Gall rhoi trefn ar fusnes teuluol neu ei brisio wrth ysgaru neu ddiddymu fod yn gymhleth. Ond gorau oll os gallwch gytuno ar bethau oherwydd byddai hynny’n costio llai i chi. Darganfyddwch lle i gychwyn arni a beth yw’ch dewisiadau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Diddordebau busnes a setliadau ariannol
Yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
Fel arfer, dim ond y budd sy'n eiddo i'r parti sy'n ysgaru neu'n gwahanu sy'n cael ei ystyried. Ond yn aml bydd hyn yn cynnwys trosolwg a phrisiad o'r busnes cyfan.
Yn yr Alban
Rhoddir ystyriaeth i ddiddordebau busnes fel ‘eiddo priodasol’ yn unig os cawsant eu sefydlu neu eu caffael wedi i chi briodi neu ddod yn bartneriaid sifil. Fodd bynnag, gall unrhyw gynnydd yng ngwerth y diddordebau busnes sy’n bodoli ers i chi briodi neu ddod yn bartneriaid sifil gael ei gyfrif fel eiddo priodasol.
Mae’r rheolau braidd yn gymhleth, felly mae’n ddoeth cael cyngor cyfreithiol.
Os na allwch fforddio cyngor cyfreithiol, gweler ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad neu ddiddymiad
Sut mae llysoedd yn delio â busnesau yn ystod setliadau ariannol
Os yw’n bosibl, mae’r llysoedd yn tueddu i adael y busnes gyda’r perchennog busnes a gwneud iawn i’r cymar arall trwy gyfran fwy o’r asedau eraill a/neu gynhaliaeth.
Yn aml iawn, dyma beth mae’r cwpl eisiau eu hunain.
Gall y llysoedd fod yn hyblyg. Er enghraifft, gall fod yn bosib rhannu’r incwm neu’r cyfranddaliadau.
Yn ddelfrydol, gwell gan y llysoedd beidio â gadael yr holl asedau ariannol gydag un person a’r asedau sydd ynghlwm wrth rywbeth fel busnes gyda’r llall. Fodd bynnag, yn ymarferol, dyna maent yn ei wneud yn aml.
Prisio busnes
Os ydych chi a’ch cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) yn berchen yn llwyr ar fusnes, neu â chyfranddaliadau sylweddol mewn busnes, yna byddai disgwyl i’r busnes gael ei brisio er dibenion y setliad ariannol.
Ar gyfer diddordebau busnes a rennir, gallwch chi neu’ch partner drefnu prisiad.
Yn gyffredinol, os yw’r busnes yn perthyn i un ohonoch - yn gyfan gwbl neu ynghyd ag eraill - rhaid iddynt ofyn am y prisiad.
Efallai na fydd y broses yn un syml, yn enwedig os mai perchnogaeth breifat sydd i’r busnes.
Gall prisio busnes ddibynnu ar:
- ei asedau: er enghraifft yr eiddo neu’r stoc sy’n perthyn iddo
- ei enillion: yr elw disgwyliedig i’r dyfodol
- strwythur y busnes: ai cwmni cyfyngedig ydyw, unig fasnachwr neu bartneriaeth
Gall prisio busnes fod yn gymhleth ac, o ganlyniad, gostio miloedd o bunnoedd. Cyn i chi gyflogi arbenigwr, mae’n syniad da cael ychydig o gyngor cyfreithiol.
Deall y gwahanol fathau o strwythur busnes
Mae gwahanol ffyrdd i roi strwythur ar fusnes.
Os buoch ynghlwm â’r busnes, mae’n debygol y byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng y gwahanol ffyrdd hynny. Ond os mai busnes eich cyn-bartner ydyw, efallai na fyddwch yn gwybod sut sefydlwyd y busnes.
Dyma drosolwg sydyn:
Unig fasnachwr – mae’r perchennog yn rheoli asedau’r busnes, ond mae ef neu hi yn atebol yn bersonol am unrhyw ddyledion busnes hefyd. Yr incwm a’r proffidioldeb yw’r ffigurau pwysicaf. Er y gellir ystyried asedau busnes – er enghraifft - safle neu gerbydau hefyd.
