Faint mae angladd yn ei gostio?

Ar gyfrataledd, cost am gladdu yw £4,383, a chost cyfartalog amlosgi yw £3,290. Mae llawer o bethau i’w cadw mewn cof a phenderfynu wrth drefnu angladd. Darganfyddwch dadansoddiad o’r costau ac ambell ffordd i’ch helpu i gynllunio angladd dda ond fforddiadwy.

Pethau i’w hystyried

Mae’n bosibl y byddwch chi’n trefnu angladd wrth ymdopi gyda galar ac yn teimlo bod yn rhaid i chi weithredu’n gyflym, a hynny heb brofiad diweddar, neu ychydig iawn ohono. Mae gan rai bobl syniadau cryf am sut beth yw angladd a beth ddylai fod yn ffordd dda o ddweud ffarwel.

Mae’n werth ystyried y pwyntiau a ganlyn:

  • Dewiswch angladd sy’n fforddiadwy ac sy’n addas i’r person sydd wedi marw. Mae’n anhebygol y byddant eisiau i chi fynd i ddyled i dalu am yr angladd neu deimlo dan straen am yr ochr ariannol. Nid oes dim o’i le wrth ystyried costau angladd ac nid yw’n amharchus.
  • Gofynnwch am o leiaf dau ddyfynbris, un gan drefnydd angladdau annibynnol ac un oddi wrth gadwyn. Mae llawer o bobl yn dewis defnyddio trefnydd angladdau a gallant gynnig arweiniad defnyddiol. Ond cofiwch mai busnes ydynt ac efallai mai eu ffioedd fydd rhan drutaf yr angladd.
  • Nid yw’r opsiynau drutaf yn gwneud angladd well. Ynghyd â’r math o angladd a pha drefnydd angladdau y byddwch chi’n ei ddefnyddio, mae ychwanegion dewisol yn effeithio ar y gost. Gall geiriau, cerddoriaeth a gweithredoedd fod yn fwy ystyrlon na cheir ac eirch drud.
  • Os ydych chi’n poeni am gost angladd, neu’n meddwl y byddai’n anodd i chi dalu amdano, darllenwch ein canllaw Help i dalu am angladd i gael ychydig o gyngor.

Cost gyfartalog angladd

Dengys ffigurau diweddar bod angladd sy’n defnyddio trefnydd angladdau yn costio ar gyfartaledd £3,837*.

Gall y gost yma amrywio cryn dipyn, yn ddibynnol ar y lleoliad a threfniadau’r angladd. Er enghraifft, gall dyfynbrisiau yn Llundain amrywio cymaint â £2,315. Ond mae’n bosibl cael angladd ystyrlon am lawer llai.

Er enghraifft, gallech gael ‘amlosgiad uniongyrchol’ - sy’n costio tua £1,500 - ac yna trefnu seremoni yn eich cartref. Neu gallech hyd yn oed drefnu’r angladd eich hun.

* Ffynhonnell: Adroddiad Mynegai Costau Angladd Cenedlaethol Royal London 2020

Math o angladd Cost gyfartalog* Yn cynnwys

Amolosgiad uniongyrchol

£1,554

Casglu’r ymadawedig, arch syml, a dychwelyd y llwch

Amlosgiad yn defnyddio trefnydd angladdau

£3,290

Casglu a gofalu am yr ymadawedig, arch syml, hers a rheoli gwasanaeth syml; ond nid yw’n cynnwys seremoni fawreddog. Hefyd yn cynnwys ffioedd amlosgfa, ffioedd gweinidog a ffi am dystysgrif amlosgi gan feddyg.

Claddu yn defnyddio trefnydd angladdau

£4,383

Casglu a gofalu am yr ymadawedig, arch syml, hers a rheoli gwasanaeth syml; ond nid yw’n cynnwys seremoni fawreddog. Mae hefyd yn cynnwys ffioedd amlosgi a ffioedd gweinidog.

