Rhoi trefn ar eich materion ariannol

Pan fyddwch yn ystyried trefniadau bywyd diweddarach, mae’n hanfodol ystyried sut hoffech gael eich arian wedi’i drin a sut fyddwch yn talu am gostau hanfodol pe baech yn mynd yn wael neu’n marw. Bydd cynllunio da’n helpu i sicrhau eich bod chi neu’ch teulu’n barod i dalu unrhyw gostau y gallech eu hwynebu yn y dyfodol a lleihau’r pwys. Bydd y cynllun camau hwn yn mynd â chi trwy’r pethau bydd angen i chi ystyried. 

Delio â dyledion

Mae’n hanfodol pwysig i chi delio ag unrhyw ddyledion problemus cyn i chi taclo unrhyw faterion ariannol arall. 

Adolygwch eich cyllideb

Os oes rhaid i chi ymdopi ag ostyngiad incwm, mae’n bwysig i edrych ar eich cyllideb er mwyn gwneud y gorau o’ch incwm.

Bydd adolygu eich cyllideb yn gam hanfodol hefyd os oes gennych ddyledion eich bod angen delio â nhw. Mae hyn oherwydd bydd hwn yn dweud wrthych faint o arian sydd dal gennych i dalu’r bobl eich bod mewn dyled iddynt (eich credydwyr).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo

Os ydych yn byw ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys am rai budd-daliadau.  

Cronni cynilion neu gael yr yswiriant cywir

Mae’n hanfodol pwysig i chi cael peth arian wedi’i neilltuo er mwyn delio ag argyfyngau annisgwyl os yw’n bosib i chi wneud hwn. Fodd bynnag, gall cronni cynilion fod yn anodd os ydych yn byw ar incwm isel neu sefydlog.

Efallai bydd adolygu eich cyllideb yn rhyddhau peth arian y dylech gynilo mewn cyfrif cynilo lle bydd eich arian ar gael yn hawdd.

Gall gymryd yswiriant fod yn ffordd cost effeithiol i ddarparu incwm neu gyfandaliad i unrhyw un sy’n dibynnu arnoch os fydd rhywbeth yn digwydd i chi.

Yn dibynnu ar ba gam eich bod wedi cyrraedd yn eich bywyd, gall yswiriant darparu amddiffyniad incwm os nad ydych yn gallu gweithio. Neu gallwch drefnu gwneud cyfandaliad i’ch dibynyddion trwy bolisi yswiriant bywyd. 

Defnyddio trefniadau ffurfiol i roi trefn ar eich materion

Os ydych am fod yn hollol sicr y bydd trefn ar eich arian a chyllid os fydd unrhyw beth yn digwydd sy’n effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau eich hun, gall fod yn syniad da i greu drefniant ffurfiol.

Mae trefniadau ffurfiol yn ddefnyddiol i bawb – ond yn wir werth ystyried os:

  • yw’ch cyllid yn gymhleth, neu
  • bydd y trefniadau mae angen i chi gwneud ar gyfer y bobl sy’n dibynnu arnoch yn gymhleth.  

Y ffyrdd mwy poblogaidd o wneud hyn yw naill ai trwy bŵer atwrnai neu ymddiriedolaeth. 

Pŵer atwrnai

Mae pŵer atwrnai yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i chi roi’r pŵer i un neu fwy o bobl wneud penderfyniadau ac i reoli:

  • eich arian a’ch eiddo, ac/neu
  • eich iechyd a’ch lles.

Gall pŵer atwrnai eich helpu gyda:

  • sefyllfaoedd dros dro – er enghraifft, os byddwch mewn ysbyty neu dramor a bydd angen help arnoch gyda thasgau bob dydd fel talu biliau
  • sefyllfaoedd tymor hir – er enghraifft, byddwch am gynllunio ar gyfer yr annisgwyl neu wedi cael diagnosis o ddementia ac efallai y byddwch yn colli’r galluedd meddyliol i wneud eich penderfyniadau eich hun yn y dyfodol.

Cael help anffurfiol i reoli eich arian

Efallai y byddwch angen meddwl am ddod o hyd i rywun i roi help llaw i chi gyda chyllid bob dydd.

Dyma rhai enghreifftiau o beth gall hyn cynnwys:

  • Cymorth gyda gwaith papur – help i lenwi dogfennau pwysig neu i ddeall rhai termau. Er enghraifft, gwybodaeth am gyfrifon banc, treth neu daliadau budd-dal.
  • Cymorth gyda chyfarfodydd rhywun i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd pwysig gyda chi. Er enghraifft, gyda chyfreithiwr, cynghorydd ariannol neu ymgynghorydd budd-daliadau.
  • Help gyda gwario bob dydd rhywun i reoli eich arian o ddydd i ddydd. Er enghraifft, llenwi ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim, newid eich darparwr nwy neu drydan i gael dêl well neu godi arian i chi os ni allwch ymweld â’r banc.

Efallai y gallwch drefnu rhai o’r pethau hyn eich hun trwy ailfeddwl sut eich bod yn rheoli eich arian.

Trafod gofal hirdymor

Mae'n anodd meddwl am rywbeth efallai na fyddai’n digwydd mewn gwirionedd. Ond yn aml iawn, mae'n rhaid i benderfyniadau gofal gael eu gwneud gan y teulu. Mae'r rhain yn aml heb eu cynllunio oherwydd ni chafodd unrhyw un y sgwrs cyn bod angen cymorth.  

Pe bai hyn yn digwydd i chi, gallai olygu efallai na fydd eich dymuniadau'n cael eu hystyried neu y gallai eich arian fod wedi cael ei ddefnyddio'n fwy effeithlon i dalu am eich gofal.

Gwneud ewyllys

Dogfen gyfreithiol sy’n nodi beth fydd yn digwydd i’ch eiddo bydol pan fyddwch yn marw.

Mae ewyllys yn ei gwneud hi’n haws i’ch teulu neu ffrindiau ddod i drefn gyda phopeth pan fyddwch chi’n marw. Heb ewyllys gall y broses fod yn un boenus ac yn cymryd llawer o amser.

Os na fyddwch yn ysgrifennu ewyllys, bydd popeth sydd yn berchen i chi yn cael ei rannu mewn ffordd safonol a ddifinir gan y gyfraith – nid dyna’r ffordd rydych ei heisiau bob amser. Gallwch ddarganfod pwy sy'n cael beth os nad oes gennych ewyllysYn agor mewn ffenestr newydd

Gall ewyllys eich cynorthwyo i leihau faint o Dreth Etifeddiant a allai fod yn daladwy ar werth eich eiddo a’r arian y byddwch yn ei adael ar ôl.

Mae ysgrifennu ewyllys yn arbennig o bwysig os oes gennych  blant neu deulu arall sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, neu os ydych chi am adael rhywbeth i bobl y tu allan i'ch teulu agos.

Mae’n arferol i bobl diystyru cymhlethdod ei materion ariannol. Gall dewis i beidio â chael barn arbenigol pan fyddwch yn ysgrifennu eich ewyllys olygu bod eich anwyliaid yn cael eu gadael gyda chwestiynau heb eu hateb a threuliau ychwanegol, neu gallai eich ewyllys fod yn annilys neu’n agored i her. 

Os ydych chi eisiau ffordd hawdd a diogel o gofnodi gwybodaeth bwysig mewn un lle rhag ofn y byddwch angen rhywun i drefnu pethau i chi ar eich rhan, cwblhewch LifeBook ar wefan Age UKYn agor mewn ffenestr newydd

Beth yw llythyr dymuniadau?

Nid yw llythyr dymuniadau yn gyfreithiol rwymol, ond mae'n gweithredu fel canllaw personol i helpu eich ysgutorion a'ch ymddiriedolwyr. Gall

  • helpu i egluro penderfyniadau
  • helpu i gadw'r costau i lawr
  • cadw yr ewyllys yn fwy cryno, a
  • cynnwys gwybodaeth am beth i'w wneud gyda'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Darganfyddwch fanteision cael llythyr dymuniadau ar gazette.co.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd ddarganfod beth sy'n digwydd i'ch lluniau, eich cerddoriaeth a'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol pan fyddwch chi'n marw ar gazette.co.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Enwebwch ddibynyddion os oes gennych bensiwn

Bydd llawer o gynlluniau pensiwn yn gofyn i chi enwebu buddiolwr, trwy ffurflen Mynegi Dymuniad neu Enwebiad. Mae buddiolwr yn rhywun sy'n cael budd o'ch pensiwn ar ôl i chi farw. Felly mae’n bwysig dweud wrth eich darparwr pensiwn i bwy rydych am adael eich pensiwn, a’i ddiweddaru os bydd pethau’n newid. Dysgwch fwy yn ein canllaw Beth sy'n digwydd i'm pensiwn pan fyddaf yn marw?

Lleihau eich bil treth trwy gynllunio etifeddiaeth yn dda

Dim ond tua un mewn 20 o ystadau sy’n ddigon mawr i dalu Treth Etifeddiant (IHT).

Fel arfer nid oes angen i chi talu hyn os:

  • yw gwerth eich ystâd yn llai na’r Band Dim Cyfradd (NRB) o £325,000
  • gadewch bopeth dros y trothwy i’ch priod neu bartner sifil, neu
  • gadewch bopeth dros y trothwy i fuddiolwr eithriedig fel elusen.

Os yw gwerth eich ystâd yn uwch na’r NRB, yna gallai’r rhan o’ch ystâd sydd uwchben y trothwy hwn fod yn drethadwy ar y gyfradd o 40%.

Os credwch y gall hyn effeithio arnoch, bydd angen i chi ystyried y dreth yma o fewn eich cynlluniau pan fyddwch yn gwneud ewyllys. Mae hefyd yn bwysig cadw cofnod os rhoddir rhoddion mewn un ddogfen, a’i fod yn cael ei diweddaru â gwerth, dyddiad a derbynnydd unrhyw roddion eraill.  

 

Os ydych yn gweithio’n galed i gronni’ch cronfa bensiwn, mae’n syniad da meddwl beth fydd yn digwydd i’ch pensiwn pan fyddwch yn marw. Mae hyn yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych a’r opsiynau rydych wedi’u dewis. Gall ein canllaw eich helpu i ddeall y rheolau pensiwn ar ôl i chi farw.

Os bydd yn rhaid i chi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch neu anabledd

Weithiau, na fydd y dyfodol ein bod wedi dychmygu i’n hunain yn digwydd fel y gobeithiwn.

Gall orfod rhoi gorau i weithio’n gynnar oherwydd salwch neu anabledd golygu bydd rhaid i chi ailasesu eich cyllid ac ailgymhwyso eich treuliau a chynllunio am y dyfodol. 

Trefnu eich angladd

Gall angladdau fod yn ddrud. Ond mae yna ffyrdd i gadw’r costau i lawr a threfnu o flaen llaw fel nid oes yn rhaid i’ch teulu neu ffrindiau boeni am ddod o hyd i’r arian yn ystod adeg boenus.

Mae yna nifer o ffyrdd i dalu am angladdau o flaen llaw, ond bydd angen i chi ystyried y manteision ac anfanteision o bob un:

  • Gallwch roi arian mewn cyfrif cynilo a glustnodwyd am dreuliau angladd lle bydd eich arian ar gael yn hawdd.
  • Gyda chynllun angladd rhagdaledig, byddwch yn talu cyfandaliad neu randaliadau i ddarparwr sy’n buddsoddi’r arian ac wedyn eu defnyddio i dalu am gostau’r angladd a ddewiswyd gennych.  Gwiriwch dermau a chostau cynlluniau angladd yn ofalus - yn aml, maent yn werth gwael i gymharu gyda chyfrif cynilo syml.
  • Os oes gennych yswiriant bywyd, gwiriwch os oes yna buddion ychwanegol os defnyddiwyd y derbyniadau ar gyfer costau angladd. Gwnewch yn siŵr mae’r derbyniadau’n ysgrifenedig o fewn ymddiriedolaeth fel maent ar gael yn hawdd ar ôl i chi farw a heb eu cynnwys fel rhan o’ch ystâd.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.