Toriad llwyr neu lwfans cyfnodol ar ôl ysgariad neu ddiddymiad yn yr Alban

Mae’n beth prin iawn i gynhaliaeth barhaus gael ei thalu yn yr Alban pan fydd cwpl yn ysgaru neu’n diddymu ei bartneriaeth sifil. Efallai caiff ei thalu am gyfnod byr ond mae ‘toriad llwyr’ yn fwy cyffredin.

Deall cyfandaliadau

Pan fyddwch yn cyfrifo sut i rannu’ch eiddo a’ch asedau, gall fod yn ddoeth i un partner dalu cyfandaliad i’r llall.  Gall hyn helpu i sicrhau bod pethau’n cael eu rhannu’n deg.

Gellir gwneud cyfandaliad hefyd er mwyn i un partner fedru prynu tŷ ar ôl yr ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil.

Talu cyfandaliad

Nid oes rhaid talu cyfandaliad mewn un taliad cyfan, er dyna sy’n digwydd yn aml.

Mae amryw o sefyllfaoedd lle gellir ei dalu mewn rhandaliadau. Gall un ai’r unigolyn sy’n talu’r cyfandaliad mewn rhandaliadau neu’r un sy’n ei dderbyn, wneud cais i’r llys i ofyn am i ddyddiad y taliad neu’r dull o’i dalu gael ei newid, os bydd newid mewn amgylchiadau.

Ond ni allwch ofyn i’r llys gynyddu neu leihau’r swm a delir.

Beth yw lwfans cyfnodol?

Mae lwfans cyfnodol yn orchymyn yn erbyn un parti i dalu incwm rheolaidd i’r llall ar ôl ysgariad neu ddiddymiad.  Mae’n ddyfarniad a all roi incwm i berson ar gyfer rhai anghenion ariannol posibl yn y dyfodol. 

Gellir ei ddyfarnu hyd at dair blynedd ar ôl ysgariad – neu’n hwy os oes angen rhyddhau un parti rhag caledi ariannol difrifol.

Efallai y caiff ei dalu:

  • i ganiatáu i un ohonoch addasu ar ôl colli cefnogaeth y llall
  • i alluogi un ohonoch i ymdopi â chostau talu am ofal plant plentyn dan 16 oed
  • lle gellir dangos bod un ohonoch wedi dioddef caledi ariannol difrifol oherwydd y golled o gefnogaeth neu incwm.

Os bydd un partner yn derbyn lwfans cyfnodol, fel arfer caiff ei dalu am uchafswm o dair blynedd yn unig. Mewn amgylchiadau prin iawn, gellir ei dalu am gyfnod hwy.  Er enghraifft pan fydd y partner sy’n cael y lwfans cyfnodol yn dioddef o afiechyd neu anabledd sy’n golygu y byddai ef neu hi’n wynebu caledi ariannol heb y taliad hwnnw. Mewn achosion o’r fath, gellir talu lwfans cyfnodol hyd nes iddo ef neu hi farw, ailbriodi neu fynd i bartneriaeth sifil arall.

Pa bryd y telir lwfans cyfnodol?

Mae lwfans cyfnodol yn cael ei ddyfarnu dim ond os oes un person angen cymorth ariannol ond nid oes gan y person arall y cyfalaf neu drosglwyddo eiddo, neu ni fyddai rhannu pensiwn yn briodol, neu gyfandaliad digonol ar gyfer setliad ‘toriad llwyr’.

Toriad llwyr yn hytrach na lwfans cyfnodol

Telir lwfans cyfnodol ddim ond os byddwch chi neu’ch cyn-bartner angen cymorth ariannol ar ôl ysgaru neu ddiddymu ac nid oes digon o arian ar gyfer y gorchymyn ‘toriad llwyr’ yn ystod yr achos.

Felly mae hynny’n golygu byddai’n annhebygol y gallech ofyn am y lwfans cyfnodol i gael ei newid yn gyfandaliad. Serch hynny, mae hyn yn bosib os bydd newid arwyddocaol mewn amgylchiadau.

Mae’n golygu, yn hytrach na chael taliadau parhaus, byddech chi neu’ch cyn-bartner yn cael cyfandaliad terfynol drwy orchymyn toriad llwyr.

Gellir ond cyfalafu lwfans cyfnodol os byddwch chi’ch dau yn cytuno neu drwy gyflwyno cais i’r llys.

Yswirio taliadau lwfans cyfnodol

Os ydych yn cael lwfans cyfnodol, dylech ystyried yswirio’r taliadau fel y gallwch barhau i gael incwm pe byddai farw eich cyn bartner. Golyga hyn y byddai angen i chi neu’ch cyn- bartner gymryd polisi yswiriant bywyd ar fywyd y llall.

Nid oes angen iddo fod yn ddrud.  A gall y polisi ddarparu cyfandaliad neu daliadau misol os byddai farw eich cyn-bartner tra byddwch yn dal i dderbyn lwfans cyfnodol.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.