 

Rhanbarthau Lloegr a gwledydd y DU Cost amlosgiad syml Cost claddedigaeth syml

Llundain

£3,272

£7,259

De Ddwyrain Lloegr

£3,328

£4,831

De Orllewin Lloegr

£3,351

£4,857

Dwyrain Lloegr

£3,351

£4,857

Cymru

£3,189

£4,149

Gorllewin Canolbarth Lloegr

£3,363

£4,750

Dwyrain Canolbarth Lloegr

£3,356

£3,744

Gogledd-orllewin Lloegr

£3,159

£4,170

Swydd Efrog a’r Humber

£3,321

£4,112

Gogledd-ddwyrain Lloegr

£3,261

£4,122

Yr Alban

£3,160

£4,030

Belfast

£2,863

£3,061

Defnyddio trefnydd angladdau

Gall trefnydd angladdau helpu gwneud pethau’n haws i chi i drefnu angladd, gan roi amser i chi alaru.

Ond mae hyn yn debygol o olygu angladd drytach.

Beth yw cost trefnydd angladdau?

Gall ffioedd trefnydd angladdau fod yn rhan drutaf yr angladd, weithiau yn gwneud rhwng 50-66% o’r costau.*

Os byddwch chi’n defnyddio trefnydd angladdau, byddant yn casglu, storio, paratoi a danfon y corff i’r fynwent neu’r amlosgfa.

Byddant hefyd yn sicrhau bod y ffurflenni angenrheidiol ar gyfer amlosgi neu gladdu wedi eu cwblhau a bydd rhai hefyd yn trefnu seremoni syml yn rhan o’r ffi.

Byddant hefyd yn darparu arch, hers a limwsîn fel arfer.

Ond fe all yr eitemau hyn gronni costau gan ddibynnu ar yr hyn y byddwch chi’n eu dewis.

Er enghraifft, gall pris arch fod cyn lleied â £100 i gymaint â £10,000.

Os yw pris yn peri gofid, dylech ofyn i’ch trefnydd angladdau lleol os yw’n cynnig angladd syml neu amlosgiad uniongyrchol.

*Ffynhonnell: Data yn seiiedig ar Adroddiad Mynegai Costau Angladd Cenedlaethol Royal London 2018.

Sut i ddod o hyd i drefnydd angladdau

Mae'n bwysig peidio â dewis yr un cyntaf a welwch. Ffoniwch o gwmpas a mynnwch o leiaf ddau ddyfynbris cyn i chi ddewis un sydd orau ar eich cyfer chi.

Dylech hefyd ystyried defnyddio trefnydd angladdau annibynnol lleol. Maent fel arfer yn rhatach na chwmni cenedlaethol.

Defnyddiwch y gwefannau hyn i ddod o hyd i drefnydd angladdau lleol. Cofiwch wirio mwy nac un safle gan y bydd y prisiau yn amrywio ac nid oes un ohonynt yn rhai’r farchnad gyfan, felly mae canlyniadau yn amrywio yn ôl safle.

I gymharu prisiau eich cyfarwyddwyr angladdau lleol, gallech hefyd ddefnyddio gwefan Funeral Choice 

Gallwch fanylu ar y canlyniadau drwy newid eich ardal chwilio. Nid yw’r prisiau a ddangosir yn cynnwys y ffi amlosgi neu gladdu.

Costau trydydd parti (costau alldaliadau)

Mae costau trydydd parti, a elwir hefyd yn ‘gostau alldaliadau’ yn ffioedd y mae’n rhaid i chi dalu i drydydd parti naill ai i gladdu neu amlosgi’r corff.

Os ydych yn defnyddio trefnydd angladdau, maen nhw’n debyg o reoli’r taliad hwn i chi - ond mae’n debyg y byddant yn gofyn am yr arian hwn o flaen llaw.

