Beth i’w wneud gyda phensiwn rhywun pan fydd wedi marw

Mae angen rhoi trefn ar bensiynau pan fydd rhywun yn marw. Mae’n bosibl y gallai priod neu fuddiolwr arall elwa. Ond mae’r swm sy’n cael ei hawlio yn dibynnu ar y math o bensiwn, oed yr ymadawedig a’u buddiolwyr.

Beth i’w wneud am eu Pensiwn y Wladwriaeth

Os yw’r unigolyn sydd wedi marw yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, mae angen i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn ei fod ef neu ei bod hi wedi marw er mwyn atal y taliadau.

Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 0731 0453Yn agor mewn ffenestr newydd.

Hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth

Fe allai fod hawl gennych i daliadau pensiwn ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil.

Mae’n dibynnu ar swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y gwnaeth ef neu hi eu talu a phryd y gwnaethoch chi a’ch priod neu bartner sifil gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. 

Gofyn am wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth sydd wedi'i dandalu

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi nodi rhai pobl nad oedd eu pensiynau wedi’u talu’n ddigonol oherwydd na chawsant y cynnydd awtomatig yr oedd ganddynt hawl iddo. Mae’r rhain yn cynnwys pobl a oedd:

  • yn briod neu'n weddw pan fuon nhw farw, neu
  • yn 80 oed neu'n hŷn pan fuon nhw farw.

Efallai bod y DWP eisoes wedi ysgrifennu at y person neu ei berthynas agosaf, os ydynt yn gwybod y cyfeiriad cywir.

Os ydych yn credu efallai bod y person a fu farw wedi cael tâl nad oedd yn ddigonol am ei bensiwn, gallwch ofyn am wybodaeth ychwanegol gan ddefnyddio'r botwm 'Gwneud Cais am Wybodaeth' ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Efallai y bydd yn cymryd peth amser i'r DWP ddelio â'ch ymholiad, ond byddant yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych y canlyniad naill ffordd neu'r llall. Os oedd arian yn ddyledus i'r unigolyn o'i bensiwn, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod beth yw'r camau nesaf.

Gallwch wirio beth allech fod â hawl iddo drwy bensiwn eich partnerYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Os nad ydych chi wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, fe allech chi fod yn gymwys hefyd i hawlio Budd-daliadau profedigaeth.

Beth i’w wneud am eu pensiynau personol a gweithle

Os ydych yn ymdrin â materion rhywun ar ôl eu marwolaeth, bydd angen i chi wirio’u gwaith papur i weld a oedd ganddynt unrhyw gynlluniau pensiwn personol neu weithle.

Os felly, cysylltwch â’r darparwr pensiwn i weld faint o arian oedd ganddynt a beth i’w wneud nesaf.

Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw’r darparwr pensiwn a bod yr ymadawedig yn gyflogedig, cysylltwch â’u cyflogwr i weld a oedd pensiwn gweithle cyfredol.

Mae’r swm y gallwch chi ei hawlio a phryd y gallwch hawlio yn dibynnu ar ba fath o bensiwn personol neu weithle ydyw.

Mae cyfraniadau diffiniedig a phensiynau buddion diffiniedig yn darparu buddion gwahanol ar ôl marwolaeth.

Mae angen i chi gysylltu â'r darparwr pensiwn, neu'r cyflogwr, os yw'n gynllun gweithle, i ddarganfod faint oedd gan yr ymadawedig a sut i hawlio'r pensiwn hwnnw.

Gallwch lawrlwytho templed y llythyr hwn i gysylltu â’r darparwr pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd (DOC 28KB) 

Os nad oes unrhyw sôn am bensiwn personol neu weithle, ond eich bod chi’n credu bod gan yr ymadawedig un, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, gyda chefnogaeth y llywodraeth.

Ffoniwch nhw ar 0800 731 0193 neu ddarganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio

Mae rheolau treth gwahanol yn gymwys wrth etifeddu pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.

Mae’n dibynnu p’un a yw’r unigolyn wedi marw cyn 75 neu ar ôl hynny.

