Sut y gall cael ysgariad effeithio ar fy mhensiwn a’m hincwm ymddeoliad?

Os ydych wedi ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, neu os ydych yn y broses o wneud hynny, efallai y byddwch yn gweld bod gennych lai i ymddeol arno nag yr oeddech yn disgwyl. Darganfyddwch sut i gynyddu eich pensiwn wrth i chi nesáu at eich ymddeoliad a sut y gall gwahanu ar ôl ymddeol effeithio arnoch.

Os ydych eisoes wedi ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil wedi dod i ben

Pan wnaethoch ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, dylai unrhyw bensiwn gweithle neu breifat oedd gennych chi neu eich partner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) fod wedi cael eu hystyried wrth rannu’r asedau.

Yn yr Alban, dim ond y pensiwn a gronnwyd yn ystod y briodas neu bartneriaeth sifil sy’n cael ei ystyried.

Os oeddech eisoes yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth pan wnaethoch ysgaru a'ch bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, ni ellid rhannu unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a oedd gennych ar adeg ysgariad neu ddiddymiad.

Fodd bynnag, gallai unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth a oedd gennych fod wedi'i rannu. Nid yw pawb yn cael hyn, dyna'r rhan y gallech wedi ei hadeiladu o dan yr hen system pe byddech yn gyflogedig ac yn ennill mwy na swm penodol.

Os nad oeddech wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu eich bod wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 pan wnaethoch ysgaru, fe gewch Bensiwn Newydd y Wladwriaeth, ac ni ellir rhannu hyn ar ysgariad.

Os oes gennych hawl i daliad ychwanegol ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth, a elwir yn 'daliad gwarchodedig' (sydd fel rheol yn cyfrif am Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yr oeddech wedi'i adeiladu cyn 6 Ebrill 2016), yna gallech fod wedi cael gorchymyn i rannu hwn.

Efallai bod y pensiwn(pensiynau) wedi cael eu rhannu adeg yr ysgariad neu’r diddymiad.

Neu gallai rhan o’r pensiwn(pensiynau) fod wedi’i neilltuo i gael ei dalu i un partner ar ymddeoliad neu gallai ei/eu gwerth fod wedi’i wrthbwyso yn erbyn gwerth asedau eraill, fel cartref y teulu.

Adolygu eich pensiynau cyn i chi ymddeol

Os oedd y pensiwn(pensiynau) wedi eu rhannu pan gawsoch ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, gwiriwch faint yw gwerth eich pensiwn(pensiynau) nawr a chyfrifo faint fydd gennych i ymddeol arno.

Os oedd y pensiwn yn rhan o orchymyn atodi neu glustnodi, gwiriwch delerau’r gorchymyn i weld beth fyddwch yn ei gael a phryd.

Os na rannwyd y pensiwn(pensiynau) oherwydd eich bod wedi cael cyfran fwy o’r tŷ neu asedau eraill yn lle hynny, dylech gyfrifo faint yw gwerth unrhyw gynilion pensiwn rydych wedi eu crynhoi ar wahân.

Os ydych yn annhebygol o gael digon o arian i ymddeol, cyfrifwch a allwch gynilo mwy.

Ysgariad neu ddiddymiad ar ôl i chi ymddeol

A ydych yn cael ysgariad neu’n diddymu eich partneriaeth sifil, neu’n ystyried hyn ar ôl i chi ymddeol? Os ydych, bydd unrhyw bensiynau sydd gennych chi a’ch cyn bartner yn cael eu trin ychydig yn wahanol na phetaech yn gwahanu cyn ymddeol.

Mae’n well gofyn am gyngor ariannol gan fod hwn yn faes cymhleth iawn.

Os ydych yn ystyried cael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil, mae’n syniad da cael cyngor gan gyfreithiwr (ac weithiau gan gynghorydd ariannol neu actiwari hefyd) i wneud yn siŵr bod y pensiwn yn cael ei brisio a’i rannu’n gywir.

Ni ddylech wneud unrhyw ragdybiaethau am yr hyn y bydd gennych hawl iddo.

Mae Advicenow yn wasanaeth a ddarperir gan Law for LifeYn agor mewn ffenestr newydd sy’n sylfaen ar gyfer addysg gyfreithiol cyhoeddus. 

Eich Pensiwn y Wladwriaeth ac ysgaru neu ddiddymu

Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2016, mae’ch Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar gofnod Yswiriant Gwladol chi eich hun.

Ni ellir rhannu’ch Pensiwn newydd y Wladwriaeth os daw eich priodas neu bartneriaeth sifil i ben.

Fodd bynnag, efallai y bydd rhai pobl eisoes wedi cronni swm sy’n uwch na’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth. Mae hyn oherwydd yr hawl i gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, a oedd yn berthnasol i rai cyflogeion dan yr hen system.

Gelwir hyn yn ‘daliad a ddiogelir’ a gallai llys roi gorchymyn bod y taliad hwn yn gymwys i’w rannu.

Gallwch gwblhau ffurflen BR20 i gael gwybod gwerth eich Pensiynau’r Wladwriaeth a fydd yn helpu’r llys i wneud penderfyniad. Gallwch gael ffurflen BR20 ar wefan GOV.UK

Os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, ni ellir rhannu unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth sydd gennych wrth ysgaru neu ddiddymu perthynas.

Fodd bynnag, gellir rhannu unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth sydd gennych. Nid yw pawb yn cael hyn, dyna'r rhan y gallech ei hadeiladu o dan yr hen system pe byddech yn gyflogedig ac yn ennill mwy na swm penodol.

Beth sy’n digwydd i fuddion marwolaeth?

Mae rhai trefniadau pensiwn yn darparu buddion marwolaeth fel cyfandaliad neu bensiwn priod/partner sifil.

Bydd gan bob cynllun ei reolau ei hun ar bwy fydd yn cael pa fuddion. Felly, os yw rhywun yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod, neu os nad yw'r aelod a'u priod/partner wedi ysgaru neu ddiddymu eu partneriaeth sifil yn gyfreithiol, efallai y bydd hawl ganddynt o hyd i bensiwn pan fydd yr aelod yn marw.

Bydd y cynllun pensiwn yn edrych ar amgylchiadau'r berthynas a rheolau'r cynllun i'w helpu i benderfynu a oes gan unrhyw un hawl i unrhyw fudd-daliadau pensiwn.

Os ydych yn derbyn buddion marwolaeth gan bensiwn aelod ymadawedig ar hyn o bryd, ni fydd modd rhannu'r rhain ond efallai bydd yr incwm yn cael ei ystyried fel rhan o setliad yr ysgariad.

Hefyd, sicrhewch eich bod yn gwirio bod buddiolwyr eich pensiynau wedi’i ddiweddaru. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.