Os yw’ch babi wedi marw yn fuan wedi’r enedigaeth

Os bu farw eich babi yn fuan wedi’r enedigaeth, gallech wynebu straen ariannol ar ben eich colled. Mae’n bwysig gwybod beth sydd gennych hawl iddo a gyda phwy i siarad.

Pa fudd-daliadau a hawliau allwch wneud cais amdanynt?

Os yw’ch babi yn marw o fewn pedair wythnos o gael eu geni, mae gennych hawl i gael cymorth ariannol.

Byddwch angen dweud wrth rai pobl benodol beth sydd wedi digwydd. Y ffordd orau i wneud hyn fel arfer yw ffonio neu, pan fydd yn bosibl, anfon e-bost.

Os na fyddwch yn teimlo y byddech yn gallu ffonio, efallai y byddwch yn gallu cael perthynas neu ffrind agos i wneud rhai o’r galwadau ar eich rhan.

Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Os ydych yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban mae gennych 56 wythnos i gymryd Absenoldeb Rhieni Mewn Profedigaeth neu hawlio Tâl Stadudol Rhieni mewn Profedigaeth trwy eich cyflogwr. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad marwolaeth y plentyn.

Gallwch gymryd pythefnos o wyliau mewn un bloc neu fel dau floc ar wahân o wythnos.

Rhennir y 56 wythnos yn 2 gyfnod:

  • o ddyddiad marwolaeth neu farwenedigaeth y plentyn i wyth wythnos ar ôl
  • naw i 56 wythnos ar ôl dyddiad marwolaeth neu farwenedigaeth y plentyn.

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd i'ch cyflogwr cyn i chi gymryd Absenoldeb Rhieni Mewn Profedigaeth. 

Tâl Profedigaeth Statudol

Os ydych yn weithiwr, efallai eich bod hefyd yn gymwys i ddwy wythnos o Dâl Profedigaeth Statudol.

Bydd angen i chi fod wedi bod yn ennill o leiaf £123 yr wythnos yn y flwyddyn dreth 2023/24.

Mae Tâl Profedigaeth Statudol yn unai £172.48 (2023/24) yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, yn dibynnu ar ba un yw’r lleiaf.

Ond gall bod eich cyflogwr yn talu mwy na hwn trwy Dâl Profedigaeth Uwch. Gwiriwch eich llawlyfr staff neu’ch cytundeb am fanylion.

Darganfyddwch fwy am sut i hawlio Tâl Profedigaeth Statudol ar GOV.UK.Yn agor mewn ffenestr newydd

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, edrychwch ar ganllaw Acas ar Absenoldeb a Thâl Profedigaeth RhiantYn agor mewn ffenestr newydd

Tâl ac absenoldeb mamolaeth

Mae gennych hawl i gyfanswm o 52 wythnos o absenoldeb.

Ni allwch gael hyn os byddwch yn cael plentyn trwy fenthyg croth, ond efallai y gallwch gael absenoldeb rhiant di-dâl.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol tra byddwch yn absennol o’r gwaith am uchafswm o 39 wythnos – ar yr amod eich bod wedi bod yn gweithio’n ddigon hir.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau i’ch anogwr gwaith Credyd Cynhwysol. Os ydych yn teimlo bod eich gallu i weithio neu i chwilio am waith wedi’i effeithio wrth i chi wella, efallai y byddant yn gofyn am nodyn o’ch meddyg teulu neu arbenigwr gofal iechyd

Mae rhaid i chi wneud cais cyn pen 28 diwrnod o farwolaeth eich babi.

Siaradwch â’ch cyflogwr am beth allant ei gynnig i chi neu gwiriwch eich contract cyflogaeth.

Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig absenoldeb tosturiol i rieni mewn galar yn rhan o’u contract cyflogaeth sylfaenol neu fuddion cyflogeion.

Os nad ydych ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth ac yn methu dychwelyd i'r gwaith am resymau meddygol, telir Tâl Salwch Statudol am hyd at 28 wythnos. Gallai hyn fod yn fwy os yw'ch contract cyflogaeth yn caniatáu hynny.

Lwfans Mamolaeth

Os ydych yn hunangyflogedig neu os nad ydych wedi bod gyda’ch cyflogwr yn ddigon hir i fod yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol, efallai y byddwch yn gymwys am Lwfans Mamolaeth.

Mae hwn yn cael ei dalu gan y llywodraeth yn hytrach na’ch cyflogwr.

Os na allwch gael Lwfans Mamolaeth, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

I wneud cais am Lwfans Mamolaeth, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith.

Budd-dal Plant

Byddwch yn cael Budd-dal Plant llawn am y cyfnod o’r enedigaeth hyd at wyth wythnos wedi i’ch babi farw.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am Fudd-dal Plant, bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant bod eich babi wedi marw.

Ffoniwch y Swyddfa Budd-dal Plant ar 0300 200 3100 neu ewch i wefan GOV.UK

Os nad ydych wedi gwneud cais eto, mae rhaid i chi wneud hynny o fewn tri mis i’r enedigaeth i gael y swm yn llawn.

