effeithio ar faint fyddwch yn ei dalu
- Sut y mae’r nifer o blant yn effeithio ar faint y byddwch yn ei dalu
- Sut y mae rhannu’r gofal yn effeithio ar gynhaliaeth plant
- Talu am blant o berthynas arall
Trefnu cynhaliaeth plant eich hunain
Os byddwch chi a’r rhiant arall yn trefnu cynhaliaeth plant rhyngddoch, mae gennych y rhyddid i benderfynu ar y swm y bydd un rhiant yn ei dalu i’r llall. Cyfeirir at hyn fel trefniant seiliedig ar y teulu.
Tra nad oes yn rhaid i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fod yn rhan os ydych yn gwneud hyn, mae’n syniad da i wirio’r swm rydych yn cytuno arno yn erbyn beth fyddant hwy yn ei asesu i fod.
Darganfyddwch fwy am sut mae cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrifo ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’n bwysig meddwl beth fyddech chi’n hoffi ei gynnwys yn y taliad hwn a sut y byddech yn hoffi talu:
- A ydych am dalu swm penodol cyson neu a fyddwch yn ei amrywio i helpu i dalu am dreuliau ychwanegol trwy gydol y flwyddyn?
- A ydych am dalu yn uniongyrchol am bethau fel gwisg ysgol, gweithgareddau neu wyliau?
- A ydych am dalu canran o’ch enillion? Os yw eich enillion yn amrywio, gall hyn fod o gymorth i chi ond byddai’n golygu y bydd yn anodd rhagweld y swm o gynhaliaeth plant.
Darganfyddwch fwy am sut i drefnu cynhaliaeth plant
Faint mae disgwyl i chi ei dalu?
Os na allwch gytuno ar faint o gynhaliaeth plant y dylai un rhiant ei dalu i’r un arall, gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ei gyfrifo i chi.
Byddant yn ystyried:
- faint to blant sydd gennych
- incwm y rhiant sy’n talu
- faint o amser fyddant yn ei dreulio gyda’r rhiant sy’n talu
- a yw’r rhiant sy’n talu yn talu cynhaliaeth plant am blant eraill.
Darganfyddwch fwy ar wefan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Pryd mae cynhaliaeth plant yn dod i ben?
Fel arfer mae disgwyl i chi dalu cynhaliaeth plant nes bydd eich plentyn yn 16 oed, neu yn 20 os byddant mewn ysgol neu goleg llawn amser yn astudio am:
- Lefel A
- Highers, neu
- gyfatebol.
Gall cynhaliaeth plant ddod i ben yn gynharach – er enghraifft petai un rhiant yn marw neu os bydd y plentyn yn peidio â bod yn gymwys am fudd-dal plant.
Sut mae eich incwm yn effeithio ar faint fyddwch yn ei dalu
Mae cyfraddau gwahanol o gynhaliaeth plant yn ôl incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu – mae hyn yn golygu faint y byddwch yn ei dderbyn cyn i bethau fel treth ac Yswiriant Gwladol gael eu tynnu allan.
Incwm gros wythnosol | Cyfradd | Swm wythnosol |
---|---|---|
Anhysbys |
Diofyn |
£38 i un plentyn, £51 i ddau blentyn, £64 i dri neu fwy o blant |
Llai na £7 |
Dim |
Ni fyddwch yn talu unrhyw gynhaliaeth plant |
Rhwng £7 a £100 neu os byddwch ar fudd-daliadau |
Gwastad |
£7 yr wythnos |
Rhwng £100.01 a £199.99 |
Wedi’i ostwng |
Defnyddiwch gyfrifiannell cynhaliaeth plant |
Rhwng £200 a £3000 |
Sylfaenol |
Defnyddiwch gyfrifiannell cynhaliaeth plant |
(ffigyrau 2024 - gweler GOV.UK am fwy o fanylion)
Os yw eich incwm wythnosol gros yn fwy na £3,000, gallwch ymgeisio i’r llys am orchymyn ychwanegiad at gynhaliaeth plant.
Ond cyn y gall y llys ddelio â’ch cais, byddant angen gweld cyfrifiad Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant sy’n dangos hyn.
Sut y mae’r nifer o blant yn effeithio ar faint y byddwch yn ei dalu
Os ydych yn talu cynhaliaeth plant a’ch bod ar y gyfradd sylfaenol o gynhaliaeth plant, bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar y nifer o blant y bydd gofyn i chi dalu ar eu cyfer.
Darganfyddwch fwy am sut mae cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrifo ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd
Sut y mae rhannu’r gofal yn effeithio ar gynhaliaeth plant
Mae llawer o rieni yn penderfynu rhannu’r gofal am eu plant.
Os bydd eich plant yn treulio peth amser gyda’r rhiant sy’n talu, bydd hyn yn lleihau’r swm o gynhaliaeth plant y bydd ef neu hi yn ei dalu.
Mae ‘bandiau’ gwahanol sy’n pennu faint y bydd y gynhaliaeth plant yn cael ei ostwng.
Mae swm y gynhaliaeth plant yn cael ei ostwng ar gyfer pob plentyn sy’n treulio amser gyda’r rhiant sy’n talu.
Os yw eich plentyn gyda’r rhiant sy’n talu rhwng:
- 52 a 103 noson: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng o 1/7fed am bob plentyn
- 104 a 155 noson: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng o 2/7fed am bob plentyn
- 156 a 174 noson: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng o 3/7fed am bob plentyn
- 175 noson neu fwy: mae cynhaliaeth plant yn cael ei ostwng 50%, a gostyngiad ychwanegol o £7 yr wythnos ar gyfer pob plentyn
Dysgwch fwy am sut y cyfrifir cynhaliaeth plant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Talu am blant o berthynas arall
Os yw incwm wythnosol gros y rhiant sy’n talu rhwng £200 a £3,000 yr wythnos ac maent yn talu cynhaliaeth plant am blant eraill, mae hyn yn cael ei ystyried wrth gyfrifo faint y dylent ei dalu.
Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn syml yn lleihau’r swm o incwm wythnosol y mae’n gymryd i ystyriaeth. Er enghraifft, os yw’r rhiant sy’n talu yn talu ar gyfer:
- un plentyn arall, bydd eu hincwm wythnosol yn cael ei ostwng o 11%
- dau blentyn arall, bydd eu hincwm wythnosol yn cael ei ostwng o 14%
- tri phlentyn neu fwy, bydd eu hincwm thnosol yn cael ei ostwng o 16%
Darganfyddwch fwy am sut mae cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrifo ar GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd