Pan roddwch arian neu eiddo i mewn i ymddiriedolaeth, cyn belled â bod rhai amodau’n cael eu bodloni, nid chi sydd berchen arno wedyn. Mae hyn yn golygu mae’n bosib na fydd yn cyfrif tuag at eich bil Treth Etifeddiant wedi i chi farw. Darganfyddwch y manylion o ddefnyddio ymddiriedolaeth i leihau eich Treth Etifeddiant.
Beth yw ymddiriedolaeth?
Trefniant cyfreithiol yw ymddiriedolaeth lle y rhoddwch chi arian, eiddo neu fuddsoddiadau i rywun arall er mwyn iddyn nhw edrych ar eu holau er budd trydydd person. Felly, er enghraifft, gallwch roi peth o’ch cynilion i un ochr mewn ymddiriedolaeth er budd eich plant.
Mae dwy rôl bwysig mewn unrhyw ymddiriedolaeth y dylech chi eu deall:
- Yr ymddiriedolwr - dyma’r unigolyn sydd piau’r asedau yn yr ymddiriedolaeth. Mae ganddo’r un pwerau â’r sawl fyddai’n gorfod prynu, gwerthu a buddsoddi yn ei eiddo ei hun. Gwaith yr ymddiriedolwyr yw rhedeg yr ymddiriedolaeth a rheoli eiddo’r ymddiriedolaeth mewn ffordd gyfrifol.
- Y buddiolwr - dyma’r unigolyn y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth ar ei gyfer ac fel arfer ni chaiff reoli asedau’r ymddiriedolaeth drosto’i hun gan ei fod yn rhy ifanc neu ag anallu i reoli ei arian ei hun. Mae’r asedau a gedwir mewn ymddiriedolaeth yno er budd y buddiolwr.
Beth yw gwaith ymddiriedolaeth?
Cael cyngor
Gall ymddiriedolaeth bod yn ffordd i dorri’r dreth sydd i gael ei dalu ar eich etifeddiant, ond mae angen cyngor proffesiynol arnoch i gael popeth mewn trefn. Siaradwch â chyfreithiwr/cynghorydd ariannol annibynnol.
Os rhoddwch bethau mewn ymddiriedolaeth yna, cyn belled â bod rhai amodau’n cael eu bodloni, nid chi sydd berchen arnynt wedyn.
Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi’n marw, ni fydd gwerth y pethau hyn yn cyfrif pan fydd eich bil Treth Etifeddiant yn cael ei weithio allan.
Yn hytrach, mae’r arian parod, buddsoddiadau neu’r eiddo yn perthyn i’r ymddiriedolaeth. Mewn geiriau eraill, unwaith y mae’r eiddo mewn ymddiriedolaeth, mae’n sefyll y tu hwnt i ystâd unrhyw un er dibenion Treth Etifeddiant.
Mantais posib arall yw bod ymddiriedolaeth yn fodd o gadw rheolaeth a diogelu asedau ar gyfer y buddiolwr; mae ymddiriedolaeth yn osgoi gorfod trosglwyddo eiddo gwerthfawr, arian parod neu fuddsoddiad ar adeg pan mae’r buddiolwyr yn ifanc neu’n fregus.
Mae gan ymddiriedolwyr ddyletswydd gyfreithiol i ofalu am asedau’r ymddiriedolaeth a’u rheoli ar ran yr unigolyn fydd yn elwa o’r ymddiriedolaeth yn y diwedd.
Pan sefydlwch ymddiriedolaeth chi sydd yn penderfynu ar y rheolau ynglŷn â sut i’w rheoli. Er enghraifft, gallech ddweud na fydd eich plant yn medru defnyddio’r ymddiriedolaeth hyd nes iddynt gyrraedd 25 oed.
Pa fathau o ymddiriedolaethau sy’n bodoli?
Mae nifer o fathau gwahanol o ymddiriedolaethau.
Efallai y bydd sefydlu ymddiriedolaeth sylfaenol yn cael y gost leiaf bosibl. Er bod eraill yn fwy cymhleth i'w sefydlu a byddai angen cyngor mwy arbenigol arnynt, sy'n ddrytach.
Mae rhai ymddiriedolaethau’n atebol i’w gweithdrefnau Treth Etifeddiant eu hunain. Felly, unwaith y mae asedau wedi’u trosglwyddo’n llwyddiannus i mewn i ymddiriedolaeth, nid ydynt mwyach yn destun Treth Etifeddiant wedi i chi farw
Mae rhai eraill yn talu treth incwm a threth ar enillion cyfalaf ar gyfraddau uwch. Felly mae’n bwysig gwybod pa fath o ymddiriedolaeth sydd gennych
Mae’r math o ymddiriedolaeth a ddewiswch yn dibynnu ar beth yw ei bwrpas i chi. Dyma rai o’r dewisiadau mwyaf cyffredin.
- Ymddiriedolaeth syml – y math symlaf o ymddiriedolaeth. Mae’r buddiolwr yn cael yr hawl at yr holl asedau yn yr ymddiriedolaeth cyhyd â'u bod yn fedrus yn feddyliol ac wedi cyrraedd 18 oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu 16 oed yn Yr Alban.
