Rhannu buddsoddiadau a chynilion yn ystod ysgariad neu ddiddymiad

Fel arfer bydd buddsoddiadau a chynilion yn rhan o’ch setliad ariannol os gwnewch ysgaru neu ddiddymu. Dylai eu rhannu fod yn gymharol syml os gallwch drafod rhwng eich gilydd. Ond efallai y bydd angen i chi eu prisio a thalu treth neu daliadau os byddwch yn eu gwerthu neu’n eu cyfnewid am arian.

Sut mae buddsoddiadau a chynilion yn cael eu trin

Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon

Gellir ystyried buddsoddiadau a chynilion yn rhan o’ch setliad ariannol terfynol.

Ond, ni ellir trin rhai asedau yr un fath ag eraill - er enghraifft, arian neu eiddo rydych chi neu’ch cyn bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) wedi eu hetifeddu neu’n berchen arno cyn i chi briodi neu sefydlu’ch partneriaeth sifil.

Yr Alban

Yn gyffredinol, dim ond buddsoddiadau neu gynilion rydych chi a’ch cyn bartner wedi’u cronni yn ystod y cyfnod y buoch yn briod neu mewn partneriaeth sifil fydd yn cael eu hystyried fel ‘eiddo priodasol’.

Fodd bynnag, gellir ystyried unrhyw gynnydd yng ngwerth buddsoddiadau neu gynilion oedd gennych chi neu’ch cyn bartner cyn priodi neu fynd i bartneriaeth sifil i ystyriaeth dan rai amgylchiadau.

Gall hyn fod yn faes cymhleth.  Os oes unrhyw amheuaeth, mynnwch gyngor proffesiynol.

Rhannu cyfrifon cynilion

Gall y broses o rannu’ch cynilion fod yn wahanol, yn ddibynnol ar y math o gyfrif sydd gennych ac yn enw pwy y mae.

Efallai y bydd gennych y canlynol.

ISAs Arian Parod neu ISAs Gydol Oes

Dim ond yn enw un person y gellir cadw’r rhain – ac nid ar y cyd.

Os ydych eisiau rhoi arian i’ch cyn bartner o’ch ISA Arian Parod, byddai rhaid i chi dynnu allan yr arian rydych am roi iddynt.

Ni fyddech yn gallu trosglwyddo’r arian o’ch ISA’ch hun yn uniongyrchol.

Gydag ISA Gydol Oes (LISA), gallech dynnu allan yr arian rydych ei angen ond bydd yn rhaid i chi dalu tâl tynnu allan. Fel gydag ISA Arian Parod, ni allech drosglwyddo arian yn eich LISA i rywun arall.

Cyfrifon cynilo a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Mae cyfrifon cynilo yn syml oherwydd gallwch drosglwyddo rhywfaint o arian o’ch cyfrif i gyfrif eich cyn bartner yn ddidrafferth.

Yr unig anhawster efallai fydd os yw'r arian mewn cyfrif lle mae'n rhaid i chi roi rhybudd. Os yw hynny’n wir, siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu i ddeall eich opsiynau i godi’ch arian. Os na wnewch, fe allech golli rhywfaint o’r llog.

Os yw’r arian mewn cyfrif cynilo cyfradd sefydlog, efallai na fyddwch yn gallu ei gyfnewid cyn i'r tymor ddod i ben. Hyd yn oed os gallwch, efallai y byddwch yn colli swm sylweddol o log.

Mae rhai cyfrifon cynilo NS&I yn caniatáu mynediad i'ch arian parod yn syth, er gallai fod tâl os oeddech chi eisiau codi bond tymor penodol yn gynnar.

ISA Iau

Os ydych wedi agor cyfrif ISA Iau i’ch plentyn, bydd yr arian hwn yn enw’ch plentyn, ac yn perthyn i’ch plentyn.

Ond, efallai gall y cynilion sydd yn enw’ch plentyn gael eu cynnwys yn eich asedau ariannol ar y cyd. Er enghraifft, os yw un rhiant yn symud arian o gyfrif eu hun i gyfrif eich plentyn er mwyn ceisio eithrio’r arian o unrhyw setliad ariannol. 

Buddsoddiadau mewn eiddo

Unwaith y byddwch yn gwybod beth yw canlyniad eich setliad ariannol, bydd angen i chi ystyried beth rydych am ei wneud gyda’ch buddsoddiadau - er enghraifft, a ydych eisiau gwerthu, dal i fod yn berchen ar, neu rhentu allan eiddo prynu i osod neu gartref gwyliau.