Gall costau amrywio cryn dipyn yn dibynnu ar eich dewisiadau. Er enghraifft, mae amlosgiad fel arfer yn rhatach hyd yn oed os ydych yn defnyddio trefnydd angladdau.

Fodd bynnag, mae costau claddu yn amrywio’n sylweddol ar hyd a lled y wlad - gyda bedd newydd yn costio ychydig dros £550 ym Melfast, i dros £4700 yn ardaloedd Llundain a Brighton.

Eitem Cost cyfartelog*

Costau claddu

£2,076

Ffioedd amlosgi, tystysgrif canolwr meddygol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (dim ond yn berthnasol ar gyfer amlosgi), Clerigion / swyddog

£835, £168

Mae’r ffi claddu fel arfer yn talu am brydlesu plot claddu, a chloddio a llenwi’r bedd.

Mae ffi hefyd am ddefnyddio’r amlosgfa i amlosgi’r corff.

Cyn i chi benderfynu ar fynwent neu amlosgfa, mae rhai pethau i’w cofio a allai effeithio ar y gost derfynol:

  • Weithiau mae yna wahaniaeth mawr yn y pris o gael angladd mewn un amlosgfa i un arall ychydig filltiroedd ar wahân. Felly, mae’n syniad da i wirio eich ardaloedd lleol a chyfagos i gymharu’r gost a chwilio am yr un gorau i chi.
  • Dylech hefyd ofyn a oes gan y fynwent ‘daliadau ar gyfer rhai nad ydynt yn breswylwyr’. Mae’r rhain yn daliadau ychwanegol ar gyfer claddu rhywun nad oedd yn byw mewn dosbarth neu fwrdeistref.
  • Fel arfer mae yna hefyd dâl ar wahân i gadw bedd yn lân a thaclus. Fel arfer fe’i telir yn flynyddol. Cyn i chi benderfynu pa fynwent i ddefnyddio, dylech wirio faint yw hyn.
  • Weithiau bydd yna dâl ar wahân i ddefnyddio’r fynwent neu amlosgfa i gynnal gwasanaeth yr angladd. Dylech wirio i weld os yw hyn wedi ei gynnwys yn y ffioedd claddu neu amlosgi.

Gallai costau trydydd parti hefyd gynnwys ffioedd ar gyfer gwasanaethau penodol.

Er enghraifft, ffioedd meddyg i ardystio’r farwolaeth, aelod o’r glerigiaeth i gynnal gwasanaeth yr angladd, neu weinyddwr i arwain gwasanaeth nad yw’n grefyddol.

Os ydych chi’n defnyddio trefnydd angladdau i drefnu angladd, weithiau mae’r costau trydydd parti wedi eu cynnwys yn y pecyn angladd.

Bydd y rhan fwyaf o drefnwyr angladdau yn gofyn i chi dalu am y costau alldaliadau cyn yr angladd.

Mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r amcan bris a roddant cyn cytuno i’w defnyddio.

Costau dewisol

Mae yna nifer o eitemau a gwasanaethau y gallwch eu hychwanegu i angladd. Fodd bynnag, mae pob eitem yn costio arian.

Po fwyaf y byddwch yn ychwanegu, y drutaf yn y byd yw’r angladd.

Ac fe allech chi’n rhwydd iawn ychwanegu £1,976* ychwanegol neu’n fwy at y bil terfynol.

Meddyliwch yn ofalus a oes angen yr eitemau a’r gwasanaethau hyn yn yr angladd.

Os ydych chi’n teimlo bod eu hangen, dylech chwilio i weld a allwch eu cael am bris llai.

