Rhannu diddordebau busnes wrth wahanu os oeddech yn byw gyda’ch gilydd

Os nad oeddech chi a’ch cyn bartner yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ond wedi bod yn rhedeg busnes gyda’ch gilydd neu fod gennych ddiddordebau busnes a rennir, efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o werth y diddordebau hynny. 

Asesu a allwch wneud cais

Os buoch yn byw gyda’ch gilydd fel cwpl heb briodi neu heb fod mewn partneriaeth sifil, a byddwch yn gwahanu, nid oes gennych yr hawl fel mater o drefn i wneud cais ar gyfran eich cyn bartner o unrhyw ddiddordebau busnes.

Ond efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am iawndal mewn llys os na fydd eich cyn bartner yn anrhydeddu ymrwymiadau maent wedi'u gwneud os:

  • buoch yn rhedeg busnes gyda’ch gilydd
  • cawsoch addewid cael cyfran ohono, neu
  • os cyfrannoch yn ariannol tuag ato.

Yng Nghymru a Lloegr, byddai angen i chi ddangos fod gennych ‘ddiddordeb buddiannol’ ym musnes eich cyn bartner.

Yn yr Alban, byddai angen i chi ddangos eich bod wedi dioddef yr hyn a elwir yn ‘anfantais economaidd’. Neu fod eich cyn bartner wedi cael ‘mantais economaidd’. Enghraifft o hyn fyddai pe baech wedi stopio gweithio er mwyn gofalu am blant fel bod gyrfa eich cyn bartner medru parhau. Byddai gennych flwyddyn i brofi hyn o ddyddiad y gwahaniad.

Gallai gwneud cais fod yn ddrud. Felly dylech gymryd cyngor cyfreithiol cyn i chi ddechrau gweithredu trwy’r llys. 

Efallai y bydd angen i chi drefnu i brisio’r busnes hefyd. Gall hyn fod yn gymhleth a gallai gostio miloedd o bunnoedd.

Cyn i chi dalu am arbenigwyr, mae’n syniad da cael ychydig o gyngor cyfreithiol ar hyn hefyd.

Prisio busnes

Os ydych chi'ch dau yn berchen ar y busnes, gallwch chi neu’ch partner drefnu prisiad.

Yn gyffredinol, os yw’r busnes yn perthyn i un ohonoch - yn gyfan gwbl neu ynghyd ag eraill -  mae rhaid iddynt ofyn am y prisiad.

Efallai na fydd y broses yn un syml, yn enwedig os mai perchnogaeth breifat sydd i’r busnes.

Gall prisio busnes ddibynnu ar:

  • ei asedau – er enghraifft, yr eiddo neu’r stoc sy’n perthyn iddo
  • ei enillion - yr elw disgwyliedig i’r dyfodol, a
  • strwythur y busnes - ai cwmni cyfyngedig ydyw, unig fasnachwr neu bartneriaeth

Deall y gwahanol fathau o strwythur busnes

Mae gwahanol ffyrdd i roi strwythur ar fusnes.

Os buoch ynghlwm â’r busnes, mae’n debygol y byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhyngddynt. Ond os mai busnes eich cyn bartner ydyw, efallai na fyddwch yn gwybod sut sefydlwyd y busnes.

Dyma drosolwg sydyn.

  • Unig fasnachwr: mae’r perchennog yn rheoli asedau’r busnes, ond maent hefyd yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw ddyledion busnes. Yr incwm a’r proffidioldeb yw’r ffigurau pwysicaf ond gellir hefyd ystyried asedau busnes – er enghraifft, safle neu gerbydau.
  • Partneriaeth: gall hyn fod yn bartneriaeth anffurfiol, heb gytundeb ysgrifenedig, neu yn un ffurfiol. Os bydd pobl eraill – ar wahân i chi neu eich cyn bartner – ynghlwm, yna bydd prisio’r busnes yn fwy cymhleth ac mae’n fwy tebygol y byddwch angen cymorth arbenigol.
  • Cwmni cyfyngedig: fel â phartneriaethau, bydd prisio cwmni cyfyngedig yn fwy cymhleth os oes gan bobl eraill gyfran o’r busnes. Os ydych chi neu eich cyn bartner yn berchen ar y cyfranddaliadau i gyd, gall y cyfan fod yn eithaf syml i’w brisio.

Anghytuno â phrisiad busnes

Efallai na fydd cyplau sy’n gwahanu ddim bob amser yn cytuno ar werth busnes. Mae hyn yn neilltuol o wir os bu i un partner gael llai o ran yn y busnes hwnnw.

Weithiau, honnir bod perchennog y busnes yn tanbrisio’u busnes (yn sylweddol efallai).

Mae’n werth ystyried y canlynol:

  • Gall defnyddio arbenigwyr i roi cymorth i chi geisio gwir werth y busnes fod yn ddrud. Gwariodd rhai pobl filoedd o bunnoedd ar gyfrifwyr arbenigol.
  • Efallai na fu’r busnes yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar. Er y llwyddodd y busnes y llynedd neu’r flwyddyn flaenorol, nid yw hyn yn golygu bod y busnes yn gwneud yn dda ar hyn o bryd.
  • Gall perchnogion busnes fod yn optimistaidd ynglŷn â’u busnes eu hunain ac efallai y cawsoch eich arwain i gredu ei fod yn fwy llwyddiannus nag yw mewn gwirionedd.

Datrys anghydfod drwy gyfryngu

I osgoi achos llys hirfaith a chostus, gallech chi a’ch cyn bartner roi cynnig ar gyfryngu er mwyn datrys eich anghydfod ynglŷn â sut i rannu diddordebau busnes a rennir.

Mae cyfryngwr yn berson diduedd a all roi cymorth i chi a’ch partner ddod i gytundeb. Ni all cyfryngwr roi cyngor cyfreithiol i chi, ond gallwch drafod â’ch cyfreithiwr (os oes gennych un) cyn neu ar ôl y sesiynau cyfryngu.

Byddai’ch cyfreithiwr yn eich cynghori ynglŷn â sut i droi unrhyw beth a gytunoch arno yn gytundeb a rwymir yn gyfreithiol.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.