Credyd Treth Plant

Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am gredydau treth hyd at wyth wythnos wedi marwolaeth eich babi.

Os nad ydych wedi gwneud cais, dylech wneud hynny o fewn un mis.

Os ydych eisoes yn derbyn credydau treth ar gyfer eich babi, rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Gredydau Treth  cyn pen mis o’ch colled.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Os ydych ar incwm isel ac yn derbyn budd-dal cymwys nid yw’n effeithio ar eich hawl i hawlio Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Mae budd-daliadau cymwys yn cynnwys:

  • Cymorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Cynhwysol.

Mae rhaid i chi wneud cais am y grant cyn pen 11 wythnos o’r dyddiad pan ddisgwylir i’r babi gael ei eni neu cyn pen tri mis ar ôl genedigaeth y babi.

I wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn:

Os ydych yn byw yn Yr Alban, darganfyddwch fwy am y Best Start Grant, a therfynau incwm ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd

Budd-daliadau a hawliau eraill

Mae gennych hawl i gael presgripsiynau am ddim am o leiaf 12 mis yn Lloegr.

Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae presgripsiynau am ddim i bawb.

Mae gennych hawl hefyd i gael triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG hyd nes y bydd y dystysgrif yn dod i ben.

Gofynnwch i’ch meddyg neu fydwraig am ffurflen FW8, y gallwch ei chwblhau ac yna maent yn ei harwyddo a’i hanfon i chi.

Byddwch yn derbyn eich tystysgrif eithriad yn y post.

Gall eich doctor neu fydwraig hefyd eich helpu â’r rhaglen Healthy Start os ydych wedi bod yn hawlio talebau. Ni fyddwch yn derbyn rhagor o dalebau ond gallwch ddefnyddio unrhyw dalebau rydych wedi’u derbyn eisoes.

Cofrestru’ch babi

Mae angen i chi gofrestru marwolaeth eich babi o fewn pum diwrnod yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (wyth diwrnod yn yr Alban).

Gallwch wneud hyn drwy fynd â’r dystysgrif farwolaeth at y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau.

Gallwch gofrestru’r enedigaeth ar yr un pryd os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Bydd y cofrestrydd yn rhoi ffurflen i chi ar gyfer y trefnwr angladdau.

Yn y rhan fwyaf o leoedd, bydd angen i chi fynd i’ch swyddfa gofrestru leol, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Efallai y gallwch wneud hyn yn yr ysbyty. Bydd staff yr ysbyty yn dweud wrthych beth fydd angen i chi ei wneud a ble i fynd.

Gwneud trefniadau’r angladd

Yn ôl y gyfraith mae rhaid i fabi sy’n marw yn fuan ar ôl eu geni gael eu claddu neu eu amlosgi yn ffurfiol er nad yw angladd yn ofyniad cyfreithiol.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, ni fydd eich awdurdod lleol yn codi ffioedd arnoch am angladd neu amlosgiad arferol ar gyfer plentyn.

Bydd rhaid, serch hynny, i chi dalu am ffioedd eraill fel trefnydd angladdau, blodau, arch a chofeb.

Yn Lloegr, gall y Children's Funeral Fund cyfrannuYn agor mewn ffenestr newydd hyd at £300 tuag at bris arch, blwch neu amdo. Gall y trefnydd angladdau hawlio hyn yn ôl – neu os nad ydych chi’n defnyddio un, gallwch ei hawlio yn ôl eich hun.

Yng Nghymru, mae gyfraniad o £500 tuagYn agor mewn ffenestr newydd at yr angladd a chostau cysylltiedig eraill fel blodau a phlaciau. 

Os ydych yn byw yng Nghymru neu Lloegr ac yn hawlio budd-daliadau penodol, gallwch hefyd gwneud cais am Daliad Costau Angladd hyd at £1,000Yn agor mewn ffenestr newydd i helpu gyda chostau rhesymol eraill.

Yn Yr Alban, y taliad cyfartalog yw £1,000 am gyfraniadYn agor mewn ffenestr newydd tuag at unrhyw gostau angladd rhesymol y bydd angen i chi eu talu fel gwasanaeth angladd neu gar angladd.

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael hyd at £1,000 am gostau angladdYn agor mewn ffenestr newydd rhesymol am ffioedd neu eitemau fel ffi trefnydd angladdau, blodau, arch.

Os nad ydych yn defnyddio trefnydd angladdau, gallwch wneud cais am rai costau angladd.

Mae'r achos o goronafeirws wedi gosod cyfyngiadau difrifol ar angladdau, sy'n ei gwneud yn anodd trefnu seremoni ystyrlon. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud ar y wefan Quaker Social Action

Canllawiau wedi’u hargraffu am ddim

Mae ein canllawiau wedi'u hargraffu am ddim yn rhoi gwybodaeth a chyngor clir a diduedd i chi. Maent yn fan cychwyn da a gallant eich helpu wrth wneud dewisiadau gwybodus.

Diolch am eich adborth
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.