Gall fod yn ddrud i ddefnyddio cwmni proffesiynol i’ch helpu gyda phrofiant a gweinyddiaeth ystâd. Darganfyddwch faint y maent yn eu codi, pryd i ystyried defnyddio arbenigwr a sut i ddod o hyd i un.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A ddylwn ddefnyddio arbenigwr profiant a gweinyddiaeth ystâd?
- Pryd bydd angen cwmni proffesiynol arnaf i helpu gyda phrofiant a gweinyddiaeth ystâd?
- Faint mae gwasanaethau profiant a gweinyddiaeth ystâd proffesiynol yn costio?
- Dod o hyd i gwmni proffesiynol i’ch helpu gyda phrofiant a gweinyddiaeth ystâd
- Pethau i wylio amdanynt
A ddylwn ddefnyddio arbenigwr profiant a gweinyddiaeth ystâd?
Mae’r dasg o gael profiant a chwblhau gweinyddiaeth ystâd yn gallu bod yn hir ac yn frawychus. Mae’n waith rydym yn anaml yn gorfod ei wneud a gallai’r cymhlethdod posibl wneud i’r syniad o dalu cwmni proffesiynol fod yn apelgar.
Er bod rhai sefyllfaoedd pan fydd angen arbenigwr arnoch o bosibl (mwy o fanylion isod), mae perthynas neu ffrind yn aml yn ymgymryd â swydd ysgutor i gael profiant eu hunain.
Mae’n debygol y gallech chi arbed miloedd o bunnoedd pe baech yn ei wneud eich hun – ond pe baech yn penderfynu bod angen help arnoch, mae gwahanol fathau o gwmnïau proffesiynol, a bydd eich dewis o gwmni yn cael effaith fawr ar faint y bil fyddwch chi’n ei dalu.
Darganfyddwch fwy am gael profiant ar eich cyfer eich hun yn ein canllaw Beth i’w wneud pan fydd rhywun farw ac yn gadael ewyllys
Mae dwy ran i’r broses hon:
- Yn gyntaf, gwneud cais am Grant Profiant – Dogfen gyfreithiol yw hon lle mae angen gwneud cais amdani a fydd yn rhoi awdurdod i’r ysgutor i roi trefn ar asedau’r sawl sydd wedi marw yn unol â’u hewyllys.
- Cwblhau’r broses o Weinyddiaeth Ystâd – unwaith fydd yr ysgutor wedi cael y Grant Profiant (a chymryd yr atebolrwydd sydd ynghlwm), maent yn gallu dechrau’r broses o enwi holl asedau’r sawl sydd wedi marw a’u dosrannu i’r buddiolwyr.
Gofynnwch a yw’r cwmni rydych yn ei ddewis yn cynnig grant profiant yn unig yn ogystal â phrofiant a gweinyddiaeth ystâd.
Grant profiant yn unig: bydd y cwmni’n cwblhau’r ffurfioldeb cyfreithiol o gael y grant profiant gan adael i chi ymdrin â holl waith y weinyddiaeth ystâd gan arbed miloedd o bunnoedd i chi (trwy beidio â’u talu am weinyddu’r ystâd).
Profiant a gweinyddu’r Ystâd: bydd hyn yn cynnwys cael y grant profiant a gweinyddu’r ystâd ond bydd yn costio miloedd o bunnoedd.
Pryd bydd angen cwmni proffesiynol arnaf i helpu gyda phrofiant a gweinyddiaeth ystâd?
Gallai gwmni proffesiynol priodol fod yn gyfreithiwr, cyfrifydd, banc neu arbenigwr profiant a gweinyddiaeth ystâd.
Efallai yr hoffech feddwl am ddefnyddio cwmni proffesiynol os:
- yw gwerth yr ystad dros drothwy Treth Etifeddiant ac mae'r ystad yn dal i ennill incwm rheolaidd lle mae trethi cymhleth yn ddyledus. Y trothwy ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 yw £325,000.
- bu farw'r ymadawedig heb ewyllys, ac mae'n ystad gymhleth i'w datrys
- oes amheuon ynghylch dilysrwydd yr ewyllys
- oedd gan yr ymadawedig ddibynyddion a adawyd allan o'r ewyllys yn fwriadol, ond a allai fod eisiau gwneud hauled ar yr ystad
- oes gan yr ystad drefniadau cymhleth, megis asedau a ddelir mewn ymddiriedolaeth
- yw'r ystad yn fethdalwr (a elwir hefyd yn ansolfent)
- yw'r ystad yn fethdalwr
- yw'r ystad yn cynnwys eiddo tramor neu asedau tramor
- oedd yr ymadawedig yn byw y tu allan i'r DU at ddibenion treth.
