Os yw’ch babi yn farw-anedig

Wedi marw-enedigaeth, efallai byddech yn wynebu straen ariannol ar ben eich galar. Mae’n bwysig gwybod beth sydd gennych hawl iddo ac â phwy i siarad. Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol hefyd os ydych wedi terfynu beichiogrwydd wedi 24 wythnos oherwydd anormaledd ffoetws.

A oes gennych hawl i gael budd-daliadau a hawliau os yw’ch babi yn farw-anedig?

Os cawsoch fabi marw-anedig ar ôl 24 wythnos lawn o feichiogrwydd, efallai y gallwch hawlio cymorth ariannol.

Bydd angen i chi ddweud wrth rai pobl benodol.

Y ffordd orau i wneud hyn fel arfer yw dros y ffôn neu, os yw’n bosibl, drwy e-bost.

Os na fyddwch yn teimlo y gallwch godi’r ffôn, efallai y gallai perthynas neu ffrind agos wneud rhai o’r galwadau ar eich rhan.

Absenoldeb Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Os ydych yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban mae gennych 56 wythnos i gymryd Absenoldeb Rhieni Mewn Profedigaeth neu hawlio Tâl Stadudol Rhieni mewn Profedigaeth trwy eich cyflogwr. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad marwolaeth y plentyn.

Gallwch gymryd hwn ar ben unrhyw absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth y mae gennych hefyd hawl iddo.

Gallwch gymryd pythefnos o Absenoldeb Statudol Rhieni mewn Profedigaeth mewn un bloc neu fel dau floc ar wahân o wythnos.

Rhennir y 56 wythnos yn ddau gyfnod:

  • o ddyddiad marwolaeth neu farwenedigaeth y plentyn i wyth wythnos ar ôl
  • naw i 56 wythnos ar ôl dyddiad marwolaeth neu farwenedigaeth y plentyn.

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr cyn i chi gymryd Absenoldeb Rhieni Mewn Profedigaeth.

Tâl Profedigaeth Statudol

Os ydych yn gyflogai neu’n weithiwr, efallai y bydd gennych hefyd hawl i bythefnos o Dâl Profedigaeth Statudol.

Bydd angen i chi fod wedi bod yn ennill o leiaf £123 yr wythnos ym mlwyddyn dreth 2023/24.

Mae Tâl Profedigaeth Statudol naill ai’n £72.48 (2023/24) yr wythnos neu’n 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, pa un bynnag sydd isaf.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn talu mwy na hyn trwy Dâl Profedigaeth Uwch. Gwiriwch eich llawlyfr staff neu gontract am fanylion.

I gael mwy o wybodaeth am gymhwysedd, ewch i wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, gweler canllaw AcasYn agor mewn ffenestr newydd ar Absenoldeb a Thâl Rhiant mewn Profedigaeth

Tâl ac absenoldeb mamolaeth

Mae gennych hawl i gyfanswm o 52 wythnos o absenoldeb.

Ni allwch gael hyn os byddwch yn cael plentyn trwy fenthyg croth, ond efallai y gallwch gael absenoldeb rhiant di-dâl.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol tra byddwch yn absennol o’r gwaith am uchafswm o 39 wythnos  - ar yr amod eich bod wedi bod yn gweithio’n ddigon hir.

Mae rhaid i chi wneud eich cais o fewn 28 diwrnod ar ôl marwolaeth eich babi.

Siaradwch â’ch cyflogwr am beth all ei gynnig i chi neu wirio eich contract cyflogaeth.

Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn cynnig absenoldeb tosturiol i famau a thadau mewn galar yn rhan o’u contract cyflogaeth sylfaenol neu fuddion cyflogeion.

Os nad ydych ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth ac yn methu dychwelyd i'r gwaith am resymau meddygol, telir Tâl Salwch Statudol am hyd at 28 wythnos. Gallai hyn fod yn fwy os yw'ch contract cyflogaeth yn caniatáu hynny.

Efallai y byddwch angen Nodyn Ffitrwydd, oedd yn cael ei alw'n Nodyn Salwch yn flaenorol, gan eich meddyg teulu.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych yn dioddef marwenedigaeth ac rydych wrthi yn chwilio am waith, byddwch yn cael eich rhoi yn y grŵp dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith am 15 wythnos yn dilyn dyddiad yr enedigaeth.

