Ysgariad neu ddiddymiad: sut y gallwn helpu gyda'ch pensiwn

Gall ysgariad neu ddiddymiad fod yn gyfnod dryslyd a gofidus. Mae yna lawer o bethau i feddwl amdanynt, ac efallai mai pensiynau fyddai'r peth olaf ar eich meddwl. Ond gall eich pensiwn(au) fod eich asedau mwyaf gwerthfawr. Felly mae'n bwysig eu hystyried wrth benderfynu sut y bydd eich arian a'ch eiddo yn cael eu rhannu.

Cytuno sut i wahanu'ch cyllid

Pan fyddwch chi'n ysgaru neu'n dod â phartneriaeth sifil i ben, mae angen i chi a'ch cyn-bartner gytuno ar sut i wahanu'ch cyllid. Mae'r rheolau yn wahanol, yn dibynnu a oeddech chi'n briod ai peidio neu mewn partneriaeth sifil:

Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn ysgaru neu'n diddymu'ch partneriaeth sifil

Efallai y bydd gennych hawl i rywfaint o bensiwn eich partner, neu'r cyfan ohono. Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y cytunwyd arno a/neu a orchmynnir gan y llys.

Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil ac ar wahân

Os byddwch yn gwahanu heb ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn gyfreithiol, ni fyddech yn gallu rhannu pensiwn eich partner yn ffurfiol.

Ond efallai y bydd gennych hawl o hyd i bensiwn neu gyfandaliad priod pan fyddant yn marw. Mae mwy o wybodaeth am hyn isod.

Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ac yn gwahanu o’ch partner

Yn y sefyllfa hon, ni fyddai gan y naill barti na'r llall hawl yn awtomatig i gael cyfran o bensiwn y llall.

Efallai y cyfeirir at gyplau sydd wedi byw gyda’i gilydd fel bod mewn ‘priodas cyfraith gwlad’ neu ‘gyd-fyw’. Mae llawer o gyplau yn credu bod hyn yn rhoi'r un amddiffyniad cyfreithiol iddynt â phâr priod neu bartneriaeth sifil. Er nad yw hyn yn wir am y rhan fwyaf o'r DU, gall fod rhai amgylchiadau yn yr Alban lle gallant gael yr un amddiffyniad cyfreithiol.

Eich opsiynau

Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil a'ch bod chi'n penderfynu ysgaru, neu ddiddymu'ch partneriaeth, dylai'r llys ystyried unrhyw hawliau pensiwn.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, byddai hyn fel arfer yn golygu cyfanswm gwerth yr holl hawliau pensiwn, ni waeth pryd y cawsant eu cronni.

Yn yr Alban, mae gwerth y pensiynau a grëwyd yn ystod y briodas neu'r bartneriaeth sifil yn cael eu hystyried. Mae hyn yn golygu nad yw unrhyw beth a grëwyd cyn y briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu a gronnwyd ers ‘dyddiad y gwahanu’, yn cyfrif fel rheol.

Mae tair ffordd wahanol o ddelio â phensiynau personol neu’r gweithle wrth ysgaru neu ddiddymu perthynas:

Delio â phensiynau ar ysgariad neu ddiddymiad
Opsiwn Beth ydyw

Gwrthbwyso pensiynau 

Mae gwerth unrhyw bensiynau yn cael ei wrthbwyso yn erbyn asedau eraill. 

 

Er enghraifft, gallai un person gael cyfran fwy o gartref y teulu yn gyfnewid am y llall yn cadw ei bensiwn.

Gall hyn gynnig toriad llwyr, syml nad yw'n ymyrryd â'r pensiynau presennol.

Rhannu pensiynau

Trosglwyddir y cyfan neu gyfran ganrannol o bensiynau person A i berson B.

 

Gellir ei drosglwyddo i bensiwn yn eu henw (naill ai pensiwn newydd neu bensiwn presennol) neu efallai y gallant ymuno â'r cynllun y mae'r pensiwn wedi dod ohono. Bydd yn dibynnu ar reolau'r cynllun pensiwn o ran pa ddull y maent yn ei ganiatáu.

Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n berchen y cyfranddaliad yn hawl eu hunain a gallu ei reoli fel maent yn dymuno.

Mae'r opsiwn hwn hefyd yn cynnig llechen lân, ond cofiwch ni allwch rannu unrhyw yswiriant bywyd neu fudd-daliadau marwolaeth.

Ymlyniad Pensiwn/Gorchmynion clustnodi

Mae un partner yn cytuno i dalu cyfran o’u pensiwn i'w gyn-bartner pan fydd yn dechrau cael ei dalu iddynt.

 

Gelwir y rhain yn ‘gorchmynion ymlyniad’ yn y rhan fwyaf o’r DU, gall person B gael rhywfaint o’r incwm pensiwn, y cyfandaliad neu’r ddau. Ond ni all person B gael taliadau pensiwn cyn i berson A ddechrau cymryd ei bensiwn.

Fe’i gelwir yn ‘clustnodi pensiwn’ yn yr Alban, lle gallwch chi gael rhywfaint o’r cyfandaliad yn unig.

Er y gallai hyn gadw pethau'n symlach i'w trefnu fel rhan o'r ysgariad, nid yw'n cynnig toriad llwyr. Mae hyn oherwydd bod person A yn dal i reoli pryd a sut y caiff ei ddefnyddio adeg ymddeoliad.

Mae’r opsiynau i ddelio â Phensiwn y Wladwriaeth yn wahanol i’r uchod ac yn dibynnu ar y dyddiad rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Y broses ysgaru

Fel rheol, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys i ddatrys eich cyllid os gallwch chi a'ch cyn-bartner gytuno ar sut i rannu'r arian a'r eiddo.

Os gallwch ddod i gytundeb rhyngoch chi, er mwyn i hyn fod yn gyfreithiol rwymol byddai angen i chi wneud cais i'r Llys.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gelwir hyn yn ‘Orchymyn Cydsynio’.

Yn yr Alban, fe’i gelwir yn ‘Gytundeb Cymwys’.

Os na allwch gytuno ar bopeth, gallwch ofyn i lys wneud ‘gorchymyn ariannol'.

Yn fras, mae'r broses sy'n cynnwys pensiynau yn edrych fel hyn:

  1. Cael cyfreithiwr
  2. Gweithio allan asedau
  3. Cael gwybod gwerth yr holl bensiynau (gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth)
  4. Asesu’r opsiynau pensiynau
  5. Mynd i’r llys am y gorchymyn pensiwn
  6. Gweithredu’r gorchymyn pensiwn
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.