Rhannu’r cartref teuluol a’r morgais wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw

Os ydych yn gwahanu o’ch partner ac yn berchen ar eich cartref eich hun rhyngoch, un o’r penderfyniadau ariannol mwyaf y gallech wynebu yw beth sy’n digwydd iddo. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud a beth yw eich dewisiadau os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Camau cyntaf i’w cymryd

A ydych yn y camau cynnar o wahanu ac eisiau rhywfaint o wybodaeth am ddiogelu eich hawliau i fyw yn y cartref? Yna mae’n werth darllen ein canllaw Diogelu eich hawliau perchnogaeth cartref yn ystod gwahaniad.

Deall sut gall yr eiddo gael ei rannu

Os ydych chi a’ch partner yn berchen ar eich cartref teuluol ar y cyd, mae gennych amryw o ddewisiadau sut y gallwch ei rannu.

Efallai y byddwch yn penderfynu:

  • Gwerthu’r cartref a byddwch chi’ch dau yn symud allan. Gallech ddefnyddio’r arian a godwyd tuag at brynu cartref newydd yr un, os gallwch fforddio gwneud hyn.
  • Trefnu i un ohonoch brynu cyfran y llall.
  • Cadw’r cartref a pheidio newid pwy sy’n berchen arno. Gallai un partner ddal i fyw ynddo, o bosibl nes bydd eich plant yn 18 oed neu’n gadael yr ysgol (os oes gennych blant).
  • Trosglwyddo rhan o werth yr eiddo o un partner i’r llall fel bod gan eich plant rywle i fyw. Byddai’r partner a ildiodd gyfran o’i hawliau perchnogaeth yn cadw cyfran neu ‘fudd’ yn y cartref. Mae hyn yn golygu pan fydd yn cael ei werthu bydd ef neu hi yn derbyn canran o’i werth.

Blaenoriaethu anghenion eich plant

Os ydych chi a’ch partner yn gwahanu ac mae gennych blant, mae’n bwysig ystyried ble byddant yn byw.

Fel cwpl sy’n cyd-fyw ond sydd ddim wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, nid oes unrhyw rwymedigaeth i gefnogi’ch gilydd yn ariannol wedi gwahanu.  Ond fel rhieni mae disgwyliad i chi dalu tuag at gost eich plant.

Gallai un rhiant wneud cais yn erbyn y llall ar gyfer yr hawl i aros yn y cartref teuluol.

Mae sut fyddwch yn gwneud hyn – a’r cyfreithiau sy’n rhoi’r hawliau hyn i chi – yn amrywio o amgylch y Deyrnas Unedig.

Nid yw’n golygu y bydd y person sy’n aros yn y cartref yn berchen ar y cartref na chyfran ohono - ond efallai y byddant yn cael yr hawl i fyw yno am nifer o flynyddoedd.  Fel arfer byddai hyn nes bydd y plentyn ieuengaf yn cyrraedd oed penodol.

Gwneud cais am gyfran o werth y cartref

Os yw’ch cartref yn enw eich cyn bartner yn unig - byddwch yn gallu gwneud cais am gyfran o’i werth.

Mae gwahanol gyfreithiau sy’n eich galluogi i wneud hyn, gan ddibynnu ar ble yn y Deyrnas Unedig rydych yn byw.

Mae’n faes cymhleth iawn o’r gyfraith ac mae’n hanfodol cael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo yn y gyfraith o ran cyplau sy’n cyd-fyw.

Gwneud cais yng Nghymru neu Loegr

A ydych wedi talu tuag y morgais, neu tuag at welliannau neu estyniad? Yna efallai y byddwch yn gallu sefydlu beth a elwir mewn termau cyfreithiol yn ‘fudd llesiannol.’ Gallai hyn olygu y byddwch yn gallu gwneud cais am gyfran ariannol o’r eiddo, neu’r hawl i fyw ynddo.

A brynodd eich cyn bartner y cartref yn eu henw ond roedd gennych ddealltwriaeth neu gytundeb bod gennych gyfran yn ei werth pan y’i gwerthir? Yna efallai bydd gennych fudd llesiannol.

