Sut rwyf yn trefnu cynhaliaeth plant?

Os oes gennych blant, mae disgwyl i’r ddau riant dalu tuag at gostau eu magu nes byddant yn o leiaf 16 oed. Mae ffyrdd gwahanol i chi drefnu cynhaliaeth plant os ydych chi a’ch partner yn gwahanu.

Dewisiadau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant

Mae pedwar dewis i drefnu gyda’ch cynbartner sut y bydd cynhaliaeth plant yn cael ei dalu:

  1. Trefniant yn seiliedig ar y teulu: chi a’ch cynbartner yn trefnu cynhaliaeth plant rhyngoch.
  2. Talu’n Uniongyrchol: mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu, ond chi a’ch cynbartner sy’n trefnu sut y bydd yn cael ei dalu rhyngoch chi.
  3. Casglu a Thalu: mae’r CMS yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu, yn casglu’r arian gan un rhiant ac yn ei drosglwyddo i’r rhiant arall.
  4. Trefniant trwy orchymyn llys: Os gallwch ddod i gytundeb ar gyfer cynhaliaeth plant gyda'r rhiant arall gallwch wneud cais i'r llys i'w wneud yn gytundeb ffurfiol sy'n â rhwymedigaeth cyfreithiol. Defnyddir hwn, er enghraifft, os yw'r rhiant sy'n talu yn byw dramor neu i helpu i benderfynu faint i'w dalu am gost anabledd plentyn (gan nad yw'r CMS yn ystyried y costau ychwanegol hyn yn eu cyfrifiadau).

Os ydych yn byw yn yr Alban, a rhwng 12 a 19 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant heb fod yn addysg uwch, gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant. Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i ofyn am asesiad o gynhaliaeth plant.

Defnyddio trefniant yn seiliedig ar y teulu

Yma, byddwch chi a’ch cynbartner yn penderfynu faint o gynhaliaeth plant fydd yn cael ei dalu ac yn gwneud trefniadau i’w dalu.

Ni fydd rhaid i chi siarad â chyfreithiwr nag unrhyw weithiwr proffesiynol arall yn gyntaf, er y gallwch ddefnyddio cyfryngwr (trydydd parti annibynnol) i’ch helpu i ddod i gytundeb.

Mae’n well os bydd y rhiant sy’n talu cynhaliaeth plant yn sefydlu archeb sefydlog fel bod arian yn cael ei dalu i’r rhiant arall yn rheolaidd.

Manteision
  • Dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf i drefnu cynhaliaeth plant.

  • Gallwch gytuno ar wahanol fathau o gymorth – er enghraifft fel prynu gwisg ysgol yn hytrach na gwneud taliad.

  • Mae’n hyblyg – gallwch gytuno i newid y trefniadau os bydd eich amgylchiadau’n newid.

  • Mae’n cynnal llinellau cyfathrebu rhyngoch chi a’ch cynbartner.

  • Nid oes rhaid i chi dalu i sefydlu un.

  • Mae’n gweithio’n dda os yw’r ddau riant yn ymddiried yn ei gilydd - felly mae’r rhiant sy’n derbyn yn hyderus bod y rhiant sy’n talu wedi bod yn onest am eu hincwm.

  • Gallwch ddal gwneud cais i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn nes ymlaen os na fydd pethau’n gweithio allan.

Anfanteision
    • Nid yw’n gyfreithiol rwymol – nid oes neb i gasglu taliadau coll nac i orfodi cytundebau a dorrwyd.
    • Efallai na fydd yn bosib cytuno os ydych yn cael problemau cyfathrebu gyda’ch gilydd neu mae un person yn teimlo dan fygythiad gan y llall.
Os ydych angen help i gytuno faint i’w dalu, neu sut i’w dalu, gallwch ddod o hyd i gyfryngwr:

Gwneud trefniant teuluol yn gyfreithiol rwymol

Efallai y gallwch droi trefniant teuluol yn gytundeb cyfreithiol rwymol.  Gallwch wneud hyn drwy:

  • ofyn i’ch cyfreithiwr, neu
  • trwy fynd i’r llys a chael caniatâd neu orchymyn llys (yn yr Alban rhaid i chi gael ‘Minute of Agreement’).

Gallwch ei ddefnyddio i ffurfioli trefniadau ariannol eraill ar yr un pryd – er enghraifft, pwy sy’n talu’r morgais.

Rhaid i chi a’ch cynbartner gytuno beth sydd yn y gorchymyn caniatâd.

Manteision
  • Mae’n rhoi sylfaen gyfreithiol i’r trefniant. Felly os bydd y taliadau’n dod i ben, gallwch ofyn i’r llys orfodi’r gorchymyn.