Bydd eich anogwr gwaith yn gofyn am gopi o’ch tystysgrif marwenedigaeth, enw, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol.

Efallai y caiff eich ymrwymiad hawlydd ei adolygu ar ôl 15 wythnos os nad ydych yn teimlo’n ddigon da i ddechrau chwilio am waith eto.

Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol

Os ydych yn hunangyflogedig neu ddim yn ennill digon i fod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth.

Y llywodraeth yn hytrach na'ch cyflogwr sy'n talu hwn.

Os na allwch gael Lwfans Mamolaeth, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

I wneud cais am Lwfans Mamolaeth, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Budd-daliadau a hawliau eraill

Mae gennych hawl i gael presgripsiynau am ddim am o leiaf 12 mis yn Lloegr.

Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae presgripsiynau am ddim i bawb.

Mae gennych hawl hefyd i gael triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG hyd nes y bydd y dystysgrif yn dod i ben.

Gofynnwch i’ch meddyg neu fydwraig am ffurflen FW8, i chi ei chwblhau ac yna bydd ef neu hi yn ei harwyddo a’i hanfon ar eich rhan.

Byddwch yn derbyn eich tystysgrif eithriad yn y post.

Gallant hefyd eich helpu gyda'r rhaglen Healthy Start os ydych wedi bod yn hawlio talebau. Ni chewch ragor o dalebau ond gallwch ddefnyddio unrhyw rai a gawsoch eisoes.

Cofrestru’ch baban

Mae rhaid cofrestru genedigaeth eich baban yng Nghymru a Lloegr o fewn 42 diwrnod, ac yn yr Alban o fewn 21 diwrnod. Yng Ngogledd Iwerddon mae’n rhaid cofrestru baban marw-anedig o fewn blwyddyn.

Yn y rhan fwyaf o leoedd, bydd angen i chi fynd i’ch swyddfa gofrestru leol, ond efallai y gallwch wneud hyn yn yr ysbyty.

Bydd staff yr ysbyty yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud a ble i fynd.

Gwneud trefniadau’r angladd

Yn ôl y gyfraith, rhaid i faban sy’n farwanedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd gael ei gladdu neu ei amlosgi’n ffurfiol, er nid yw angladd yn ofyniad cyfreithiol.

Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Loegr, ni fydd eich awdurdod lleol yn codi ffioedd arnoch am angladd neu amlosgiad arferol ar gyfer plentyn.

Bydd angen talu ffioedd eraill o hyd, fel trefnydd angladdau, blodau a chofeb.

Yn Lloegr, gall y Children’s Funeral FundYn agor mewn ffenestr newydd gyfrannu hyd at £300 tuag at bris costau rhesymol angladd fel y ffioedd claddu, ffioedd amlosgi ac arch, lliain amdo neu gasged.

Yng Nghymru, mae yna hefyd gyfraniad o £500Yn agor mewn ffenestr newydd tuag at gost yr angladd a chostau cysylltiedig eraill fel blodau a phlaciau.

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr a'ch bod yn cael budd-daliadau penodol, gallwch hefyd wneud cais am hyd at £1,000 o Daliad Costau Angladd i helpu i dalu rhai o'r costau rhesymol eraill.

Yn yr Alban, y taliad cyfartalog yw £1,000 am gyfraniadYn agor mewn ffenestr newydd tuag at unrhyw gostau angladd rhesymol y mae angen i chi eu talu megis y gwasanaeth angladd neu gar angladd.

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael hyd at £1,000 ar gyfer costau angladd rhesymol ar gyfer ffioedd neu eitemau fel ffioedd trefnydd angladdau, blodau, arch.

Os nad ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau, gallwch hawlio ar gyfer rhai costau angladd. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK

Mae’r achos o goronafeirws wedi gosod cyfyngiadau difrifol ar angladdau, sydd yn gwneud trefnu seremoni ystyrlon ymddangos yn anodd. Gallwch ddod o hyd i fwy am beth allwch ei wneud ar wefan Quaker Social Action

Canllawiau wedi'u hargraffu am ddim

Mae ein canllawiau wedi'u hargraffu am ddim yn rhoi gwybodaeth glir, ddiduedd i chi. Maent yn fan cychwyn da a gallant eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.