Eitem Cost gyfartalog*

Carreg fedd neu blac

£1,016

Lluniaeth

£450

Car mawr

£336

Llogi lleoliad

£282

Blodau

£193

Ffi i ddychwelyd y lludw (dim ond yn berthnasol i amlosgiad uniongyrchol)

£62

Hysbysiad angladd

£86

Hysbysiad o farwolaeth neu ysgrif goffa

£75

Taflenni trefn gwasanaeth

£94

Wrn

O £30

Copïau tystysgrif marwolaeth (mae angen sawl copi ar gyfer profiant)

O £11 y copi

Sut i leihau cost angladd

Does dim angen teimlo dan bwysau i wario arian mawr neu fynd i ddyled, dim ond i ddangos eich serch a pharch.

Gallwch chi gael angladd urddasol ac ystyrlon heb orfod gwario swm anferth o arian.

Mae amlosgiad fel arfer yn mynd i gostio llai na chladdu. Fel y mae trefnu’r angladd eich hun yn hytrach na defnyddio trefnydd angladdau.

Ond mae ambell ffordd i leihau cost angladd ymhellach beth bynnag a ddewiswch:

Chwiliwch am y fargen orau

Gall costau angladd amrywio yn fawr. Er y gallech chi ei chael hi’n anodd, mae’n bwysig cymharu prisiau a gwasanaethau.
Gofynnwch am amcan bris gan un trefnydd angladdau, arlwywr neu werthwr blodau - er mwyn i chi allu cymharu prisiau. Yna gallwch ddewis un sy’n gweddu i’ch cyllideb.

Gofynnwch i deulu a ffrindiau

Yn hytrach na thalu am arlwywr, gofynnwch i deulu a ffrindiau ddod â bwyd i’r te angladd. Gallech hefyd ofyn iddynt eich helpu i chwilio am ddewisiadau rhatach.

Casgliad elusennol a chofeb

Gall prynu a chynnal carreg fedd neu blac goffa fod yn ddrud. Yn hytrach, gallwch greu coffâd ar-lein ble gall teulu a ffrindiau roi rhodd i elusen er cof am yr ymadawedig.


Mae gwefannau codi arian, fel JustGiving yn cynnig coffâd ar-lein elusennol penagored.

Amser o’r diwrnod ar gyfer amlosgiad, a phwy a ddefnyddiwch

Gall dewis amser rhatach, os yw ar gael, megis yn gynnar yn y bore neu yn ystod yr wythnos, hefyd leihau’r gost. Gallech hefyd ddewis amlosgfa sy’n cael ei rhedeg gan y cyngor, sydd fel arfer yn rhatach nag un breifat. Serch hynny gallai’r cyfleusterau a’r addurn fod yn syml iawn, felly efallai y byddwch chi eisiau galw heibio i’w gweld ymlaen llaw.

Math o arch

Nid yw’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i chi ddefnyddio arch. Gallwch ddefnyddio amwisg yn hytrach. Peidiwch â theimlo dan bwysau i ddewis arch neu amwisg drud os yw’ch arian yn brin.

Claddu naturiol

Efallai yr hoffech chi ystyried tir claddu naturiol, megis coedwig. Yn aml mae’r rhain yn llawer rhatach na mynwent draddodiadol, a all fod yn ddrud iawn. Mae mynwentydd traddodiadol hefyd yn codi ffioedd ‘dibreswyl’ os nad oedd y person sydd wedi marw yn byw yn yr ardal. I ddod o hyd i fan claddu naturiol, ewch i wefan y Natural Death Centre

Rhoddi corff

Gall nifer o bobl ymgeisio i roi eu corff i ysgolion meddygol er mwyn hyfforddi gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd neu ar gyfer ymchwil. Ni fydd y corff yn cael ei dderbyn bob amser oherwydd bydd yn dibynnu ar anghenion yr ysgolion meddygol unigol, amgylchiadau’r farwolaeth a’r rheswm am y farwolaeth.

Os nad yw rhoddi yn bosibl, rhaid gwneud trefniadau angladd eraill.

Gallai ysgolion gynnal gwasanaeth coffa neu angladd, ond yn aml ceir oedi hyd at ddwy neu dair blynedd cyn ei gynnal. Bydd rhai ysgolion meddygol yn gofyn am gyfraniad tuag at gostau cludiant.