Faint mae gwasanaethau profiant a gweinyddiaeth ystâd proffesiynol yn costio?
Mae costau’n gallu amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar y math o ddarparwr rydych yn ei ddefnyddio.
Mae’n debygol y bydd arbenigwyr profiant a gweinyddiaeth ystâd yn llawer rhatach na chyfreithwyr a chyfrifwyr, ac y byddai cyfreithwyr a chyfrifwyr yn llawer rhatach na banciau.
Mae nifer o gwmnïau’n cynnig gwasanaethau grant profiant yn unig erbyn hyn, yn ogystal â gweinyddiaeth ystâd – ac mae hyn yn ffordd dda o gadw costau i lawr.
Grant profiant yn unig
Gallwch ddisgwyl talu rhwng £500 a £2000 gan ddibynnu ar y math o gwmni.
Grant profiant a gweinyddiaeth ystâd
Mae rhai cwmnïau’n codi cyfradd yr awr ac mae rhai’n codi ffi ganrannol o werth yr ystâd. Pe baech yn chwilio, gallech hefyd ddod ar draws cwmnïau sy’n cynnig gwasanaeth ffi sefydlog (sy’n debygol o fod yn llawer rhatach).
Am syniad o faint y gallech ddisgwyl ei dalu am brofiant a gweinyddiaeth ystâd, gallai’r canlynol roi syniad i chi o’r ystod o gostau.
Dylech ddisgwyl talu fwyaf gyda’r banc, a’r lleiaf gyda’r arbenigwr profiant a gweinyddiaeth ystâd, gyda chyfreithwyr a chyfrifwyr yn y canol.
Pan fo ffi’n cael ei chyfrifo ar sail canran, bydd fel arfer rhwng 1% a 5% o werth yr ystâd, gyda TAW ac alldaliadau’n ychwanegol at hynny.
Mae'r tabl isod yn enghraifft o faint y gallech ei dalu am eu gwasanaeth yn y pen draw. Nid yw'r cyfanswm hwn yn cynnwys ffioedd llys na chostau ceisiadau ac alldaliadau, felly mae'n debyg y bydd y bil terfynol yn uwch.
Gwerth yr ystad | Ffioedd | TAW | Cyfanswm taladwy |
---|---|---|---|
£100,000 |
£1,000 (1% o werth yr ystad) |
£200 |
£1,200 |
£100,000 |
£5,000 (5% o werth yr ystad) |
£1,000 |
£6,000 |
Mae rhai arbenigwyr profiant a gweinyddiaeth ystâd yn codi cyfradd yr awr a ffi ar sail canran. Ond nid yw hyn bob amser yn golygu eu bod yn fwy costus.
Alldaliadau yw’r enw am gostau sydd y tu allan i reolaeth y cwmni rydych yn ei ddewis a lle byddai tâl ychwanegol. Nid yw’r rhestr isod yn cynnwys popeth posibl ac mae yma er diben cynnig enghreifftiau:
- Ffioedd llys profiant
- Rhybuddion i gredydwyr yn y London Gazette a phapur Newydd lleol
- Ffioedd prisio eiddo, stociau a chyfranddaliadau
- Ffioedd asiant eiddo, ffioedd trawsgludo a ffioedd y Gofrestrfa Tir
- Ffioedd stocbrocer/cofrestrydd os ydych yn gwerthu neu’n trosglwyddo cyfranddaliadau a/neu fuddsoddiadau
- Gall rhai alldaliadau ofyn am TAW yn ychwanegol, ond ni fydd pob un.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am ffioedd arbenigwyr profiant ar The Gazette – Cofnod Cyhoeddus SwyddogolYn agor mewn ffenestr newydd
Dod o hyd i gwmni proffesiynol i’ch helpu gyda phrofiant a gweinyddiaeth ystâd
Os ydych yn penderfynu defnyddio cwmni proffesiynol, gallai fod yn haws defnyddio’r cyfreithiwr a ysgrifennodd yr ewyllys neu a’i chadwodd.
Ond does dim rhaid i chi’u defnyddio – gallwch chwilio am gyfreithiwr, cyfrifydd neu arbenigwr profiant a gweinyddiaeth ystâd arall.