Cysylltwch â’ch benthycwr os ydych eisiau tynnu eich enw chi neu enw eich cyn bartner oddi ar y morgais.  Ystyriwch siarad â brocer morgais os byddwch yn meddwl y bydd arnoch angen ail forgeisio.

Prisio eich buddsoddiadau

Dylech dderbyn datganiad bob blwyddyn yn rhoi gwybod i chi beth yw gwerth eich buddsoddiadau.

Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yr un faint ag y byddech yn ei gael os ydych yn gwerthu neu drosglwyddo eich buddsoddiadau.

Yn hytrach, yn ddibynnol ar y math o fuddsoddiad, efallai y bydd y gwerth yn:

  • werth trosglwyddo, neu
  • gwerth ildio (arian i mewn).

Dylai eich cam cyntaf fod i ofyn i’r cwmni buddsoddi am brisiad cyfredol, neu werth trosglwyddo neu ildio.

Efallai y bydd gennych:

  • bondiau
  • bondiau buddsoddi
  • ISAs stociau a chyfranddaliadau
  • polisïau gydag elw, megis gwaddol
  • ymddiriedolaethau uned, ymddiriedolaethau buddsoddi neu OEICS (cwmnïau buddsoddi penagored).

Deall costau gwerthu buddsoddiadau

Efallai na fydd gwerthu eich buddsoddiadau’r dewis gorau gan y bydd rhaid i chi dalu treth a thaliadau atodol:

  • Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (CGT) os byddwch yn cyfnewid neu werthu buddsoddiad ac yn gwneud elw. Mae gennych lwfans CGT blynyddol, sy’n golygu y gallwch wneud swm penodol o elw - wedi didynnu costau gwerthu a ffioedd - a pheidio talu’r dreth hon.
  • Nid oes rhaid i chi dalu CGT pan fyddwch yn gwerthu eich prif gartref neu ISAs stociau a chyfranddaliadau. Mae hwn yn faes cymhleth felly mae’n debygol y byddai’n werth cael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol neu gyfrifydd. Ond bydd rhaid i chi dalu am y cyngor hwn.
  • Yn ddibynnol ar y buddsoddiad sydd gennych, efallai y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint os byddwch yn gwerthu neu gyfnewid yn gynnar. Hyd yn oed os nad ydych, efallai y byddwch ar eich colled os byddwch yn gwerthu buddsoddiadau yn seiliedig ar gyfranddaliadau pan fydd y farchnad stoc ar lefel isel.

Trosglwyddo neu werthu cyfranddaliadau sy’n eiddo i chi

Os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau gallwch naill ai eu trosglwyddo i’ch cyn bartner neu gallwch eu gwerthu er mwyn i chi allu rhoi arian iddynt yn lle hyn.

Mae’n werth cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol neu gyfrifydd ynglŷn â beth yw’r dewis gorau.

  • Gallwch drosglwyddo cyfranddaliadau i’ch cyn bartner trwy lenwi a llofnodi ‘ffurflen trosglwyddo cyfranddaliadau’ (a elwir hefyd yn ffurflen ‘J30’). Efallai y gallech lawrlwytho hon yn uniongyrchol o wefan y cwmni mae gennych gyfranddaliadau ynddo.
  • Os oes gennych frocer stoc (neu os ydych yn defnyddio cwmni brocer a stoc ar-lein), gall drefnu i werthu’r cyfranddaliadau ar eich rhan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint fydd hyn yn costio. Efallai hefyd y byddwch yn gallu gwerthu trwy wasanaeth delio cyfranddaliadau a gynigir gan y cwmni y mae gennych gyfranddaliadau ynddynt. Nid yw pob cwmni yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Ildio asedau pan nad oes unrhyw dreth i’w dalu

Fel arfer, os ydych yn ildio rhywbeth fel buddsoddiad rydych wedi gwneud elw uwchlaw eich lwfans Treth Enillion Cyfalaf arno, byddai rhaid i chi dalu hyn.

Ond gallwch drosglwyddo buddsoddiadau megis cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau i’ch cyn bartner yn ystod ysgariad neu ddiddymiad heb dalu Treth Enillion Cyfalaf.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, mae rhaid i chi ei wneud yn y flwyddyn dreth – o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ddilynol – pan fyddwch yn gwahanu.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.