  • Efallai y bydd eich cyfreithiwr yn cynnig dewis ffi osodedig am lunio’r gorchymyn caniatâd a’i gyflwyno i’r llys os byddwch chi a’ch cynbartner wedi cytuno ar lefel y taliadau cynhaliaeth plant.

Anfanteision
  • Gall fod yn ddrud os bydd anghytundeb mawr a byddai’n rhaid i chi dalu biliau cyfreithiol eich hun - oni bai eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol am ffioedd cyfreithiol. Dim ond pan fydd trais domestig (yn cynnwys trais ariannol), trais neu gipio plant wedi digwydd y gallwch wneud hyn yng Nghymru neu Loegr. Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, mae cymorth cyfreithiol ar gael o hyd ond mae prawf modd ar ei gyfer.

  • Ni allwch wneud cais i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am gytundeb statudol nes bydd blwyddyn wedi mynd heibio ers i chi drefnu gorchymyn caniatâd neu lys, neu ‘Minute of Agreement’ yn yr Alban.

  • Nid yw mor hyblyg â chytundeb anffurfiol yn seiliedig ar y teulu, gan y byddai’n rhaid i chi fynd yn ôl i’r llys i amrywio’r gorchymyn caniatâd neu ‘Minute of Agreement’. Mae hyn yn creu risg y bydd ôl-ddyledion cynhaliaeth plant yn cronni yn y cyfamser.

Defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Os na fyddwch chi a’ch cynbartner yn gallu cytuno ar daliadau cynhaliaeth plant rhyngoch, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS). Os ydych wedi profi cam-drin domestig, gallwch hefyd gael y CMS i gasglu a gwneud taliadau ar eich rhan - heb ganiatâd cynbartner camdriniol.

Pan rydych yn cysylltu â’r CMS, dylen nhw ofyn a ydych wedi profi neu fod yn dyst i gam-drin domestig. Os ydych yn teimlo y gall eich cais cynhaliaeth plant eich rhoi mewn perygl, dylai CMS eich helpu i gysylltu â’r National Domestic Violence HelplineYn agor mewn ffenestr newydd neu gymorth arall.

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynnal Plant drwy ffonio 0800 171 2345 neu drwy wefan y Gwasanaeth Cynnal Plant

Byddant yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu. Os ydych am iddynt wneud, gallant hefyd drefnu i’r arian gael ei dalu.

Fel arfer mae tâl am ddefnyddio’r CMS fel arfer. Mae dwy ffordd wahanol i chi dalu: Talu’n Uniongyrchol a Chasglu a Thalu.

Defnyddio Talu’n Uniongyrchol

Mae Talu’n Uniongyrchol yn golygu bod y CMS yn cyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu ac mae’r rhiant sy’n talu yn trefnu sut a phryd byddant yn gwneud taliadau.

Manteision
  • Nid oes rhaid i chi gyfrifo faint o gynhaliaeth plant sy’n deg i chi ei dalu neu ei dderbyn.

  • Os na fydd eich cynbartner yn talu gallwch ofyn am gael symud i Gasglu a Thalu, sy’n golygu bod y CMS yn gallu gweithredu i wneud iddynt dalu.

  • Gall y trefniant barhau nes bydd eich plentyn yn cyrraedd 20 oed, ar yr amod ei fod mewn addysg amser llawn hyd at lefel A, ‘Highers’ neu gyfatebol.

Anfanteision
  • Gall tynnu’r CMS i mewn i’r achos gynyddu unrhyw ddrwgdeimlad rhyngddo chi a’ch cynbartner.

  • Bydd rhaid i chi dalu ffi £20 (2023) am wneud cais i’r CMS. Ond nid oes rhaid i chi dalu’r ffi os ydych dan 19 oed neu wedi dioddef trais domestig.

Rhaid i chi siarad ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant os dymunwch ddefnyddio’r CMS.

Defnyddio Casglu a Thalu

Os bydd eich cynbartner yn gwrthod talu cynhaliaeth plant gallwch ofyn i’r CMS gasglu arian ganddynt a’i drosglwyddo i chi.

Gallwch hefyd ddefnyddio hyn os byddwch yn sefydlu trefniant Talu Uniongyrchol na fydd eich cynbartner yn cadw ato. Ond byddwch yn ymwybodol bod tâl yn ddyledus gan y ddau riant fel arfer.

Os ydych wedi profi cam-drin domestig, bydd eich ffioedd yn cael eu hepgor, ac efallai byddwch yn cael cynnig cymorth un-i-un gan staff arbenigol gyda hyfforddiant cam-drin domestig.