Gallai’r gwahaniaeth yn y gost fod yn filoedd o bunnoedd.
Awgrym da
Cofiwch gymharu amcanbrisiau pan fyddwch yn chwilio am brofiant a gweinyddiaeth ystâd. Gallech hyd yn oed ddefnyddio amcanbrisiau cystadleuol i gael ffi rhatach gan y darparwr o’ch dewis.
Cyfeirlyfrau arbenigwyr profiant
Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i gyfrifydd profiant neu gyfreithiwr:
- Yng Nghymru a Lloegr, yn y Gymdeithas Cyfreithwyr Cymru a LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer Cyfrifwyr Ardystiedig sydd wedi'u hachredu ar gyfer profiant ICAWEWYn agor mewn ffenestr newydd neu yn y Cyfeirlyfr CICLxYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn yr Alban, ar wefan Law Society of Scotland
- Yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan Law Society of Northern Ireland
Pethau i wylio amdanynt
Dyma restr o bethau i'w hystyried neu wylio amdanynt wrth ddelio ag arbenigwr profiant.
1. Amcangyfrif bras yn erbyn y bil terfynol
Mae llawer o arbenigwyr profiant yn amharod i roi amcangyfrif ‘rhwymol’ o’u ffioedd i chi, gan roi ‘ffigur parc pêl’ i chi yn lle. Os ydynt yn rhoi ffigur parc pêl, disgwyliwch i hyn gynyddu wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Bydd rhai cwmnïau'n gofyn i chi am wybodaeth fanylach ar y dechrau, am yr hyn y bydd angen i chi ei wneud cyn iddynt dderbyn y gwaith. Mae hyn yn caniatáu iddynt gael darlun mwy cywir o'r gwaith dan sylw a dyfynnu ffi yn unol â hynny. O ganlyniad, mae'r bil terfynol yn llai tebygol o fod yn wahanol iawn i'w ddyfynbris.
2. Costau trydydd parti (costau talu) a phethau ychwanegol gwasanaeth
Mae rhai ffioedd (a elwir yn gostau talu) y bydd rhaid i chi eu talu fel rhan o gael profiant.
Er enghraifft, y ffi ymgeisio profiant neu gael copïau ardystiedig o rai dogfennau.
Gyda rhai ystadau, weithiau mae angen gwerthu asedau, fel eiddo, wrth drefnu’r ystad.
Mae hyn yn golygu y bydd ffioedd prisio a thrawsgludo ychwanegol ar ben y dyfynbris a gewch.
Cofiwch ofyn faint yw'r ffioedd talu, a hefyd am gyfradd glir ar gyfer y gwasanaethau ychwanegol hyn.
3. Taliad fesul cam a TAW
Wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, mae llawer o arbenigwyr profiant yn disgwyl taliad ar gamau penodol.
Mae rhai o'r taliadau hyn ar gyfer eu gwasanaethau hyd at y cam hwnnw, tra bod eraill ar gyfer ffioedd talu.
Cyn i chi gytuno i'w llogi, gwnewch yn siŵr eu bod yn esbonio'n glir pryd mae taliad yn ddyledus ac am faint.
Bydd angen i chi hefyd ystyried TAW, os nad yw wedi'i gynnwys yn y dyfynbris. Efallai y bydd y tâl TAW o 20% yn cynyddu'r bil cryn dipyn.
4. Banc fel cyd-ysgutor
Pe bai'r unigolyn a fu farw yn defnyddio banc i lunio ei ewyllys a'i benodi'n gyd-ysgutor, gallent awgrymu ei fod yn gweithredu fel ysgutor proffesiynol ac yn cynnal profiant.
Mae rhai banciau wedi ceisio mynnu hyn. Ond, nid yw’r arfer hwn wedi ei gyfyngu i fanciau yn unig, ac mae nifer o gwmnïau eraill yn ei wneud.
Gyda'r trefniant hwn, mae'r banc yn tueddu i godi canran o werth yr ystad am eu gwasanaethau.
Mewn rhai ystadau, gallai hyn olygu degau o filoedd o bunnoedd mewn ffioedd gwasanaeth.
Gallech ofyn i'r banc ymddiswyddo fel ysgutor (ymwrthod ysgutoriaeth), â chytundeb yr holl fuddiolwyr.
Ond os yw'r banc yn gwrthod ymwrthod â'i rôl, efallai y bydd rhaid i chi wneud cais i'r llys i'w dileu.