Help i dalu am angladd

Beth yw ‘amlosgiad uniongyrchol’ neu ‘amlosgiad heb seremoni’?

Mae rhai cwmnïau yn cynnig amlosgiad uniongyrchol - ble mae’r corff yn cael ei gasglu o gorffdy yn ystod oriau gwaith arferol ac yn amlosgi ar amser cyfleus.

Weithiau mae’n cael ei alw yn ‘amlosgiad heb seremoni’.

Fel arfer ni ellir gweld y corff o flaen llaw na chael seremoni, na limwsîn ar gyfer y teulu a’r galarwyr.

Ac os ydych chi eisiau cael y llwch wedyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn am hynny. Fel arfer bydd yn rhaid i chi ei gasglu, ond bydd rhai yn ei ddanfon am dâl.

Yna mae hyn yn eich gadael i gynnal seremoni, os dymunwch, ar amser a lleoliad o’ch dewis chi.

Faint ydyw?

Rydym yn awgrymu cyllideb o tua £1,700.

Rydym wedi canfod sawl cwmni ar-lein yn cynnig amlosgiad uniongyrchol am oddeutu £1,000.

Mae’r pris hwn fel arfer yn cynnwys costau trydydd parti fel ardystiad meddyg a ffioedd amlosgfa.

Os hoffech chi gael dychwelyd y llwch i chi, gall hyn gostio £150 yn ychwanegol. Ac mae casglu’r corff tu allan i oriau gwaith arferol, neu o gartref nyrsio neu gartref yn tua £550 ychwanegol.

Mae hyn yn dod â chyfanswm cost amlosgiad uniongyrchol i £1,700.

Gallai costau amrywio gan ddibynnu ar leoliad. Felly, chwiliwch am y cynnig gorau a gwirio os yw’r cwmni yn cynnig pris rhesymol ar gyfer eich ardal chi.

Os byddwch yn dewis cynnal seremoni wedyn, bydd angen i chi ystyried y costau hyn hefyd.

Fodd bynnag, mae yna amrywiaeth o ddulliau cost isel i gynnal seremoni, fel ei gynnal adref.

Sut i ddod o hyd i un?

Gallwch chwilio ar-lein am ‘amlosgiad uniongyrchol’ yn eich ardal.

Mae’n bwysig i wneud ymchwil eich hun i ddarganfod pa chynnwys a nodweddion sydd fwyaf addas i’ch anghenion. Os ydych yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gallwch ddechrau chwilio ar Fairer FinanceYn agor mewn ffenestr newydd

Neu defnyddiwch y safleoedd hyn isod i ganfod darparwr lleol.

Cofiwch wirio mwy nag un gwefan gan y byddant yn dangos gwahanol ganlyniadau.

Efallai na fydd rhai yn darparu amlosgiadau uniongyrchol.

Ffyrdd ymarferol o gynllunio ar gyfer eich angladd

Gallwch gynllunio ar gyfer angladd ystyrlon fforddiadwy cyn i’r diwrnod gyrraedd. Gall ysgrifennu’ch dymuniadau ar bapur a’i rannu gyda’r rheini a allai fod yn ei drefnu sicrhau bod y pethau sydd o bwys i chi yn digwydd. Gall hefyd ostwng peth o’r pryder sydd ynghlwm â threfnu angladd - gan y bydd llawer o’r penderfyniadau eisoes wedi’u gwneud.

Hyd yn oed os nad oes gwahaniaeth gennych chi beth sy’n digwydd, gall ei roi ar bapur fod o gymorth mawr i’ch perthnasau.

Gallwch ysgrifennu eich dymuniadau i lawr a'u cadw gyda'ch ewyllys, neu ei rannu gyda theulu neu ffrindiau.

Gallwch hefyd gynnwys y brif wybodaeth ar ddarn o bapur.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.