Partneriaeth – gall hyn fod yn bartneriaeth anffurfiol, heb gytundeb ysgrifenedig, neu yn un ffurfiol. Os bydd pobl eraill – ar wahân i chi a/neu eich cyn-bartner – ynghlwm, yna bydd prisio’r busnes yn fwy cymhleth ac mae’n fwy tebygol y byddwch angen cymorth arbenigol.
Cwmni cyfyngedig – fel gyda phartneriaethau, bydd prisio cwmni cyfyngedig yn fwy cymhleth os oes gan bobl eraill arian yn y busnes. Os ydych chi a/neu eich cyn-bartner yn berchen ar y cyfranddaliadau i gyd, gall y cyfan fod yn eithaf syml i’w brisio.
Anghytuno â phrisiad busnes
Efallai na fydd cyplau sy’n ysgaru neu’n diddymu eu partneriaeth sifil yn cytuno bob amser ar werth busnes. Yn enwedig os mai un partner yn unig fu ynghlwm â’r busnes hwnnw.
Weithiau, honnir bod perchennog y busnes yn tanbrisio’i fusnes neu ei busnes.
Beth os nad ydych yn cytuno â’r ffigwr a roddir gan ei cyn-bartner fel gwerth y busnes, ac os nad ydyn nhw’n bod yn gydweithredol? Yna, gallwch wneud cais i’r llys i gael gwybodaeth o’u banc neu gyfrifydd yn uniongyrchol.
Mae’n werth cofio rhai pethau:
- Gall defnyddio arbenigwyr i roi cymorth i chi geisio gwir werth y busnes fod yn ddrud. Mewn rhai achosion, gwariodd bobl filoedd o bunnoedd ar gyfrifwyr arbenigol. Ond efallai mai hyn fydd eich unig ddewis os nad yw’ch cyn-bartner yn cydweithredu neu os yw’n cynnig prisiad eithriadol o isel.
- Efallai na fu’r busnes yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar. Er y llwyddodd y busnes y llynedd neu’r flwyddyn flaenorol, nid yw hyn yn golygu y bydd yn llwyddiannus ar hyn o bryd.
Gall perchnogion busnes fod yn optimistaidd ynglŷn â’u busnes eu hunain ac efallai y cawsoch eich arwain i gredu ei fod yn fwy llwyddiannus nag yw mewn gwirionedd.
Datrys anghydfod
Ydych chi’n credu bod eich cyn-bartner wedi tanbrisio’r busnes (neu gynnydd yng ngwerth y busnes a oedd yn bodoli’n flaenorol tra yr oeddech chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil yn yr Alban)? Yna mae gennych sawl dewis:
- Gallech ofyn i’ch cyfreithiwr (os ydych yn defnyddio un) i edrych ar gyfrifon y cwmni i benderfynu a fyddai archwiliad pellach o fudd.
- Gallech chi a’ch cyn-bartner gytuno i benodi’r hyn a elwir yn ‘arbenigwr sengl ar y cyd’ i brisio’r busnes. Nid yw’r unigolyn ynghlwm â’r un ohonoch a bydd yn rhoi prisiad diduedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd cyngor cyfreithiol cyn gwneud hyn.
- Gallai’r naill ohonoch benodi’ch arbenigwr eich hun. Dyma’r dewis mwyaf costus a chymhleth ac nid yw’n cael ei ddefnyddio’n aml.
- Gallech chi a’ch cyn-bartner ystyried cyfryngu neu unrhyw ddulliau eraill o ddatrys anghydfodau yn hytrach na defnyddio arbenigwyr i dd atrys anghydfodau yn ymwneud â rhannu diddordebau busnes.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gyfryngu ar wefan Cyngor ar Bopeth
Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr:
Yng Nghymru a Lloegr: Family Mediation Council neu ar National Family MediationYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon: Family Mediation NI
Yn yr Alban: Relationships Scotland