Os yw'r ddau ohonoch wedi cytuno i ddod a'ch perthynas i ben a bod eich materion ariannol yn syml, dylech fedru cael trefn ar bopeth yn gymharol gyflym a rhad. Rhaid i chi fynd trwy’r broses gyfreithiol yr un fath, ond efallai na fydd angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr drwy’r cyfan.
Beth yw ysgariad neu ddiddymiad DIY?
Dyna y gelwir sefyllfa pan fyddwch chi a’ch cynbartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) yn mynd trwy’r broses ysgaru neu ddiddymu heb fawr o help gan gyfreithiwr, neu ddim help o gwbl.
Mae’n bwysig gwybod beth mae rhywun yn ei olygu pan mae’n sôn am 'ysgariad' neu 'ddiddymiad', yn enwedig os ydych yn dymuno trefnu’ch ysgariad neu ddiddymiad eich hun.
Yn aml defnyddir ysgariad neu ddiddymiad fel term cyffredinol i olygu popeth sydd ynghlwm â pherthynas yn torri i lawr. Bydd hyn yn cynnwys:
- terfynu’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn ffurfiol
- rhannu materion ariannol y teulu
- gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw blant.
Ystyr ysgariad neu ddiddymiad yw’r broses gyfreithiol o ddod â phriodas neu bartneriaeth sifil i ben a gydnabyddir yn gyfreithiol yn y DU . Rhaid dilyn gweithdrefn benodol.
Gan amlaf mae hyn yn syml. Mae llawer o bobl yn trefnu eu hysgariad neu ddiddymiad eu hunain gydag ychydig neu ddim cymorth cyfreithiol.
Ond gall fod problemau. Daw’r rhan fwyaf o’r anawsterau wrth rannu materion ariannol y teulu.
Gall gweithio allan eich cytundeb ariannol eich hun, gyda neu heb gefnogaeth broffesiynol, fod y ffordd rataf i sicrhau setliad. Fodd bynnag, gall fod yn broses gymhleth a bydd angen i chi a’ch gŵr, gwraig neu bartner ystyried amryw o bethau.
Gall fod o fudd cael un cyfarfod gwirio gyda chyfreithiwr teulu arbenigol. Bydd hyn o gymorth i chi ddeall eich hawliau ac effeithiau llawn unrhyw gytundebau a phenderfyniadau a wnewch. Bydd yn sicrhau hefyd bod unrhyw gytundeb yn gyfreithiol rwym.
Yng Nghymru a Lloegr
Os nad ydych wedi delio â phob mater – neu os gadewch hawliadau ariannol heb eu datrys – yna gall fod problemau yn nes ymlaen. Gall hyn amharu ar eich bywydau flynyddoedd ar ôl i’r ysgariad neu ddiddymiad gael ei gwblhau.
Y rheswm am hyn yw oherwydd nid yw ysgariad neu ddiddymiad yn eich atal rhag cael gwneud hawliad yn erbyn eich cyn bartner (neu’ch cyn barter yn eich erbyn chi). Ymhellach, nid oes cyfyngiad amser ar gyfer gwneud hawliad ariannol.
Mae’n hanfodol sicrhau bod gennych chi orchymyn llys rhwym sy’n sefydlu’r trefniadau ariannol yn glir. Hyd yn oed os yw’r gorchymyn llys yn datgan nad yw’n fwriad gan y naill ohonoch gyflwyno hawliad yn erbyn y llall.
Yn yr Alban
Mae’r gyfraith yn wahanol. Ni allwch gyflwyno hawliad am ddarpariaeth ariannol ar ôl i chi ysgaru.
Mae’n bwysig cymryd cyngor gan arbenigwr mewn cyfraith teulu o’r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau nad ydych yn colli’r hawl hwn.
Yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r rhwymedigaeth i gynnal priod dibynnol yn parhau ar ôl ysgariad, hyd yn oed pan na wnaed gorchymyn cynhaliaeth ar y pryd. Dim ond ar ôl marwolaeth neu ailbriodi’r priod sy’n derbyn y daw’r rhwymedigaeth o gynhaliaeth priod i ben.
Er mae’n anhebyg y bydd llys yn gorfodi taliad cynhaliaeth lle mae priod dibynnol yn cyd-fyw â phartner newydd mewn amgylchiadau tebyg i un gŵr a gwraig.
Faint o amser mae’n ei gymryd?
Ni all ysgariad neu ddiddymiad DIY gymryd llai na chwe wythnos i’w gwblhau o pan fydd y broses gyfreithiol yn dechrau.
Mae hynny’n ddeddf yng Nghymru a Lloegr . Ac mae’n annhebygol o gymryd llai na hyn yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.
Gellid cytuno ar setliad ariannol o fewn misoedd. Mae hyn yn ddibynnol ar ba mor gymhleth yw’ch sefyllfa ariannol a pha broses a ddefnyddiwch i’w datrys.
Fodd bynnag, yn aml gall trafodion ariannol drwy’r llysoedd gymryd amser maith, yn enwedig yng Nghymru a Lloegr.
Gall gymryd rhwng naw mis a dwy flynedd i roi trefn ar y materion ariannol os na allwch chi a’ch cyn bartner gytuno arnynt.
Ysgariad neu ddiddymiad DIY yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
Gall unrhyw un ddewis ysgariad neu ddiddymiad DIY, ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn addas i bawb.