Os yw’r unigolyn wedi marw cyn 75 oed:

  • Os oedd yn derbyn incwm o flwydd-dal oes sengl, bydd hyn yn stopio oni bai bod ‘cyfnod gwarantedig’ ynghlwm wrth y blwydd-dal. Os felly, bydd yn parhau i gael ei dalu yn ddi-dreth hyd at ddiwedd y cyfnod gwarantedig  - fel arfer pump neu ddeng mlynedd.
  • Os oedd yn flwydd-dal oes ar y cyd, bydd incwm yn dal i gael ei dalu i’r goroeswr -hefyd yn ddi-dreth - hyd at ei farwolaeth. Ond fel arfer bydd hyn ar gyfradd ostyngol -hanner sy’n gyffredin. Os nad ydych chi’n siŵr pa un oedd ganddynt, gofynnwch i’r darparwr blwydd-dal.
  • Os oedd gan yr ymadawedig bensiwn tynnu i lawr mynediad hyblyg a sefydlwyd neu y cafwyd mynediad ato yn gyntaf ar ôl 5 Ebrill 2015, bydd unrhyw arian a dalwyd o fewn dwy flynedd i farwolaeth y deiliad pensiwn yn cael ei dalu yn ddi-dreth.
  • Serch hynny, os yw’r pensiwn yn cael ei hawlio mwy na dwy flynedd ar ôl marwolaeth y deiliad pensiwn, efallai y bydd angen talu treth.
  • Bydd unrhyw arian a dynnir allan o’r cynllun pensiwn cyn marwolaeth, neu unrhyw fuddsoddiad a brynir gydag arian o’r cynllun pensiwn, yn cyfrif fel rhan o ystâd yr ymadawedig ac fe allai fod yn amodol ar Dreth Etifeddiant.
  • Bydd yr arian yn y pensiwn yn parhau i dyfu yn ddi-dreth cyhyd â’i fod yn parhau wedi’i fuddsoddi.

Os yw’r unigolyn wedi marw yn 75 oed neu hŷn:

  • Os wnaeth dderbyn incwm o flwydd-dal oes sengl, bydd hyn yn dod i ben oni bai bod ‘cyfnod gwarantedig’. Os felly, fe’i telir i’r buddiolwyr hyd at ddiwedd y cyfnod gwarantedig. Bydd treth incwm yn gymwys ar y taliadau.
  • Os oedd yn flwydd-dal ar y cyd, bydd incwm yn parhau i gael ei dalu i’r goroeswr, a bydd treth incwm yn gymwys.
  • Bydd unrhyw arian a gymerir fel cyfandaliad neu fel incwm o gynllun tynnu i lawr mynediad hyblyg neu o unrhyw bot pensiwn heb ei gyffwrdd, yn cael ei ychwanegu at incwm arall buddiolwr ac yn cael ei drethu yn y ffordd arferol.

Pensiynau buddion wedi’u diffinio

Mae sut y mae pensiwn buddion wedi’u diffinio yn cael ei dalu yn dibynnu ar p’un a oedd yr ymadawedig wedi ymddeol ai peidio.

Os nad oedd yr ymadawedig wedi ymddeol hyd yma:

  • Bydd y rhan fwyaf o gynlluniau yn talu cyfandaliad sydd fel arfer yn ddwy neu’n bedair gwaith eu cyflog.
  • Os oedd yr ymadawedig yn iau na 75 oed, mae’r cyfandaliad hwn yn ddi-dreth.
  • Mae’r math hwn o bensiwn fel arfer yn talu ‘pensiwn goroeswr’ trethadwy i briod, partner sifil neu blentyn dibynnol yr ymadawedig.

Os oedd yr ymadawedig wedi ymddeol:

  • Os oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn gan gynllun budd-dal wedi ei ddiffinio, bydd pensiwn wedi ei leihau yn aml yn parhau i gael ei dalu i gymar, partner sifil neu ddibynnydd arall yn unol gyda rheolau y cynllun.
  • Gwiriwch pa fuddion sy’n ddyledus gyda’r cynllun pensiwn neu ddarparwr.

Lwfans Oes

Mae newidiadau wedi bod i’r Lwfans Oes. O fis Ebrill 2023 ni fydd tâl treth am werth pensiynau sydd dros y terfyn (£1,073,100 ar hyn o bryd).

Os nad oes gan yr ymadawedig lwfans oes digonol ar ôl i dalu gwerth unrhyw bensiynau nad ydynt eisoes wedi'u profi yn erbyn y lwfans oes, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth ar unrhyw gynilion pensiwn sy'n fwy na'r terfyn hwn.

 

Mwy o gymorth i roi trefn ar bensiwn

Os ydych chi angen mwy o wybodaeth am roi trefn ar bensiwn rhywun sydd wedi marw, neu sut y dylech chi hawlio’u pensiwn, cysylltwch â ni:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.