Manteision
  • Nid oes rhaid i chi gyfrifo faint o gynhaliaeth plant sy’n deg i chi ei dalu neu ei dderbyn.

  • Nid y chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich cynbartner yn talu cynhaliaeth plant.

  • Os na fyddant yn talu, gall y CMS gymryd camau gorfodi – er enghraifft, cymryd arian yn uniongyrchol o’u cyflog neu orfodi i eiddo neu feddiannau gael eu gwerthu. Bydd rhaid i’r rhiant sy’n talu hefyd dalu taliadau ychwanegol os bydd, er enghraifft, arian yn cael ei gymryd o’u cyflog.

Anfanteision
  • Bydd rhaid i chi dalu ffi £20 (2023) am wneud cais i’r CMS. Ond, ni fyddwch yn talu’r ffi hon os ydych dan 19 oed, neu wedi dioddef trais domestig, sy'n cynnwys camdriniaeth ariannol.

  • Bydd rhaid i’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth plant dalu 4% o’r swm y maent yn ei dderbyn i’r CMS fel ffi. Mae’n rhaid i’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth plant dalu 20%. Mae hwn yn arian allai fod wedi mynd i gynnal y plant.

  • Nid oes gennych unrhyw hawl i ddweud pa fath o gamau gorfodi y mae’r CMS yn eu cymryd na phryd maent yn ei gymryd.

Gwneud cais i’r llys am gynhaliaeth plant

Os gallwch ddod i gytundeb ar gyfer cynhaliaeth plant gyda'r rhiant arall gallwch wneud cais i'r llys i'w wneud yn gytundeb ffurfiol sydd gyda rhwymedigaeth cyfreithiol. Gelwir hyn yn orchymyn caniatâd. Rhaid i'r ddau riant gytuno i delerau'r gorchymyn.

Defnyddir gorchymyn caniatâd fel arfer pan fydd rhieni yn ysgaru ac yn datrys eu cyllid. Felly gallai gynnwys cytundebau eraill - er enghraifft, pwy sy'n mynd i dalu'r morgais.

Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys:

  • os yw’r rhiant sy’n talu yn byw dramor - darganfyddwch fwy ar GOV.UK
  • i drefnu i dalu ffioedd ysgol breifat
  • i gyfrifo faint o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu i lysblant neu blant anabl
  • os mae’r rhiant sy’n talu yn ennill mwy na £156,000* y flwyddyn – gall y llys benderfynu a ddylant dalu cynhaliaeth plant ychwanegol.

(*ffigwr 2023)

Manteision
  • Gall fod yn rhan o setliad ariannol mwy a drafodwyd rhyngoch chi, ar ôl gwahanu. Er enghraifft, gallai dalu am daliadau morgais eraill.

  • Gellir gorfodi gorchymyn caniatâd trwy'r llys os na thelir y gynhaliaeth.

Anfanteision
  • Mae'n rhaid i chi fynd trwy broses llys ffurfiol a thalu ffioedd am y gorchymun.

  • Ni allwch wneud cais i'r CMS am flwyddyn ar ôl i gorchymyn caniatâd gael ei wneud.

  • Os na wneir y taliadau, gall gorfodi'r gorchymyn fod yn ddrud a chymryd llawer o amser.

  • Bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys os ydych am i'r gorchymyn newid.

  • Mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol annibynnol - y byddai'n rhaid i chi dalu amdano. Mae yna hefyd ffioedd llys am wneud a gorfodi'r gorchymyn.

  • Mae'n bwysig cael cyngor arbenigol cyn gwneud cais i'r llysoedd. I gael help i ddod o hyd i gyfreithiwr, ewch i wefan Resolution.

Newidiadau i gynhaliaeth plant

Os oes newid sylweddol yn eich incwm neu’ch gyfoeth chi neu eich cynbartner, efallai y byddwch yn gallu addasu lefel y taliadau cynhaliaeth plant.

Os oes gennych drefniant seiliedig ar y teulu â’ch cynbartner, gallwch drafod gwneud newidiadau ag ef neu hi.

Mae’n bwysig gwirio â cyfreithiwr am ddiweddaru’r gorchymyn llys (os oes gennych un) sy’n cynnwys cytundebau blaenorol ar daliadau cynhaliaeth plant.

Os byddwch yn symud i fyw gyda phartner newydd a’ch bod yn derbyn cynhaliaeth plant, ni fydd eich perthynas yn effeithio ar hyn – os byddwch yn priodi neu yn llunio partneriaeth sifil neu ddim.

Ond gallwch gytuno â’ch cynbartner i newid lefel y taliadau, os bydd lefelau incwm yn newid er enghraifft. 

Os oes llysblant, efallai y byddai’n werth cael cyngor cyfreithiol.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.