Canllaw i ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol

Oes gennych gysylltiad â rhan arall o’r Deyrnas Unedig i’r lle rydych yn byw ar hyn o bryd, neu â gwlad arall tu allan i’r Deyrnas Unedig? Os felly, efallai y byddwch yn gallu dechrau ar gamau ysgariad neu ddiddymiad yno. Gall y lle y byddwch yn dechrau’r camau effeithio ar sut y bydd eich materion ariannol yn cael eu rhannu.

Deall y ffeithiau sylfaenol am ysgariad neu ddiddymiad rhyngwladol

A ydych chi neu eich cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) wedi penderfynu cychwyn ar gamau ysgaru neu ddiddymu tu allan i’r wlad rydych yn byw ynddi? Os felly, bydd yr hyn y byddwch yn ei wneud nesaf yn dibynnu a fydd yn dechrau:

  • mewn cenedl arall yn y Deyrnas Unedig
  • mewn rhan o’r Undeb Ewropeaidd (UE), neu 
  • mewn gwlad nad yw yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig

Mae’r system ar gyfer ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr ychydig yn wahanol i’r un yng Ngogledd Iwerddon, ac yn wahanol iawn i’r system yn yr Alban.

Os byddwch yn dechrau camau mewn rhan wahanol o’r Deyrnas Unedig i’r un lle rydych yn byw, bydd rhaid i chi ystyried sut y gall hyn effeithio ar eich setliad ariannol.

Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn yr UE

Dan gyfraith yr UE, efallai y bydd gennych hawl i gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad arall yn yr UE i’r un lle gwnaethoch briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil.

Ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad tu allan i’r UE

Os oes gennych chi neu eich cynbartner gysylltiad â gwlad y tu allan i’r UE – bydd ble y gallwch ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil yn dibynnu ar nifer o ffactorau.

Y prif un fydd pa wlad sydd â’r cysylltiad agosaf â chi’ch dau.

Sut y gall lleoliad eich ysgariad neu ddiddymiad effeithio ar eich setliad

Mae’r gyfraith mewn rhai gwledydd yn golygu bod asedau ariannol yn cael eu rhannu yn wahanol iawn i’r ffordd y maent yn cael eu rhannu yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Yn yr Alban, dim ond yr hyn a elwir yn ‘eiddo priodasol’ sy’n cael eu hystyried.  Mae hyn yn golygu asedau oedd yn eiddo i chi neu a gafwyd yn ystod y briodas neu bartneriaeth sifil.  

Mewn rhai gwledydd tu allan i’r Deyrnas Unedig, nid oes rhaid i gyplau ddweud wrth ei gilydd am eu hasedau ariannol wrth ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil.

Deall statws cyfreithiol cytundebau cyn-priodas

Mae cytundebau cyn-priodas yn dal yn gymharol anghyffredin. 

Fe’u defnyddir yn aml gan gyplau sydd am gytuno – cyn priodi neu ddod yn bartneriaid sifil – sut y byddent yn rhannu eu harian, asedau ac eiddo, petaent yn penderfynu gwahanu.

Nid oes modd gorfodi cytundebau cyn-priodas yn gyfreithiol yn llawn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Fodd bynnag, bydd llysoedd yn gyffredinol yn eu hystyried fel un o amgylchiadau’r achos gan roi arwyddocad sylweddol iddynt cyn belled y bydd rhai elfennau o ddiogelu penodol yn cael eu bodloni. Er enghraifft:

  • Bod anghenion ariannol y plant yn cael eu diogelu yn ddigonol.
  • Bod y ddwy ochr wedi cymryd cyngor cyfreithiol ynglŷn â goblygiadau ymrwymo â’r cytundeb

Yn yr Alban, cânt eu trin fel rhai y gellir eu gorfodi yn gyfreithiol.

Ble y gallwch ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil

Gall penderfynu a oes gennych yr hawl gyfreithiol i gychwyn ysgariad neu ddiddymiad mewn gwlad benodol fod yn fater cymhleth.

Fel arfer mae’n well syniad cael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo yn hyn yn hytrach na cheisio penderfynu eich hun. 

Gallai gael ei ddylanwadu gan y wlad:

  • ble cawsoch eich geni
  • ble rydych yn berchen ar eiddo
  • ble ganed eich tad neu fam neu ble roeddynt yn byw
  • ble gwnaethoch chi briodi neu gofrestru eich partneriaeth sifil
  • ble rydych yn byw yn awr a ble roeddech yn byw yn ystod eich priodas neu bartneriaeth sifil.

Penderfynu beth i’w wneud nesaf

Dylech geisio cyngor cyfreithiol gan gwmni cyfreithwyr cyfraith teulu arbenigol. Dylent wybod am y gyfraith yn y wlad lle rydych yn byw a’r wlad lle gallai eich camau ysgaru neu ddiddymu ddechrau.

Gwnewch hyn cyn trafod â’ch cyn bartner neu cyn ystyried cyfryngu ag ef neu hi. Mae hyn oherwydd y gall y risg o golli rheolaeth ar ble y byddwch yn penderfynu cychwyn y camau arwain at ganlyniadau difrifol.

Ond cofiwch y bydd hyn yn ei gwneud yn llawer anos dod i gytundeb cyfeillgar â’ch cyn bartner.

Manteision ac anfanteision cael cyngor cyfreithiol

Manteision:
  • Byddwch yn gwybod a allwch gael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil tu allan i’r wlad lle rydych yn byw ar hyn o bryd.
  • Byddwch yn gwybod beth gallai fod yn ganlyniadau cael ysgariad neu ddiddymu eich partneriaeth sifil mewn gwlad arall.
Anfanteision:
  • Rydych yn debygol o greu drwgdeimlad rhyngoch â’ch cyn-bartner trwy gychwyn camau ysgaru neu ddiddymu heb roi unrhyw rybudd iddynt.
  • Gall fod yn llawer anos cael setliad ariannol o ganlyniad.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.