- Ymddiriedolaeth diddordeb mewn meddiant – gall y buddiolwr gael peth o’r incwm o’r ymddiriedolaeth yn syth, ond nid oes ganddo’r hawl i gael yr arian, yr eiddo na’r buddsoddiadau sy’n creu’r incwm hwnnw. Bydd yn rhaid i’r buddiolwr dalu treth incwm ar yr incwm a dderbyniwyd. Gallwch sefydlu’r math hwn o ymddiriedolaeth ar gyfer eich partner, gyda’r ddealltwriaeth y bydd y buddsoddiadau yn cael eu trosglwyddo i’ch plant pan fydd eich partner yn marw. Mae hwn yn strwythur ymddiriedolaeth boblogaidd a ddefnyddir mewn ewyllysiau pobl sy’n ailbriodi, ond sydd â phlant o’u priodas gyntaf.
- Ymddiriedolaeth ddiamod – mae gan yr ymddiriedolwyr lwyr hawl i benderfynu sut i ddosbarthu asedau’r ymddiriedolaeth i’r buddiolwyr a enwir yn yr ymddiriedolaeth. Gallech sefydlu’r math hwn o ymddiriedolaeth ar gyfer eich wyrion gan adael i’r ymddiriedolwyr (sef rhieni’r wyrion efallai) benderfynu sut i rannu’r incwm a’r cyfalaf rhwng yr wyrion. Bydd gan yr ymddiriedolwyr y gallu i wneud penderfyniadau buddsoddi ar ran yr ymddiriedolaeth.
- Ymddiriedolaeth Gronedig – gall yr ymddiriedolwyr gronni incwm o fewn yr ymddiriedolaeth ac ychwanegu at gyfalaf yr ymddiriedolaeth. Efallai y gallent hefyd dalu incwm allan, fel gydag ymddiriedolaeth ddiamod.
- Ymddiriedolaeth gymysg – yn cyfuno elfennau o wahanol fathau o ymddiriedolaethau. Er enghraifft, gall buddiolwr fod â diddordeb mewn meddiant, fel hawl at incwm, hanner o gronfa’r ymddiriedolaeth a gall hanner arall y gronfa ymddiriedolaeth fod yn ymddiriedolaeth ddiamod.
- Ymddiriedolaeth ar gyfer person bregus – mae rhai ymddiriedolaethau ar gyfer pobl neu blant anabl sy’n cael triniaeth treth arbennig. Gelwir y rhain yn ‘ymddiriedolaethau ar gyfer buddiolwyr bregus’. Os mai person bregus yw’r unig un i elwa o’r ymddiriedolaeth – er enghraifft, rhywun sydd ag anabledd neu blentyn amddifad – yna mae llai o dreth i’w thalu fel arfer ar incwm ac elw o’r ymddiriedolaeth.
- Ymddiriedolaeth preswylwyr allanol – ymddiriedolaeth lle mae’r holl ymddiriedolwyr yn byw y tu allan i’r DU. Weithiau gall hyn olygu nad yw’r ymddiriedolwyr yn talu unrhyw dreth neu swm llai o dreth ar incwm o’r ymddiriedolaeth.
Darganfyddwch fwy am y gwahanol fathau o ymddiriedolaethau ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Eisiau sefydlu ymddiriedolaeth?
Gallwch sefydlu ymddiriedolaeth yn syth neu ysgrifennu un yn eich ewyllys.
Pan fyddwch yn sefydlu ymddiriedolaeth rhaid i chi ddatgan yn glir:
- beth yw asedau’r ymddiriedolaeth
- pwy yw’r ymddiriedolwyr a’r buddiolwyr
- pa bryd fydd yr ymddiriedolaeth yn weithredol – yn syth, neu wedi i chi farw?
Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn cadw cronfa data chwiliadwy i’ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys sy’n agos atoch.
Darganfyddwch gyfreithiwr:
- Yng Nghymru a Lloegr - Cymdeithas y CyfreithwyrYn agor mewn ffenestr newydd
- Yn Yr Alban - The Law Society of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon - Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd
Dewis eich ymddiriedolwyr
Rhaid i chi ddewis pobl i fod yn ymddiriedolwyr, fel arfer aelodau o’ch teulu neu ffrindiau agos fedrwch ymddiried ynddynt. Meddyliwch yn ofalus am bwy i ofyn, a sicrhewch eu bod nhw’n hapus i dderbyn y cyfrifoldeb.
Dylech fod gennych o leiaf dau ymddiriedolwr, ond mae’n debyg dim mwy na thri neu bedwar.
Neu gallwch benodi cwmni fel eich ymddiriedolwr, fel banc neu gwmni o gyfreithwyr, ond byddwch yn ymwybodol fod cost gan rain.
Pan fydd llawer o bobl yn sefydlu ymddiriedolaeth yn eu hewyllys, maent yn enwi ysgutor yr ewyllys fel yr ymddiriedolwr, ond nid yw’n ofynnol gwneud hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ysgutor eich ewyllys
Angen mwy o gyngor?
Mae cyfraith ymddiriedaeth yn gymhleth, ac os nad ydych yn ofalus gallwch wynebu costau treth ar unwaith pan fyddwch yn ei sefydlu.
I sicrhau eich bod yn gwneud pethau'n gywir, mae'n bwysig cael cyngor proffesiynol cyn sefydlu ymddiriedolaeth. Siaradwch â chyfreithiwr neu umgynghorydd ariannol annibynnol bob amser.