Nid yw gwneud cyfraniad ariannol yn golygu y bydd gennych hawl fel mater o drefn i gael cyfran o’r eiddo.

Ond gallwch wneud cais amdano – hyd yn oed os nad ydych chi a’ch cyn bartner wedi llofnodi dogfen ffurfiol yn datgan bod gennych hawl i gyfran yn yr eiddo.

Gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon

Mae gennych hawl i dderbyn unrhyw arian yn ôl – fel taliadau morgais – rydych wedi eu cyfrannu tuag at y cartref teuluol. Ond, mae dau amod:

  • Mae rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o’r taliadau a wnaethoch, trwy ddatganiadau banc neu debyg.
  • Byddwch yn gallu derbyn taliad dim ond os oedd digon o ecwiti yn yr eiddo pan wnaethoch chi a’ch cyn bartner wahanu.

Gwneud cais yn yr Alban

Efallai y gallwch wneud cais os ydych wedi cael ‘anfantais economaidd’  - neu os yw’ch cyn bartner wedi profi ‘anfantais economaidd’ - o ganlyniad i’r berthynas. Gallai hyn fod am:

  • eich bod wedi rhoi’r gorau i weithio i ofalu am eich plant
  • eich bod wedi’ch perswadio gan eich cyn bartner i werthu’ch eiddo a symud i fyw gydag ef neu hi
  • bod eich cyn bartner wedi gallu prynu’r eiddo oherwydd eich cyfraniad ariannol chi.

Mae gennych un flwyddyn yn unig o pan fyddwch yn gwahanu i wneud cais – felly dylech ystyried cael cyngor cyn gynted â phosibl.

Rhoi trefn ar y morgais ar y cyd

Mae llawer o gyplau sydd â morgais ar y cyd ac sy’n gwahanu fel arfer yn ceisio gwahanu’r morgais fel mai dim ond un partner sydd wedi ei enwi arno.

Bydd a fydd hyn yn bosibl yn dibynnu ar amgylchiadau ariannol y cwpl.

Manteision gwneud hyn yw:

  • Nid oes rhaid i’r partner sy’n aros yn y tŷ ddibynnu ar y cyn bartner ar gyfer y morgais.
  • Dylai’r partner y mae ei enw yn cael ei dynnu oddi ar y morgais allu benthyg mwy i brynu cartref ei hun na phe byddai ei enw yn dal ar forgais y cyn bartner.
  • Efallai y gall y ddau bartner dorri’r gadwyn sy’n uno eu ffeiliau credyd. Os oes gennych ddyled ar y cyd â’ch cyn bartner – er enghraifft morgais neu fenthyciad – mae eich ffeiliau credyd wedi eu cysylltu. Mae hyn yn golygu y bydd sut rydych yn rheoli’ch dyledion yn effeithio ar eich cyn bartner os yw ef neu hi yn ymgeisio am gredyd, ac i’r gwrthwyneb.

Siarad â’ch darparwr morgais

Os ydych eisiau dod yn gyfrifol am y morgais yn eich enw chi’n unig, bydd eich darparwr benthyciadau eisiau sicrhau y gallwch fforddio’r taliadau.

Dan reolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), mae rhaid i ddarparwyr benthyciadau ofyn cwestiynau manwl a chynnal rhagor o wiriadau i sicrhau y gallwch fforddio morgais.

Opsiynau os na allwch fforddio’r morgais ar ben eich hun

Os na allwch fforddio dod yn gyfrifol am y morgais, efallai y gallech gael ‘morgais gwarantwr’.

Mae hwn yn forgais ble bydd perthynas agos yn cytuno i warantu taliadau’r morgais pe baech yn methu gwneud hynny.

Mae dod yn warantwr yn gam cyfreithiol difrifol gan ei fod yn golygu bod y gwarantwr yn gyfrifol am dalu’r morgais cyfan os nad yw’r benthyciwr morgais yn gallu ei dalu.

Cyn gwneud penderfyniad, mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n ystyried bod yn warantwr:

  • yn cael cyngor cyfreithiol annibynnol, ac
  • yn siarad â brocer morgeisi cyn cytuno i unrhyw beth.

Eich cam nesaf


Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.