Fel canllaw, efallai y byddwch yn medru cael trefn ar eich ysgariad neu ddiddymiad a’ch arian eich hun os:
- nad oes gennych blant neu eich bod yn medru cael trefn ar y trefniadau ar gyfer y plant
- byddwch chi eich dau wedi byw yn yr un rhan o’r Deyrnas Unedig am flwyddyn o leiaf
- eich bod yn medru trafod neu negodi sut y byddwch yn rhannu eich eiddo a’ch dyledion
Os ydych yn gytûn ar gael ysgariad neu ddiddymiad bydd angen i chi fod wedi bod yn briod:
- yng Nghymru a Lloegr am dros flwyddyn
- yng Ngogledd Iwerddon dros ddwy flynedd a dwy flynedd o fyw ar wahân
Os nad ydych yn cytuno ar gael ysgariad neu ddiddymiad bydd angen i chi fod wedi bod yn briod:
- yng Nghymru a Lloegr am dros flwyddyn
- yng Ngogledd Iwerddon dros bum mlynedd a phum mlynedd o fyw ar wahân
Efallai na fydd ysgariad neu ddiddymiad DIY yn syniad da os oes gennych chi a’ch cynbartner:
- blant dan 18 oed
- cartref gwerthfawr
- busnes
- pensiwn (pensiynau)
- faterion ariannol cymhleth.
Ysgariad neu ddiddymiad symlach (DIY) yn yr Alban
Nid yw’r weithdrefn ysgariad neu ddiddymiad ‘symlach’ (DIY) yn addas i bawb. Er enghraifft, ni allwch ei defnyddio os oes gennych blant ifanc.
Fel canllaw, rydych yn debygol o fedru datrys eich ysgariad neu ddiddymiad eich hun os:
- nad oes unrhyw blentyn dan 16 oed
- byddwch wedi gwahanu am flwyddyn o leiaf a’ch bod eich dau yn cytuno i’r ysgariad neu ddiddymiad, neu os nad ydych yn cytuno ac wedi bod yn byw ar wahân ers o leiaf dwy flynedd
- nad ydych yn ymwneud ag unrhyw achos llys arall a all ddwyn eich priodas neu bartneriaeth sifil i ben
- nad oes yr un ohonoch yn dioddef salwch meddwl neu broblemau iechyd sy’n golygu na allwch wneud penderfyniadau am arian
- ydych yn cytuno sut y dylid rhannu eich eiddo a’ch meddiannau ac nad ydych yn gwneud hawliad ariannol yn erbyn eich gilydd
Peidiwch â defnyddio’r weithdrefn ‘symlach’ os byddwch yn bwriadu hawlio yn erbyn eich cynbartner am gyfran o’i asedau ef neu hi neu am daliadau cyson.
Os nad ydych yn siŵr sut y gallai’ch arian gael ei rannu, mae’n werth cael cyngor cyfreithiol i ddechrau cyn defnyddio’r ‘weithdrefn symlach’. Neu, dilynwch y weithdrefn ysgariad neu ddiddymiad ‘arferol’.
Wedi i chi ysgaru, ni allwch gyflwyno hawliad am gyfran o asedau’ch cyn bartner.
Llenwi a chyflwyno’r ffurflenni eich hun
Os dymunwch, gallwch gael, llenwi ac anfon ffurflenni’r llys eich hun.
Dyma’r dewis rhataf gan mai dim ond y ffioedd llys y bydd yn rhaid i chi eu talu. Os ydych ar incwm isel, efallai y cewsh arian oddi ar eich ffioedd.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Yng Nghymru neu yn Lloegr
Gallwch wneud cais am ysgariad ar wefan GOV.UK (Opens in a new window)
Yng Ngogledd Iwerddon
Hyd yn oed os byddwch yn dewis ysgariad neu ddiddymiad DIY, bydd rhaid i chi ymddangos ger bron barnwr fel ‘deisebydd personol’ mewn naill ai llys sirol neu Uchel Lys.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni i baratoi ar gyfer hyn o wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Gogledd Iwerddon
O ran llenwi’r ffurflenni ysgariad, gallwch drefnu cyfweliad gyda’r ‘Matrimonial Office of the Royal Courts of Justice’. Gall eu staff wirio eich bod wedi llenwi’ch ffurflenni yn gywir – cofiwch na allant gynnig cyngor cyfreithiol. Mae yna ffi fach am y gwasanaeth hwn.
Darganfyddwch fwy ar wefan nidirect
Mae’r rheolau ar gyfer ysgariad yng Ngogledd Iwerddon yn debyg iawn i’r rhai yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ond y gwahaniaeth amlycaf yw na all cwpl wneud cais o fewn y ddwy flynedd gyntaf o’r briodas. (Yng Nghymru a Lloegr, mae’n flwyddyn. Ac does dim terfyn amser yn yr Alban).
Yn yr Alban
Mae mwy o wybodaeth am y weithdrefn ‘symlach’ (ei wneud eich hun) ar wefan Scottish Courts
Defnyddio gwasanaeth ysgaru neu ddiddymu DIY ar-lein
Mae rhai cwmnïau’n cynnig gwasanaethau ysgaru neu ddiddymu ar-lein (er eu bod yn eithaf prin yng Ngogledd Iwerddon).
Mae’r pecynnau yma yn amrywio o ran pris ac yn cynnig lefelau gwahanol o help. Mae bob amser yn werth gwirio beth sydd ar gael. Bydd y rhan fwyaf yn eich helpu gyda’ch gwaith papur ysgaru neu ddiddymu - ond nid gyda llunio setliad ariannol.
Mae llawer o gyfreithwyr y stryd fawr, erbyn hyn, yn cynnig ffi sefydlog am ysgariad neu ddiddymiad. Byddant hefyd yn cynnig ffioedd sefydlog neu wedi eu capio i helpu i gael trefn ar eich materion ariannol.